Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2006, ISBN 0110912780. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 32(9), 33(4), 43(7), 44(4) a 113(2), o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru[2]. Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. —(1)[a] Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 15 Chwefror 2006. (2)[b] Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran awdurdodau yng Nghymru. (3) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006. (4)[c] Yn y Rheoliadau hyn ystyr "Deddf 1992" ("the 1992 Act") yw Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Cyfrifo anghenion cyllideb (awdurdodau bilio) 2. Mae adran 32 o Ddeddf 1992 yn effeithiol fel petai—
(b) yr is-adran ganlynol wedi'i mewnosod ar ôl is-adran (12)—
(b) references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.".
Cyfrifo swm sylfaenol y dreth (awdurdodau bilio)
(ii) y geiriau "floor funding" wedi'u mewnosod o flaen "or police grant;" a
(b) ar ôl is-adran (6D) yr is-adrannau a ganlyn wedi'u mewnosod—
(b) references to sums payable for the financial year in respect of revenue support grant are references to sums so payable in accordance with that report.
(6F) In this section and section 44 below, "floor funding" means grant payable to a major precepting authority by the Secretary of State, in addition to the police grant referred to in subsection (6C).".
Cyfrifo swm sylfaenol y dreth (prif awdurdodau praeseptio)
(b) y geiriau "floor funding" wedi'u mewnosod o flaen "or police grant;".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae adrannau 32 a 43 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ("Deddf 1992") yn gosod, yn y drefn honno, sut y mae awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio i gyfrifo'u hanghenion cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol. Mae adrannau 33 a 44 o'r Ddeddf honno yn gosod, yn y drefn honno, sut y mae awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio i gyfrifo swm sylfaenol eu treth gyngor. Mae rheoliadau 2(a), 3, 4(a)(i) a 5(a) o'r Rheoliadau hyn yn hepgor cyfeiriadau at "relevant special grant" o adrannau 32, 33, 43 a 44 o Ddeddf 1992 ar gyfer y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006 gan nad oes unrhyw grantiau arbennig yn cael eu diffinio yn grantiau arbennig perthnasol am y flwyddyn ariannol honno. Mae rheoliadau 2(b) a 4(b) yn mewnosod, ar gyfer awdurdodau bilio a phrif awdurdodau praeseptio yng Nghymru, ddiffiniadau o symiau sy'n daladwy o ran ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd a grant cynnal refeniw yn adrannau 32 a 43 o Ddeddf 1992 am y flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar 1 Ebrill 2006. Diben hyn yw sicrhau nad yw symiau'r ardrethi annomestig a ailddosbarthwyd a'r grant cynnal refeniw a gedwir allan o'r cyfrifiad ar gyfer gofynion cyllideb yn yr adran honno ond yn ymwneud â'r symiau sy'n daladwy o dan yr Adroddiadau Cyllid Llywodraeth Leol am y flwyddyn 2006 — 2007. Mae'r un diffiniadau yn gymwys i adrannau 33 a 44 o Ddeddf 1992. Mae rheoliad 4(b) hefyd yn mewnosod diffiniad o "floor funding" yn adran 43 drwy fewnosod is-adran (6F). Mae rheoliadau 4(a)(ii) a 5(b) yn diwygio ymhellach adrannau 43 a 44 o Ddeddf 1992 fel bod prif awdurdodau praeseptio yng Nghymru yn gorfod ystyried unrhyw gyllid gwaelodol a geir oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol am y flwyddyn ariannol 2006-2007 wrth wneud y cyfrifiadau gofynnol am y flwyddyn honno. Notes: [1] 1992 p.14; diwygiwyd adran 32(9) gan baragraff 4 o Atodlen 12 i Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19).back [2] Trosglwyddwyd y pŵer i wneud rheoliadau o dan adrannau 32(9), 33(4), 43(7) a 44(4) o ran Cymru oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan erthygl 2(a) o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol ac Atodlen 1 iddi Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] Diwygiwyd adran 323(3)(a) gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1994 (O.S. 1994/246) a Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol a Chronfeydd) 1995 (O.S. 1995/234).back [4] 1988 p.41; mewnosodwyd adran 84G gan Atodlen 2 i Ddeddf Llywodraeth Leol 2003 (p.26)back [5] Diwygiwyd adran 33(1) gan O.S. 1994/246 ac O.S. 1995/234.back [6] Diwygiwyd adran 43(3)(a) gan O.S. 1994/246, O.S. 1995/234 ac o ran y flwyddyn ariannol 2004/2005 gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Addasu Cyfrifiadau Angenrheidiol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/451) (Cy.42).back [7] Diwygiwyd adran 44(1) gan O.S. 1994/246, O.S. 1995 ac o ran y flwyddyn ariannol 2004-2005 gan O.S. 2004/451 (Cy.42).back
[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 3, fersiwn Saesneg, erthygl 1; dylai "-1)" ddarllen fel "-(1)"; back [b] Amended by Correction Slip. Tudalen 3, fersiwn Saesneg, erthygl 1; dylid ailrifo is-baragraff "(1)" yn "(2)"; back [c] Amended by Correction Slip. Tudalen 3, fersiwn Saesneg, erthygl 1; dylid ailrifo is-baragraffau "(2)" a "(3)" yn "(3)" a "(4)" yn y drefn honno. back
ISBN 0 11091278 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 24 February 2006 |