Rheoliadau Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach (Dirymu) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach (Dirymu) (Cymru) 2006, ISBN 0110912942. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 21(1) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi a Chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach (Dirymu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 6 Ebrill 2006. Dirymu 2. —(1) Mae'r Rheoliadau a bennir yn Rhan 1 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn (sy'n ymwneud â chorfforaethau addysg bellach yng Nghymru) drwy hyn wedi'u dirymu. (2) Mae'r Rheoliadau a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn wedi'u dirymu mewn perthynas â Chymru. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 7 Mawrth 2006 Rheoliadau Coleg Menai (Llywodraethu) 1994 (O.S. 1994/1450) Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach) (Cyn Golegau Chweched Dosbarth) 1992 (O.S. 1992/1957) Rheoliadau Addysg (Llywodraethu Corfforaethau Addysg Bellach) (Cyn Golegau Addysg Bellach) 1992 (O.S. 1992/1963) (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu'r Rheoliadau a restrir yn Rhannau 1 a 2 o'r Atodlen sy'n pennu offerynnau ac erthyglau llywodraethu cychwynnol ar gyfer corfforaethau addysg bellach. Disodlwyd pob un o'r offerynnau a'r erthyglau llywodraethu cychwynnol ar gyfer corfforaethau addysg bellach yng Nghymru gan orchymyn o dan adran 22 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (fel y'i diwygiwyd gan baragraff 23 o Atodlen 9 i Ddeddf Dysgu a Medrau 2000 (p.21)). O ganlyniad, mae'r Rheoliadau a restrir yn Rhan 1 o'r Atodlen yn peidio â bod yn effeithiol. Dirymwyd y Rheoliadau a restrir yn Rhan 2 o'r Atodlen mewn perthynas â Lloegr gan O.S. 2002/1094 ac maent bellach yn peidio â bod yn effeithiol o ran Cymru. Notes: [1] 1992 p.13. Diwygiwyd adran 21(1) gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), Atodlen 30, Paragraff 35 ac Atodlen 31.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672).back
ISBN 0 11 091294 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 14 March 2006 |