Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2006, ISBN 0110912691. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 56(1) o Ddeddf Cyllid 1973[1] a chan adran 29(4) o Deddf Llywodraeth Cymru 1998[2] a chyda chydsyniad y Trysorlys, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso 1.
—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Iechyd Planhigion (Ffioedd Arolygu Mewnforio) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 1 Chwefror 2006.
ystyr "y Gyfarwyddeb" ("the Directive") yw Cyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC dyddiedig 8 Mai 2000[3], fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/15/EC dyddiedig 28 Chwefror 2005[4], ar fesurau gwarchod yn erbyn cyflwyno organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu i gynhyrchion planhigion i'r Gymuned ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned;
ystyr "cynnyrch planhigyn" ("plant product") yw'r ystyr sydd i "plant product" yn Erthygl 2(1)(b) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr "gwiriad adnabod" ("identity check") yw'r ystyr sydd i "identity check" yn erthygl 13a(1)(b)(ii) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr "gwiriad dogfennol" ("documentary check") yw'r ystyr sydd i "documentary check" yn Erthygl 13a(1)(b)(i) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr "gwiriad iechyd planhigion" ("plant health check") yw'r ystyr sydd i "plant health check" yn erthygl 13a(1)(b)(iii) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr "llwyth" ("consignment") yw'r ystyr sydd i "consignment" yn erthygl 2(1)(p) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr "oriau gwaith yn ystod y dydd" ("daytime working hours") yw unrhyw amser rhwng 8.30 a.m. a 5.00 p.m. ar unrhyw ddiwrnod ac eithrio dydd Sadwrn, dydd Sul, Dydd Nadolig, Dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sydd yn wŷl y banc o dan Ddeddf Bancio a Masnachu Ariannol 1971[5] yng Nghymru;
ystyr "planhigyn a fwriedir ar gyfer ei blannu" ("plant intended for planting") yw'r ystyr sydd i "plant intended for planting" yn erthygl 2(1)(d) o'r Gyfarwyddeb;
ystyr "planhigyn" ("plant") yw'r ystyr sydd i "plant" yn erthygl 2(1)(a) o'r Gyfarwyddeb; ac
ystyr "trydedd wlad" ("third country") yw gwlad neu diriogaeth heblaw un o fewn y Gymuned Ewropeaidd.
Llwythi y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt 3.
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i lwythi o blanhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill o ddisgrifiad penodedig yng ngholofn gyntaf Atodlen 1 a laniwyd yng Nghymru o drydedd wlad, ac y mae'n ofynnol yn ôl erthygl 13d(1) o'r Gyfarwyddeb i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd ffytoiechydol ynglŷn â hwy i gwrdd â'r costau sy'n digwydd oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion.
Ffioedd 4.
—(1) Rhaid i fewnforiwr llwyth y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo dalu'r ffioedd a bennir yn y rheoliad hwn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
(2) O ran gwiriad iechyd planhigion a wneir ar unrhyw lwyth o blanhigion, cynhyrchion planhigion neu bethau eraill ac eithrio llwyth o blanhigion neu gynhyrchion planhigion y mae paragraff (3) yn gymwys iddo—
(a) y ffi a bennir yn nhrydedd golofn Atodlen 1 ar gyfer gwiriad a wneir yn ystod oriau gwaith yn ystod y dydd; neu
(b) y ffi a bennir ym mhedwaredd golofn yr Atodlen honno ar gyfer gwiriad a wneir y tu allan i'r oriau hynny fydd y ffi sy'n daladwy.
(3) O ran gwiriad iechyd planhigion a wneir, neu y byddai wedi bod yn ofynnol ei wneud heblaw am Erthygl 13a(2) o'r Gyfarwyddeb (sy'n darparu ar gyfer gwneud gwiriadau o'r fath yn llai aml) ar lwyth o unrhyw blanhigion neu o gynhyrchion planhigion a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 2 ac sy'n tarddu o wlad a restrir yn nhrydedd golofn yr Atodlen honno, y ffi sy'n daladwy, yn unol ag Erthygl 13d(2) o'r Gyfarwyddeb—
(a) yw'r ffi a bennir ym mhedwaredd golofn Atodlen 2 ar gyfer gwiriad a wneir yn ystod oriau gwaith yn ystod y dydd; a
(b) yw'r ffi a bennir ym mhumed golofn yr Atodlen honno ar gyfer gwiriad a wneir y tu allan i'r oriau hynny.
