Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006, ISBN 011091256X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 22, 42(6) a 43(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998[1], yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Grantiau a Benthyciadau Dysgu y Cynulliad (Addysg Uwch) (Cymru) 2006. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Mawrth 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(b) cwrs gradd anrhydedd amser-llawn sy'n dechrau ar 1 Medi 2006 neu ar ei ôl a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs amser-llawn gradd sylfaenol ac y mae'r myfyriwr wedi derbyn dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004 neu 2005 ar ei gyfer; (c) cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon sy'n dechrau cyn 1 Medi 2006 nad yw'n para am fwy na dwy flynedd (mynegir hyd cwrs rhan-amser mewn modd sy'n gyfartal i hyd y cwrs llawn-amser sy'n cyfateb iddo) a hwnnw'n gwrs y mae myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol arno, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn union ar ôl rhoi'r gorau i fod yn bresennol ar gwrs gradd gyntaf ac y mae'r myfyriwr wedi derbyn dyfarniad trosiannol, benthyciad o dan Reoliadau 1998 neu gymorth o dan Reoliadau 1999, 2000, 2001, 2002, 2003, 2004 neu 2005 ar ei gyfer;
(b) cyfnodau pryd y caiff myfyriwr ei gyflogi ac y bydd yn preswylio mewn gwlad y mae ei hiaith yn un y mae'r myfyriwr yn ei hastudio at ei gwrs (ar yr amod bod y cyfnod o breswylio yn y wlad honno yn un o ofynion ei gwrs a bod astudio un neu fwy o ieithoedd modern yn cyfrif am nid llai na hanner cyfanswm yr amser a dreulir yn astudio ar y cwrs);
(b) Cyngor Ymchwil Biodechnoleg a'r Gwyddorau Biolegol, (c) Y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, (ch) Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol, (d) Y Cyngor Ymchwil Meddygol, (dd) Cyngor Ymchwil yr Amgylchedd Naturiol, (e) Cyngor Ymchwil Ffiseg Ronynnol a Seryddiaeth;
(b) yn sir Essex, yn nosbarth Epping Forest—
plwyf Waltham Abbey;
(c) yn sir Hertfordshire—
dosbarth Hertsmere, yn nosbarth Welwyn Hatfield, plwyf Northaw; ac
(ch) yn sir Surrey—
bwrdeistrefi Epsom ac Ewell a Spelthorne, yn nosbarth Reigate a Banstead, ardal cyn ddosbarth trefol Banstead;
(b) sy'n dechrau ar 1 Ebrill ac sy'n diweddu ar 30 Mehefin; (c) sy'n dechrau ar 1 Gorffennaf ac sy'n diweddu ar 31 Awst; neu (ch) sy'n dechrau ar 1 Medi ac sy'n diweddu ar 31 Rhagfyr;
(b) yn honni ei fod wedi'i ymgorffori neu wedi'i gysylltu felly er mwyn cael ei ddefnyddio i sefydlu bod y cyfathrebiad neu'r data yn ddilys, bod y cyfathrebiad neu'r data yn gyflawn, neu'r ddau;
(b) sy'n fyfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd, (c) sy'n cychwyn ar y cwrs cyfredol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 os yw'r cwrs hwnnw yn gwrs pen-ben mewn cysylltiad â chwrs y cychwynnodd arno cyn 1 Medi 2006 neu, yn achos myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd, cyn 1 Medi 2007, neu (ch) sy'n cychwyn ar y cwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2006 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, oddi ar gwrs dynodedig y cychwynnodd y myfyriwr hwnnw arno cyn 1 Medi 2006 neu, yn achos myfyriwr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd, cyn 1 Medi 2007, ac y penderfynodd y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw, ei fod yn fyfyriwr cymwys;
(2) At ddibenion y Rheoliadau hyn, bernir bod person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon neu'r Ynysoedd o ganlyniad i symud o un arall o'r ardaloedd hynny er mwyn ymgymryd—
(b) â chwrs dynodedig blaenorol yr oedd y myfyriwr, gan anwybyddu unrhyw wyliau yn y cyfamser, yn ymgymryd ag ef yn union cyn ymgymryd â'i gwrs presennol,
yn preswylio yn gyffredinol yn y lle y symudodd y person hwnnw ohono.
(b) sydd ar unrhyw adeg cyn neu ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym wedi dod yn rhan o'r naill neu'r llall neu'r ddwy o'r ardaloedd hyn,
bob amser wedi bod yn rhan o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd.
