Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2006, ISBN 011091290X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
OFFERYNNAU STATUDOL
2006 Rhif 520 (Cy.64)
ADDYSG, CYMRU
Rheoliadau Trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2006
Wedi'u gwneud
28 Chwefror 2006
Yn dod i rym
1 Medi 2006
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adrannau 198(3) a (210)(7) o Ddeddf Addysg 2002[1], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi a chychwyn 1.
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Trosglwyddo o'r Ysgol Gynradd i'r Ysgol Uwchradd (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Medi 2006.
ystyr "Blwyddyn 6" ("Year 6") yw'r grŵp blwyddyn o ddisgyblion ysgol gynradd y disgwylir i'r cyfan neu'r mwyafrif o'r disgyblion ynddi drosglwyddo i ysgol uwchradd ar ddechrau'r flwyddyn ysgol ganlynol;
ystyr "blwyddyn ysgol" ("school year") yw'r cyfnod sy'n dechrau gyda'r tymor ysgol cyntaf i ddechrau ar ôl Gorffennaf ac sy'n dod i ben ar ddechrau'r tymor cyntaf o'r fath sy'n dechrau ar ôl y Gorffennaf canlynol;
ystyr "Cynllun Pontio" ("Transition Plan") yw cynllun o'r math y cyfeirir ato yn adran 198(1) o Ddeddf 2002 a rheoliad 3(2);
ystyr "Cynulliad Cenedlaethol" ("National Assembly") yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr "Deddf 2002" ("the 2002 Act") yw Deddf Addysg 2002;
ac mae cyfeiriadau at gyhoeddi Cynllun Pontio (gan gynnwys cynllun diwygiedig) neu ddatganiad o'r math y cyfeirir ato yn rheoliad 7(6) yn gyfeiriadau at gyhoeddi'r cynllun neu'r datganiad yn unol â rheoliad 8.
Cymhwyso'r Rheoliadau 3.
—(1) Dim ond mewn perthynas ag ysgolion y mae Cynlluniau Pontio yn ofynnol ar eu cyfer y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys.
(2) At ddibenion paragraff (1), mae Cynlluniau Pontio'n ofynnol ar gyfer pob ysgol uwchradd a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru (neu sy'n dod o fewn dosbarth penodedig ar ysgol o'r fath), ac ar gyfer pob un o'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo ac a gynhelir gan yr awdurdod hwnnw, ac mae'n ofynnol i gorff llywodraethu pob un o'r ysgolion uwchradd a chynradd hynny, yn rhinwedd gofyniad a osodwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 198(1) o Ddeddf 2002, lunio cynlluniau ar y cyd i hwyluso'r broses o drosglwyddo o'r ysgol gynradd i'r ysgol uwchradd ddisgyblion yn yr ysgolion cynradd hynny sy'n cael eu derbyn i'r ysgol uwchradd.
Anghydfodau ynghylch a yw ysgol yn ysgol gynradd sy'n bwydo 4.
At ddibenion adran 198 o Ddeddf 2002, mae unrhyw anghydfod ynghylch a yw ysgol benodol i'w hystyried yn ysgol gynradd sy'n bwydo mewn perthynas ag ysgol uwchradd benodol i'w benderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Ffurf a chynnwys Cynlluniau Pontio a chyhoeddi'r Cynlluniau hynny 5.
—(1) Mae Cynllun Pontio unigol i'w lunio ar gyfer ysgol uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo, ond caiff gynnwys darpariaeth ar gyfer unrhyw un ysgol gynradd sy'n bwydo neu ar gyfer mwy ohonynt a honno'n ddarpariaeth sy'n wahanol i'r ddarpariaeth ar gyfer yr ysgol gynradd arall, neu'r ysgolion cynradd eraill, sy'n bwydo.
(2) Rhaid i Gynlluniau Pontio fod yn ysgrifenedig.
(3) Rhaid i bob cynllun esbonio'n gryno effaith adran 198 o Ddeddf 2002 (ac, yn benodol, diben Cynllun Pontio).
(4) Rhaid i bob cynllun ddatgan ei fod wedi'i lunio ar y cyd gan gorff llywodraethu'r ysgol uwchradd o dan sylw a chyrff llywodraethu'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo, a rhaid iddo ddatgan enwau'r holl ysgolion.
