Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006, ISBN 0110913035. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 879 (Cy.84)(C.21)
ADDYSG, CYMRU
Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006
Wedi'i wneud
21 Mawrth 2006
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pŵer a roddwyd iddo gan adran 216(4)(b) a (5) o Ddeddf Addysg 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, cymhwyso a dehongli 1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 9 a Darpariaethau Trosiannol) (Cymru) 2006.
2.
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.
3.
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.
Diwrnod penodedig 4.
1 Ebrill 2006 yw'r diwrnod penodedig i'r darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.
Darpariaeth Drosiannol 5.
Hyd nes bod rheoliadau'n cael eu gwneud o dan adran 31 mewn perthynas â Chymru, mae'r cyfeiriad ym mharagraff 9 o Atodlen 2 at "any transfer of control authorised by regulations under section 31" i fod yn effeithiol fel pe bai'n gyfeiriad at "any transfer of control agreement under Schedule 13" o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[2].
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3].
Staffio ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir
Adran 36
Staffio ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion arbennig sefydledig
Adran 37
Taliadau mewn perthynas â diswyddo, etc.
Adran 40 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym
Diwygiadau i Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Adran 215(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 21 isod
Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Adran 215(2) i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 22 isod
Diddymiadau
Atodlen 2
Effaith atal dros dro cyllideb ddirprwyedig ar staffio
Atodlen 3 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym
Diwygiadau i Ran 2 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Atodlen 21, paragraff 30, paragraff 107, paragraff 110(3)(b) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau (f) a (k) o isadran (6) o adran 127 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, paragraff 110(3)(c) i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau (p) a (q) newydd isadran (6) o adran 127 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998
Mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol
Atodlen 22, Rhan 3, diddymu—
Diddymiadau
Deddf Diwygio Addysg 1988, adran 218(1)(d),
Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, adrannau 54 i 57, adran 127(6)(f) a (k),
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2006 y darpariaethau hynny yn Neddf Addysg 2002 a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.
Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.
Yn achos darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn ac sy'n diwygio deddfwriaeth sy'n bodoli eisoes, mae'r cyfeiriadau at yr Ysgrifennydd Gwladol yn y darpariaethau hynny i'w darllen, o ran Cymru, fel cyfeiriadau at Gynulliad Cenedlaethol Cymru— gweler adran 211.
Mae effaith y darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn fel a ganlyn—
Mae adran 35 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â staffio ysgolion cymunedol, ysgolion gwirfoddol a reolir, ysgolion arbennig cymunedol ac ysgolion meithrin a gynhelir. Mae'n disodli'r trefniadau a nodwyd yn adran 54 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("Deddf 1998") ac Atodlen 16 iddi. Mae'n darparu mai'r AALl yw cyflogwr staff yr ysgolion hyn ac mae'n ei gwneud yn ofynnol bod y staff hyn yn cynnwys prifathro neu brifathrawes. Mae'n galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau ar benodi staff yr ysgolion hyn, eu disgyblu, eu hatal dros dro a'u diswyddo.
Mae adran 36 yn gwneud darpariaeth mewn perthynas â staffio ysgolion sefydledig, ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir ac ysgolion arbennig sefydledig, gan ddisodli'r trefniadau a nodwyd yn adran 55 o Ddeddf 1998 ac Atodlen 17 iddi. Mae'n darparu mai'r corff llywodraethu yw cyflogwr staff yr ysgolion hyn, oni bai bod rheoliadau yn datgan fel arall. Rhaid i'r staff gynnwys prifathro neu brifathrawes. Rhoddir pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau ar benodi staff yr ysgolion hyn, eu disgyblu, eu hatal dros dro a'u diswyddo.
Mae Atodlen 2 yn darparu ar gyfer y trefniadau staffio sydd i fod yn gymwys yn lle rheoliadau o dan adran 34 neu 35 os caiff cyllideb ddirprwyedig ysgol ei hatal dros dro.
Mae adran 37 yn ailddeddfu adran 57 o Ddeddf 1998 ac yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â thaliadau mewn perthynas â diswyddo staff o ysgolion a gynhelir.
Mae Adran 40 ac Atodlen 3 yn diwygio Deddf 1998 o ganlyniad i'r trefniadau staffio newydd.
NODYN AM ORCHMYNION CYCHWYN BLAENOROL
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Cymru drwy orchymyn cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Atodlen 13, paragraffau 1 i 3, 5, 6, 7(1) a (3) ac 8
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 14, paragraffau 1 i 7
1 Medi 2004
2004/1728 (Cy.172)
Atodlen 16, paragraffau 1 i 3
1 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
Paragraffau 4 i 9
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 17, paragraffau 5(1) i (4), (6) a 6 i 8
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 18, paragraffau 1, 4, 5 a 7,
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraff 8 (yn rhannol),
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 13 i 15,
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
Paragraffau 2, 3, 6, 8 (yn llawn), 9 i 12 ac 16 i 18
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301)
Atodlen 19
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 20
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
Atodlen 21 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn rhannol)
19 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Awst 2003
2003/1667
(yn rhannol)
1 Medi 2003
2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2004
2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)
1 Awst 2004
2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)
1 Medi 2004
2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)
31 Mai 2005
2005/1395 (Cy.109)
(yn rhannol)
31 Hydref 2005
2005/2910 (Cy.207)
Atodlen 22 (yn rhannol)
1 Hydref 2002
2002/2439
(yn rhannol)
9 Rhagfyr 2002
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2003
2002/3185 (Cy.301)
(yn rhannol)
1 Awst 2003
2003/1718 (Cy.185)
(yn rhannol)
1 Medi 2003
2002/3185 (Cy.301), 2003/1718 (Cy.185) a 2003/1667
(yn rhannol)
4 Rhagfyr 2003
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
1 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
9 Ionawr 2004
2003/2961 (Cy.278)
(yn rhannol)
31 Mawrth 2004
2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)
1 Awst 2004
2004/912 (Cy.95)
(yn rhannol)
1 Medi 2004
2004/1728 (Cy.172)
(yn rhannol)
31 Mai 2005
2005/1395 (Cy.109)
(yn rhannol)
31 Hydref 2005
2005/2910 (Cy.207)
Mae amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg 2002 wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2002/2002 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2002/2018), O.S. 2002/2439 (fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2003/606 (wedi'i ddirymu) a 2003/2992), O.S. 2002/2952, O.S. 2003/124, O.S. 2003/1115, O.S. 2003/1667, O.S. 2003/2071 ac O.S. 2004/1318.