(4) O ran gwiriad dogfennol neu wiriad adnabod a wneir ar unrhyw lwyth y ffi sy'n daladwy yw'r ffi a bennir ar gyfer y gwiriad hwnnw yn nhrydedd golofn Atodlen 3.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[6]
FFIOEDD AROLYGU MEWNFORIO AR GYFER GWIRIADAU IECHYD PLANHIGION
Planhigyn, cynnyrch planhigyn neu beth arall
Nifer
Ffi (oriau gwaith yn ystod y dydd)
Ffi (oriau gwaith heb fod yn ystod y dydd)
Torion, egin blanhigion (ac eithrio deunydd coedwigaeth atgenhedlol), planhigion mefus neu lysiau ifanc
Fesul llwyth
— hyd at 10,000 o nifer
£13.24
£19.86
— am bob 1,000 o unedau ychwanegol
£0.52
£0.78
— uchafbris
£105.92
£158.88
Llwyni, coed (ac eithrio coed Nadolig wedi eu torri), planhigion meithrinfa prennaidd eraill yn cynnwys deunydd coedwigaeth atgenhedlol (ac eithrio had)
Fesul llwyth
— hyd at 1,000 o nifer
£13.24
£19.86
— am bob 100 o unedau ychwanegol
£0.33
£0.49
— uchafbris
£105.92
£158.88
Bylbiau, cormau, rhisomau, cloron (heblaw cloron tatws) y bwriedir eu plannu
Fesul llwyth
— hyd at 200 kg o bwysau
£13.24
£19.86
— am bob 10 kg ychwanegol
£0.12
£0.18
— uchafbris
£105.92
£158.88
Hadau, meinweoedd meithrin
Fesul llwyth
— hyd at 100 kg o bwysau
£5.67
£8.50
— am bob 10 kg ychwanegol
£0.13
£0.19
— uchafbris
£105.92
£158.88
Planhigion eraill y bwriedir eu plannu, ac nas pennir mewn man arall yn yr Atodlen hon
Fesul llwyth
— hyd at 5,000 o nifer
£13.24
£19.86
— am bob 100 o unedau ychwanegol
£0.13
£0.19
— uchafbris
£105.92
£158.88
Blodau wedi eu torri
Fesul llwyth
— hyd at 20,000 o nifer
£13.24
£19.86
— am bob 1,000 o unedau ychwanegol
£0.10
£0.15
— uchafbris
£105.92
£158.88
Canghennau gyda deiliant, rhannau o gonifferau (ac eithrio coed Nadolig sydd wedi eu torri)
Fesul llwyth
— hyd at 100 kg o bwysau
£13.24
£19.86
— am bob 100 kg ychwanegol
£1.32
£1.98
— uchafbris
£105.92
£158.88
Coed Nadolig wedi eu torri
Fesul llwyth
— hyd at 1,000 o nifer
£13.24
£19.86
— am bob 100 o unedau ychwanegol
£1.32
£1.98
— uchafbris
£105.92
£158.88
Dail planhigion, megis perlysiau, sbeisys a llysiau deiliog
Fesul llwyth
— hyd at 100 kg o bwysau
£13.24
£19.86
— am bob 10 kg ychwanegol
£1.32
£1.98
— uchafbris
£105.92
£158.88
Ffrwythau, llysiau (ac eithrio llysiau deiliog)
Fesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o bwysau
£13.24
£19.86
— am bob 1,000 kg ychwanegol
£0.52
£0.78
Cloron tatws
Fesul lot
— hyd at 25,000 kg o bwysau
£39.72
£59.58
— am bob 25,000 kg ychwanegol
£39.72
£59.58
Pridd a chyfrwng tyfiant, rhisgl
Fesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o bwysau
£13.24
£19.86
— am bob 1,000 kg ychwanegol
£0.52
£0.78
— uchafbris
£105.92
£158.88
Grawn
Fesul llwyth
— hyd at 25,000 kg o bwysau
£13.24
£19.86
— am bob 1,000 kg ychwanegol
£0.52
£0.78
— mwyafswm
£529.60
£794.40
Planhigion eraill neu gynhyrchion planhigion eraill nas pennir mewn man arall yn yr Atodlen hon, ac eithrio coed coedwigol
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru ac sy'n dod i rym ar 1 Chwefror 2006, yn rhoi effaith i Erthygl 13d o Gyfarwyddeb y Cyngor 2000/29/EC dyddiedig 8 Mai 2000 (OJ Rhif L 169, 10.7.00, t.1), fel y'i diwygiwyd ddiwethaf gan Gyfarwyddeb y Comisiwn 2005/15/EC dyddiedig 28 Chwefror 2005 (OJ Rhif L 56, 2.3.2005, t. 12), ("y Gyfarwyddeb"), sy'n ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau godi ffioedd i gwrdd â'r costau sy'n digwydd oherwydd gwiriadau dogfennol, gwiriadau adnabod a gwiriadau iechyd planhigion ar fewnforion planhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill penodol o drydydd gwledydd y darperir ar eu cyfer yn erthygl 13a(1) o'r Gyfarwyddeb.
Mae'n ofynnol i fewnforiwr dalu'r ffi a bennir yn Atodlen 1 ar gyfer gwiriadau iechyd planhigion a wneir, ac eithrio os yw ffioedd archwilio gostyngol ar fewnforion yn gymwys (rheoliad 4(2) a (3)). Mae Atodlen 2 yn pennu'r ffioedd gostyngol sy'n gymwys, pa un a wneir archwiliad ai peidio, o ran gwiriadau iechyd planhigion ar flodau penodol sydd wedi cael eu torri ac ar ffrwythau penodol sy'n tarddu o wledydd a bennir yn yr Atodlen honno (rheoliad 4(3)).
Mae'n ofynnol i fewnforiwr dalu'r ffi a bennir yn Atodlen 3 ar gyfer gwiriadau dogfennol a gwiriadau adnabod (rheoliad 4(4)).
Cafodd Arfarniad Rheoliadol ei baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn. Gellir cael copïau oddi wrth Adran yr Amgylchedd, Cynllunio a Chefn Gwlad, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.