Gorchymyn Cyngor Iechyd Cymuned (Sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu Cynghorau Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chaerfyrddin/Dinefwr) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cyngor Iechyd Cymuned (Sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu Cynghorau Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chaerfyrddin/Dinefwr) 2006, ISBN 0110913116. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16BB(4), 20A(2) a 126(4) a pharagraff 2 o Atodlen 7A i Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol. Enwi, cychwyn a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cyngor Iechyd Cymuned (Sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin, Trosglwyddo Swyddogaethau a Diddymu Cynghorau Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chaerfyrddin/Dinefwr) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006. (2) Yn y Gorchymyn hwn:
Sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin
(ii) fel a nodir o bryd i'w gilydd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn rheoliadau a wnaed yn unol â pharagraff 2 o Atodlen 7A i'r Ddeddf; a (iii) byddant yn cynnwys swyddogaethau y Cynghorau sy'n cael eu trosglwyddo i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin gan erthygl 4 isod.
Trosglwyddo Swyddogaethau o'r Cynghorau i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae adran 20A o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ("y Ddeddf") yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru y pŵer i ddiddymu Cynghorau Iechyd Cymuned ac i sefydlu Cynghorau Iechyd Cymuned newydd ar gyfer Ardaloedd yng Nghymru. Mae Atodlen 7A i'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth bellach ynglŷn â Chynghorau Iechyd Cymuned a sefydlir o dan adran 20A. Mae'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin, yn trosglwyddo swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Chyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ac yn diddymu Cyngor Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Chyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr. Mae erthygl 2(1) o'r Gorchymyn hwn yn sefydlu Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin. Mae erthygl 2(2) yn darparu ei fod yn cael ei sefydlu ar gyfer ardal ddaearyddol Sir Gaerfyrddin (sy'n cynnwys ardaloedd Caerfyrddin, Llanelli a Dinefwr). Mae erthygl 2(3) yn darparu bod ffin Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin yn amrywio yn unol â ffin Sir Gaerfyrddin, ar wahân i unrhyw amrywiadau sy'n codi o'r amgylchiadau a amlinellir yn erthygl 2(4). Mae erthygl 3 yn rhagnodi swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin. Mae erthygl 4 yn darparu y bydd holl swyddogaethau Cyngor Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Chyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr yn trosglwyddo i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ar y dyddiad trosglwyddo (1 Ebrill 2006). Mae erthygl 5(1) yn darparu y bydd aelodau o Gynghorau Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Llanelli/Dinefwr ar 1 Ebrill 2006, yn trosglwyddo i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ac yn dod yn aelodau o'r Cyngor hwnnw. Mae erthygl 5(2) yn darparu mai tymor swydd yr aelodau hynny a drosglwyddodd o Gynghorau Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Llanelli/Dinefwr fydd gweddill eu tymhorau presennol ar y dyddiad trosglwyddo. Mae erthygl 6 yn darparu y bydd Prif Swyddog Cyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a phob swyddog arall o Gynghorau Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chaerfyrddin/Dinefwr o 1 Ebrill 2006 ymlaen yn darparu gwasanaethau i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin. Bydd y Prif Swyddog a'r swyddogion eraill yn parhau yn gyflogeion Bwrdd Iechyd Lleol Powys. Mae erthygl 7 yn darparu y bydd Cyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin yn paratoi'r datganiad o gyfrifon blynyddol ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr a Llanelli/Dinefwr o fewn dau fis o'r dyddiad trosglwyddo. Mae erthygl 8 yn darparu bod rhaid i Gyngor Iechyd Cymuned Sir Gaerfyrddin ddarparu adroddiadau yn unol â rheoliad 16(1) o Reoliadau Cynghorau Iechyd Cymuned 2004 ar gyfer Cynghorau Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chaerfyrddin/Dinefwr erbyn 1 Medi 2006. Mae erthygl 9 darparu ar gyfer dilyniant wrth arfer swyddogaethau. Mae erthygl 10 yn diddymu Cyngor Iechyd Cymuned Llanelli/Dinefwr a Chyngor Iechyd Cymuned Caerfyrddin/Dinefwr ar 1 Ebrill 2006. Cafodd arfarniad rheoliadol ei baratoi a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Notes: [1] 1977 p. 49. Mewnosodwyd adran 16BB(4) gan adran 6 o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17) ("Deddf 2002") ac fe'i diwygiwyd gan adran 184 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 ac Atodlen 11 iddi. Mewnosodwyd adran 20A gan adran 1 o Ddeddf Iechyd (Cymru) 2003 (p.4) ("Deddf 2003"). Diwygiwyd adran 126(4) gan adran 65(2) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) a chan adran 6(3)(c) o Ddeddf 2002 a chan baragraff 37(6) o Atodlen 4 i Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) a chan adran 1 o Ddeddf 2003. Mewnosodwyd Atodlen 7A gan adran 1 o Ddeddf 2003. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [2] O.S. 2004/905 (Cy.89), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/603 (Cy.51).back [3] 1972 p.70. Amnewidiwyd Rhan I a II i Atodlen 4 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 adran 1(2), Atodlen 1, paragraff 1.back [4] 1972 p.70. Amnewidiwyd Rhan I i Atodlen 4 gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994, adran 1(2), Atodlen 1, paragraff 1.back
ISBN 0 11 091311 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 7 April 2006 |