Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) (Cymru) 2006, ISBN 0110913086. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 67(2), 2(A), (6) ac adran 104(4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 7 o Atodlen 8 iddi,[1] a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol— Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) (Cymru) 2006. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ebrill 2006. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn,
(ii) yn achos cynnig i faethu plentyn yn breifat, yr awdurdod lleol y cynigir bod y plentyn yn cael ei faethu'n breifat yn ei ardal;
Hysbysiad o gynnig i faethu plentyn yn breifat
(b) os yw'r trefniant maethu preifat i gychwyn o fewn chwe wythnos, ar unwaith.
(2) Rhaid i unrhyw berson sy'n ymwneud a threfnu (p'un ai'n uniongyrchol ai peidio) i blentyn gael ei faethu'n breifat hysbysu'r awdurdod lleol priodol o'r trefniant cyn gynted â phosibl ar ôl i'r trefniant gael ei wneud.
(b) yn ymweld â'r gofalydd maeth preifat arfaethedig ac yn siarad ag ef a chyda phob un o aelodau'r aelwyd; (c) yn ymweld â'r plentyn ac yn siarad ag ef, ar ei ben ei hun onid yw'r swyddog yn ystyried bod hynny'n amhriodol; (ch) yn siarad â phob rhiant, neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, ac yn ymweld â hwy os yw hynny'n ymarferol; a (d) cadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 2 sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn berthnasol.
(2) Ar ôl cwblhau'r swyddogaethau o dan baragraff (1) rhaid i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol.
(b) yn ymweld â'r gofalydd maeth preifat ac yn siarad ag ef a chyda phob un o aelodau aelwyd y gofalydd maeth preifat; (c) yn ymweld â'r plentyn ac yn siarad ag ef, ar ei ben ei hun onid yw'r swyddog yn ystyried bod hynny'n amhriodol; (ch) yn siarad â phob rhiant, neu berson sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, ac yn ymweld â hwy os yw hynny'n ymarferol; a (d) yn cadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 3 sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn berthnasol.
(2) Ar ôl iddo gwblhau ei swyddogaethau o dan baragraff (1) rhaid i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol.
(b) mewn ail flwyddyn neu unrhyw flwyddyn wedyn, ar ôl bylchau nad ydynt yn fwy na 12 wythnos.
(2) Yn ychwanegol at ymweliadau a wneir yn unol â pharagraff (1) rhaid i'r awdurdod lleol drefnu bod pob plentyn a faethir yn breifat yn ei ardal yn cael ymweliad gan swyddog pan wneir cais rhesymol am hynny gan y plentyn, y gofalydd maeth preifat, rhiant y plentyn neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.
(b) o unrhyw berson sy'n peidio â bod yn rhan o'i aelwyd neu'n gyflogedig ar ei aelwyd; (c) o unrhyw dramgwydd pellach y collfarnwyd y gofalydd maeth preifat ohono neu berson sy'n rhan o'i aelwyd neu a gyflogir ar ei aelwyd; (ch) o unrhyw ddatgymhwysiad pellach a osodwyd arno neu ar berson sy'n rhan o'i aelwyd neu a gyflogir ar ei aelwyd o dan adran 68 o'r Ddeddf; ac (d) os oes unrhyw berson yn dechrau bod yn rhan o aelwyd y gofalydd maeth preifat neu'n gyflogedig ar ei aelwyd, ac unrhyw dramgwydd y collfarnwyd y person hwnnw ohono, ac unrhyw ddatgymhwysiad neu waharddiad a osodwyd arno o dan adran 68 neu 69 o'r Ddeddf neu o dan unrhyw ddeddfiad blaenorol o unrhyw un o'r ddwy adran honno.
(2) Rhaid i hysbysiad o dan baragraff (1) gael ei roi—
(b) ym mhob achos arall, dim mwy na 48 awr ar ôl y newid mewn amgylchiadau.
(3) Os bydd cyfeiriad newydd y gofalydd maeth preifat yn ardal awdurdod lleol arall, neu awdurdod lleol yn Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon, rhaid i'r awdurdod y cyflwynir yr hysbysiad iddo o dan y rheoliad hwn anfon at yr awdurdod dros yr ardal—
(b) enw'r plentyn a faethir yn breifat; ac (c) enw a chyfeiriad rhieni'r plentyn neu unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn.
(4) Rhaid i riant plentyn a faethir yn breifat, ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sy'n gwybod bod y plentyn yn cael ei faethu yn breifat, hysbysu'r awdurdod lleol priodol o unrhyw newid yng nghyfeiriad personol y person hwnnw.
