Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006, ISBN 0110913051. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 29(3), (5) a 569 o Ddeddf Addysg 1996[1], ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2] a'r pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 26 a 66(1) o Ddeddf Plant 2004[3], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:— Enwi, cychwyn, dirymu a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Cynllun Addysg Sengl (Cymru) 2006, a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006. (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), dirymir y Rheoliadau a restrir yn y golofn gyntaf a'r ail o'r tabl yn Atodlen 1 i'r graddau a bennir yn y drydedd golofn o'r tabl hwnnw. (3) Mae unrhyw gynllun, sydd mewn grym yn union cyn 1 Ebrill 2006, ac a wnaed o dan y Rheoliadau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2), i barhau mewn grym tan 1 Medi 2006 er gwaethaf y ffaith bod y paragraff hwnnw yn dirymu'r Rheoliadau y cafodd y cynllun ei wneud odano. (4) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn—
(ii) esgob pob un o esgobaethau'r Eglwys Gatholig Rufeinig,
y mae unrhyw ran o'u hardal (ym mhob achos) yn dod o fewn ardal yr awdurdod;
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriadau at gyhoeddi (sut bynnag y cânt eu mynegi) yn gyfeiriadau at gyhoeddi yn unol â rheoliad 11.
(b) gwella perfformiad ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod; (c) cynllunio lleoedd ysgol a lleoedd meithrin i fodloni anghenion poblogaeth ardal yr awdurdod; ac (ch) addysgu disgyblion nad ydynt yn mynychu'r ysgol oherwydd salwch, neu oherwydd eu bod wedi'u gwahardd neu am resymau eraill;
ac yn cwmpasu Targedau ar gyfer gwella cyrhaeddiad a phresenoldeb disgyblion, ac ar gyfer gostwng nifer y disgyblion a waherddir o'r ysgol.
(b) pennaeth a chorff llywodraethu pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; (c) mewn perthynas â phob uned cyfeirio disgyblion a gynhelir gan yr awdurdod—
(ii) pan fo Rheoliadau o dan baragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf 1996[14] yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod sefydlu pwyllgor rheoli ar gyfer yr uned honno, y pwyllgor hwnnw;
(ch) yr awdurdod esgobaethol priodol ar gyfer unrhyw un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu unrhyw un o ysgolion yr Eglwys Gatholig Rufeinig a gynhelir gan yr awdurdod;
(3) Yn achos y cyrff y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (dd) i (i) o baragraff (2), dim ond â chyrff sy'n cwmpasu ardal gyfan yr awdurdod neu unrhyw ran ohoni y mae'n rhaid ymgynghori.
(b) yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (d) o Atodlen 3 am y flwyddyn ysgol 2006-07, 2007-08 a 2008-09; ac (c) yr wybodaeth y cyfeirir ati ym mharagraff (dd) o Atodlen 3 ar gyfer y flwyddyn ysgol 2006-07.
(3) Nid oes angen i'r awdurdod ymgynghori ynghylch yr Wybodaeth Ategol ddiwygiedig.
(b) mewn unrhyw fannau eraill a fyddo'n rhesymol.
Darparu copïau o Gynllun Addysg Sengl
(b) unrhyw berson sy'n gofyn am gopi.
(2) Rhaid darparu copi o'r diwygiadau a wneir i'r Targedau yn unol â rheoliad 9 ar gyfer—
(b) pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; ac (c) unrhyw berson sy'n gofyn am gopi.
(3) Rhaid darparu copi o'r diwygiadau a wneir i'r Wybodaeth Ategol yn unol â rheoliad 10 ar gyfer—
(b) pob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod; ac (c) unrhyw berson sy'n gofyn am gopi.
(4) Pan fo person yn gofyn am gopi o dan baragraff (1), (2) neu (3) caniateir bodloni'r gofyniad drwy anfon y copi'n electronig.
