Rheoliadau Addysg (Penderfynu Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Penderfynu Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006, ISBN 0110912659. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 89(2), (2A), (8), (8A), 89A(3), 138(7) a 144(1) o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998[1], ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2]. Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Penderfynu Trefniadau Derbyn) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dirymu 2. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Penderfynu Trefniadau Derbyn) 1999[3], o ran Cymru. Dehongli 3. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, dylid trin trefniadau derbyn ysgol fel pe baent ar gyfer y flwyddyn ysgol benodol y caiff disgyblion eu derbyn i'r ysgol ynddi, a hynny o ganlyniad i'r trefniadau.
(b) bod y corff llywodraethu yn bwriadu penderfynu'r un trefniadau derbyn ar gyfer yr ysgol â'r rhai a benderfynwyd yn y flwyddyn benderfynu y cynhaliwyd yr ymgynghori yn ei chylch, fel y cyfeirir ati yn is-baragraff (a); ac (c) na wnaed gwrthwynebiad i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 90(1) neu (2) am y trefniadau derbyn a oedd yn yr arfaeth gan y corff llywodraethu yn ystod unrhyw un o'r pum mlynedd flaenorol.
(3) Ni fydd y rheoliad hwn yn gymwys oni bai bod yr awdurdod addysg sy'n cynnal yr ysgol wedi rhoi'r hysbysiad perthnasol i'r Cynulliad Cenedlaethol o ran blwyddyn ysgol gymwys, a hynny mewn perthynas â'r flwyddyn benderfynu y cynhaliwyd yr ymgynghori yn ei chylch, fel y cyfeirir ati ym mharagraff (2)(a).
Materion y dylai'r ymgynghori ymwneud â hwy
(b) (ar wahân i'r achosion pan fo is-baragraff (a) yn gymwys) eu bod yn gwneud darpariaeth o fath a fyddai, pan wneir hi am y tro cyntaf mewn ysgol a oedd heb y ddarpariaeth honno o'r blaen, yn creu newid rhagnodedig at ddibenion adran 28.
Dull yr ymgynghori
(b) cynnwys copi ysgrifenedig cyflawn o'r trefniadau derbyn a benderfynwyd os bydd y trefniadau a benderfynwyd yn wahanol mewn unrhyw ffordd (yn ddarostyngedig i baragraff (2)) i'r trefniadau arfaethedig yr ymgynghorwyd arnynt â'r cyrff hynny.
(2) At ddibenion paragraff (1)(b), rhaid diystyru'r gwahaniaeth rhwng y trefniadau arfaethedig a'r trefniadau a benderfynwyd os yw'n ymwneud yn unig â threfniadau esempt fel y'u diffinnir yn rheoliad 8.
(b) y nifer derbyn a benderfynwyd ar gyfer unrhyw grŵp oedran perthnasol mewn ysgol yn is na'r nifer derbyn cyfredol a nodir ar gyfer y grŵp oedran hwnnw.
(2) At ddibenion paragraff (1)(a)—
(b) rhaid ystyried bod trefniadau dethol yn rhai sydd eisoes yn bodoli os ydynt—
(ii) yn llwyr ddibynnol ar adran 100 am eu cyfreithlondeb.
(3) At ddibenion paragraff (2)(b)(ii), dylid ystyried bod trefniadau dethol yn rhai sy'n llwyr ddibynnol ar adran 100 am eu cyfreithlondeb os na chânt eu gwneud yn gyfreithlon yn rhinwedd adran 99(1)(b) neu (2)(c) (dosbarthiadau chwech), ac adran 101 (bandio disgyblion).
(b) y ffaith bod trefniadau derbyn sy'n darparu ar gyfer dethol disgyblion wedi'u penderfynu, a datganiad i grynhoi effaith y trefniadau dethol; (c) y ffaith y gall rhieni sy'n byw yn yr ardal berthnasol gyfeirio gwrthwynebiad am y trefniadau dethol at y Cynulliad Cenedlaethol [7]; (ch) cyfeiriad y Cynulliad Cenedlaethol a'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid anfon y gwrthwynebiad ato; (d) y ffaith y gellir cael gwybodaeth ychwanegol am y trefniadau dethol neu am hawl rhieni i wrthwynebu oddi wrth yr awdurdod derbyn, gan gynnwys y cyfeiriad a'r Rhif ffôn ar gyfer cysylltu.
(5) Pan fo paragraff (1)(b) yn gymwys, rhaid i'r awdurdod derbyn gyhoeddi'r wybodaeth a ganlyn mewn papur newydd sy'n cylchredeg yn ardal leol yr ysgol, sef—
(b) y nifer derbyn cyfredol a nodir o ran pob grŵp oedran perthnasol y bu i'r awdurdod derbyn ei ystyried wrth iddo benderfynu nifer derbyn is; (c) y nifer derbyn a benderfynwyd o ran pob grŵp oedran perthnasol sy'n is na'r nifer derbyn cyfredol a nodir ar gyfer y grŵp oedran hwnnw; (ch) rhesymau'r awdurdod derbyn dros benderfynu ar nifer derbyn sy'n is na'r nifer derbyn cyfredol a nodir; (d) y ffaith bod gan rieni sy'n byw yn yr ardal berthnasol yr hawl i gyfeirio gwrthwynebiad am y nifer derbyn at y Cynulliad Cenedlaethol; (dd) cyfeiriad y Cynulliad Cenedlaethol a'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid anfon y gwrthwynebiad ato; (e) y ffaith y gellir cael gwybodaeth ychwanegol am y nifer derbyn neu am hawl rhieni i wrthwynebu oddi wrth yr awdurdod derbyn, gan gynnwys y cyfeiriad a'r Rhif ffôn ar gyfer cysylltu.
