Gorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) (Cymru) 2006, ISBN 0110912616. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 87 a 100 o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993[1] i'r Ysgrifennydd Gwladol ac a freiniwyd bellach yn y Cynulliad Cenedlaethol[2] a chan ei fod wedi'i fodloni bod trefniadau priodol wedi'u gwneud ar gyfer cyhoeddi'r cod a gymeradwywyd gan y Gorchymyn hwn, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) (Cymru) 2006 a fe ddaw i rym ar 1 Chwefror 2006. (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran rheoli pob eiddo preswyl yng Nghymru. Cymeradwyo cod ymarfer 2. Mae'r Rent Only Residential Management Code (ISBN 184219 2094), a gyflwynwyd i'w gymeradwyo ar 6 Hydref 2005 gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ac sydd i'w gyhoeddi gan RICS Business Services Limited, wedi'i gymeradwyo. Tynnu cymeradwyaeth yn ôl 3. Mae'r gymeradwyaeth o'r Rent Only Residential Management Code (ISBN 085406 642 X) a roddwyd gan Orchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) 1996[3] wedi'i thynnu'n ôl. Darpariaeth drosiannol 4. Nid yw erthyglau 2 a 3 yn gymwys at ddibenion adran 87(7)(a) a (b) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 (defnyddio cod mewn achos cyfreithiol) o ran gweithred neu anwaith sy'n digwydd cyn i'r Gorchymyn hwn ddod i rym. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[4]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 31 Ionawr 2006 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Drwy'r Gorchymyn hwn mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn cymeradwyo cod ymarfer sy'n ymwneud â gwaith rheoli eiddo preswyl gan landlordiaid ac eraill sy'n cyflawni'r swyddogaeth reoli. Y Rent Only Residential Management Code (ISBN 184219 2094) yw'r cod a gymeradwyir ac mae i'w gyhoeddi gan Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig. Drwy'r Gorchymyn hwn mae'r Cynulliad hefyd yn tynnu'n ôl y gymeradwyaeth a roddwyd yng Ngorchymyn Cymeradwyo Codau Ymarfer ar gyfer Rheoli (Eiddo Preswyl) 1996, (O.S. 1996/2839), i god sy'n dwyn yr enw Rent Only Residential Management Code (ISBN 085406 642 X). Mae adran 87(7) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn darparu nad yw methiant â chydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth mewn cod ymarfer a gymeradwyir yn peri ynddo'i hun i unrhyw berson fod yn agored i unrhyw achos cyfreithiol yn ei erbyn, ond bod y cod ymarfer, mewn unrhyw achos cyfreithiol yn dderbyniol fel tystiolaeth ac y bydd unrhyw ddarpariaeth sy'n ymddangos ei fod yn berthnasol i unrhyw gwestiwn sy'n codi yn yr achos cyfreithiol yn cael ei chymryd i ystyriaeth. Mae'r cymeradwyo a'r tynnu'n ôl y darperir ar eu cyfer yn y Gorchymyn hwn yn gymwys i waith rheoli pob eiddo preswyl yng Nghymru ac yn ddarostyngedig i'r ddarpariaeth drosiannol yn erthygl 4. Notes: [1] 1993 p. 28; diwygiwyd adran 87 gan adran 150 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p.15) ac Atodlen 9 iddi.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 87 a 100, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo, ac adran 177 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.back
[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 2; dylai'r dyddiad gwneud ddarllen "31 Ionawr 2006". back ISBN 0 11 091261 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 6 February 2006 |