Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006, ISBN 0110912632. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 90 a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dirymu 2. Dirymir Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) 1999[3] o ran Cymru. Dehongli 3. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at adran â Rhif yn gyfeiriad at yr adran honno o'r Ddeddf. Achosion pan na chaniateir cyfeirio gwrthwynebiad 4. —(1) Mae'r rheoliad hwn yn rhagnodi at ddibenion adran 90(1)(c) y disgrifiad o wrthwynebiadau na chaniateir eu cyfeirio at y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 90(1). (2) Ni chaniateir cyfeirio gwrthwynebiad—
(b) mewn unrhyw achos pan mai corff llywodraethu ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir yw'r corff sy'n ceisio gwneud y gwrthwynebiad ac nad yw'r cyfrifoldeb dros benderfynu trefniadau derbyn yr ysgol wedi'i ddirprwyo iddo o dan adran 88(1)(a)(ii), ac mai gwrthwynebiad i'r canlynol yw'r gwrthwynebiad—
(ii) trefniadau derbyn yr ysgol y mae'r corff sy'n ceisio gwneud y gwrthwynebiad yn gorff llywodraethu arni, onid yw sylwedd y gwrthwynebiad yn ymwneud â phenderfynu unrhyw nifer derbyn ar gyfer yr ysgol honno.
Terfynau amser y mae'n rhaid cyfeirio'r gwrthwynebiad o'u mewn Rhieni sy'n gymwys i gyfeirio gwrthwynebiad 6. At ddibenion adran 90(2)(b) y disgrifiad o riant a gaiff gyfeirio gwrthwynebiad sy'n ymwneud â threfniadau derbyn o dan yr is-adran honno yw unigolyn—
(b) os yw'r gwrthwynebiad yn dod o fewn rheoliad 7(1)(b), sy'n rhiant y mae ei blentyn wedi cael ei ben blwydd yn ddwy oed ond heb gael ei ben blwydd yn bump oed, neu sy'n rhiant y mae ei blentyn o oedran ysgol gorfodol ac yn derbyn addysg gynradd,
ac sydd (yn y naill achos a'r llall) yn preswylio yn yr ardal berthnasol y mae ymgynghori o dan adran 89(2)(b) ynghylch y trefniadau derbyn hynny'n gymwys.
(b) gwrthwynebiad sy'n ymwneud â nifer derbyn ar gyfer unrhyw grŵp oedran perthnasol sy'n is na'r nifer derbyn a nodir ar gyfer y grŵp oedran hwnnw.
(2) At ddibenion y rheoliad hwn,
(b) mae trefniadau dethol i'w hystyried yn rhai sydd eisoes yn bodoli os ydynt—
(ii) yn llwyr ddibynnol ar adran 100 o ran bod yn gyfreithlon.
(3) At ddiben paragraff (2)(b)(ii), mae trefniadau dethol i'w hystyried yn rhai sy'n llwyr ddibynnol ar adran 100 o ran bod yn gyfreithlon os na chânt eu gwneud yn gyfreithlon yn rhinwedd adran 99(1) a (2)(c) (dosbarthiadau chwech), neu adran 101 (bandio disgyblion).
(b) sy'n codi'r un mater neu fater sy'n sylweddol yr un fath.
Cyhoeddi penderfyniadau 9. —(1) Rhaid cyhoeddi penderfyniadau'r Cynulliad Cenedlaethol a'r rhesymau drostynt o dan adran 90(7)—
(b) yn achos penderfyniad ar wrthwynebiad yn ymwneud â—
(ii) nifer derbyn sy'n is na'r nifer derbyn a nodir
(pa un a gyfeiriwyd gwrthwynebiadau o'r fath gan riant ai peidio) drwy gyhoeddi'r wybodaeth ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.gwybodaeth.cymru.gov.uk o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad y rhoddwyd y penderfyniad a'r rhesymau drosto.
(2) Yr wybodaeth i'w chyhoeddi o dan is-baragraff (1)(b) yw—
(b) disgrifiad byr o'r penderfyniad a'r rhesymau drosto.
Cyfyngu ar wrthwynebiadau diweddarach
(b) trefniadau'r ysgol honno ar gyfer y flwyddyn ysgol ganlynol,
a hwnnw'n wrthwynebiad sy'n codi'r un mater neu fater sy'n sylweddol yr un fath.
(b) pan mai sylwedd y gwrthwynebiad y ceisir yn awr ei gyfeirio yw bod trefniadau derbyn yr ysgol, a benderfynwyd gan yr awdurdod derbyn ar gyfer y flwyddyn ysgol ganlynol, i'r graddau y maent yn berthnasol, yr un fath â'r rhai y cyfeiriwyd y gwrthwynebiad cynharach yn eu herbyn neu'n sylweddol yr un fath â hwy.
