Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) 2006, ISBN 0110912764. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 43(1) a (2) a 44(1) o Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005[1] drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) 2006 a bydd yn dod i rym ar 1 Ebrill 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Gorchymyn hwn—
(b) aelod o unrhyw gydbwyllgor neu gyd is-bwyllgor o'r awdurdod ar y cydbwyllgor neu ar y cyd is-bwyllgor hwnnw,
ac sy'n gymwys i bleidleisio ar unrhyw fater sydd i'w benderfynu mewn unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor neu is-bwyllgor hwnnw;
Diddymu a diwygio is-ddeddfwriaeth
(b) nad yw'r honiad wedi cael ei benderfynu gan y Comisiynydd hwnnw cyn y dyddiad hwnnw.
(2) Ar y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym ac ar ôl hynny, mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 a rheoliadau a gorchmynion a wnaed oddi tani yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion yr honiad er gwaethaf darpariaethau'r Ddeddf neu'r Gorchymyn hwn.
(b) yw'r honiad yn honiad bod aelod neu aelod cyfetholedig (neu gyn aelod neu gyn aelod cyfetholedig) o awdurdod perthnasol yng Nghymru wedi methu neu y gall fod wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad yr awdurdod cyn y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym.
(4) Ar y dyddiad y daw adran 38 o'r Ddeddf i rym ac ar ôl hynny, mae Rhan III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000[5] a rheoliadau a gorchmynion a wnaed oddi tani yn parhau i fod yn gymwys at ddibenion galluogi i'r honiad gael ei wneud, ac at ddibenion yr honiad os y'i gwneir, er gwaethaf darpariaethau'r Ddeddf neu'r Gorchymyn hwn. Mae'r is-ddeddfwriaeth ganlynol yn cael ei dirymu—
(b) Rheoliadau'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru a Chomisiynydd Lleol yng Nghymru (Swyddogaethau a Threuliau) 2001[8]; ac (c) Gorchymyn Diwygio Rheoleiddio (Comisiynydd Lleol yng Nghymru) 2004[9].
Gorchymyn Deddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (Rhagnodi) 1990 1. Yn y Ddeddf Cyfrinachau Swyddogol 1989 (Cyfarwyddyd) 1990[10], yn Atodlen 2 (Rhagnodi), yn y cofnod yn y golofn gyntaf ar gyfer "Officer of the Health Service Commissioner for England or Wales" hepgorer y geiriau "or Wales". Rheoliadau Cefnogi Plant (Gwybodaeth, Tystiolaeth a Datgeliad) 1992 2. Yn Rheoliadau Cefnogi Plant (Gwybodaeth, Tystiolaeth a Datgeliad) 1992[11], yn Rheoliad 11 (Cyflogaeth y mae adran 50 o'r Ddeddf yn gymwys iddi)—
(b) hepgorer "and" ar ôl paragraff (h); (c) ar ôl paragraff (i), mewnosoder—
Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 1993
(b) ar ôl y cofnod y cyfeirir ato ym mharagraph (a) uchod mewnosoder, "Office of the Public Services Ombudsman for Wales"; (c) ar ôl y cyfeiriad at "Office of Fair Trading" mewnosoder "Office of the Health Service Commissioner for England".
Rheoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 1995
(b) ar ôl y cofnod y cyfeirir ato ym mharagraph (a) uchod mewnosoder, "Office of the Public Services Ombudsman for Wales"; (c) ar ôl y cofnod ar gyfer "Office of Fair Trading" mewnosoder "Office of the Health Service Commissioner for England".
Gorchymyn Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (Darpariaethau Trosiannol) 1996
(b) Yn Rheoliadau 7(a), 9(3) ac 13(1) yn lle "Comisiynydd Lleol yng Nghymru" neu "Gomisiynydd Lleol yng Nghymru" rhodder "Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru" fel bo'n briodol; a (c) Yn Rheoliad 12 yn lle "Comisiynydd Lleol i Gymru " dylid rhoi "Public Services Ombudsman for Wales".
Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001
(b) Ym mharagraff 2(a), yn lle "Comisiynydd Lleol" dylid rhoi "Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru"; ac (c) Ym mharagraff 8, yn lle'r "Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru" rhodder "Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru".
Gorchymyn Ymddygiad Aelodau (Cod Ymddygiad Enghreifftiol) (Cymru) 2001
(b) Yn Rhan 2 o'r Atodlen hepgorer y cyfeiriad at "Health Service Commissioner for Wales" .
Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu tri offeryn statudol ac yn diwygio offerynnau statudol eraill o ganlyniad i Ddeddf Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) 2005 (2005 p.10) ("y Ddeddf"). Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn gwneud darpariaethau trosiannol mewn perthynas â swyddogaethau'r Comisiynydd Lleol yng Nghymru o dan Ran III o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (p.22). Mae'r Ddeddf yn sefydlu swydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru ("yr Ombwdsmon"). Mae'r Ddeddf yn diddymu swyddi Ombwdsmon Gweinyddiaeth Cymru, Comisiynydd Gwasanaeth Iechyd Cymru ac Ombwdsmon Tai Cymdeithasol Cymru. Mae hefyd yn diddymu'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru (gan gynnwys swydd y Comisiynydd Lleol yng Nghymru). Yn fras, mae'r Ddeddf yn gwneud darpariaeth i'r Ombwdsmon ymchwilio i'r materion hynny a oedd o fewn cylch gwaith yr ombwdsmyn a'r comisiynwyr hynny yng Nghymru. Bydd gan yr Ombwdsmon gyfrifoldeb am ymchwilio i gamweinyddu a methiant mewn gwasanaeth gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru; ei gyrff cyhoeddus a noddir (yr hyn sy'n cyfateb yng Nghymru i gyrff cyhoeddus anadrannol) a nifer o gyrff eraill a noddir gan arian cyhoeddus; cyrff gwasanaeth iechyd Cymru (Ymddiriedolaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Byrddau Iechyd Lleol yng Nghymru yn bennaf); darparwyr penodol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru; cyrff llywodraeth leol yng Nghymru a landlordiaid cymdeithasol yng Nghymru. O ganlyniad bydd gwasanaeth ombwdsmon unedig yng Nghymru. Mae'r diwygiadau a'r dirymiadau a wnaed gan y Gorchymyn hwn yn ganlyniad i'r newidiadau hynny. Notes: [1] 2005 p. 10.back [8] O.S. 2001/2275 (Cy.165).back [10] O.S. 1990/200, diwygiwyd gan O.S. 1999/1042 ac O.S. 2004/1823; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.back [11] O.S.1992/1812, diwygiwyd gan O.S. 2004/1823; mae offerynnau diwygio eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.back [12] O.S. 1993/3228, diwygiwyd gan Ddeddf Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p.32), a gan O.S. 2000/2009, O.S. 2001/1149, ac O.S.A. 2003/242, mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.back [13] O.S. 1995/201, diwygiwyd gan Ddeddf Heddlu (Gogledd Iwerddon) 2000 (p.32), a gan O.S. 2000/209, 2002/881, ac O.S.A. 2003/242; mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.back [14] O.S. 1996/709, y mae diwygiadau iddo sydd ddim yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back [15] O.S. 2001/2281 (Cy.171), diwygiwyd gan O.S. 2005/761.back [16] O.S. 2001/2283 (Cy.172).back [17] O.S. 2001/2284 (Cy.173), diwygiwyd gan O.S. 2002/810 (Cy.90), O.S. 2004/3092, O.S. 2005/368; mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.back [18] O.S. 2001/2288 (Cy.176).back [19] O.S. 2001/2289 (Cy.177).back [20] O.S. 2001/2291 (Cy.179), diwygiwyd gan O.S. 2002/783 (Cy .84) ac O.S. 2004/3093; mae diwygiadau eraill ond nid yw'r un ohonynt yn berthnasol.back [21] O.S. 2003/437, diwygiwyd gan O.S. 2004/664.back [22] O.S. 2005/1313 (Cy. 95).back
ISBN 0 11 091276 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 24 February 2006 |