(b) o dan amgylchiadau lle mae gan y person fel un o wladolion y Deyrnas Unedig hawl Gymunedol orfodadwy i gael ei drin heb fod yn llai ffafriol na gwladolyn Aelod-wladwriaeth arall mewn perthynas â materion sy'n destun Rheoliad y Cyngor a grybwyllwyd uchod.
(6) Yn y Rheoliadau hyn—
(ii) os yw'n cynnwys cyfnodau o astudio amser-llawn mewn sefydliad am yn ail â chyfnodau o brofiad gwaith; a (iii) gan gymryd y cwrs yn ei gyfanrwydd, os yw'r myfyriwr yn bresennol ar y cyfnodau o astudio amser-llawn am nid llai na 18 wythnos ym mhob blwyddyn ar gyfartaledd;
(b) er mwyn cyfrifo presenoldeb y myfyriwr, trinnir y cwrs fel pe bai'n dechrau gyda'r cyfnod cyntaf o astudio amser-llawn ac yn diweddu gyda'r cyfnod olaf o'r fath; ac
(7) Ac eithrio yn achos rheoliad 27 (grant at deithio), mae cyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at "bresenoldeb" myfyriwr cymwys ar gwrs dynodedig yn cynnwys ymgymryd â chwrs drwy ddysgu o hirbell os nad yw'r myfyriwr cymwys yn gallu bod yn bresennol yn gorfforol am ei fod yn anabl.
(b) sy'n cychwyn ar flwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol cyn 1 Medi 2007.
(10) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i fyfyriwr cymwys—
(b) na allai dderbyn y cynnig oherwydd na ddyfarnwyd iddo gymhwyster neu safon dynodedig, (c) a apeliodd yn erbyn y penderfyniad i beidio dyfarnu'r cymhwyster neu'r safon iddo, (ch) os caniatawyd yr apêl ar ôl y dyddiad diwethaf y gallasai'r myfyriwr fod wedi derbyn y cynnig, (d) os, o ganlyniad i ganiatáu'r apêl honno, y cafodd gynnig lle ar y cwrs presennol, a (dd) os yw blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs perthnasol yn cychwyn ar ôl 31 Awst 2006 ond cyn 1 Medi 2007.
(11) At ddibenion paragraff (2)(a) mae cwrs ("y cwrs gwreiddiol") yn gyffelyb i'r cwrs presennol—
(b) ac eithrio pan nad yw'r cwrs gwreiddiol yn cael ei ddarparu bellach, os yw'r cwrs presennol yn cael ei ddarparu gan y sefydliad a fuasai wedi darparu'r cwrs gwreiddiol.
(12) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y cwrs dynodedig a bennir" ("specified designated course") yw'r cwrs presennol yn ddarostyngedig i baragraffau (13) a (14).
(b) Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) 2005; ac (c) Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Diwygio) (Rhif 2) 2005.
(2) Mae Rheoliadau 2003 yn parhau'n gymwys i ddarparu cymorth i fyfyrwyr mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2003 ond cyn 1 Medi 2004.
(b) os na roddwyd dyfarniad o dan Ddeddf 1962 mewn perthynas â'r cwrs ond y byddai dyfarniad trosiannol wedi'i roi i'r person pe bai wedi gwneud cais am ddyfarniad o dan Ddeddf 1962 a phe na bai ei adnoddau wedi bod yn fwy na'i anghenion,
mae'r person yn fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn at ddibenion Rhannau 4, 5 a 6 mewn cysylltiad â'r cwrs, neu mewn cysylltiad ag unrhyw gwrs dilynol y byddai'r dyfarniad (a roddwyd neu a fyddai wedi'i roi o dan Ddeddf 1962) wedi'i drosglwyddo iddo pe bai dyfarniadau trosiannol yn darparu ar gyfer taliadau ar ôl blwyddyn gyntaf cwrs, ond oni bai bod paragraff (7) yn gymwys mae gan y person hawl i gael cymorth ar ffurf benthyciad o dan Ran 7 dim ond os yw'n fyfyriwr cymwys o dan y Rheoliadau hyn ac os yw'n bodloni amodau'r hawl i gael cefnogaeth o dan Ran 7. Myfyrwyr cymwys 4. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad â chwrs dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn ac yn unol â hwy. (2) Mae person yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig—
(b) os nad yw'r person wedi'i hepgor gan baragraff (3).
