Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2006, ISBN 0110912985. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 210(2) a 215(2) o Ddeddf Tai 1996[1], ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) (Cymru) 2006. (2) Heblaw fel y darperir ym mharagraffau (3) a (4) o'r Erthygl hwn, daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 3 Ebrill 2006. (3) Daw Erthyglau 4, 5 a 6 o'r Gorchymyn hwn, a'r Atodlen iddo, i rym ar 2 Ebrill 2007. (4) Daw Erthyglau 7, 8, 9 a 10 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Ebrill 2008. (5) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys mewn perthynas â dyletswyddau awdurdodau tai lleol yng Nghymru o dan Rhan 7 o Ddeddf Tai 1996 (digartrefedd). Dehongli 2. Yn y Gorchymyn hwn—
(b) lle mae unrhyw un o'r cyfleusterau canlynol heb fod ar gael i'r ymgeisydd neu wedi'i rannu gan fwy nag un aelwyd—
(ii) cyfleusterau ymolchi personol; (iii) cyfleusterau coginio; neu
(c) nad yw'n sefydliad a gofrestrwyd o dan ddarpariaethau'r Ddeddf Safonau Gofal 2000;
(b) lle mae unrhyw un o'r cyfleusterau canlynol heb fod ar gael i'r ymgeisydd neu wedi'i rannu gan fwy nag un aelwyd—
(ii) cyfleusterau ymolchi personol; (iii) cyfleusterau coginio;
(c) nad yw'n llety sy'n eiddo i awdurdod tai lleol, landlord cymdeithasol cofrestredig neu gorff gwirfoddol yn ôl diffiniad adran 180(3) o Ddeddf Tai 1996, neu'n cael ei reoli gan un o'r rhain; neu
(ii) sydd â llai na 7 ystafell wely ar gael i'w gosod.
(b) sydd â rheolwr y mae'r awdurdod tai lleol yn ystyried ei fod yn berson cymwys a phriodol gyda'r gallu i reoli llety Gwely a Brecwast;
ac mae "safon sylfaenol" ("basic standard") i'w ddehongli'n unol â hynny;
(b) y safonau a gynhwysir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn,
ac mae "safon uwch" ("higher standard") i'w ddehongli'n unol â hynny; 3. Wrth benderfynu at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996 p'run ai a yw llety'n addas ar gyfer person y mae ei angen yn flaenoriaeth[5] rhaid cymryd y materion canlynol i ystyriaeth—
(b) agosatrwydd a hygyrchedd y gwasanaethau cymdeithasol; (c) agosatrwydd a hygyrchedd cymorth gan deulu neu wasanaethau cymorth eraill; neu (ch) unrhyw anabledd sydd gan y person.
Yr angen i Lety Gwely a Brecwast a ddefnyddir i letya person digartref fodloni'r safon sylfaenol 4. Ar gyfer ddibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996, nid yw llety Gwely a Brecwast i'w ystyried yn addas oni bai ei fod yn bodloni'r safon sylfaenol o leiaf. Y gofyniad i beidio a ystyried Gwely a Brecwast yn addas ar gyfer person ifanc dan oed neu fenyw feichiog 5. Ar gyfer ddibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996 ac yn ddarostyngedig i'r eithriadau a gynhwysir yn Erthygl 6, nid yw llety Gwely a Brecwast i'w ystyried yn addas ar gyfer person ifanc dan oed neu fenyw feichiog. Eithriadau 6. —(1) Nid yw Erthygl 5 yn gymwys—
(b) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast o safon uwch am gyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, nad yw'n hwy na 6 wythnos; (c) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol am gyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, nad yw'n hwy na 6 wythnos, a bod yr awdurdod tai lleol, cyn diwedd y cyfnod o ddwy wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), wedi cynnig llety amgen addas, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast y cyfeiriwyd ato; (ch) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol ar ôl gwneud y dewis y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) uchod, a bod yr awdurdod tai lleol wedi cynnig llety amgen addas cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) uchod, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast y cyfeiriwyd ato; neu (d) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast bach o safon uwch, a bod yr awdurdod tai lleol wedi cynnig llety amgen addas cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) uchod, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast y cyfeiriwyd ato.