(b) os yw'r bwlch yn dod i ben ac nad yw'r gofalydd maeth preifat wedi gweithredu ei fwriad,
rhaid i'r gofalydd maeth preifat hysbysu'r awdurdod lleol o fewn 48 awr ar ôl iddo roi'r gorau i'w fwriad neu, yn ôl y digwydd, ar ôl i'r bwlch ddod i ben. 1. Yr wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 3(4) a 5(2) yw—
(b) enw a chyfeiriad presennol y person sy'n rhoi'r hysbysiad ac unrhyw gyfeiriad blaenorol a fu ganddo yn ystod y pum mlynedd diwethaf; (c) enw a chyfeiriad presennol gofalydd maeth arfaethedig y plentyn neu ofalydd maeth presennol y plentyn ac unrhyw gyfeiriad blaenorol a fu ganddo yn ystod y pum mlynedd diwethaf; (ch) hyd arfaethedig y trefniant maethu preifat; (d) enw a chyfeiriad presennol rhieni'r plentyn ac unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn ac (os yw'n wahanol) unrhyw berson arall y derbynnir neu y derbyniwyd y plentyn oddi wrtho; (dd) enw a chyfeiriad presennol brodyr a chwiorydd y plentyn sy'n finoriaid, a manylion y trefniadau am eu gofal; (e) enw a chyfeiriad presennol unrhyw berson, heblaw person a bennir yn is-baragraff (d), sydd â rhan neu a fu â rhan (p'un ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) wrth drefnu i'r plentyn gael ei faethu'n breifat; a (f) y dyddiad y bwriedir bod y trefniant maethu yn cychwyn, neu'r dyddiad pan gychwynnodd.
2.
Yn achos person sy'n rhoi hysbysiad o dan reoliad 3(1) neu 5(1) mae'r wybodaeth y cyfeirir ati yn rheoliad 3(4) a 5(2) hefyd yn cynnwys—
(b) unrhyw ddatgymhwysiad neu waharddiad a osodwyd arno o dan adran 68 neu 69 o'r Ddeddf neu o dan unrhyw ddeddfiad blaenorol o unrhyw un o'r adrannau hynny; (c) unrhyw gollfarn, datgymhwysiad neu waharddiad o'r fath a osodwyd ar unrhyw berson arall sy'n byw ar yr un aelwyd neu a gyflogir ar yr un aelwyd. (ch) unrhyw orchymyn o fath a bennir mewn rheoliadau o dan adran 68 o'r Ddeddf a wnaed ar unrhyw adeg yn ei gylch; (d) unrhyw orchymyn o fath a bennir mewn rheoliadau o dan adran 68 o'r Ddeddf a wnaed ar unrhyw adeg o ran plentyn a fu yn ei ofal; ac (dd) unrhyw hawl neu bŵer ynglŷn â phlentyn sydd neu a fu o dan ei ofal a gafodd eu breinio ar unrhyw adeg mewn awdurdod a bennwyd mewn rheoliadau o dan adran 68 o'r Ddeddf o dan ddeddfiad a bennir yn y rheoliadau hynny.
