Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2006, ISBN 0110912950. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 5(2), 6(3), 7(6) a 29(1) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynlluniau Gwella) (Cymru) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006. (2) Yn y Gorchymyn hwn—
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i awdurdodau gwerth gorau yng Nghymru ac eithrio'r rhai a bennir yn adran 1(1)(d) ac (e) o'r Ddeddf.
(b) Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) (Diwygio) 2004[3].
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae Rhan I o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 yn gosod dyletswyddau ar awdurdodau lleol ac awdurdodau eraill i gynnal adolygiadau gwerth gorau o'u swyddogaethau ac i lunio cynllun perfformiad gwerth gorau (a elwir "cynllun gwella" yn y Gorchymyn hwn) ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Mae'r Gorchymyn hwn yn pennu'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid i gynllun gwella awdurdod ar gyfer blwyddyn ariannol gael ei gyhoeddi a'r dyddiad erbyn pryd y mae copïau o adroddiad archwilydd ynglŷn â'r cynllun i'w hanfon i'r awdurdod, at Archwilydd Cyffredinol Cymru ac, os bydd angen, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Llywodraeth Leol (Dadansoddiadau Awdurdodau Cyfan a Chynlluniau Gwella) (Cymru) 2002 ac nid yw'n gwneud unrhyw ddarpariaeth yn ei le ynghylch y cyfnod y dylai awdurdod gwerth gorau adolygu pob un o'i swyddogaethau ynddo. Notes: [1] 1999 p.27.back [2] O.S. 2002/886 (Cy. 101).back [3] O.S. 2004/1575 (Cy. 161).back
ISBN 0 11 091295 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 14 March 2006 |