(3) Ni fydd person yn fyfyriwr cymwys—
(b) os yw'r person yn gymwys i gael benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs o dan Ddeddf Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) 1990 neu Orchymyn Addysg (Benthyciadau i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1990; (c) os rhoddwyd neu os talwyd i'r person mewn perthynas â'i bresenoldeb ar y cwrs—
(ii) unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992[35];
(ch) os yw'r person wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(4) At ddibenion paragraffau (3)(ch) a (3)(d), ystyr "benthyciad" ("loan") yw benthyciad a roddwyd o dan y ddeddfwriaeth ar fenthyciadau i fyfyrwyr.
(b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y mae paragraff 3(d) yn gymwys.
(6) Rhaid i fyfyriwr cymwys y mae blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn dechrau mewn perthynas ag ef ar neu ar ôl 1 Medi 2000 beidio, ar unrhyw un adeg, â bod â hawl i gael cymorth—
(b) at gwrs dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig; (c) at gwrs dynodedig a chwrs ôl-raddedig dynodedig.
(7) Er gwaethaf paragraff (2), mae person yn fyfyriwr cymwys at ddibenion y Rheoliadau hyn os yw'n bodloni'r gofynion ym mharagraff (8), (9) neu (10).
(b) bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs presennol; ac (c) nad yw statws y person wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.
(9) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—
(b) bod y person wedi ymgymhwyso fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'r cwrs presennol yn gwrs pen-ben mewn perthynas ag ef ; (c) mai dim ond ar y sail yr oedd y myfyriwr wedi cwblhau'r cwrs y peidiodd y cyfnod cymhwystra mewn perthynas â'r cwrs yn is-baragraff (b); ac (ch) bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn is-baragraff (b).
(10) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—
(ii) yn fyfyriwr cymwys mewn cysylltiad â chwrs dynodedig heblaw'r cwrs presennol,
(b) bod statws y myfyriwr fel myfyriwr rhan-amser cymwys neu fel myfyriwr cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
Cyrsiau dynodedig
(b) yn un o'r canlynol—
(ii) cwrs rhyngosod; neu (iii) cwrs rhan-amser ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon;
(c) yn para am o leiaf un flwyddyn academaidd; ac
(2) Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.
(b) bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac (c) ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[36].
(4) Bernir bod cwrs y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddo yn gwrs sengl ar gyfer gradd gyntaf neu ar gyfer cymhwyster cyfatebol—
(b) er gwaetha'r ffaith y gall rhan o'r cwrs fod yn ddewisol.
(5) Mae paragraff (4) yn gymwys i gwrs nad yw ei safon yn uwch na gradd gyntaf ac sy'n arwain at gymhwyster fel doctor meddygol, deintydd, doctor milfeddygol, pensaer, pensaer tirluniau, dylunydd tirluniau, rheolwr tirluniau, cynllunydd tref neu gynllunydd gwlad a thref.
(b) bod un flwyddyn ychwanegol yn cael ei hadio yn achos myfyriwr cymwys na gwblhaodd yn llwyddiannus y cwrs blaenorol diweddaraf oherwydd rhesymau personol anorchfygol.
(5) Er gwaethaf paragraff (1), dim ond ar gyfer grant neu fenthyciad at ffioedd neu grant at gostau byw mewn perthynas â'r cwrs presennol am y nifer o flynyddoedd academaidd sy'n hafal i (A+R+1)−Y y mae myfyriwr sy'n parhau yn gymwys.
(b) OD yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n ffurfio'r cyfnod y mae ei angen fel arfer i gwblhau'r cwrs presennol; (c) PC yw nifer y blynyddoedd y bu'r myfyriwr cymwys yn mynychu cwrs blaenorol; (ch) R yw nifer y blynyddoedd academaidd sy'n cael eu hailwneud ar y cwrs presennol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006 a'r rheini'n gyfnodau o ailwneud y blynyddoedd academaidd cynt nad oedd y myfyriwr yn gallu eu cwblhau'n llwyddiannus oherwydd rhesymau personol anorchfygol; (d) Y yw nifer blynyddoedd y cwrs presennol, neu'r cwrs blaenorol yn achos myfyriwr sy'n trosglwyddo, ac y penderfynwyd mewn perthynas â'r cwrs hwnnw cyn 1 Medi 2006 o dan reoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf nad oedd cymorth ar gael; (dd) Z yw nifer y blynyddoedd academaidd a dreuliwyd ar gwrs blaenorol gan ddechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006; (e) myfyriwr cymwys dan yr hen drefn a ddechreuodd y cwrs presennol cyn 1 Medi 2006 ystyr "myfyriwr sy'n parhau" ("continuing student") yw; (f) ystyr "myfyriwr ar gwrs hyfforddi athrawon" ("teacher training student") yw myfyriwr sy'n mynychu cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon os nad yw cyfnod arferol y cwrs yn para'n hwy na 2 flynedd (gan fynegi cyfnod cwrs rhan-amser yn ôl yr hyn sy'n cyfateb i gwrs amser-llawn) ac nad yw'r myfyriwr cymwys yn athro neu athrawes gymwysedig; (ff) ystyr "myfyriwr sy'n trosglwyddo" ("transferring student") yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau'r cwrs presennol ar neu ar ôl 1 Medi 2006 wedi i'w statws fel myfyriwr cymwys gael ei drosglwyddo i'r cwrs hwnnw o ganlyniad i un neu fwy nag un trosglwyddiad o'r statws hwnnw, yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf, oddi ar gwrs dynodedig y cychwynnodd y myfyriwr hwnnw arno cyn 1 Medi 2006.
