Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2006, ISBN 0110913108. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(3), 10, 11, 16(2), 21, 23(1) a (2), 24, 123(1) a (2) a 124 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a cymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Awdurdodau Lleol yng Nghymru. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn mae unrhyw gyfeiriad at Ran, adran eu Atodlen yn gyfeiriad at Ran neu adran o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 neu at Atodlen iddi oni nodir fel arall. (2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Rheoliadau 2003" yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003[2]. Diwygiadau i Reoliadau 2003 3. Diwygir Rheoliadau 2003 yn unol â rheoliadau 4 i 8. Diwygio rheoliad 1 o Reoliadau 2003 4. Yn rheoliad 1(4) (enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli) o Reoliadau 2003—
(c) ar ôl y diffiniad o "the 1997 Regulations" mewnosoder—
ar ôl y diffiniad o "dwelling" mewnosoder—
ar ôl y diffiniad o "local authority" mewnosoder—
rhodder "1993 Act" yn lle "Leasehold Reform Housing and Urban Development Act 1993";
(b) it has given that consent subject to the conditions that the Local Authority—
(ii) is satisfied that, at the time of the disposal, the majority of those tenants are not likely to be opposed to the disposal;
and
(ii) the number of dwelling-houses which, within the relevant disposal period, have been previously disposed of by the local authority to that person, or that person and any associates of that person taken together,
is not more than 499,
Diwygio rheoliad 10 o Reoliadau 2003
dileer paragraff (9) a mewnosoder—
(ii) an interest in a dwelling where the dwelling was normally let, or available for letting, for the purposes of Part II of the Housing Act 1985 (provision of housing accommodation) and the authority make the disposal by granting a shared ownership lease (within the meaning given to that expression in section 622 of the Housing Act 1985), or on condition that the purchaser, for the purpose of repairing or improving the dwelling, will carry out significant works within a specified period; or (iii) an interest in a lease, other than a shared ownership lease, where the authority estimate that not less than 90 percent of the capital value of the lease has been, or is to be, received by them within one year after the date of disposal.
(b) Paragraph (9)(a) (iii) is only applicable to paragraph (4)(b) where the authority make the disposal by—
(ii) granting a lease for a term of not less than 125 years; (iii) granting a shared ownership lease; or (iv) assigning their leasehold interest in the dwelling; and
for the purposes of this paragraph a "shared ownership lease" means a lease of a dwelling granted on payment of a premium which is calculated by reference to a percentage of the value of the dwelling or the cost of providing it, and is not less than 25 percent of that value or cost.
(ii) that disposal was made more than five years before the current disposal; (iii) at any time within that period the authority acquired a further interest in the dwelling; and (iv) the dwelling is a house within the meaning which that expression has in section 44 of the Housing Act 1985.
(d) In paragraph (9)(c)—
(ii) an introductory tenancy within the meaning which that expression has in Chapter 1 of Part V of the Housing Act 1996; or (iii) any other lease, other than a shared ownership lease within the meaning given to it in paragraph (9)(b).".
Diwygio rheoliad 15 o Reoliadau 2003
Diwygio rheoliad 20 o Reoliadau 2003
(b) ar ôl is-baragraff (f) o baragraff (1) mewnosoder:
Diwygio rheoliad 22 o Reoliadau 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 ("Deddf 2003") yn caniatáu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddarparu ar gyfer system cyllid cyfalaf llywodraeth leol. Defnyddiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru y pwerau o dan Ddeddf 2003 i wneud Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyllid Cyfalaf a Chyfrifyddu) (Cymru) 2003 ("Rheoliadau 2003") a oedd yn cyflwyno system newydd cyllid cyfalaf llywodraeth leol. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan yr un pwerau ar y cyfan a gwneir diwygiadau i Reoliadau 2003. Mae rheoliad 4 o'r Rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniad o "small scale disposal", a diffiniadau eraill at ddibenion yr ymadrodd hwnnw, yn rheoliad 1(4) o Reoliadau 2003. Mae gwarediad ar raddfa fach yn warediad gan awdurdod lleol o fuddiant mewn tir ac arno dai pan fo Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi cydsynio i'r gwarediad yn ddarostyngedig i'r ffaith bod yr awdurdod lleol wedi'i fodloni nad yw mwyafrif y tenantiaid diogel a chychwynnol yn wrthwynebus iddo. Nid yw gwarediad yn warediad ar raddfa fach onid yw cyfanswm nifer y tai annedd a waredir gan yr awdurdod yn y cyfnod o bum mlynedd sy'n dod i ben ar ddyddiad y gwaredu ddim mwy na 499. Mae rheoliad 5 o'r Rheoliadau hyn yn darparu i warediadau ar raddfa fach gael eu heithrio o'r gofyniad i gronni derbyniadau wrth waredu tir ac arno dai sydd yn rheoliad 10 o Reoliadau 2003. Mae rheoliad 5 hefyd yn darparu ar gyfer cynnwys rheoliad newydd 10(9) yn Rheoliadau 2003. Mae rheoliad 6 o'r Rheoliadau hyn yn eithrio gwarediadau ar raddfa fach pan fo'n rhaid penderfynu derbyniadau cyfalaf damcaniaethol ar eu cyfer o dan reoliad 15 o Reoliadau 2003. Mae rheoliad 7 yn diwygio rheoliad 20 o Reoliadau 2003 fel bod taliad o ardoll ar warediad o dan Ddeddf Diwygio Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn cael ei drin fel gwariant cyfalaf. Mae rheoliad 8 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r darpariaethau yn rheoliad 22 o Reoliadau 2003 ynghylch cyfrifo isafswm y ddarpariaeth refeniw. Diwygir y cyfrifo i sicrhau na fydd unrhyw newid yn y gofyniad yn y cyllid cyfalaf tai yn effeithio ar gyfrifo gofyniad cyllid cyfalaf cronfa'r cyngor, ac o'r herwydd cyfrifo isafswm darpariaeth refeniw cronfa'r cyngor. Mae rheoliad 8 hefyd yn diwygio rheoliad 22 o Reoliadau 2003 fel na fyddai'n ofynnol i awdurdod lleol yng Nghymru wneud cyfraniadau cronni i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ond pan fyddai gofyniad cyllid cyfalaf Cyfrif Refeniw Tai agoriadol presennol yr awdurdod lleol hwnnw, neu ofyniad cyllid cyfalaf nawdd Cyfrif Refeniw Tai agoriadol yr awdurdod lleol hwnnw, yn ddim, neu'n swm negyddol. Notes: [1] 2003 p.26.back [2] O.S. 2003/3239 (Cy.319).back
ISBN 0 11 091310 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 7 April 2006 |