Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2006, ISBN 0110913094. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr "y prif Reoliadau" ("the principal Regulations") yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001[2]. Diwygio rheoliad 8 o'r prif Reoliadau 2. —(1) Diwygir rheoliad 8 o'r prif Reoliadau (esemptiadau) fel a ganlyn. (2) Yn lle paragraff (1) rhodder y canlynol—
(b) person sydd o dan 19 oed sy'n derbyn addysg lawnamser gymwys o fewn ystyr paragraff 7 o Atodlen 12 i'r Ddeddf; (c) person sydd o dan 25 oed ac sy'n cyflwyno—
(ii) swp-ddyroddiad sy'n ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy Cymreig;
(ch) person sydd wedi cyrraedd 60 oed;
(ii) yr anhwylderau canlynol—
diabetes insipidus a ffurfiau eraill o hypobidwitedd diabetes mellitus — ac eithrio pan yw'r drinaeth drwy ddeiet yn unig hypoarathyroidedd myasthenia gravis mycsoedema
(iii) epilepsi sy'n ei gwneud yn ofynnol i barhau â therapi gwrth-ddirdynnol;
neu gan berson sydd â thystysgrif esemptio ddilys a ddyroddwyd o dan drefniadau cyfatebol sy'n effeithiol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon;
(3) Ym mharagraff (2)—
(b) yn is-baragraff (b) yn lle "is-baragraffau (a) i (dd)" rhodder "is-baragraffau (a) i (f)".
(4) Ym mharagraff (3A) yn lle "paragraff (1)(a) neu (b)" rhodder "paragraff (1)(a) i (ch)".
(b) yn lle "is-baragraff (c) neu (ch)" rhodder "is-baragraff (d) neu (dd)"; ac (c) yn lle "o dan is-baragraff (d)" rhodder "o dan is-baragraff (e)".
(3) Ym mharagraff (2) yn lle "is-baragraff (c)" rhodder "is-baragraff (d)".
(b) yn lle "rheoliad 8(1)(ch)" rhodder "rheoliad 8(1)(dd)".
(5) Ym mharagraff (4) yn lle "rheoliad 8(1)(d)" rhodder "rheoliad 8(1)(e)". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd am Gyffuriau a Chyfarpar) (Cymru) 2001 ("y prif Reoliadau") sy'n darparu ar gyfer codi ac adennill ffioedd am gyffuriau a chyfarpar sy'n cael eu cyflenwi o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977. Mae rheoliad 2 yn rhoi paragraff (1) newydd yn rheoliad 8 o'r prif Reoliadau (esemptiadau) sy'n cynnwys darpariaeth i ddynodi terfyn i'r esemptiad sydd ar gael rhag ffi ar gyfer y personau hynny o dan 25 oed i'r personau hynny sy'n cyflwyno ffurflen bresgripsiwn Gymreig neu swp-ddyroddiad ynglŷn â phresgripsiwn amlroddadwy Cymreig ar gyfer ei weinyddu yng Nghymru. Mae'r diwygiadau eraill a wneir gan y Rheoliadau hyn yn ganlyniad i fewnosod y paragraff (1) newydd yn rheoliad 8 o'r prif Reoliadau. Notes: [1] 1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) ("Deddf 1990"), adran 26(2)(g) ac (i), i gael y diffiniad o "prescribed" a "regulations". Diwygiwyd adran 83 gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) ("Deddf 1995"), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 39 a chan O.S. 2000/90, erthygl 3(1) ac Atodlen 1, paragraff 13(1) a (4). Mewnosodwyd adran 83A gan Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1988 (p.7) ("Deddf 1988"), adran 14(1); ac fe'i diwygiwyd gan Ddeddf 1990, adran 66(1) ac Atodlen 9, paragraff 18(5)(a) a (b); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49), adran 25 ac Atodlen 2, paragraff 6; gan O.S.1998/2385, erthygl 2 a chan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 40. Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a Deddf Iechyd 1999 (p.8) ("Deddf 1999"), Atodlen 4, paragraff 37(6). Diwygiwyd paragraff 1 o Atodlen 12 gan Ddeddf y Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53), adran 25(2) ac Atodlen 5, paragraff 1; gan Ddeddf 1988, adran 16 ac Atodlen 5; gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46), adran 41(10) ac Atodlen 2, paragraff 31 a chan Ddeddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p.43), adran 184 ac Atodlen 11, paragraffau 7 a 44. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 77, 83, 83A a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 a pharagraff 1 o Atodlen 12 iddi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672), erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf 1999, adran 66(4), Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15), adran 68(1), Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 40(1) a Deddf 2003, adran 197(1).back [2] O.S. 2001/1358 (Cy.86). Yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 2001/2359 (Cy.196), O.S. 2004/1018 (Cy.115) a 2004/1605 (Cy.164) ac O.S. 2005/427 (Cy.44) ac O.S. 2005/1915 (Cy.158).back
ISBN 0 11 091309 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 5 April 2006 |