Pŵer i newid trefniadau yn sgil penderfynu gwrthwynebiad
(b) bydd yn rhesymol i awdurdod derbyn perthnasol fod o'r farn bod y trefniadau y mae wedi eu penderfynu, i'r graddau y mae'n berthnasol—
(ii) yn ddigon tebyg i'r un penderfyniad fod wedi'i wneud yn eu herbyn pe bai gwrthwynebiad wedi'i wneud.
(2) Mewn achos pan fo'r rheoliad hwn yn gymwys, caiff yr awdurdod derbyn perthnasol adolygu ei drefniadau derbyn drwy wneud y newidiadau hynny sydd, ym marn resymol yr awdurdod, yn angenrheidiol er mwyn bod yn gyson â'r penderfyniad, a chaiff benderfynu ei drefniadau ar y ffurf honno sy'n ffurf wedi'i hadolygu.
(b) os yw'r awdurdod derbyn perthnasol wedi hysbysu pob corff derbyn yr oedd yn ofynnol iddo ymgynghori ag ef o dan adran 89(2) ynghylch y trefniadau derbyn y mae'n yn ceisio'u hadolygu o dan y rheoliad hwn, neu y byddai, heblaw am adran 89(2A), wedi bod yn ofynnol iddo ymgynghori ag ef.
(4) Yn y rheoliad hwn ystyr "awdurdod derbyn perthnasol" ("relevant admission authority") yw awdurdod derbyn yr oedd yn ofynnol iddo ymgynghori o dan adran 89(2) â'r awdurdod derbyn y gwnaed y penderfyniad yn ei erbyn, neu y byddai wedi bod yn ofynnol iddo, heblaw am adran 89(2A), ymgynghori â'r awdurdod derbyn y gwnaed y penderfyniad yn ei erbyn, a hynny cyn iddo benderfynu'r trefniadau derbyn y mae'n dymuno eu hadolygu. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae adran 90 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("Deddf 1998") yn galluogi cyfeirio at y Cynulliad Cenedlaethol wrthwynebiadau ynghylch trefniadau derbyn ysgolion a gynhelir a benderfynwyd o dan adran 89 o'r Ddeddf honno. Mae'r Rheoliadau'n cynnwys darpariaethau sy'n berthnasol i'r amodau y caniateir gwneud a phenderfynu gwrthwynebiadau oddi tanynt, ac i weithredu unrhyw benderfyniadau. Maent yn dirymu Rheoliadau Addysg (Gwrthwynebiadau i Drefniadau Derbyn) 1999 ("Rheoliadau 1999"). Mae Rheoliadau 1999 i raddau helaeth yn ailddeddfu, ac maent yn adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed i Ddeddf 1998 gan Ddeddf Addysg 2002. Mae adran 89(2) o Ddeddf 1998 yn nodi'r cyrff hynny y mae'n ofynnol i awdurdod derbyn ymgynghori â hwy ynghylch eu trefniadau derbyn arfaethedig. Diwygiwyd adran 89(2) gan Ddeddf 2002 fel bod yr adran yn cynnwys cyrff llywodraethu pob ysgol gymunedol ac ysgol wirfoddol a reolir mewn ardal berthnasol. Mae rheoliad 4 yn cyfyngu ar hawl cyrff llywodraethu o'r fath i wrthwynebu. Ni allant wrthwynebu trefniadau derbyn unrhyw ysgol gymunedol arall neu ysgol wirfoddol arall a reolir yn yr ardal berthnasol, ac ni allant ychwaith wrthwynebu trefniadau derbyn ar gyfer eu hysgol eu hunain onid yw'r gwrthwynebiad yn ymwneud â phenderfynu nifer derbyn ar gyfer yr ysgol. Mae rheoliad 4 hefyd yn darparu na chaniateir gwneud gwrthwynebiad o dan adran 90(1) os sylwedd y gwrthwynebiad yw ceisio newid y trefniadau derbyn, a hwnnw'n newid na ellir ei wneud ond drwy gyhoeddi cynigion statudol, er enghraifft, cyflwyno bandio disgyblion neu trefniadau derbyn un rhyw. Mae rheoliad 5 yn pennu terfynau amser y mae'n rhaid gwneud unrhyw wrthwynebiad o'u mewn. Chwe wythnos ar ôl rhoi hysbysiad bod y trefniadau wedi'u penderfynu neu, os gwrthwynebiad gan riant ydyw, chwe wythnos sy'n dilyn cyhoeddi'r manylion perthnasol mewn papur newydd lleol, yw'r terfynau amser hyn. Yn y naill achos a'r llall bydd gwrthwynebiad a ddaeth i law yn ddiweddarach wedi'i gwneud ddilys os nad oedd yn rhesymol ymarferol iddo fod wedi dod i law yn gynharach. Mae rheoliad 6 yn diffinio'r rhieni sy'n gymwys i gwneud gwrthwynebiad. Os yw gwrthwynebiad yn ymwneud â threfniadau dethol sydd eisoes