(6) Rhaid cyhoeddi'r wybodaeth a nodwyd ym mharagraffau (4) a (5) yn y dull a nodwyd o fewn 14 o ddiwrnodau ar ôl y dyddiad pryd y penderfynodd yr awdurdod derbyn y trefniadau derbyn.
(b) (mewn unrhyw achos pan fydd rheoliad 11(1)(b) yn gymwys) fanylion am yr asesiad o nifer derbyn cyfredol a nodir ar gyfer yr ysgol, sy'n ymwneud ag unrhyw grŵp oedran perthnasol y penderfynwyd nifer derbyn is ar ei gyfer; (c) datganiad ysgrifenedig o wybodaeth am hawl rhieni i wrthwynebu, fel a bennwyd ym mharagraff (2).
(2) Dyma'r wybodaeth y mae'n rhaid ei darparu o dan baragraff (1)(c)—
(b) yr ardal berthnasol a oedd yn gymwys i ymgynghoriad yr awdurdod derbyn ar y trefniadau derbyn; (c) esboniad o'r gofynion a ganlyn sy'n gymwys i wrthwynebiad gan riant—
(ii) disgrifiad o'r rhiant sydd â'r hawl i anfon gwrthwynebiad, a (iii) y gofyniad bod yn rhaid i nifer penodol o rieni anfon gwrthwynebiad neu wrthwynebiadau sydd, yn eu sylwedd, yn codi'r un mater cyn y gall y Cynulliad Cenedlaethol ei benderfynu neu eu penderfynu.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Addysg (Penderfynu Trefniadau Derbyn) 1999 er mwyn adlewyrchu'r diwygiadau a wnaed gan Ddeddf Addysg 2002 i Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 ("Deddf 1998") mewn perthynas â threfniadau derbyn ysgolion. Mae'r Rheoliadau hyn yn nodi'r weithdrefn y dylai awdurdodau derbyn ei dilyn wrth benderfynu ar eu trefniadau derbyn, gan gynnwys y prosesau ymgynghori a hysbysu. Mae adran 89 o Ddeddf 1998 yn darparu bod yn rhaid i awdurdod derbyn pob ysgol a gynhelir benderfynu trefniadau derbyn yr ysgol ar gyfer pob blwyddyn ysgol yn unol â'r gofynion a nodir yn yr adran honno. Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer nifer o ddibenion sy'n ymwneud â gofynion adran 89. Mae rheoliad 3 yn cynnwys diffiniadau o dermau a ddefnyddir yn y Rheoliadau. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i bob awdurdod derbyn gwblhau'r broses ymgynghori sy'n ofynnol gan adran 89 o Ddeddf 1998 cyn 1 Mawrth yn y flwyddyn benderfynu (y flwyddyn ysgol sy'n dechrau ddwy flynedd cyn y flwyddyn ysgol pan gaiff y disgyblion eu derbyn). Rhaid i'r ymgynghori beidio â mynd rhagddo cyn dechrau'r flwyddyn benderfynu, a rhaid i awdurdodau derbyn benderfynu'r trefniadau derbyn rhwng 1 Medi a 15 Ebrill yn y flwyddyn benderfynu. Mae dyletswydd newydd i ystyried y nifer derbyn a nodir ar gyfer pob grŵp oedran perthnasol wrth benderfynu ar nifer y disgyblion sydd i'w derbyn mewn unrhyw flwyddyn ysgol, ac mewn unrhyw grŵp oedran perthnasol. Ystyr y nifer derbyn a nodir yw'r nifer a gyfrifir yn unol â'r dull asesu capasiti yn y canllawiau ‘Mesur capasiti ysgolion yng Nghymru' a geir ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.dysgu.cymru.gov.uk. [a] Pan fo'r trefniadau derbyn yn ymwneud ag ysgol gynradd, mae rheoliad 5 yn darparu nad yw'r ddyletswydd o dan adran 89(2)(b) o Ddeddf 1998 i ymgynghori gydag awdurdodau derbyn eraill yn yr "ardal berthnasol" ond yn gymwys i awdurdodau ysgolion cynradd eraill. Mae rheoliad 6 yn pennu'r ymgynghori ychwanegol sy'n ofynnol yn rhinwedd adran 89(2)(d). Rhaid i awdurdod derbyn sy'n awdurdod addysg lleol ymghynghori â phob awdurdod addysg lleol cyffiniol. Rhaid i awdurdod derbyn sy'n gorff llywodraethu ysgol ymghynghori ag unrhyw awdurdod addysg lleol y mae ei ardal yn dod o fewn yr ardal berthnasol ar gyfer ymgynghori neu'n cyffinio â hi. Mae rheoliad 7 yn rhoi pŵer newydd i gorff llywodraethu sydd hefyd yn awdurdod derbyn