Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2006, ISBN 0110912748. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) (Diwygio) 2006. Deuant i rym ar 20 Chwefror 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru. Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2005 2. Diwygir Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2005[3] yn unol â rheoliadau 3 i 5. 3. Yn rheoliad 2(1) (Dehongli)—
(b) ar ddiwedd y diffiniad o "Commission Regulation 796/2004" mewnosoder ", as last amended by Commission Regulation (EC) No. 239/2005[8] and Commission Regulation (EC) No.1954/2005[9] and Commission Regualtion (EC) No. 2184/2005[10].".
4.
Yn lle rheoliad 6 (cyfnod o 10 mis), rhodder y canlynol—
6. —(1) For the purposes of Article 24(2), first subparagraph, of Commission Regulation 795/2004, the period in which the beginning of the 10 month period referred to in Article 44(3) of the Council Regulation is to be fixed, is the period beginning on 1 October of the calendar year preceding the year of submitting an application under the Single Payment Scheme and ending on 30 April of the year of application. (2) For the purposes of Article 24(2), second subparagraph, of Commission Regulation 795/2004, farmers are authorised to fix two different dates for the beginning of the 10 month period.".
5.
Yn rheoliad 9 (Trosglwyddiadau), dileer paragraff (2) ac yn lle'r cyfeiriad at rif "9.—(1)" rhodder y cyfeiriad at rif "9". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Cymru) 2005 (O.S. 2005/360 (Cy.29)) ("y prif Reoliadau"). Mae'r prif Reoliadau yn gwneud darpariaeth ar gyfer gweinyddu Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1782/2003 (O.J. Rhif L270, 21.10.2003, t.1) ("Rheoliad y Cyngor"), Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 795/2004 (O.J. Rhif L 141, 30.4.2004, t.1) ("Rheoliad y Comisiwn 795/2004") a Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 796 /2004 (O.J. L141, 30.4.2004, t.18) ("Rheoliad y Comisiwn 796/2004") mewn perthynas â sefydlu system newydd o gynlluniau cymorth uniongyrchol (gan gynnwys Cynllun y Taliad Sengl) o dan y Polisi Amaethyddol Cyffredin. Daeth y system newydd hon yn effeithiol ar 1 Ionawr 2005. Mae'r Rheoliadau hyn yn diweddaru cyfeiriadau yn y prif Reoliadau at Reoliad y Comisiwn 795/2004 a Rheoliad y Comisiwn 796/2004 i adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed i'r rheoliadau hynny ers i'r prif Reoliadau ddod i rym (rheoliad 3). Maent hefyd yn rhoi rheoliad 6 newydd yn y prif Reoliadau er mwyn awdurdodi ffermwyr i wneud defnydd o'r posibilrwydd, a gyflwynwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 606/2005, o bennu dau ddyddiad gwahanol ar gyfer dechrau'r cyfnod o 10 mis pan fo'n rhaid i barseli o dir cymwys fod ar gael at ddefnydd ffermwr at ddibenion cynllun y taliad sengl (rheoliad 4). Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn dileu paragraff (2) o reoliad 9 o'r prif Reoliadau a thrwy hynny'n caniatáu i'r cyfnod pan fo'n rhaid hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o drosglwyddiadau hawl i daliad gael ei benderfynu'n unol â phwerau disgresiynol a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol, fel un o awdurdodau cymwys yr aelod-wladwriaeth, o dan Erthygl 25(3) o Reoliad y Comisiwn 795/2004. Paratowyd arfarniad rheoliadol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn ac mae ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Adeiladau'r Goron, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] O.S. 2005/2766.back [3] O.S. 2005/360 (Cy.29).back [4] O.J. Rhif L63, 10.3.2005, t.17.back [5] O.J. Rhif L100, 20.4.05, t.15.back [6] O.J. Rhif L 177, 9.7.05, t.27.back [7] O.J. Rhif L273, 19.10.05.back [8] O.J. Rhif L042, 12.2.05, t.3back [9] O.J. Rhif L314, 30.11.05, t.10.back [10] O.J. Rhif L347, 30.12.05, p.61.back
ISBN 0 11 091274 8
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 22 February 2006 |