Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Dileu Ffioedd) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Dileu Ffioedd) (Cymru) 2006, ISBN 0110913043. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 12(2), 15(3), 16(3), 22(7) a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[1] ac adrannau 79F, 87D ,104(4) o Ddeddf Plant 1989 a pharagraff 7 o Atodlen 9A iddi[2] ac adran 94(6) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 (Dileu Ffioedd) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006. (2) Yn y Rheoliadau hyn—
(3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(b) rheoliad 35 o Reoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004[5]; (c) rheoliad 34 o Reoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004[6]; (ch) rheoliad 28 o Reoliadau Asiantaethau Nyrsys (Cymru) 2003[7]; (dd) rheoliad 51 o Reoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003[8]; (e) rheoliad 33 o Reoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003[9]; (f) rheoliad 6 o Reoliadau Arolygu Ysgolion a Cholegau Preswyl (Pwerau a Ffioedd) (Cymru) 2002[10]; (ff) rheoliad 4 o Reoliadau Deddf Plant 1989 a Deddf Safonau Gofal 2000 (Rheoliadau Amrywiol) (Diwygio) (Cymru) (Rhif 2) 2002[11]. (g) rheoliad 14(a) o Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[12].
Ffioedd rhagnodedig at ddibenion Deddf 2000 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn dileu'r holl ofynion o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 a Deddf Plant 1989 i ffioedd gael eu talu am gofrestru gyda Chynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad"). Maent yn dileu hefyd y gofyniad i ffioedd blynyddol gael eu talu am arolygiadau gan y Cynulliad o wasanaethau mabwysiadu a maethu awdurdodau lleol o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymdeithasol a Safonau) 2003, ac arolygiadau o ysgolion a cholegau byrddio o dan Ddeddf Plant 1989. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu methiant gan ddarparwyr o ran talu ffioedd fel sail dros ddileu cofrestru. Notes: [1] 2000 p.14. Mae'r pwerau wedi'u rhoi i'r "appropriate Minister": gweler y diffiniad o "regulations" yn adran 121(1) o Ddeddf 2000. Ystyr "appropriate Minister", o ran Cymru, yw "the Assembly"; ystyr "the Assembly" yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru: gweler adran 5(1)(b) o Ddeddf 2000. Gweler adran 121(1) o Ddeddf 2000 i gael y diffiniad o "prescribed". Yn rhinwedd O.S. 2004/1756 (Cy. 188), mae'r pwerau sydd wedi'u cynnwys yn Rhan II o Ddeddf 2000 yn arferadwy mewn perthynas â chynlluniau lleoli oedolion.back [2] 1989 p.41. Gweler adran 79B o Ddeddf 1989 i gael y diffiniad o "regulations" ac adran 105 i gael y diffiniad o "prescribed". Mae'r pŵer o dan adran 87D wedi'i roi i'r Ysgrifennydd Gwladol. Yn rhinwedd Erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), y cofnod ynglŷn â Deddf 1989 yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw ac adran 120(2) o Ddeddf Safonau Gofal 2000, mae swyddogaeth yr Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 87D o Ddeddf 1989 yn arferadwy gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru.back [3] Diddymwyd y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas ag adran 51 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 gan Ran 2 o Atodlen 14 i Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 ac a ddisodlwyd gan adran 94 o Ddeddf 2003.back [4] O.S. 2002/921 (Cy.109). Mae'r offerynnau diwygio perthnasol wedi'u rhestru yn nhroednodiadau (2) i (9) isod.back [5] O.S. 2004/1756 (Cy.188).back [6] O.S. 2004/219 (Cy.23).back [7] O.S. 2003/2527 (Cy.242).back [8] O.S. 2003/237 (Cy.35).back [9] O.S. 2003/781 (Cy.92).back [10] O.S. 2002/3161 (Cy.296).back [11] O.S. 2002/2935 (Cy.277).back [12] O.S. 2002/919 (Cy.107).back
ISBN 0 11 091304 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 29 March 2006 |