i atal dros dro y gofynion ymgynghori o dan amgylchiadau penodol. Datgymhwysir y gofynion os ymghynghorodd y corff llywodraethu ar ei drefniadau arfaethedig o fewn y ddwy flynedd benderfynu flaenorol, os nad yw'r trefniadau derbyn hynny wedi eu newid, ac os na wnaed unrhyw wrthwynebiad i'r Cynulliad Cenedlaethol am drefniadau derbyn y corff yn ystod y pum mlynedd flaenorol. Yn ogystal, rhaid i'r AALl sy'n cynnal yr ysgol fod wedi hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol i'r holl awdurdodau derbyn yn yr ardal berthnasol gyflawni'r ymgynghori sy'n ofynnol ar gyfer y flwyddyn benderfynu sy'n ymwneud â'r flwyddyn ysgol 2008-2009 neu ar gyfer unrhyw flwyddyn ysgol ar ôl hynny. Mae rheoliad 8 yn darparu bod yn rhaid i'r ymgynghori ymwneud â'r holl drefniadau derbyn arfaethedig, ar wahân i unrhyw "trefniadau esempt", sef trefniadau nad oes modd eu cyflwyno na'u newid ac eithrio drwy gynigion statudol. Mae rheoliad 9 yn darparu bod yn rhaid i'r awdurdod derbyn anfon copi ysgrifenedig o'i drefniadau derbyn arfaethedig at bob awdurdod derbyn y mae'n ofynnol iddo ymghynghori ag ef, gan wahodd eu sylwadau. Rhaid i unrhyw drefniadau esempt gael eu cynnwys yn y ddogfen ymgynghori ysgrifenedig honno (er gwybodaeth yn unig). Yn rheoliad 10, ceir y gofynion ar gyfer hysbysu awdurdodau derbyn eraill o'r trefniadau a benderfynir yn derfynol. Rhaid gwneud hynny yn ysgrifenedig o fewn 14 o ddiwrnodau i'r dyddiad y gwnaed y penderfyniad. Mae gofyniad newydd i hysbysu'r holl gyrff priodol yr oedd ganddynt yr hawl bod yr awdurdod derbyn yn ymghynghori â hwy, hyd yn oed os nad ymgynghorwyd â hwy oherwydd bod y gofynion ymgynghori wedi'u hatal dros dro yn unol â rheoliad 7. Yn ogystal, mae rheoliad 11 yn ei gwneud yn ofynnol cyhoeddi manylion am drefniadau derbyn sy'n darparu ar gyfer dethol disgyblion yn ôl eu gallu, a hynny mewn papur newydd lleol. Mae hefyd yn cynnwys gofyniad newydd i gyhoeddi gwybodaeth ychwanegol pan fydd yr awdurdod derbyn wedi penderfynu nifer derbyn ar gyfer grŵp oedran perthnasol sy'n is na'r nifer derbyn cyfredol a nodir ar gyfer y grŵp oedran hwnnw. Rhaid i'r manylion sydd i'w cyhoeddi gynnwys esboniad am hawl rhieni i wrthwynebu'r trefniadau dethol hynny neu'r nifer derbyn is hwnnw i'r Cynulliad Cenedlaethol. Mae rheoliad 12 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdod derbyn, y mae'n rhaid iddo gyhoeddi gwybodaeth ychwanegol o dan reoliad 11, ddarparu manylion pellach am ei drefniadau derbyn ac am hawl rhieni i wrthwynebu os gofynnir amdanynt. Notes: [1] 1998 p.31. Amnewidiwyd is-adrannau (2) a (2A) o adran 89, diwygiwyd is-adran (8) a mewnosodwyd is-adran (8A) gan adran 51 o Ddeddf Addysg 2002 (p.32) a pharagraff 5(1), (2), (4) a (5) o Atodlen 4 iddi. Mewnosodwyd adran 89A(3) gan adran 47(2) o Ddeddf Addysg 2002. I gael gweld ystyr "prescribed" a "regulations", gweler adran 142 o Ddeddf 1998.back [2] Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.back [5] Mae'r canllaw yma ar gael ar wefan y Cynulliad Cenedlaethol www.dysgu.cymru.gov.uk.back [6] Cylchlythyr y Swyddfa Gymreig 13/95.back [7] Is-adran Rheolaeth Ysgolion 3.back
[a] Amended by Correction Slip. Tudalen 2; yn llinell olaf ail baragraff y Nodyn Esboniadol Cymraeg dylai "www.dysgu.gov.uk" ddarllen "www.dysgu.cymru.gov.uk"; a back [b] Amended by Correction Slip. Tudalen 4; dylai'r dyddiad gwneud ddarllen, "31 Ionawr 2006". back ISBN 0 11 091265 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 6 February 2006 |