Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Awdurdodaeth a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Awdurdodaeth a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2006, ISBN 0110912756. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 10(2), 28(2)(a), 41(1) a (3), 43(1)(b) a 44(2)(b) o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005[1], ac wedi cynnal yr ymgynghoriad sy'n ofynnol gan adrannau 10(3), 28(4) a 41(4) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru (Awdurdodaeth a Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion) 2006 a daw i rym ar 1 Ebrill 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Gorchymyn hwn—
(b) ystyr "Deddf 1977" ("the 1977 Act") yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977[2], ac (c) ystyr "Deddf 2003" ("the 2003 Act") yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[3].
(4) Yn y Gorchymyn hwn mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni fynegir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf ac at Atodlenni iddi.
(b) Part 1 of the National Health Service and Community Care Act 1990, (c) Part 1 of the Health Act 1999 (with the exception of sections 33 to 38), or (ch) Part 1 of the Health and Social Care (Community Health and Standards) Act 2003,
where the action is or has been the subject of an inquiry under the Inquiries Act 2005.", a
Diwygiad i Atodlen 3 (awdurdodau rhestredig)
Diwygiad i'r diffiniad o "family health service provider in Wales"
(b) ym mharagraff (c) yn lle "primary medical or dental services" rhodder "primary medical services or primary dental services", ac (c) hepgorer paragraff (d).
Darpariaethau arbed mewn perthynas â'r diffiniad o "family health service provider in Wales"
(b) yn lle paragraff (c) o'r diffiniad o "family health service provider in Wales" (fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(b) o'r Gorchymyn hwn) rhodder—
Darpariaethau darfodol mewn perthynas â'r diffiniad o "family health service provider in Wales"
(b) ym mharagraff (c) o'r diffiniad o "family health service provider in Wales" (fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(b) o'r Gorchymyn hwn) yn lle "primary dental services" rhodder "personal dental services", ac (c) ar ôl paragraff (c) o'r diffiniad o "family health service provider in Wales" (fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(b) o'r Gorchymyn hwn) mewnosoder—
(2) Hyd nes y daw adran 28C o Ddeddf 1977 i rym o ran Cymru, rhaid cymryd, at ddibenion y rhan honno o'r diffiniad o "family health service provider in Wales" fel y'i diwygiwyd gan erthygl 4(b) ac fel y'i amnewidiwyd gan erthygl 5(b) o'r Gorchymyn hwn sy'n cyfeirio at drefniadau a wneir o dan yr adran honno, ei fod yn cyfeirio'n unig at gynllun peilot o dan Ran 1 o'r Ddeddf honno. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. Fe'i gwneir o dan adrannau 10(2), 28(2)(a) 41(1) a (3), 43(1)(b) a 44(2)(b) o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (p.10) ("y Ddeddf"). Mae adran 10(2) yn darparu y caiff Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad"), drwy orchymyn, ddiwygio Atodlen 2 i'r Ddeddf (materion wedi'u heithrio) drwy ychwanegu at, tynnu ymaith neu newid cofnod yn yr Atodlen honno. Mae Atodlen 2 yn gosod amryw faterion nad oes gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, ("yr Ombwdsmon") yn rhinwedd adran 10(1), yr hawl i ymchwilio iddynt. Mae adran 10(3) yn darparu bod rhaid i'r Cynulliad, cyn gwneud gorchymyn o dan adran 10(2), ymgynghori â'r Ombwdsmon. Mae erthygl 2 yn gosod paragraff 8 newydd yn Atodlen 2 pan ddaw Deddf Ymchwiliadau 2005 i rym (p. 12). Mae Adran 49 o Ddeddf Ymchwiliadau 2005 ac Atodlen 3 iddi yn diddymu adran 84 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49). Mae'r hyn a amnewidir gan erthygl 2(a) o'r Gorchymyn hwn yn gwneud y newidiadau canlyniadol angenrheidiol i Atodlen 2. Mae erthygl 2(b) yn hepgor paragraff 10 o Atodlen 2. Mae Adran 4 o'r Ddeddf yn nodi pwy a all wneud cwyn i'r Ombwdsmon. Effaith adran 4(2) yw na all awdurdod rhestredig sy'n gweithredu yn y cyfryw swyddogaeth wneud cwyn i'r Ombwdsmon. Bernir felly bod paragraff 10 o Atodlen 2 yn ddianghenraid. Mae erthygl 3 yn diwygio Atodlen 3 (awdurdodau rhestredig) drwy ychwanegu cyfeiriad at y Bwrdd Cynghorau Iechyd Cymuned yng Nghymru fel awdurdod rhestredig, i ddod ag ef o fewn cylch gorchwyl yr Ombwdsmon. Mae adran 41(3) yn darparu y caiff y Cynulliad, drwy Orchymyn, ddiwygio'r diffiniad o "family health service provider in Wales" (gweler adran 41(1)). Mae adran 41(4) yn darparu bod rhaid i'r Cynulliad ymgynghori ag unrhyw bersonau sydd yn ei dyb ef yn briodol cyn gwneud gorchymyn o'r fath. Mae erthyglau 4 i 7 yn peri bod y diffiniad o "family health service provider in Wales" yn fwy cyfatebol i'r diffiniad yn adran 2A (2) o Ddeddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993 (p. 46). Mae adran 41(1) yn darparu, ymhlith pethau eraill, mai ystyr "relevant tribunal" yn y Ddeddf yw tribiwnlys (gan gynnwys tribiwnlys o un person yn unig) a bennir drwy orchymyn wedi'i wneud gan y Cynulliad. Mae erthygl 8 yn darparu bod tribiwnlys prisio yng Nghymru yn dribiwnlys perthnasol at ddibenion y Ddeddf. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth drosiannol (yn erthygl 8(2)) parthed gweithrediadau staff gweinyddol tribiwnlysoedd prisio yng Nghymru cyn 15 Chwefror 2006 o ran apeliadau a gychwynnwyd ac y gorffennwyd â hwy cyn y dyddiad hwnnw. Ar y dyddiad hwnnw daw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3364) i rym yn llawn. Mae'r rheoliadau hyn yn diddymu'r tribiwnlysoedd prisio blaenorol ac yn gosod rhai newydd yn eu lle. Notes: [1] 2005 p. 10.back [4] O.S. 2005/3364 (Cy.261).back
ISBN 0 11 091275 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 22 February 2006 |