(10) Wrth gyfrifo nifer y blynyddoedd at ddibenion y paragraff hwn, trinnir presenoldeb am ran o flwyddyn academaidd fel blwyddyn academaidd gyfan.
(b) yn rhoi'r gorau i'w gwrs dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(14) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth; (c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 49.
Astudio blaenorol
(b) bod unrhyw ysgoloriaeth, arddangostal, bwrsari, grant, lwfans neu ddyfarniad o unrhyw ddisgrifiad a oedd ar gael mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar y cwrs i dalu ffioedd wedi'i dalu o'r cronfeydd cyhoeddus neu o gronfeydd a oedd i'w priodoli i'r cronfeydd cyhoeddus gan unrhyw berson neu gorff, cyhoeddus neu breifat.
(7) Yn y rheoliad hwn a rheoliad 6, ystyr "cyfnod arferol y cwrs" ("ordinary duration of the course") yw nifer y blynyddoedd academaidd y byddai myfyriwr safonol yn eu cymryd i gwblhau'r cwrs dynodedig ac ystyr "myfyriwr safonol" ("standard student") yw myfyriwr sydd i'w ystyried yn un—
(b) nad yw wedi'i esgusodi o ran o unrhyw ran o'r cwrs am ei fod wedi bod yn bresennol ar gwrs arall; (c) na fydd yn ailwneud unrhyw ran o'r cwrs; ac (ch) nad yw'n absennol o'r cwrs ac eithrio yn ystod y gwyliau.
Trosglwyddo statws
(b) os yw wedi ei fodloni bod un neu fwy nag un o'r seiliau trosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac (c) os nad yw cyfnod y cymhwystra wedi dod i ben neu wedi cael ei derfynu.
(2) Y seiliau trosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1) yw—
(b) bod y myfyriwr cymwys yn dechrau bod yn bresennol ar gwrs dynodedig mewn sefydliad arall gyda chaniatâd awdurdod academaidd y sefydliad hwnnw; (c) ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer y Dystysgrif mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, ar gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; (ch) ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer gradd (ac eithrio gradd anrhydedd) Baglor mewn Addysg, bod y myfyriwr cymwys, ar gwblhau'r cwrs hwnnw neu cyn hynny, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd Baglor mewn Addysg naill ai yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad arall; neu (d) ar ôl cychwyn ar gwrs ar gyfer gradd gyntaf (ac eithrio gradd anrhydedd) bod y myfyriwr cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu yn yr un pynciau yn y sefydliad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae myfyriwr cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) yn parhau i dderbyn, mewn cysylltiad â'r cwrs y bydd yn trosglwyddo iddo, y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo'r hawl i'w gael, mewn cysylltiad â'r cwrs y bydd yn trosglwyddo oddi arno, am weddill y flwyddyn academaidd y bydd yn trosglwyddo ynddi. Ceisiadau am gymorth 9. —(1) Rhaid i berson (y "ceisydd") wneud cais am gymorth mewn cysylltiad â phob blwyddyn academaidd ar gwrs dynodedig drwy lenwi a chyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol gais ar unrhyw ffurf a chan ddarparu unrhyw ddogfennau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdanynt. (2) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr cymwys, a oes gan y ceisydd hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes cymorth yn daladwy o gwbl. (3) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hysbysu'r ceisydd a oes gan y ceisydd hawl neu beidio i gael cymorth ac, os oes gan y ceisydd hawl, swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd, os oes cymorth yn daladwy o gwbl. Terfynau amser 10. —(1) Y rheol gyffredinol yw bod rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n cael ei gyflwyno mewn perthynas â hi. (2) Nid yw'r rheol gyffredinol ym mharagraff (1) yn gymwys—