(2) Os yw'r llety amgen addas a gynigir at ddibenion paragraff (1) wedi'i rannu, rhaid iddo fodloni'r safon uwch.
(b) pan fo awdurdod tai lleol[7] yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd o dan adran 193 yn rhinwedd adran 200(4)[8], unrhyw gyfnod cyn y daeth yr awdurdod hwnnw yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd honno.
Y gofyniad i beidio a ystyried llety Gwely a Brecwast yn addas ar gyfer person y mae ei angen yn flaenoriaeth 7. Ar gyfer dibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996, ac yn ddarostyngedig i'r eithriadau a gynhwysir yn erthygl 9, nid yw llety Gwely a Brecwast i'w ystyried yn addas ar gyfer person y mae ei angen yn flaenoriaeth. Y gofyniad i lety a rennir i fodloni'r safon uwch 8. Ar gyfer dibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996, ac yn ddarostyngedig i'r eithriadau a gynhwysir yn erthyglau 9 a 10, nid yw llety a rennir i'w ystyried yn addas ar gyfer person y mae ei angen yn flaenoriaeth heblaw bod y llety hwnnw'n bodloni'r safon uwch. Eithriadau 9. (1) Nid yw Erthyglau 7 ac 8 yn gymwys—
(b) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast o safon uwch am gyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, nad yw'n hwy na 6 wythnos; (c) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol am gyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, nad yw'n hwy na 6 wythnos, a bod yr awdurdod tai lleol, cyn diwedd y cyfnod o ddwy wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (a), wedi cynnig llety amgen addas, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast y cyfeiriwyd ato; (ch) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast bach o safon sylfaenol ar ôl gwneud y dewis y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) uchod, a bod yr awdurdod tai lleol wedi cynnig llety amgen addas cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (c) uchod, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast y cyfeiriwyd ato; (d) os yw'r person yn lletya mewn llety Gwely a Brecwast bach o safon uwch, a bod yr awdurdod tai lleol wedi cynnig llety amgen addas cyn diwedd y cyfnod o 6 wythnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (b), ond bod y person wedi dewis aros yn y llety Gwely a Brecwast y cyfeiriwyd ato; neu (dd) os yw'r person yn lletya mewn llety a rennir o safon sylfaenol am gyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, nad yw'n hwy na dwy wythnos; (e) os yw'r person yn lletya am gyfnod, neu gyfanswm o gyfnodau, nad yw'n hwy na 6 wythnos, mewn llety a rennir o safon sylfaenol sy'n eiddo i awdurdod tai lleol neu landlord cymdeithasol cofrestredig, a bod yr awdurdod tai lleol, cyn diwedd y cyfnod o bythefnos y cyfeirir ato yn is-baragraff (dd), wedi cynnig llety amgen addas, ond bod y person wedi dewis aros yn y llety y cyfeiriwyd ato.
(2) Os yw'r llety amgen addas a gynigir at ddibenion paragraff (1) wedi'i rannu, rhaid iddo fodloni'r safon uwch.
(b) pan fo awdurdod tai lleol yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd o dan adran 193 yn rhinwedd adran 200(4), unrhyw gyfnod cyn y daeth yr awdurdod hwnnw yn ddarostyngedig i'r ddyletswydd honno.
Oedi cymhwyso i Dai Cymdeithasol 1. Safonau ynglŷn ag Isafswm Gofod Safonau ynglŷn â gofod ar gyfer mannau cysgu Maint ystafelloedd pan fo cyfleusterau coginio yn cael eu darparu mewn ystafell ar wahân neu gegin
Maint ystafelloedd pan fo cyfleusterau coginio yn cael eu darparu o fewn yr ystafell
Ar gyfer dibenion y cyfrifiadau o faint ystafelloedd uchod, ystyrir plentyn sy'n llai na 10 oed fel hanner person.