Y materion y cyfeiriwyd atynt yn rheoliad 4(1)(d) yw—
(ii) y gofalydd maeth preifat arfaethedig;
(b) dymuniadau a theimladau'r plentyn am y trefniant arfaethedig (a'u hystyried yng ngoleuni ei oedran a'i ddeall);
3. Y materion y cyfeiriwyd atynt yn rheoliadau 7(1)(d) ac 8(4) yw—
(ii) y gofalydd maeth preifat;
(b) dymuniadau a theimladau'r plentyn am y trefniant (a'u hystyried yng ngoleuni ei oedran a'i ddeall);
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu a disodli Rheoliadau Plant (Trefniadau Preifat ar gyfer Maethu) 1991 o ran Cymru, heblaw bod unrhyw hysbysiad a gyflwynwyd o dan y Rheoliadau hynny i'w drin fel pe bai wedi ei gyflwyno o dan y Rheoliadau hyn. Mae hyn yn dilyn diwygiadau i'r cynllun hysbysu maethu preifat a wnaed gan adran 44 o Ddeddf Plant 2004. Mae rheoliad 3 yn ei gwneud yn ofynnol i unrhyw berson sy'n cynnig maethu plentyn yn breifat, unrhyw berson sy'n ymwneud â threfnu (p'un ai'n uniongyrchol ai peidio) ar gyfer maethu'r plentyn yn breifat, a rhiant y plentyn neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn sy'n gwybod bod cynnig i faethu'r plentyn yn breifat, i hysbysu'r awdurdod lleol ymlaen llaw bod y trefniant yn cychwyn. Rhaid i hysbysiad gan y gofalydd maeth preifat arfaethedig gael ei roi o leiaf chwe wythnos cyn bod y trefniant maethu preifat i gychwyn, neu os yw'r trefniant i gychwyn o fewn chwe wythnos yna ar unwaith. Rhaid i bawb arall y mae'n ofynnol iddynt roi hysbysiad o dan reoliad 3 wneud hynny cyn gynted â phosibl ar ôl i'r trefniant gael ei wneud, neu cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt ddod yn ymwybodol o'r trefniant. Dylai'r hysbysiad gynnwys cymaint o'r wybodaeth honno a osodir yn Atodlen 1 y gall y person sy'n rhoi'r hysbysiad ei rhoi. Ar ôl iddo gael hysbysiad rhaid i'r awdurdod lleol wedyn drefnu bod swyddog o'r awdurdod yn ymweld â'r lle y bydd y plentyn yn byw a siarad â'r gofalydd maeth preifat arfaethedig, aelodau ei aelwyd, y plentyn ac eraill (rheoliad 4) a chadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 2 sy'n ymddangos yn berthnasol i'r swyddog. Yna rhaid i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod. Mae rheoliad 5 yn gosod y gofyniad i hysbysu'r awdurdod lleol o'r trefniant os na roddwyd hysbysiad o dan reoliad 3. Mae rheoliad 6 yn gosod y gofyniad i hysbysu awdurdod lleol pan fydd trefniant maethu preifat yr hysbyswyd hwy ohono o dan reoliad 3 yn cychwyn mewn gwirionedd. Ar ôl iddo gael hysbysiad o dan naill ai reoliad 5 neu reoliad 6 rhaid i'r awdurdod lleol drefnu bod swyddog yn gwneud ymweliadau ac yn cadarnhau'r materion hynny a restrir yn Atodlen 3 sy'n ymddangos i'r swyddog eu bod yn berthnasol (rheoliad 7). Mae rheoliad 8 yn ymwneud ag ymweliadau'r awdurdod lleol â'r plentyn cyn gynted ag y bydd y trefniant maethu preifat wedi cychwyn. Mae'n darparu pryd y dylai ymweliadau ddigwydd a beth ddylai swyddog o'r awdurdod ei wneud wrth ymweld. Ar ôl pob ymweliad mae'n ofynnol i'r swyddog lunio adroddiad ysgrifenedig i'r awdurdod lleol. Mae'n ofynnol i ofalwyr maeth preifat hysbysu'r awdurdod lleol o newidiadau penodol mewn amgylchiadau, megis newid yn y cyfeiriad neu pan fydd rhywun yn ymuno neu'n ymadael â'r aelwyd. Os bydd y gofalydd maeth preifat yn symud i ardal awdurdod lleol arall yna mae'n ofynnol bod gwybodaeth benodol yn cael ei rhoi i'r awdurdod lleol dros yr ardal newydd gan yr awdurdod lleol dros yr hen ardal. Rhaid i riant plentyn a faethir yn breifat, neu berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant am y plentyn, sy'n gwybod bod y plentyn yn cael ei faethu'n breifat hysbysu'r awdurdod lleol o newid yn y cyfeiriad (rheoliad 9). Mae rheoliad 10 yn ymwneud â hysbysu diwedd y trefniant. Rhaid i berson a fu'n maethu plentyn yn breifat hysbysu'r awdurdod lleol o fewn 48 awr o ddiweddu maethu'r plentyn yn breifat, ac os y rheswm dros ddiweddu'r trefniant yw bod y plentyn wedi marw, yna rhaid i'r person ddweud wrth yr awdurdod lleol mai hwnnw yw'r rheswm. Rhaid i bob hysbysiad a roddir o dan y Rheoliadau hyn fod yn ysgrifenedig (rheoliad 11). Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol fonitro'r dull y maent yn cyflawni eu swyddogaethau o ran plant a faethir yn breifat ac i benodi swyddog o'r awdurdod lleol at y diben hwnnw. Notes: [1] 1989 p.41. Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1989 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd cynnwys Deddf 1989 yn Atodlen 1 i Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) (gweler erthygl 2(a) o Orchymyn 1999 ac adran 22(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38)).back
ISBN 0 11 091308 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 5 April 2006 |