Dehongli 1. Yn yr Atodlen hon—
2. Rhaid i Gynllun Addysg Sengl gynnwys, ar gyfer y cyfnod y cyfeirir ato yn rheoliad 5, y strategaethau y cyfeirir atynt yn y Rhan hon. 3. Datganiad sy'n nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer gwella perfformiad ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod, gan gynnwys ei strategaethau ar gyfer y canlynol—
(ii) a arolygwyd gan arolygydd cofrestredig, y mae ei adroddiad arolygu'n datgan bod mesurau arbennig yn ofynnol o ran yr ysgol, neu ei bod yn ofynnol i'r ysgol wella'n sylweddol, ym marn yr arolygydd, a bod y Prif Arolygydd yn cytuno â'r farn honno; neu (iii) a arolygwyd gan aelod o'r Arolygiaeth y mae ei adroddiad arolygu'n datgan bod mesurau arbennig yn ofynnol o ran yr ysgol, neu ei bod yn ofynnol i'r ysgol wella'n sylweddol, ym marn yr arolygydd;
(b) cefnogi ysgolion yn y gwaith o wella'r modd y trosglwyddir disgyblion rhwng yr ail gyfnod allweddol a'r trydydd;
4.
Datganiad yn nodi strategaeth yr awdurdod, a'r ddarpariaeth y mae'n bwriadu ei gwneud, boed yn rhan amser neu'n amser llawn, ar gyfer disgyblion nad ydynt yn mynychu'r ysgol oherwydd salwch, neu oherwydd eu bod wedi'u gwahardd, neu am resymau eraill, ac ar gyfer codi safonau addysg y disgyblion hynny.
(b) unrhyw lefelau sy'n bodoli o leoedd sy'n rhy niferus ac achosion o orlenwi; (c) y galw am leoedd cyfrwng Cymraeg; (ch) y galw am leoedd mewn ysgolion crefyddol; (d) yr angen am sicrhau bod yr holl adeiladau ysgolion o safon addas ar gyfer cyflwyno Cwricwlwm Cenedlaethol Cymru ac y gwneir hynny, pan fo'n briodol, mewn ffordd sy'n hwyluso defnyddio mangreoedd ysgol gan y gymuned; (dd) y gofynion cyfreithiol am sicrhau cydymffurfedd â'r terfyn statudol ar faint dosbarthiadau babanod a ragnodir o dan adran 1 o Ddeddf 1998[29], a'i bod yn ddymunol cyfyngu dosbarthiadau iau i 30 o ddisgyblion; (e) yr angen am sicrhau addysg feithrin (yn unol â gofynion a osodwyd yn rhinwedd Rheoliadau o dan adran 118 o Deddf 1998)[30]; (f) cyfrifoldebau cyfreithiol yr awdurdod o dan Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995[31], neu unrhyw ddeddfwriaeth arall, i wella mynediad i ddisgyblion anabl ac i hwyluso mynediad i gyflogeion anabl a defnyddwyr eraill mangreoedd ysgol; (ff) yr angen am ddarparu lleoedd ôl-16 mewn ysgolion; ac (g) yr angen am ddarparu ar gyfer disgyblion ag anghenion addysgol arbennig mewn ysgolion arbennig a gynhelir gan yr awdurdod, neu mewn unedau arbennig sy'n gysylltiedig â chategorïau eraill o ysgolion a gynhelir felly, neu drwy leoliad mewn ysgolion arbennig nas cynhelir neu mewn ysgolion annibynnol.
6.
Datganiad yn nodi sut y mae'r awdurdod yn bwriadu monitro cynnydd o ran pob un o'i strategaethau y cyfeirir atynt yn y Rhan hon. Targedau ar gyfer cyrhaeddiad, presenoldebau a gwaharddiad 7. —(1) O ran y blynyddoedd ysgol 2006-07 a 2007-08 ceir y Targedau ar gyfer cyrhaeddiad, presenoldebau a gwaharddiad yn is-baragraffau (2), (3) a (5) isod. (2) Mae'r Targedau sydd i'w gosod ar gyfer cyrhaeddiad fel a ganlyn—
(b) Y ganran o ddisgyblion y trydydd cyfnod allweddol mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n cyrraedd lefel 5 neu uwch mewn mathemateg a gwyddoniaeth a naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg fel a asesir gan asesiad athrawon; (c) Y ganran o ddisgyblion y pedwerydd cyfnod allweddol mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n ennill gradd C neu uwch mewn arholiadau TGAU mewn mathemateg a gwyddoniaeth a naill ai Cymraeg (iaith gyntaf) neu Saesneg; (ch) Y ganran o ddisgyblion 15 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod sy'n ennill unrhyw radd o A* i C mewn pum arholiad TGAU neu fwy, neu gymhwyster cyfatebol mewn arholiadau eraill ar NQF lefel 2 neu mewn unrhyw gyfuniad o arholiadau TGAU neu arholiadau eraill ar NQF lefel 2; (d) Cyfrifir y nifer o bwyntiau ar gyfartaledd a enillir gan ddisgyblion 15 oed mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod mewn arholiadau o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff 5 o Ran 1 o Atodlen 4 i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999[32] yn unol â'r paragraff hwnnw; ac (dd) Y ganran o ddisgyblion sy'n gorffen addysg lawnamser heb unrhyw gymhwyster a gymeradwywyd[33].