(b) Ni chaniateir rhannu ystafelloedd gan bersonau o rywiau gwahanol, sy'n 10 oed neu'n hyn, oni bai eu bod yn byw gyda'i gilydd fel partneriaid a'u bod ill dau dros oed cydsynio, neu pan fo rhiant neu warcheidwad yn dewis rhannu gyda phlentyn hyn. (c) Rhaid i bob ystafell fod ag uchder o'r llawr i'r nenfwd o 2.1 metr o leiaf dros ddim llai na 75% o arwynebedd yr ystafell. Rhaid anwybyddu unrhyw ran o'r ystafell lle mae uchder y nenfwd yn llai nag 1.5 metr wrth gyfrifo arwynebedd y llawr. (ch) Mae ceginau ac ystafelloedd ymolchi ar wahân yn anaddas i'w defnyddio fel mannau cysgu.
2.
Cyfleusterau gwresogi
(b) sinc gyda draeniwr yn gysylltiedig, gyda chyflenwad parhaus o ddŵr poeth a dŵr oer i'w yfed, (c) cwpwrdd storio gydag o leiaf 0.2 metr ciwbig o ofod heb gynnwys man storio o dan y sinc, (ch) oergell, (d) o leiaf pedwar o socedau 13-amp (sengl neu ddwbl) wedi'u lleoli uwchlaw'r wyneb gweithio, (dd) wyneb gweithio ar gyfer paratoi bwyd gyda dimensiynau o 1 metr x 0.6 metr o leiaf, ac (e) isafswm o 1 metr o ofod clir rhwng y cyfleusterau a dodrefn eraill yn yr ystafell.
(2) Mewn uned llety lle mae un person yn lletya, rhaid i'r man paratoi bwyd a ddarperir o fewn yr uned gynnwys y cyfleusterau canlynol:
4.
Storio, paratoi a choginio bwyd o fewn cyfleuster a rennir
(b) bob 5 aelwyd person sengl neu lai na hynny. (Ar gyfer rhwng 6 a 9 aelwyd person sengl, bydd angen popty neu ficrodon ychwanegol.) (c) bob 10 person neu lai na hynny lle mae yna gymysgedd o aelwydydd sy'n deuluoedd ac o aelwydydd personau sengl yn yr un fangre.
(2) Rhaid i bob set o gyfleusterau a rennir ddarparu'r cyfleusterau a ganlyn:
(b) tegell trydan, (c) tostiwr.
(b) man storio y gellir ei gloi;
5.
Cyfleusterau toiled ac ymolchi
(b) basn ymolchi gyda chyflenwad parhaus o ddŵr poeth ac oer, ac (c) toiled un ai yn yr un ystafell â'r cyfleusterau ymolchi neu mewn ystafell ar wahân, a gaiff ei ddefnyddio'n unig gan bob unigolyn neu aelwyd.
(2) Rhaid i gyfleusterau a rennir gynnwys:
(b) Rhaid darparu un ystafell ymolchi neu un ystafell gawod ar gyfer pob pum person. Rhaid lleoli honno ddim mwy nag un llawr i ffwrdd oddi wrth y rhai y bwriedir iddynt ei ddefnyddio. (c) Mewn mangreoedd sy'n lletya plant o dan 10 oed, rhaid i o leiaf hanner o'r cyfleusterau ymolchi gynnwys baddonau sy'n addas ar gyfer plant.
6.