(b) os cydnabuwyd y ceisydd, priod y ceisydd, partner sifil y ceisydd neu riant y ceisydd fel ffoadur neu os rhoddwyd caniatâd iddynt ddod i mewn neu aros fel y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1 ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y rhoddwyd y gydnabyddiaeth neu'r diwrnod y rhoddwyd y caniatâd, yn y drefn honno; (c) os nad yw'r ceisydd yn berson a grybwyllir ym mharagraff 7 neu baragraff 8 o Atodlen 1 ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi ond bod y ceisydd, o ganlyniad i'r ffaith bod y wladwriaeth y mae'r ceisydd yn wladolyn iddi yn ymaelodi â'r Gymuned Ewropeaidd, yn dod yn berson o'r fath, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o naw mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y mae'r wladwriaeth yn ymaelodi; (ch) os yw'r ceisydd yn gwneud cais ar wahân am fenthyciad at gostau byw o dan reoliad 31 neu am swm ychwanegol o fenthyciad o dan reoliad 43(3), ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi; (d) os yw'r ceisydd yn gwneud cais am fenthyg swm ychwanegol o fenthyciad o dan reoliad 43(1), ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach nag un mis cyn diwedd y flwyddyn academaidd y mae'r cais yn cyfeirio ati neu o fewn cyfnod o un mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y caiff y ceisydd hysbysiad ynglŷn â'r uchafswm wedi'i gynyddu, p'un bynnag yw'r olaf; (dd) os yw'r ceisydd yn gwneud cais am grant o dan reoliad 19, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol; (e) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddo.
Gwybodaeth Amodau'r hawl i gael grantiau at ffioedd 12. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 6 a 7, mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn hawl yn unol â'r rheoliad hwn i gael grant mewn perthynas â'r ffioedd[37] am flwyddyn academaidd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â phresenoldeb y myfyriwr ar gwrs dynodedig, neu mewn cysylltiad â'r presenoldeb hwnnw mewn modd arall. (2) Pennir swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn unol â rheoliad 13 neu 14. (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael cymorth mewn perthynas â blwyddyn academaidd—
(b) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm; (c) os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS[38] ac—
(ii) bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(ch) os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-raddedig hyblyg.
Swm y grant at ffioedd mewn sefydliad a ariennir yn gyhoeddus
(b) mewn perthynas â chwrs rhyngosod, blwyddyn academaidd—
(ii) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, os yw cyfanswm unrhyw gyfnod neu gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos;
(c) mewn perthynas â chwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (yn cynnwys cwrs sy'n arwain at radd gyntaf), blwyddyn academaidd pryd y mae cyfanswm unrhyw gyfnodau o astudio amser-llawn yn llai na 10 wythnos;
(ii) mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ac unrhyw flynyddoedd academaidd blaenorol ar y cwrs, bod y cyfanswm o un neu fwy nag un o gyfnodau o bresenoldeb nad ydynt yn gyfnodau o astudio amser-llawn yn y sefydliad yn y Deyrnas Unedig (gan anwybyddu gwyliau yn y cyfamser) yn fwy na 30 wythnos; neu
(d) mewn perthynas â chwrs a ddarperir gan y Sefydliad Prydeinig ym Mharis a gychwynnodd cyn 1 Medi 2001.
(3) Yn achos cwrs dynodedig yng Ngholeg Heythrop, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,145.
(b) os yw'r cwrs dynodedig yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac (c) os nad oes yr un o'r amgylchiadau yn rheoliad 13(2) yn gymwys.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5) a (6), swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd mewn sefydliad preifat yw £600—
(b) os yw'r cwrs dynodedig yn cael ei ddarparu ar ran sefydliad a ariennir yn gyhoeddus; ac (c) os oes un neu fwy nag un o'r amgylchiadau yn rheoliad 13(2) yn gymwys.