(3) Mae'r Targedau sydd i'w gosod ar gyfer presenoldeb fel a ganlyn—
(b) Cyfanswm cyfradd y presenoldebau ar gyfer ysgolion uwchradd a gynhelir gan yr awdurdod.
(4) Yn is-baragraff (3)—
(5) Mae'r Targedau sydd i'w gosod ar gyfer gwaharddiadau fel a ganlyn—
(b) yn achos ysgolion uwchradd, y gyfradd o waharddiadau parhaol fesul 1000 o ddisgyblion.
(6) At ddibenion paragraff (2), mae cyfeiriad at ddisgyblion 15 oed yn gyfeiriad at ddisgyblion a oedd yn 15 oed ar yr 31 Awst yn union cyn dechrau'r flwyddyn ysgol y gosodwyd y targed ar ei chyfer. Rhaid i Atodiad sy'n cynnwys yr wybodaeth ganlynol fynd gyda Chynllun Addysg Sengl—
(b) y nifer o ddisgyblion ar y gofrestr ym mhob ysgol a gynhelir gan yr awdurdod (gan gynnwys ysgolion meithrin ac ysgolion arbennig) yn y flwyddyn ysgol 2005-06 o'i chymharu â chapasiti'r ysgol, a'r nifer arfaethedig ar y gofrestr ar gyfer y pum mlynedd ysgol ddilynol; (c) y galw am ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg mewn ysgolion a gynhelir gan yr awdurdod o'i gymharu â'r lleoedd sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ysgol 2005-06 a'r pum mlynedd ysgol ddilynol; (ch) y galw am ddarpariaeth mewn ysgolion crefyddol a gynhelir gan yr awdurdod o'i gymharu â'r lleoedd sydd ar gael ar gyfer y flwyddyn ysgol 2005-06 a'r pum mlynedd ysgol ddilynol ; (d) O ran y flwyddyn ysgol 2005-06—
(ii) y nifer o leoedd o'r fath a ariennir gan yr awdurdod mewn sefydliadau nas cynhelir; a (iii) y nifer o leoedd yn y mannau canlynol, gan roi'r ffigurau ar wahân o ran yr wybodaeth a bennir yn is-baragraffau (i) a (ii)—
ysgolion neu sefydliadau cyfrwng Saesneg,
ac, ym mhob achos, y nifer arfaethedig o leoedd ar gyfer y blynyddoedd ysgol 2006-07 a 2007-08; ac
(dd) O ran y flwyddyn ysgol 2005-06 cyfanswm y lleoedd hynny yn y sefydliadau canlynol—
(ii) dosbarthiadau arbennig sy'n gysylltiedig â chategorïau eraill o ysgolion a gynhelir felly,
gyda dadansoddiad yn ôl y math o angen addysgol arbennig y darperir ar ei gyfer ym mhob un o'r ddau fath hwnnw o sefydliad, ac (ar gyfer pob sefydliad o'r fath ac ar wahân ar gyfer pob math o angen addysgol arbennig y darperir ar ei gyfer ym mhob sefydliad o'r fath) dadansoddiad pellach yn ôl y canlynol—
(ii) a oes darpariaeth fyrddio o dymor i dymor ar gael, (iii) a oes darpariaeth fyrddio am 52 wythnos ar gael, neu (iv) a yw'r ddarpariaeth yn ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ynteu cyfrwng Saesneg.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae adran 29 o Ddeddf Addysg 1996 (Deddf 1996), yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdod Addysg Lleol (yr awdurdod) ddarparu gwybodaeth ar gyfer Cynulliad Cenedlaethol Cymru (y Cynulliad Cenedlaethol). Mae adran 26 o Ddeddf Plant 2004 (Deddf 2004) yn darparu y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol, drwy Reoliadau, i awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru, o bryd i'w gilydd, baratoi a chyhoeddi cynllun yn nodi strategaeth yr awdurdod ar gyfer cyflawni ei swyddogaethau mewn perthynas â phlant a phobl ifanc berthnasol. Gwneir y Rheoliadau hyn o dan adrannau 29(3), (5) a 569 o Ddeddf 1996 a 26 o Ddeddf 2004, ac maent yn dirymu ac yn disodli'r Rheoliadau canlynol:—
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer y materion canlynol:—