(5) Rhaid i bob cynllun nodi'r garfan gyntaf o ddisgyblion y mae'n gymwys iddi drwy gyfeirio at y flwyddyn ysgol y symudodd y disgyblion cyntaf hynny ar ei dechrau i fyny i Flwyddyn 6 yn eu hysgol gynradd.
(6) Rhaid i bob cynllun gael ei gyhoeddi a rhaid iddo ddatgan y dyddiad y cafodd ei gyhoeddi.
(7) Rhaid i Gynlluniau Pontio ymdrin (o leiaf) â'r materion a bennir yn yr Atodlen.
(8) Yn y rheoliad hwn, mae cyfeiriadau at gynllun yn cynnwys cyfeiriadau at gynllun diwygiedig.
Paratoi'r Cynlluniau Pontio cyntaf a'u cyhoeddi 6.
—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r Cynllun Pontio cyntaf ar gyfer ysgol uwchradd a phob ysgol gynradd sy'n bwydo'r ysgol uwchradd honno gael ei gyhoeddi ar neu cyn dechrau'r flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi.
(2) Yn y rheoliad hwn, ystyr "y flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi" yw blwyddyn ysgol yr ysgol uwchradd yn union ar ôl yr un y trosglwyddodd disgyblion yr ysgolion cynradd sy'n bwydo ar ei dechrau am y tro cyntaf i'r ysgol uwchradd o'r ysgolion hynny (fel ysgolion cynradd sy'n bwydo), neu flwyddyn ysgol 2007/2008 (p'un bynnag yw'r diweddaraf).
(3) Y disgyblion cyntaf y mae Cynllun Pontio yn gymwys iddynt yw'r disgyblion hynny, o bob ysgol gynradd sy'n bwydo, sy'n disgwyl trosglwyddo o'r ysgol gynradd sy'n bwydo i'r ysgol uwchradd ym mlwyddyn ysgol yr ysgol uwchradd yn union ar ôl y flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi.
(4) Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo Cynllun Pontio eisoes mewn bod ar gyfer ysgol uwchradd ac ysgol gynradd neu ysgolion cynradd sydd eisoes yn bwydo i'r ysgol uwchradd honno a hwnnw'n gynllun sydd i'w adolygu o dan reoliad 7(1)(a) (ar ôl i "ysgol gynradd newydd" ddod yn ysgol gynradd sy'n bwydo i'r ysgol uwchradd honno).
(5) Rhaid i'r gwaith o lunio Cynllun Pontio cyntaf ddechrau mewn da bryd i'r cynllun gael ei gyhoeddi ar y dyddiad y mae'n ofynnol ei gyhoeddi o dan y rheoliad hwn.
Adolygu Cynlluniau Pontio 7.
—(1) Rhaid i Gynllun Pontio gael ei adolygu—
(a) os daw ysgol gynradd ("yr ysgol gynradd newydd") yn ysgol gynradd sy'n bwydo i ysgol uwchradd y mae ganddi eisoes un neu ragor o ysgolion cynradd sy'n ei bwydo;
(b) os yw cyrff llywodraethu pob un o'r ysgolion o dan sylw o'r farn y gallai fod yn angenrheidiol neu'n ddymunol i adolygiadau gael eu gwneud; ac
(c) sut bynnag cyn diwedd y cyfnod o dair blynedd gan ddechrau ar y dyddiad y cafodd y Cynllun Pontio cyntaf ei gyhoeddi ac (yn ddarostyngedig i baragraff (14)) bob tair blynedd ar ôl hynny.
(2) Diben adolygiad o dan is-baragraff (a) o baragraff (1) yw bod cyrff llywodraethu'r ysgolion a luniodd y Cynllun Pontio cyfredol a chorff llywodraethu'r ysgol gynradd newydd, ar ôl cydadolygu'r Cynllun Pontio cyfredol a phwyso a mesur pa ddiwygiadau y mae'n angenrheidiol neu'n ddymunol eu gwneud iddo, yn llunio ar y cyd Gynllun Pontio diwygiedig neu newydd gan roi sylw, yn benodol, i farn corff llywodraethu'r ysgol gynradd newydd ar yr hyn y dylai'r cynllun ei gynnwys.
(3) Diben adolygiad o dan is-baragraff (b) neu (c) o baragraff (1) yw bod cyrff llywodraethu'r ysgolion a luniodd y Cynllun Pontio cyfredol yn pwyso a mesur a yw'n angenrheidiol neu'n ddymunol adolygu'r cynllun ac, os bernir ei bod yn angenrheidiol neu'n ddymunol ei ddiwygio, eu bod yn llunio ar y cyd Gynllun Pontio diwygiedig neu newydd.
