Rheoliadau Addysg (Amrywio Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Amrywio Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006, ISBN 0110912675. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 89(8)(e) ac (f), a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Amrywio Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwyso ran Cymru. Dehongli 2. —(1) Yn y rheoliadau hyn—
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y rheoliadau hyn at adran â Rhif neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o'r Ddeddf neu'r Atodlen honno i'r Ddeddf.
(b) os yw'r corff neu'r hyrwyddwyr a gyhoeddodd y cynigion wedi penderfynu o dan baragraff 9 o'r Atodlen honno weithredu'r cynigion.
(3) Nid yw gofynion adran 89(5) i (7) (amrywio arfaethedig ar drefniadau derbyn wrth ystyried newid mawr mewn amgylchiadau) yn gymwys i amrywiad arfaethedig o dan paragraff (2). (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi'r amgylchiadau y caiff awdurdod derbyn (yn ychwanegol at yr amgylchiadau a nodir yn adran 89(5) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (Deddf 1998)) amrywio'r trefniadau derbyn y mae wedi'u penderfynu ar gyfer blwyddyn ysgol benodol. Mae rheoliad 3 yn darparu y caiff awdurdod derbyn, heb weithdrefnau pellach neu gymeradwyaeth y Cynulliad Cenedlaethol, amrywio'r nifer a dderbynnir y mae wedi'i benderfynu ar gyfer unrhyw grŵp oedran perthnasol lle bo'n angenrheidiol i weithredu cynigion statudol a gymeradwywyd ac a gyhoeddwyd o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a bod angen amrywio'r nifer a dderbynnir i weithredu'r cynigion hynny. Yn yr amgylchiadau hynny, nid yw'r gweithdrefnau newid trefniadau derbyn yn adran 89(5) i (7) o'r Ddeddf 1998 yn gymwys. Notes: [1] 1998 p.31. Ar gyfer diffiniad "prescribed" a "regulations" gweler adran 142 o Ddeddf 1998.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back
[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 2; yn y fersiwn Gymraeg, yn union islaw teitl yr offeryn, dylai "Gwnaed" ddarllen, "Wedi'u gwneud"; a back [b] Amended by Correction Slip. Tudalen 2; dylai'r dyddiad gwneud ddarllen "31 Ionawr 2006". back ISBN 0 11 091267 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 6 February 2006 |