Notes: [1] 1996 p.56. Diwygiwyd is-adran (3) o adran 29 gan adran 140(1) a (3) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), ac Atodlenni 30 a 31 iddi. Am y diffiniad o "prescribed" a "regulations" gweler adran 142(1) o Ddeddf 1998.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/ 672).back [3] 2004 p.31. Cafodd adran 26 ei chychwyn ar 1 Ebrill 2006 gan O.S. 2006/885 (Cy.85)(C.23).back [4] Gweler adran 65(1) o Ddeddf 2004 ar gyfer ystyr awdurdod gwasanaethau plant yng Nghymru, sy'n golygu cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol.back [5] Trosglwyddwyd swyddogaeth dynodi o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S.1999/672).back [14] Mewnosodwyd paragraff 15 gan adran 48 o Dddeddf Addysg 1997 (p.44), ac fe'i ddiwygiwyd gan adran 140 o Ddeddf 1998, ac Atodlen 30 iddi, a chan Orchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol ac Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002, O.S. 2002/808 (Cy.89).back [15] 1977 p.49. Mewnosodwyd adran 16BA gan adran 6(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17).back [17] Mae partneriaeth o dan yr enw hwnnw yn cynnwys unrhyw bartneriaeth a sefydlwyd er hyrwyddo amcanion adran 123(2) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21).back [18] Diwygiwyd adran 119 gan adran 150 o Ddeddf 2002.back [19] Diwygiwyd adran 390 gan adran 140(1) o Ddeddf 1998 ac Atodlen 30 iddi.back [20] 1998 p.37. Mae adran 39 wedi ei diwygio gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a Gwasanaethau Llys 2000 (p.43), a Deddf Plant 2004.back [21] Sefydlwyd y Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol at ddibenion adrannau 5 a 6 o Ddeddf Trosedd ac Anhrefn1998.back [22] Mae Partneriaeth o dan yr enw hwnnw yn cynnwys unrhyw Bartneriaeth Plant a sefydlwyd i hybu amcanion adrannau 25 a 26 o Ddeddf Plant 2004.back [25] Mewnosodwyd adran 16A(4) gan adran 54 o Ddeddf 2002.back [27] Diwygiwyd adran 324 gan adran 9 o Ddeddf Anghenion Arbennig ac Anabledd 2001 p.10, adran 140 ac Atodlen 30 i Ddeddf 1998, ac adran 215 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 21 iddi.back [28] O ran trosglwyddo swyddogaethau i'r Cynulliad Cenedlaethol, gweler Gorchymyn Awdurdod Cymwysterau, Cwricwlwm ac Asesu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Awdurdod) 2005 O.S. 2005/3239 (Cy.244). Yr awdurdodau rheoleiddio cyfatebol yw Awdurdod Cymwysterau a Chwricwlwm (Lloegr) a'r Cyngor dros Gwricwlwm, Arholiadau ac Asesu (Gogledd Iwerddon). Rhestrir y cymwysterau yn ôl categori a lefel. Gellir gweld y Fframwaith ar www.qca.org.uk.back [29] Mae Rheoliadau Addysg (Maint Dosbarthiadau Babanod) (Cymru) 1998 (O.S. 1998/1943) yn pennu 30 yn derfyn maint dosbarthiadau babanod fel arfer.back [30] Gweler Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/893, (Cy.113) fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005 O.S. 2005/1813, (Cy. 143).back [32] O.S. 1999/1812, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2004/1736 (Cy. 179).back [33] Mae cymhwyster a gymeradwywyd yn gymhwyster a gymeradwywyd o dan adran 99 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, at ddibenion adran 96 o'r Ddeddf honno.back
ISBN 0 11 091305 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 30 March 2006 |