Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006, ISBN 0110913000. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 108(1)(b), (2) a (5) o Ddeddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 ("Deddf 2005")[1], yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 (Cychwyn Rhif 1 ac Arbedion) (Cymru) 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "Deddf 1990" yw Deddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[2]. Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym ar 16 Mawrth 2006 2. Mae darpariaethau canlynol Deddf 2005 yn dod i rym ar 16 Mawrth 2006—
(b) adran 53 (y pŵer i awdurdodau casglu gwastraff ddefnyddio eu pwerau ymchwilio o dan adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i ymchwilio i ddigwyddiadau neu dramgwyddau o ran cyflawni unrhyw rai o'u swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf 1990); (c) yn Atodlen 4 (mân ddiwygiad a diwygiadau canlyniadol), paragraff 4; ac (ch) yn Rhan 4 (gwastraff) o Atodlen 5, y diddymiadau i Ddeddf 1990[b] ac eithrio'r diddymiad i adran 33 o'r Ddeddf honno.
Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym at ddibenion penodol ar 16 Mawrth 2006
Darpariaethau Deddf 2005 sy'n dod i rym ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau Tir a Halogwyd (Cymru) 2006 i rym
(b) Rhan 10 o Atodlen 5 (diddymiadau).
Arbedion
(b) swyddogaethau awdurdod gwaredu gwastraff mewn cysylltiad â chwmni o'r fath cyhyd ag y pery'r cwmni o dan reolaeth yr awdurdod.
(2) Ym mharagraff (1), mae i "awdurdod gwaredu gwastraff" yr ystyr a roddir i "waste disposal authority" yn adran 30(2) o Ddeddf 1990 ac mae i "rheolaeth" yr ystyr a roddir i "control" yn adran 32(11) o'r Ddeddf honno. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau canlynol Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005 ("Deddf 2005") ar 16 Mawrth 2006—
(b) adran 53; (c) paragraff 4 o Atodlen 4; ac (ch) darpariaethau eraill i'r graddau y maent yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i wneud, rhoi neu ddyroddi is-ddeddfwriaeth.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym, ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau Tir a Halogwyd (Cymru) 2006 i rym, adran 104 o Ddeddf 2005 (i'r graddau nas daw i rym drwy'r Gorchymyn hwn ar 16 Mawrth 2006), a Rhan 10 o Atodlen 5 iddi.
(b) yn gwneud rhai diddymiadau canlyniadol i Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (Rhan 4 o Atodlen 5 i Ddeddf 2005); (c) yn rhoi effaith i fân ddiwygiad i adran 60(1) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 o ran ymyriad â safleoedd gwastraff a daliedyddion gwastraff (paragraff 4 o Atodlen 4 i Ddeddf 2005)[a]; ac (ch) yn galluogi awdurdodau casglu gwastraff i ddefnyddio'u pwerau ymchwilio o dan adran 108 o Ddeddf yr Amgylchedd 1995 i ymchwilio i ddigwyddiadau neu dramgwyddau o ran cyflawni unrhyw rai o'u swyddogaethau o dan Ran 2 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 (adran 53 o Ddeddf 2005).
Mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym nifer o ddarpariaethau Deddf 2005 i'r graddau y maent yn galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud, rhoi neu ddyroddi is-ddeddfwriaeth (neu i wneud darpariaeth drwy ddulliau o'r fath). Notes: [1] 2005 p.16.back
[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 2, fersiwn Gymraeg, yn y Nodyn Esboniadol, yr ail baragraff (c), llinell pedwar; dylai "i Deddf 2005); ac" ddarllen fel "i Ddeddf 2005); ac"; back [b] Amended by Correction Slip. Tudalen 3, fersiwn Gymraeg, erthygl 2(ch); dylai "y diddymiad i Ddeddf 1990" ddarllen fel "y diddymiadau i Ddeddf 1990"; back [c] Amended by Correction Slip. Tudalen 3, fersiwn Saesneg, erthygl 2(b), llinell chwech; dylai "Part 2 of the 1990 Act;" ddarllen fel "Part 2 of the 1990 Act);"; [d] Amended by Correction Slip. Tudalen 3, fersiwn Saesneg, erthygl 2(c), llinell dau; dylai "amendments);" ddarllen fel "amendments),"; a [e] Amended by Correction Slip. Tudalen 4, fersiwn Saesneg; dylai erthygl 4 ddarllen fel, "The following provisions of 2005 Act come into force on the coming into force of the Contaminated Land (Wales) Regulations 2006-".
ISBN 0 11 091300 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 24 March 2006 |