(4) Caniateir i gynllun sydd wedi'i adolygu o dan baragraff (1)(b) gael ei adolygu ymhellach o dan y paragraff hwnnw.
(5) Yn dilyn adolygiad o dan baragraff (1)(a) rhaid adolygu'r Cynllun Pontio cyfredol neu lunio Cynllun Pontio newydd.
(6) Os yw'r cyrff llywodraethu, yn sgil adolygiad o dan baragraff (1)(b) neu (c), yn penderfynu peidio ag adolygu (neu amnewid) y Cynllun Pontio cyfredol, rhaid iddynt gyhoeddi datganiad sy'n cofnodi'r penderfyniad hwnnw ac yn rhoi rhesymau cryno drosto ("Datganiad")
(7) Yn achos adolygiad o dan baragraff (1)(a), rhaid i'r Cynllun Pontio newydd (neu ddiwygiedig) gael ei gyhoeddi ar ddechrau'r flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi neu cyn hynny, a rhaid i'r adolygiad ddechrau mewn da bryd i'r gofyniad hwnnw gael ei fodloni.
(8) Ym mharagraff (7), ystyr "y flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi" yw blwyddyn ysgol yr ysgol uwchradd yn union ar ôl y flwyddyn y trosglwyddodd disgyblion cyntaf yr ysgol gynradd newydd (fel ysgol gynradd sy'n bwydo) ar ei dechrau i'r ysgol uwchradd.
(9) Yn achos adolygiad o dan baragraff (1)(a), y disgyblion cyntaf o'r ysgol gynradd newydd y mae'r Cynllun Pontio newydd neu ddiwygiedig yn gymwys iddi yw'r disgyblion hynny sy'n disgwyl trosglwyddo i'r ysgol uwchradd ym mlwyddyn ysgol yr ysgol uwchradd yn union ar ôl y flwyddyn ysgol ar gyfer cyhoeddi.
(10) Yn achos adolygiad o dan baragraff (1)(b), rhaid i'r Cynllun Pontio newydd (neu ddiwygiedig) neu'r Datganiad, yn ôl y digwydd, gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(11) Yn achos adolygiad o dan baragraff (1)(c), rhaid i'r Cynllun Pontio newydd (neu ddiwygiedig) neu'r Datganiad, yn ôl y digwydd, gael ei gyhoeddi ar ddiwedd neu cyn y cyfnod o dair blynedd sy'n dechrau ar y dyddiad y cyhoeddwyd y Cynllun Pontio cyfredol, a rhaid i'r adolygiad ddechrau mewn da bryd i'r gofyniad hwnnw gael ei fodloni.
(12) Yn y rheoliad hwn ystyr "y Cynllun Pontio cyfredol" yw'r Cynllun Pontio sy'n gyfredol adeg yr adolygiad.
(13) Yn y Rheoliad hwn ac yn rheoliad 8 mae i'r gair "Datganiad" yr ystyr sydd iddo ym mharagraff (6) o'r rheoliad hwn.
(14) Pan fo Cynllun Pontio yn cael ei ddiwygio neu ei amnewid ar ôl adolygiad o dan is-baragraff (a) neu (b) o baragraff (1), bydd y cyfnodau o dair blynedd rhwng adolygiadau, sef y cyfnodau y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (c) o'r paragraff hwnnw, yn rhedeg o hyn ymlaen o'r dyddiad y cyhoeddwyd y Cynllun diwygiedig neu newydd.
Dull cyhoeddi Cynlluniau Pontio a darparu copïau 8.
—(1) At ddibenion y Rheoliadau hyn, mae Cynllun Pontio neu Ddatganiad yn cael ei gyhoeddi wrth iddo gael ei roi ar gael yn yr ysgol uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n ei bwydo, sef yr ysgolion y mae'r Cynllun neu'r datganiad hwnnw yn ymwneud â hwy, gan gyrff llywodraethu'r ysgolion hynny i'w archwilio yn yr ysgolion.
(2) Yn y rheoliad hwn mae "Cynllun Pontio" yn cynnwys Cynllun diwygiedig o'r fath.
9.
—(1) Rhaid i gorff llywodraethu yr ysgol uwchradd ddarparu copi o'r Cynllun Pontio i'r awdurdod addysg lleol y mae'r ysgol uwchradd a'r ysgolion cynradd sy'n bwydo yn cael eu cynnal ganddo neu, os ydynt yn cael eu cynnal gan ddau awdurdod addysg lleol gwahanol neu fwy, i bob un neu i'r cyfan ohonynt.
