Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 2006, ISBN 0110912640. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 72 a 138(7) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Reoliadau hyn yw Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i ysgolion newydd yng Nghymru a fydd, yn y flwyddyn ysgol y byddant yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf, yn ysgolion cymunedol, ysgolion sefydledig neu'n ysgolion gwirfoddol. (3) Nid yw rheoliadau 5, 6 a 7 yn gymwys i ysgol newydd pan fo'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol o'r fath, a sefydlwyd mewn cysylltiad â chynigion sy'n cynnwys cau ysgol arall a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, yn penderfynu bod y trefniadau derbyn cychwynnol i fod yr un fath â rhai'r ysgol a gaewyd. Dirymu a darpariaeth drosiannol 2. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999[3] wedi'u dirymu. (2) Mae Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999 i barhau i gael effaith mewn perthynas ag unrhyw ysgol a sefydlir yn unol â chynigion a gyhoeddwyd o dan adran 28 o Ddeddf 1998 y mae'r dyddiad agor ar ei chyfer cyn y flwyddyn ysgol 2007-8 ac ni fydd dim yn y Rheoliadau hyn yn gymwys i ysgol o'r fath. Dehongli 3. Yn y Rheoliadau hyn—
Y cyfrifoldeb dros y trefniadau derbyn cychwynnol
(b) y corff llywodraethu dros dro pan fo'r awdurdod addysg lleol, gyda chytundeb y corff hwnnw, wedi dirprwyo iddynt y cyfrifoldeb dros benderfynu'r trefniadau hynny.
(2) Mae'r trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ysgol newydd sydd i fod yn ysgol sefydledig neu'n ysgol wirfoddol a gynorthwyir i'w gwneud gan—
(b) (onid yw is-baragraff (c) yn gymwys) yr hyrwyddwyr—
(ii) pan fo'r hyrwyddwyr yn credu y byddai'n hwylus i'r trefniadau derbyn gael eu penderfynu yn ddi-oed, neu
(c) yn achos ysgol sefydledig sydd i'w sefydlu gan awdurdod addysg lleol yn unol â chynigion a gyhoeddir o dan adran 28(1)(a) o Ddeddf 1998, yr awdurdod hwnnw—
(ii) pan fo'r awdurdod hwnnw yn credu y byddai'n hwylus i'r trefniadau derbyn gael eu penderfynu yn ddi-oed.
Y weithdrefn ar gyfer penderfynu trefniadau derbyn
(b) os y corff llywodraethu dros dro neu'r hyrwyddwyr yw'r awdurdod derbyn, pob awdurdod addysg lleol y mae unrhyw ran o'i ardal o fewn yr ardal berthnasol, neu'n cydffinio â hi; ac (c) ym mhob achos—
(ii) corff llywodraethu pob ysgol gymunedol a phob ysgol wirfoddol a reolir (i'r graddau nad ydynt yn dod o dan baragraff (i)) yn yr ardal berthnasol.
(3) Ym mharagraff (2) "yr ardal berthnasol" yw'r ardal berthnasol neu'r ardaloedd perthnasol a benderfynir gan yr awdurdod addysg lleol yn unol â Rheoliadau Addysg (Ardaloedd Perthnasol ar gyfer Ymgynghori ynghylch Trefniadau Derbyn) 1999[6].
(b) corff llywodraethu pob ysgol gymunedol ac ysgol wirfoddol a reolir (i'r graddau nad ydynt yn dod o dan is-baragraff (a)) yn yr ardal berthnasol sy'n ysgolion cynradd.
(5) Rhaid i'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol sefydledig newydd neu ysgol wirfoddol sy'n un o ysgolion yr Eglwys yng Nghymru neu ysgolion yr Eglwys Gatholig (fel y diffinnir "Church in Wales school" a "Roman Catholic Church School" gan adran 142(1) o Ddeddf 1998), wrth baratoi trefniadau derbyn cychwynnol ar gyfer ymgynghoriad o dan baragraff (2), ymgynghori â'r awdurdod esgobaethol priodol ynglŷn â'r trefniadau derbyn cychwynnol y maent yn bwriadu eu penderfynu ar gyfer yr ysgol.
(b) o fewn 14 diwrnod i'r penderfyniad hwnnw hysbysu'r personau yr oedd yn ofynnol iddynt ymgynghori â hwy o dan baragraff (2) o'r trefniadau hynny.
