Offerynnau Statudol 2006 Rhif 885 (Cy.85) (C.23)

      Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2006


      © Hawlfraint y Goron 2006

      Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.

      Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.

      Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.

      Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2006, ISBN 0110913027. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.

      Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.

      I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.


      OFFERYNNAU STATUDOL


      2006 Rhif 885 (Cy.85) (C.23)

      PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

      Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2006

        Wedi'i wneud 21 Mawrth 2006 

      Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan Adran 67(3), (7)(a),(c),(e) ac (i) ac Atodlen 5 o Ddeddf Plant 2004 [1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn:

      Enwi, dehongli a chymhwyso
           1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 6) (Cymru) 2006.

          (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Plant 2004.

          (3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.

      Y Diwrnod Penodedig
          
      2. —(1) 31 Mawrth 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adran 26 o'r Ddeddf (Cynlluniau plant a phobl ifanc: Cymru) i rym.

          (2) 1 Ebrill 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—

          (3) 1 Medi 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—

        (a) Adran 27 (Cyfrifoldeb am swyddogaethau o dan adrannau 25 a 26); a

        (b) Rhan 1 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ac eithrio'r darpariaethau sy'n berthnasol i baragraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989[3]) o Atodlen 5 (Diddymiadau).

          (4) 1 Hydref 2006 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod â darpariaethau canlynol y Ddeddf i rym—

        (a) Adran 30 (Archwilio swyddogaethau o dan Ran 3 o'r Ddeddf);

        (b) Adran 32 (Swyddogaethau a gweithdrefnau Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant yng Nghymru);

        (c) Adran 33 (Cyllido Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant yng Nghymru);

        (ch) Adran 34 (Byrddau Lleol ar gyfer Diogelu Plant yng Nghymru: atodol);

        (d) Adran 50 (Ymyrraeth);

        (dd) Adran 52 (Dyletswydd awdurdodau lleol i hybu cyflawniad addysgol); a

        (e) Adran 56 (Swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol).



      Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]


      D. Elis-Thomas
      Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

      21 Mawrth 2006



      NODYN ESBONIADOL

      (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


      Mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, o dan Ddeddf Plant 2004[
      5] ("y Ddeddf") ac mae'n gymwys i Gymru.

      Mae'r Gorchymyn yn dod ag adran 26 o'r Ddeddf i rym ar 31 Mawrth 2006. Daw adrannau 28(1)(a) i (c) ac (i), (2) (i'r graddau y bônt yn berthnasol i'r personau a'r cyrff y cyfeirir atynt yn isadran (1)(a) i (c) ac (i)), (3) a (4), 44, 48, 53, 54, 55 a 61, Atodlen 4 (ac eithrio paragraff (5) o'r Atodlen honno) a rhannau 1 (i'r graddau y mae yn berthnasol i adran 5 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[6]), 2 a 4 o Atodlen 5 i rym ar 1 Ebrill 2006. Daw adran 27 a rhan 1 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym, ac eithrio mewn perthynas â pharagraff 1A o Atodlen 2 i Ddeddf Plant 1989 [7]) o Atodlen 5 i rym ar 1 Medi 2006. Daw adrannau 30, 32, 33, 34, 50, 52 a 56 i rym ar 1 Hydref 2006.



      NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL

      (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)


      Mae darpariaethau canlynol y Ddeddf wedi'u dwyn i rym trwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn—

      Darpariaeth Dyddiad Cychwyn Rhif O.S.
      Adran 10 o ran Lloegr 1 Ebrill 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 11 o ran Lloegr (yn rhannol) 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 11 o ran Lloegr (y gweddill) 1 Hydref 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 13 o ran Lloegr 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 14 o ran Lloegr 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 16 o ran Lloegr 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 17 o ran Lloegr 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 18 o ran Lloegr 1 Ebrill 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 20 o ran Lloegr 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 21 o ran Lloegr 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 22 o ran Lloegr 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 23 o ran Lloegr 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 24 o ran Lloegr 1 Ebrill 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 35 o ran Cymru 1 Ebrill 2005 2005/700 (Cy.59) (C.30)
      Adran 36 o ran Cymru 1 Ebrill 2005 2005/700 (Cy.59) (C.30)
      Adran 37 o ran Cymru 1 Ebrill 2005 2005/700 (Cy.59) (C.30)
      Adran 38 o ran Cymru 1 Ebrill 2005 2005/700 (Cy.59) (C.30)
      Adran 39 o ran Cymru 1 Ebrill 2005 2005/700 (Cy.59) (C.30)
      Adran 40 o ran Cymru 1 Ebrill 2005 2005/700 (Cy.59) (C.30)
      Adran 41 o ran Cymru 1 Ebrill 2005 2005/700 (Cy.59) (C.30)
      Adran 42 o ran Cymru 16 Mawrth 2005 2005/700 (Cy.59) (C.30)
      Adran 43 o ran Cymru 16 Mawrth 2005 2005/700 (Cy.59) (C.30)
      Adran 44 (yn rhannol) o ran Lloegr 1 Ebrill 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 44 (y gweddill) o ran Lloegr 1 Gorffennaf 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 48 (yn rhannol) o ran Lloegr 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 48 (y gweddill) o ran Lloegr 3 Hydref 2005 2005/2298 (C.97)
      Adran 50 o ran Lloegr 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 51 o ran Lloegr 1 Ebrill 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 52 o ran Lloegr 1 Gorffennaf 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 53 o ran Lloegr 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 54 o ran Lloegr 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 55 o ran Lloegr 1 Ebrill 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 57 o ran Lloegr 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 57 o ran Cymru 30 Rhagfyr 2005 2005/3363 (Cy.260) (C.143)
      Adran 60 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Adran 62 12 Ebrill 2005 2005/847 (C.35)
      Atodlen 3 o ran Cymru 1 Ebrill 2005 2005/700 (Cy.59) (C.30)
      Atodlen 4, paragraffau 1 (yn rhannol), 2,5,7,8, a 9 o ran Lloegr 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Atodlen 4, paragraffau 1 (y gweddill), 3,4 a 6 o ran Lloegr 3 Hydref 2005 2005/2298 (C.97)
      Atodlen 5, Rhan 1 a 2 (yn rhannol) o ran Lloegr 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)
      Atodlen 5, Rhan 2 (y gweddill) o ran Lloegr 3 Hydref 2005 2005/2298 (C.97)
      Atodlen 5, Rhan 3 a 4 o ran Lloegr 1 Ebrill 2005 2005/394 (C.18)
      Atodlen 5, Rhan 6 1 Mawrth 2005 2005/394 (C.18)


      Notes:

      [1] 2004 p.31.back

      [2] 2002 (p.38).back

      [3] 1989 (p.41).back

      [4] 1998 (p. 38).back

      [5] 2004 (p.31).back

      [6] 2002 (p.38).back

      [7] 1989 (p.41).back



      English version



      ISBN 0 11 091302 7


 

Other UK SIs | Home | National Assembly for Wales Statutory Instruments | Scottish Statutory Instruments | Statutory Rules of Northern Ireland


We welcome your comments on this site
© Crown copyright 2006
Prepared 28 March 2006