(2) Rhaid i gorff llywodraethu yr ysgol uwchradd neu gorff llywodraethu'r ysgol gynradd sy'n bwydo, yn ôl y digwydd, ddarparu copi o'r Cynllun Pontio i unrhyw berson sy'n gofyn i'r corff llywodraethu hwnnw am gopi, a chaniateir i'r corff llywodraethu hwnnw godi ffi am unrhyw gopi o'r cynllun a ddarperir ganddo o dan y paragraff hwn (a honno'n ffi nad yw'n fwy na chost ei ddarparu).
(3) Yn y rheoliad hwn mae "Cynllun Pontio" yn cynnwys cynllun diwygiedig.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]
Materion y mae'n rhaid ymdrin â hwy mewn Cytundebau Pontio
1.
Y cynigion cyffredinol ar gyfer rheoli a chyd-drefnu trosglwyddiad disgyblion o'r ysgolion cynradd sy'n bwydo i'r ysgol uwchradd.
2.
Disgrifiad o sut y caiff parhad wrth gynllunio cwricwlwm ei sicrhau yn y trosglwyddiad o'r ysgolion cynradd sy'n bwydo i'r ysgol uwchradd.
3.
Disgrifiad o sut y caiff parhad mewn dulliau addysgu a dysgu ei sicrhau yn ystod y trosglwyddiad.
4.
Disgrifiad o sut y caiff cysondeb wrth asesu, monitro ac olrhain cynnydd disgyblion ei sicrhau yn ystod y trosglwyddiad.
5.
Y trefniadau ar gyfer adolygu a monitro'r cynllun er mwyn asesu ei effaith ar y safonau a gyrhaeddir gan ddisgyblion sy'n cael eu derbyn i'r ysgol uwchradd, ac ar gyfer ystyried sut y gellir rheoli'r broses drosglwyddo yn well.
Mae adran 198 o Ddeddf Addysg 2002 yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru i'w gwneud yn ofynnol i gorff llywodraethu pob ysgol uwchradd (neu ddosbarth penodedig ar ysgol uwchradd) a gynhelir gan awdurdod addysg lleol yng Nghymru a chyrff llywodraethu'r ysgolion cynradd sy'n eu bwydo ac a gynhelir yn yr un modd, lunio, ar y cyd, gynlluniau i hwyluso disgyblion i bontio rhwng yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd ("Cynlluniau Pontio").
Nid oes unrhyw ddiffiniad o "feeder primary school" (ysgol gynradd sy'n bwydo) at ddibenion adran 198, ond wrth benderfynu a yw ysgol gynradd benodol yn ysgol gynradd sy'n bwydo mewn perthynas ag ysgol uwchradd benodol, rhaid rhoi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan y Cynulliad Cenedlaethol, a chaniateir i reoliadau ddarparu bod anghydfodau i'w penderfynu gan y Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 4).
Caniateir hefyd i reoliadau wneud darpariaeth ynghylch cynlluniau, gan gynnwys darparu ynghylch amseru, cynnwys, adolygu a diwygio.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer penderfynu anghydfodau gan y Cynulliad Cenedlaethol (rheoliad 4).
Maent yn cynnwys darpariaethau hefyd ynglŷn â Chynlluniau Pontio, gan gynnwys—
• gofynion ynghylch ffurf a chynnwys y cynlluniau, ac ar gyfer eu cyhoeddi (rheoliad 5 a'r Atodlen)
• gofynion ynghylch pa bryd y mae'n rhaid llunio a chyhoeddi'r cynlluniau cyntaf ac ynghylch y garfan gyntaf o ddisgyblion i'w cynnwys (rheoliad 6)
• darpariaeth ar gyfer adolygu'r cynlluniau a phan fo'n angenrheidiol neu'n ddymunol, ar gyfer eu diwygio neu eu hamnewid (rheoliad 7)
• darpariaeth ynglŷn â'r modd y mae cynlluniau i'w cyhoeddi (rheoliad 8)
• gofyniad bod copïau o'r cynlluniau i'w hanfon at yr awdurdod addysg lleol neu'r awdurdodau y mae'r ysgolion yn cael eu cynnal ganddynt ac at unrhyw un sy'n gofyn am gopi (rheoliad 9).