Penderfynu'r nifer derbyn
(b) yn unol â chynigion a wneir o dan adran 113A o Ddeddf 2000, rhaid i'r nifer derbyn fod yr un fath ag unrhyw nifer derbyn a nodir mewn unrhyw hysbysiad o'r cynigion y mae'n ofynnol ei gyhoeddi yn unol â rheoliadau a wnaed o dan is-adran (9) o'r adran honno, neu (os yw'n gymwys) fel y'u haddaswyd gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan is-adran (5) o'r adran honno, neu o dan baragraff 1(3) o Atodlen 7A i Ddeddf 2000.
(3) Mae paragraff (4) yn gymwys mewn unrhyw achos lle, ar yr adeg y mae'r trefniadau derbyn cychwynnol yn cael eu penderfynu gan yr awdurdod derbyn, y mae unrhyw gynigion y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff (2) y mae'r trefniadau hynny yn berthnasol iddynt, heb eu cymeradwyo.
(b) ystyrir y nifer derbyn a benderfynir yn unol ag is-baragraff (a) yn nifer derbyn dros dro hyd nes y cymeradwyir y nifer derbyn a nodir yn y cynigion neu (yn ôl y digwydd) hyd nes yr addesir y nifer derbyn hwnnw fel y'i disgrifiwyd ym mharagraff (2)(a) a (b); ac (c) (ac eithrio lle bo'r cyd-destun yn mynnu fel arall) mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at nifer derbyn i gael effaith fel petai'n gyfeiriad at nifer derbyn dros dro.
Cyfeirio gwrthwynebiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol
(b) mewn unrhyw achos lle mae rheoliad 6(4) yn gymwys, nad yw'r gwrthwynebiad yn berthnasol i'r nifer derbyn mewn amgylchiadau lle mae dyddiad unrhyw gymeradwyaeth o'r cynigion (p'un a yw'r nifer derbyn wedi'i addasu neu beidio) yn llai na chwe mis cyn y dyddiad y bwriedir agor yr ysgol.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), ni cheir cyfeirio gwrthwynebiad o dan baragraff (1) oni chaiff ei dderbyn gan y Cynulliad Cenedlaethol o fewn chwech wythnos ar ô l i'r person sy'n gwrthwynebu dderbyn hysbysiad o dan reoliad 5(6)(b).
(ii) cyn bod cynigion a wnaed o dan adran 113A o Ddeddf 2000 wedi'u cymeradwyo yn unol â darpariaethau is-adran (5) o'r adran honno.
(5) Pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu y dylid cadarnhau gwrthwynebiad i unrhyw raddau, gall ei benderfyniad ar y gwrthwynebiad bennu'r addasiadau sydd i'w gwneud i'r trefniadau derbyn cychwynnol o dan sylw.
(b) pan fo'r awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd, a sefydlwyd mewn cysylltiad â chynigion sy'n cynnwys cau ysgol arall a gynhelir gan awdurdod addysg lleol, wedi penderfynu bod y trefniadau derbyn cychwynnol i fod yr un fath â rhai'r ysgol honno,
ond ei fod yn barnu ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn gychwynnol neu'r flwyddyn ysgol ganlynol y dylid amrywio'r trefniadau.
(b) amrywio'r nifer derbyn os yw'r amrywiad hwnnw yn angenrheidiol i weithredu cynigion a gyhoeddwyd o dan adran 28 o Ddeddf 1998—
(ii) pan fo'r awdurdod addysg lleol wedi penderfynu o dan baragraff 9 o'r Atodlen honno y byddai'n gweithredu'r cynigion hynny.
(3) Os yw paragraff (2)(a) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod derbyn gyfeirio'r amrywiad arfaethedig i'r Cynulliad Cenedlaethol, a hysbysu'r cyrff yr oedd yn ofynnol iddynt ymgynghori â hwy o dan reoliad 5(2) o'r amrywiad arfaethedig.
(b) rhaid i'r awdurdod derbyn hysbysu'r personau yr oedd yn ofynnol iddynt ymgynghori â hwy o dan reoliad 5(2) o'r amrywiad y mae'r trefniadau i gael effaith yn ddarostyngiedig iddo.
