Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid a Phorthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid a Phorthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2006, ISBN 0110912969. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 66(1), 74A, 77(4), 78(6) ac 84 o Ddeddf Amaeth 1970[1] a chan ei fod wedi ei ddynodi at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[3] a mesurau ym maes milfeddygaeth er diogelu iechyd y cyhoedd[4]. Bu ymgynghori yn unol â gofynion adran 84(1) o Ddeddf Amaethyddiaeth 1970 neu fel sy'n briodol yn unol ag Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[5]. Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid a Phorthiant (Samplu a Dadansoddi) (Diwygio) (Cymru) 2006, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 10 Mawrth 2006. Diwygiadau i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 2. —(1) Yn Atodlen 5 (terfynau a ragnodwyd ar gyfer sylweddau annymunol) i Reoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006[6], diwygir Pennod A yn unol â pharagraffau (2) i (4). (2) Mewn perthynas â chofnodion ynghylch fflworin—
(b) yn lle'r ymadrodd "Other complementary feeding stuffs" yng ngholofn 2 rhodder yr ymadrodd "Complementary feeding stuffs containing more than 4% phosphorous" a chyferbyn â'r cofnod hwnnw, yng ngholofn 3 yn lle'r ymadrodd "(fluorine content per percentage point phosphorous in the feeding stuff)" rhodder "per 1% phosphorous".
(3) Mewn perthynas â'r cofnodion ynghylch plwm, yn lle'r ymadrodd "grass meal, lucerne meal or clover meal" yng ngholofn 2 rhodder yr ymadrodd "green fodder (including products such as hay, silage, fresh grass, etc)".
(b) section 78(1) (further analysis by Government chemist) of the Act in so far as that sub-section does not relate to official controls,
and neither paragraph (1) nor (3) applies, the analysis shall be carried out in the like manner as that prescribed by Article 11(1)(a) or as appropriate (b) of Regulation (EC) No 882/2004 of the European Parliament and of the Council on official controls performed to ensure verification of compliance with feed and food law, animal health and animal welfare rules[9].".
(4) Yn Atodlen 2 Rhan I (darpariaethau cyffredinol) ychwaneger y paragraff canlynol—
(b) In assessing compliance for the purposes of paragraph (a), the analysed concentration must be corrected for recovery and the expanded measurement uncertainty subtracted from the analytical result. (c) The procedure in paragraphs (a) and (b) is not applicable in the case of microscopic analysis or in any other case where the method of analysis makes it impossible to estimate measurement uncertainty and correction for recovery.".
(5) Mewn perthynas â'r cofnodion sy'n ymwneud â deuocsinau a PCBs o fath deuocsin yn Atodiad I i Ran II (dulliau dadansoddi) o Atodlen 2—
(b) yng ngholofn 3 gyferbyn â'r ymadrodd a ychwanegir gan is-baragraff (a) mewnosoder "OJ No. L27, 29.1.2005, p.41".
(6) Yn Atodlen 3 Rhan II (nodiadau'n ymwneud â llenwi tystysgrif) yn nodyn (8) ychwaneger yr is-baragraff canlynol—
(ii) as "x ± U", where x is the analytical result and U is the expanded measurement uncertainty, using a coverage factor of 2 to give a level of confidence of approximately 95% .".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Bwydydd Anifeiliaid (Cymru) 2006 ("Rheoliadau 2006") a Rheoliadau Porthiant (Samplu a Dadansoddi) 1999 ("Rheoliadau 1999"). 2. Mae'r Rheoliadau'n rhoi ar waith ddeddfwriaeth ganlynol y Gymuned Ewropeaidd—
(b) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/7/EC (OJ Rhif L27, 29.1.2005, t.41) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 2002/70/EC sy'n gosod gofynion ar gyfer penderfynu ar lefelau deuocsinau a PCBs o fath deuocsin mewn bwydydd anifeiliaid; ac (c) Cyfarwyddeb y Comisiwn 2002/8/EC (OJ Rhif L27, 29.1.2005, t.44) sy'n diwygio Atodiad 1 i Gyfarwyddeb 2002/32/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor ar sylweddau annymunol mewn bwyd anifeiliaid.
3.
Mae'r Rheoliadau hefyd yn gwneud diwygiadau canlyniadol i Reoliadau 1999 i adlewyrchu'r ffaith bod Erthygl 11 o Reoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a wneir i sicrhau gwirio y cydymffurfir â chyfraith bwyd anifeiliaid a bwyd, ac â rheolau iechyd anifeiliaid a lles anifeiliaid (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1) yn gwneud yn effeithiol, o 1.1.2006 ymlaen, y rhwymedigaeth gyffredinol sydd ar Aelod-wladwriaethau ac a gafwyd gynt yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 95/53/EC, i sicrhau bod gwaith samplu a dadansoddi, sy'n cael ei wneud yn unol â rheolaethau swyddogol, yn dilyn dulliau Cymunedol a ragnodir.
(b) mae paragraff (3) yn gwneud y diwygiadau canlyniadol y cyfeirir atynt ym mharagraff 3 uchod; (c) mae paragraffau (4) a (6) yn rhoi ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/6/EC drwy gyflwyno gofynion newydd o ran ansicrwydd ynghylch mesuriad estynedig a chywiro er mwyn adfer pan ddadansoddir bwyd anifeiliaid i ganfod lefelau'r sylweddau annymunol a phan lunnir adroddiad ar y dadansoddiad.
6.
Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi ei baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru ynghyd â nodyn trosi sy'n nodi sut y trosir darpariaethau gweithredol Cyfarwyddebau'r Comisiwn 2005/6, 2005/7 a 2005/8 yn gyfraith ddomestig gan y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Southgate House, Llawr 11, Wood Street, Caerdydd CF11 1EW. Notes: [1] 1970 p.40. Trosglwyddwyd swyddogaethau "yr Ysgrifennydd Gwladol", i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan O.S. 1999/672. Mewnosodwyd adran 74A gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (1972 p.68), Atodlen 4, paragraff 6back [5] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1, fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back [6] O.S. 2006/116 (Cy.14).back [7] O.S. 1999/1663, fel y'i diwygiwyd eisoes gan O.S. 1999/1871, O.S. 2001/2253 (Cy.163), O.S. 2002/1797 (Cy.172), O.S. 2003/1677 (Cy.180), O.S. 2003/1850 (Cy.200), O.S. 2003/3119 (Cy.297), O.S. 2004 /1749 (Cy.186) ac O.S. 2006/116 (Cy.14).back [8] OJ Rhif L27, 29.1.2005, t.41.back [9] OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1.back
ISBN 0 11 091296 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 14 March 2006 |