Diogelwch
(b) Rhaid rhoi i bob aelwyd wybodaeth ysgrifenedig ynglŷn â'r safle gan gynnwys sut i weithio'r holl offer, er enghraifft, offer gwresogi a dŵr poeth ac offer diffodd tân. (c) Rhaid sicrhau fod gwybodaeth ysgrifenedig ar gael i'r preswylwyr ynglŷn â'r ardal leol, gan gynnwys lleoliad neu fanylion cyswllt ar gyfer cyfleusterau lleol, londretiau, meddygfeydd ac ysgolion. (ch) Rhaid bod gan breswylwyr fynediad i'w hystafelloedd ar bob adeg heblaw pan fo ystafelloedd yn cael eu glanhau neu pan fo gwaith cynnal a chadw arall yn cael ei wneud iddynt. Rhaid darparu trefniadau lletya amgen ar gyfer preswylwyr ar yr adegau hyn. (d) Caniateir mynediad ar gyfer swyddogion priodol yr awdurdod tai lleol y lleolir y fangre yn ei ardal, ac i swyddogion unrhyw awdurdod sy'n lleoli aelwydydd digartref yn y fangre, i archwilio'r fangre ym mha ffordd bynnag ac ar ba adeg bynnag y maent yn ystyried sy'n angenrheidiol, i sicrhau cydymffurfio â'r gofynion; a bydd y rheolwr yn caniatáu cyflawni archwiliadau o'r fath, yn ddirybudd os bydd angen. (dd) Caniateir mynediad ar gyfer swyddogion yr awdurdod lleol o gweithwyr iechyd a chymunedol awdurdodedig ar gyfer yr ardal lle lleolir y fangre, i ymweld â meddianwyr y fangre ac i'w cyfweld yn breifat yn yr ystafell(oedd) lle maent yn lletya. (e) Gellir cysylltu ar unrhyw adeg â rheolwr sydd â chyfrifoldeb digonol o ddydd i ddydd i sicrhau bod y safle'n cael ei reoli'n effeithiol, a rhaid arddangos hysbysiad yn dangos enw, cyfeiriad a rhif ffôn y rheolwr mewn lleoliad lle gellir ei weld yn hawdd ar y safle. (f) Mae yna gynllun eglur wedi cael ei sefydlu ar gyfer gadael yr adeilad mewn argyfwng, sy'n nodi beth a ddylid ei wneud pan glywir y larwm tân, a manylion llwybrau dianc a mannau ymgynnull diogel. Rhaid i'r rheolwyr sicrhau y rhoir gwybodaeth i bob person sy'n cyrraedd y fangre am y tro cyntaf ynghylch beth y dylid ei wneud yn achos tân ac ynghylch y rhagofalon tân a ddarperir. (g) Rhaid cyflwyno copi i bob aelwyd o weithdrefn gwyno sy'n nodi sut y gellir gwneud cwyn. Rhaid i'r wybodaeth hon hefyd gynnwys gwybodaeth ynghylch lle gall y sawl sy'n cwyno gael rhagor o gyngor a chymorth.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Wrth gyflawni swyddogaeth ym maes tai i sicrhau fod llety ar gael ar gyfer ymgeisydd sy'n ddigartref, neu sydd dan fygythiad o gael ei wneud yn ddigartref, o dan Ran 7 (digartrefedd) o Ddeddf Tai 1996 ("Deddf 1996" ), rhaid i awdurdod tai lleol sicrhau fod y llety'n addas (adran 206(1)). Mae adran 210 yn pennu'r materion sydd i'w hystyried pan fyddir yn penderfynu ar addasrwydd llety at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996. Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru'r pŵer datganoledig i bennu materion ychwanegol o dan adran 210. Yn flaenorol, gwnaeth yr Ysgrifennydd Gwladol Orchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) 1996 (O.S. 1996/3204) a oedd yn nodi y dylid, wrth benderfynu at ddibenion Rhan 7 os yw llety'n addas ar gyfer person, gymryd i ystyriaeth p'run ai a yw'r llety'n fforddiadwy ar gyfer y person hwnnw neu beidio. Roedd y Gorchymyn hwnnw'n rhestru materion penodol a oedd i'w hystyried mewn perthynas â fforddiadwyedd. Gelwir y Gorchymyn hwn yn Orchymyn Digartrefedd (Addasrwydd Llety) 2006 ac mae mewn tair rhan. Daw Rhan 1 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 3 Ebrill 2006. Mae'n dibynnu ar y pŵer yn adran 210(2)(b) o Ran 7 o Ddeddf 1996. Mae Rhan 1 yn gymwys ar gyfer personau y mae eu hanghenion yn flaenoriaeth yn ôl diffiniad adran 189 o Ddeddf 1996. O dan adran 210(2)(b), mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r materion sydd i'w hystyried pan fyddir yn penderfynu ar p'run ai a yw llety'n addas ar gyfer person. Mae'r materion ychwanegol hyn yn ymwneud ag anghenion iechyd y person, unrhyw anabledd sydd gan y person a pha mor hygyrch yw'r gwasanaethau cymdeithasol a chymorth arall ar eu cyfer. Daw Rhan 2 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 2 Ebrill 2007. Mae'n gymwys i lety a gynigir o dan Ran 7 o Ddeddf 1996. Mae'r Rhan hon yn dibynnu ar y pwerau yn adran 210(2)(a) a (b) o Ran 7 o Ddeddf 1996. Mae Erthygl 4 o'r Gorchymyn hwn yn nodi na ellir ond ystyried llety Gwely a Brecwast fel yn addas at ddibenion Rhan 7 o Ddeddf 1996 os yw'n cydymffurfio â Safon Sylfaenol. Mae'r Safon Sylfaenol yn mynnu fod y llety Gwely a Brecwast yn y lle cyntaf yn bodloni'r holl ofynion statudol. Mae'r rheiny'n cynnwys diogelwch tân a nwy, caniatâd cynllunio a thrwyddedu tai amlfeddiannaeth (pan fo angen). Rhaid i'r fangre hefyd fod yn cael ei rheoli gan berson cymwys a phriodol. Rhaid i Awdurdodau Tai Lleol gymryd i ystyriaeth y canllawiau statudol a gyhoeddwyd o dan adran 182 o Ddeddf 1996 wrth asesu a yw person yn gymwys a phriodol. Mae Rhan 2 ymhellach yn nodi, yn Erthygl 5, amgylchiadau ychwanegol pryd na ellir ystyried bod llety'n addas. Mae'n gwneud hyn drwy bennu safonau gofynnol ar gyfer llety Gwely a Brecwast a ddefnyddir ar gyfer aelwydydd sy'n cynnwys person ifanc dan oed neu fenyw feichiog, un ai ar eu pennau'u hunain neu gyda phersonau eraill. Mae hyn yn cynnwys aelwydydd sy'n cynnwys yn unig un neu ragor o bersonau ifanc dan oed, sy'n 16 neu 17 oed. Mae Erthygl 5 yn nodi, pan ddarperir llety o dan ddyletswydd o dan Ran 7 o Ddeddf 1996 i aelwyd sy'n cynnwys person ifanc dan oed neu fenyw feichiog, na ddylid, yn ddarostyngedig i'r eithriadau a gynhwysir yn Erthygl 6, ystyried llety Gwely a Brecwast yn addas. Mae Erthygl 6 yn darparu ar gyfer rhai eithriadau mewn perthynas â'r cyfnod o amser a dreulir mewn llety Gwely a Brecwast, safon y llety Gwely a Brecwast, a dewis a wneir gan yr aelwyd ddigartref. Diffinnir llety Gwely a Brecwast fel llety a ddarperir yn fasnachol nad yw, p'run ai a ddarperir brecwast ai peidio, yn hunangynhwysol, neu sydd yn golygu rhannu rhai cyfleusterau gydag aelwyd arall. Wrth gyfrifo'r cyfnod o amser y cafodd