yn bodoli, rhaid i riant fod yn unigolyn sydd â phlentyn o oedran ysgol gorfodol mewn addysg gynradd a rhaid iddo fod yn byw yn yr ardal ymgynghori ar gyfer yr ysgol. Os yw gwrthwynebiad yn ymwneud â nifer derbyn arfaethedig sydd wedi'i osod yn is na'r nifer a nodir gan y dull asesu capasiti a welir yn y canllawiau "Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru", rhaid i riant fod yn unigolyn â phlentyn sydd rhwng 2 a 5 mlwydd oed neu o oedran ysgol gorfodol ac sydd yn derbyn addysg gynradd, a rhaid iddo fod yn byw yn yr ardal ymgynghori ar gyfer yr ysgol. Mae'r canllawiau hyn ar gael ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.dysgu.cymru.gov.uk. Mae rheoliad 7 yn ymwneud â'r math o wrthwynebiadau y caiff rhiant eu gwneud. Gwrthwynebiad i drefniadau penodol yw rhain sydd eisioes yn bodoli i ddethol disgyblion yn ôl eu gallu a gwrthwynebiadau sy'n ymwneud â phenderfynu nifer derbyn sy'n is na'r nifer derbyn a nodir gan y dull asesu capasiti a geir yn y canllawiau y cyfeirir atynt uchod yw'r gwrthwynebiadau hyn. Mae rheoliad 8 yn ychwanegu amod mai dim ond os bydd pum rhiant neu fwy yn gwneud yr un gwrthwynebiad i'r un trefniadau derbyn, neu wrthwynebiad sy'n sylweddol yr un fath, y caiff y Cynulliad Cenedlaethol benderfynu gwrthwynebiad gan riant. Mae rheoliad 9 yn rhagnodi'r modd y mae penderfyniadau'r Cynulliad Cenedlaethol ar wrthwynebiadau i'w cyhoeddi. Mae hyn yn cynnwys hysbysu'r partïon i'r gwrthwynebiad a'r holl gyrff eraill yr oedd yn ofynnol i'r awdurdod derbyn, o dan adran 89(2) o Ddeddf 1998, ymgynghori â hwy ynghylch eu trefniadau derbyn arfaethedig neu y byddai, heblaw am adran 89(2A), wedi bod yn ofynnol iddo ymgynghori â hwy. Os yw'r gwrthwynebiad yn ymwneud â threfniadau dethol sydd eisoes yn bodoli neu nifer derbyn is na'r nifer derbyn a nodir, rhaid hefyd gyhoeddi'r penderfyniad ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.gwybodaeth.cymru.gov.uk. Mae rheoliad 10 yn darparu, pan fo gwrthwynebiad i drefniadau derbyn ysgol wedi'i benderfynu, na chaniateir gwneud gwrthwynebiad pellach sy'n ymwneud â'r un mater i drefniadau'r ysgol ar gyfer y flwyddyn ysgol honno neu'r flwyddyn ganlynol ac eithrio pan fo'r awdurdod derbyn, yn y flwyddyn ganlynol, yn ceisio ailgyflwyno trefniadau yr oedd gwrthwynebiad iddynt wedi'i gadarnhau eisoes. Mewn achos pan fo gwrthwynebiad yn erbyn trefniadau derbyn awdurdod derbyn wedi'i gadarnhau, mae rheoliad 11 yn galluogi awdurdod derbyn perthnasol arall i adolygu ei drefniadau derbyn er mwyn bod yn gyson â'r penderfyniad sy'n cadarnhau'r gwrthwynebiad. Pennir amodau, gan gynnwys terfyn amser i adolygu trefniadau o ddeufis o gael hysbysiad o'r penderfyniad. Mae gofyniad i hysbysu'r awdurdodau derbyn yr oedd yn ofynnol iddo ymgynghori â hwy o dan adran 89(2) ynghylch y trefniadau derbyn y mae'n ceisio'u hadolygu o dan y rheoliad, neu y byddai, heblaw am adran 89(2A), wedi bod yn ofynnol iddo ymgynghori â hwy. Notes: [1] 1998 p.31. Diwygiwyd adran 90(1) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32.) a pharagraff 6 o Atodlen 4 iddi. Gweler adran 142(1) ar gyfer ystyr "prescribed" a "regulations".back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1999/125. Mae'r Rheoliadau o rym o hyd yn Lloegr.back [5] Mewnosodwyd adran 89(A) gan adran 47(2) o Ddeddf Addysg 2002.back [6] Mae'r canllaw yma ar gael ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.dysgu.cymru.gov.uk.back [8] Gweler Rheoliadau Addysg (Penderfynu ar Drefniadau Derbyn) (Cymru) 2006, O.S. 2006/174 (Cy.25).back
ISBN 0 11 091263 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 6 February 2006 |