Cymhwyso'r deddfiadau 1. Mae darpariaethau canlynol y Deddfau Addysg, sef—
(b) adrannau 1, 84, 85A, 86, 87, 89B, 89C, 92, 94, 95 i 99, 101, 102 a 103(3) o Ddeddf 1998; (c) unrhyw Reoliadau a wneir o dan unrhyw un o'r darpariaethau y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (a) a (b) uchod,
yn gymwys i ysgol newydd ond maent yn ddarostyngedig i'r eithriadau a'r addasiadau a bennir ym mharagraffau 2 i 8 isod.
(b) ysgol a gynhelir gan awdurdod addysg lleol; (c) ysgol gymunedol, sefydledig neu wirfoddol,
i'w ddehongli fel cyfeiriad at ysgol newydd a ddaw'n ysgol newydd o'r categori hwnnw pan fydd yn derbyn disgyblion am y tro cyntaf. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ynglŷn â phenderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol â cheisiadau am dderbyniad i ysgolion newydd. Maent yn disodli ac yn dirymu Rheoliadau Ysgolion Newydd (Derbyniadau) (Cymru) 1999. Mae rheoliad 4 yn pennu pwy sydd i fod yn awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd mewn perthynas â'i blwyddyn gychwynnol, hynny yw, y corff sy'n gyfrifol am benderfynu'r trefniadau ar gyfer derbyn disgyblion i'r ysgol am y flwyddyn ysgol y bydd yn derbyn disgyblion ynddi am y tro cyntaf. Yr awdurdod addysg lleol neu'r corff llywodraethu dros dro, os yw'r awdurdod addysg lleol wedi dirprwyo'r cyfrifoldeb hwn iddynt, fydd yr awdurdod derbyn ar gyfer ysgol gymunedol neu ysgol wirfoddol a reolir. Y corff llywodraethu dros dro (neu, os yw'n briodol, yr awdurdod addysg lleol neu'r hyrwyddwyr) fydd yr awdurdod derbyn ar gyfer ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol a gynorthwyir. Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod derbyn ar gyfer ysgol newydd benderfynu'r trefniadau derbyn cychwynnol heb fod yn llai na chwe mis cyn dyddiad agor yr ysgol. Mae dyletswydd ar awdurdod derbyn i ymgynghori ynglŷn â'r trefniadau derbyn cychwynnol cyn iddynt gael eu penderfynu yn y modd hwn. Mae rheoliad 6 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod derbyn benderfynu, fel rhan o'r trefniadau derbyn cychwynnol, nifer derbyn ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol, hynny yw, nifer y disgyblion mewn unrhyw grŵp oedran perthnasol y mae'n bwriadu eu derbyn i'r ysgol. Pan fo'r trefniadau derbyn cychwynnol wedi'u penderfynu cyn bod y cynigion statudol perthasnol wedi'u cymeradwyo, y nifer derbyn yw'r nifer derbyn a bennwyd yn hysbysiad i'r cynigion statudol.Ystyrir bod y nifer hwnnw'n nifer derbyn dros dro hyd nes bod y cynigion wedi'u cymeradwyo. Mae rheoliad 7 yn gwneud darpariaeth, ar ô l i'r trefniadau derbyn cychwynnol gael eu penderfynu, i awdurdodau derbyn a chyrff llywodraethu ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir, yr oedd yn ofynnol ymgynghori â hwy o dan reoliad 5, gyfeirio gwrthwynebiadau i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae rheoliad 8 yn darparu ar gyfer amrywio'r trefniadau derbyn cychwynnol naill ai oherwydd newid sylweddol mewn amgylchiadau, neu pan fo amrywiad yn angenrheidiol i weithredu cynigion statudol a gyhoeddir o dan adran 28 o Ddeddf 1998. Os yw'r amrywiad arfaethedig oherwydd newid sylweddol mewn amgylchiadau, rhaid iddo gael ei gyfeirio at y Cynulliad Cenedlaethol. Mae rheoliad 9 a'r Atodlen yn darparu y bydd darpariaethau penodol yn y Deddfau Addysg a Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth Ysgolion) (Cymru) 1999, yn gymwys gydag addasiadau i ysgolion newydd. Notes: [1] 1998 p.31. I gael ystyr "regulations" gweler adran 142(1).back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 1999/2800 (Cy. 14).back [7] O.S. 2006/176 (Cy.27).back [9] O.S. 1999/1812 diwygiwyd gan O.S. 2001/1111 (Cy.55), O.S. 2001/3710 (Cy.306), O.S. 2002/1400 (Cy.139), O.S. 2004/1736 (Cy.179).back
ISBN 0 11 091264 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 6 February 2006 |