aelwyd yn cynnwys person ifanc dan oed neu fenyw feichiog ei lletya mewn llety Gwely a Brecwast, mae awdurdod tai lleol i anwybyddu unrhyw gyfnod a dreuliwyd mewn llety o'r fath cyn 2 Ebrill 2007. Mae hefyd i anwybyddu unrhyw gyfnod a dreuliodd ymgeisydd o'r fath mewn llety Gwely a Brecwast pan oedd yn cael ei letya gan awdurdod tai lleol arall cyn y cafodd yr amodau ar gyfer atgyfeirio eu bodloni yn unol ag adrannau 198 i 200 o Ddeddf 1996. Mae'r adrannau hynny'n darparu, pan fo awdurdod tai lleol o'r farn fod yr amodau ar gyfer atgyfeirio wedi'u bodloni a bod gan yr ymgeisydd gysylltiad lleol ag ardal awdurdod tai lleol arall, y caiff gyfeirio'r ymgeisydd at yr awdurdod hwnnw, ac, os bodlonir yr amodau ar gyfer atgyfeirio, y bydd yr ail awdurdod o dan ddyletswydd o dan adran 193 o Ddeddf 1996 (y brif ddyletswydd lletya) mewn perthynas â'r ymgeisydd. Daw Rhan 3 o'r Gorchymyn hwn i rym ar 7 Ebrill 2008. Mae'n gwneud y safonau yn Rhan 2 yn gymwys i bob mathau o lety a rennir sy'n cael ei ddarparu o dan Ran 7 o Ddeddf 1996. Mae hefyd yn ehangu'r cyfyngiadau ar ddarparu llety Gwely a Brecwast i fod yn gymwys i bob aelwyd y mae ei hangen yn flaenoriaeth. Mae'n cynnwys eithriadau sy'n debyg i'r rhai yn Rhan 2. Mae yna eithriad ychwanegol ar gyfer llety a reolir gan awdurdod lleol neu gymdeithas dai gofrestredig. Mae yna ddarpariaeth drosiannol ar gyfer cynlluniau tai cymdeithasol sy'n bodoli'n barod. Mae hyn yn darparu ar gyfer oedi o dair blynedd cyn y daw'r gofynion yn gymwys, sef hyd at 4 Ebrill 2011, ar gyfer y cynlluniau tai hynny sydd eisoes yn cael eu defnyddio i letya personau digartref cyn 7 Ebrill 2008. Nid yw'r Gorchymyn hwn yn gymwys pan fo awdurdod tai lleol yn arfer pwerau disgresiwn i gynorthwyo pobl ddigartref. Dewiswyd y dyddiadau y bydd y Gorchymyn hwn yn dod i rym i gyd-daro â chychwyn y flwyddyn ariannol ar gyfer Awdurdodau Tai Lleol yng Nghymru. Notes: [1] 1996 p. 52back [2] Gweler O.S. 1999/672. Trosglwyddwyd Swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 210 a 215, i'r graddau y gellir eu gweithredu mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwnnw. Gweler yr hyn a gynhwysir yn Atodlen 1 ar gyfer Deddf Dai 1996.back [4] Daw i rym: 3 Ebrill 2006.back [5] Gweler y diffiniad o "priority need" yn adran 189(1) o Ddeddf Tai 1996 ac yn O.S. 2001/607.back [6] Daw i rym: 2 Ebrill 2007.back [7] Gweler y diffiniad o "local housing authority" yn adran 230 o Ddeddf Tai 1996.back [8] Rhoddwyd paragraff 15 o Atodlen 1 i Ddeddf Digartrefedd 2002 yn lle Adran 200(4).back [9] Daw i rym: 7 Ebrill 2008.back [11] Bydd y safon hon yn ychwanegol i'r safon gyfreithiol a gynhwysir yn 'Rheoliadau Tai (Rheoli Tai Amlfeddiannaeth) 1990' neu'r safon a ddatblygwyd o ganlyniad i 'Trwyddedu yn y Sector Rhentu Preifat — Papur Ymgynghori ar Drwyddedu Tai Amlfeddiannaeth yng Nghymru' a gyhoeddwyd yn Ionawr 2005.back
ISBN 0 11 091298 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 20 March 2006 |