Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) 2006, ISBN 0110912918. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 16(1) ac (1A)(e) o Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2], ar ôl ymgynghori â chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo yr effeithir arnynt, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enw, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 3 Mawrth 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru. Ffioedd 2. —(1) Rhaid i berson sy'n gwneud cais am gael tatws hadyd wedi'u dosbarthu dalu i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran ei swyddogaethau o dan Reoliadau Tatws Hadyd 1991[3] ac a restrir yn yr Atodlen, neu i unrhyw berson a awdurdodir ganddo i gyflawni'r swyddogaethau hynny ar ei ran, y ffioedd a restrir yn yr Atodlen o ran y swyddogaethau hynny. (2) Mae'r ffi a bennir yn yr Atodlen fel y ffi sy'n daladwy am bob swyddogaeth yn ddarostyngedig i unrhyw leiafswm ffi a bennir yno. Tynnu cais yn ôl 3. Os yw person sy'n gwneud cais am gael tatws hadyd wedi'u dosbarthu yn tynnu ei gais neu ei chais yn ôl cyn i'r arolygydd gyrraedd er mwyn arolygu'r cnwd am y tro cyntaf, rhaid i'r person hwnnw neu honno dalu ffi o £15 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu i unrhyw berson a awdurdodir ganddo i wneud arolygiad o'r fath ar ei ran. Dirymu rheoliadau blaenorol 4. Mae Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) 1998[4] yn cael eu dirymu mewn perthynas â Chymru. Llofnodwyd ar ran y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlathol 28 Chwefror 2006
* O'r cyfraddau a restrir yn y golofn hon, mae'r rheini a nodir â seren yn gyfraddau fesul awr neu ran o awr, mae'r rheini heb seren yn gyfraddau fesul hanner hectar neu ran o hanner hectar. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r ffioedd sydd i'w talu gan bobl sy'n gwneud cais am gael tatws hadyd (tatws plannu) wedi'u dosbarthu o dan Reoliadau Tatws Hadyd 1991. Maent yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Tatws Hadyd (Ffioedd) 1998 mewn perthynas â Chymru. Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno dau ddosbarth newydd o ffi, sef ffi ar gyfer arolygu tatws hadyd cyn-sylfaenol, a ffi ar gyfer arolygu tatws o dan gynllun neu drefniant y darperir ar ei gyfer gan baragraff 4(c)(ii) o Ran II o Atodlen 1 i Reoliadau 1991. Mae pob ffi arall a ragnodir gan y Rheoliadau yn aros heb ei newid ers Rheoliadau 1998. Cost cyflawni'r gwasanaethau y codir taliadau amdanynt yw pob ffi. Mae Arfarniad Rheoliadol wedi ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a gellir cael copi oddi wrth yr Adran Amgylchedd Cynllunio a Chefn Gwlad, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] 1964 p.14; diwygiwyd adran 16(1) a mewnosodwyd adran 16(1A) gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4, paragraff 5(1) a (2).back [2] O dan Orchymyn Trosglwyddo Swyddogaethau (Cymru) (Rhif 1) 1978 (OS 1978/272), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd swyddogaethau'r Gweinidog Amaethyddiaeth, Pysgodfeydd a Bwyd o dan y Ddeddf Amrywogaethau a Hadau Planhigion 1964, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i'r Ysgrifennydd Gwladol ac o dan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (OS 1999/672), erthygl 2(1) ac Atodlen 1, trosglwyddwyd y swyddogaethau a drosglwyddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan Orchymyn 1978 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.back [3] OS 1991/2206, a ddiwygiwyd gan OS 1992/1031, 1993/1878, 1994/2592, 1997/1474, 2001/3666. Mae swyddogaethau wedi eu breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd Erthygl 3 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
ISBN 0 11 091291 8
| |||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||||
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 9 March 2006 |