(4) Yn achos cwrs dynodedig ym Mhrifysgol Buckingham, swm y grant at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £2,840. Amodau cyffredinol yr hawl i gael benthyciadau at ffioedd 15. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig o dan y Rhan hon ar yr amod nad yw'r myfyriwr wedi ei eithrio rhag bod yn gymwys gan y paragraff canlynol, gan reoliad 6 neu reoliad 7. (2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd—
(b) os yw, mewn perthynas â'r flwyddyn honno, yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at ei incwm; (c) os yw'n cymryd rhan yng nghynllun gweithredu y Gymuned Ewropeaidd ar gyfer symudedd myfyrwyr prifysgol sy'n cael ei adnabod fel ERASMUS[39] ac—
(ii) bod yr holl gyfnodau astudio yn ystod y flwyddyn academaidd yn gyfnodau astudio mewn sefydliad y tu allan i'r Deyrnas Unedig; neu
(ch) os yw'n ymgymryd â chwrs HCA ôl-raddedig hyblyg.
Benthyciadau at gyfraniad at ffioedd
(ii) os bydd y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r cynydd yn yr uchafswm yn digwydd oherwydd i'r myfyriwr cymwys dan yr hen drefn—
(bb) darparu gwybodaeth y mae unrhyw fanylyn perthnasol ohoni yn anghywir.
(5) Nid yw'r swm ychwanegol ym mharagraff (4), pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn swm sy'n fwy na'r uchafswm a gafodd ei gynyddu.
(b) y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(3) Yn yr achosion a bennir yn rheoliad 13(2), uchafswm y benthyciad at ffioedd mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw £1,500.
(b) bod blwyddyn academaidd y cwrs y mae'r myfyriwr dan y drefn newydd yn trosglwyddo iddo yn dechrau ar ddyddiad diweddarach na blwyddyn academaidd y cwrs y trosglwyddodd y myfyriwr hwnnw oddi arno.
(6) Pan fo paragraff (5)(a) yn gymwys, rhaid i'r swm ychwanegol y caiff myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ei fenthyg mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo iddi beidio â bod yn fwy na swm hafal i'r ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr hwnnw mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno, wedi didynnu oddi ar y swm hwnnw unrhyw fenthyciad at ffi y mae'r myfyriwr hwnnw wedi ei godi mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y trosglwyddod oddi arni.
(b) y ffioedd sy'n daladwy gan y myfyriwr mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu mewn cysylltiad â hi mewn modd arall.
(8) Pan fo myfyriwr cymwys dan y drefn newydd wedi gwneud cais am fenthyciad at ffi sy'n llai na'r uchafswm sydd ar gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd, caiff wneud cais i fenthyg swm ychwanegol nad yw, pan ychwanegir ef at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm perthnasol sy'n gymwys yn achos y myfyriwr hwnnw. Amodau cyffredinol yr hawl i gael grantiau at gostau byw 18. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon ar yr amod—
(b) bod y myfyriwr yn bodloni amodau'r hawl i gael y grant penodol at gostau byw y mae'n gwneud cais amdano.
(2) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant at gostau byw o dan y Rhan hon os paragraff 7 yw'r unig baragraff o baragraffau 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano.
(b) pryd y mae'r myfyriwr yn gymwys i gael lwfans gofal iechyd yr Alban y mae ei swm yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y myfyriwr; neu (c) cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon pryd y mae cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn, gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu, yn llai na 6 wythnos.
(4) Nid yw paragraff (3)(c) yn gymwys at ddibenion rheoliad 19.
(b) gwasanaeth di-dâl gydag awdurdod lleol yn y Deyrnas Unedig sy'n gweithredu i arfer eu swyddogaethau sy'n ymwneud â gofal plant a phersonau ifanc, iechyd neu les neu gyda chorff gwirfoddol sy'n darparu cyfleusterau neu sy'n cynnal gweithgareddau o natur debyg yn y Deyrnas Unedig; (c) gwasanaeth di-dâl yn y gwasanaeth carchardai neu'r gwasanaeth prawf ac ôl-ofal yn y Deyrnas Unedig; (ch) ymchwil ddi-dâl mewn sefydliad yn y Deyrnas Unedig neu, yn achos myfyriwr sy'n bresennol mewn sefydliad tramor fel rhan o'i gwrs, mewn sefydliad tramor; neu (d) gwasanaeth di-dâl gydag—
(ii) Bwrdd Iechyd neu Fwrdd Iechyd Arbennig a gyfansoddwyd o dan adran 2 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978[43]; neu (iii) Bwrdd Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a sefydlwyd o dan Erthygl 16 o Orchymyn Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Personol (Gogledd Iwerddon) 1972[44].
(7) Os daw myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (8), fe gaiff y myfyriwr fod â hawl i gael grant penodol at gostau byw yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael grant at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(b) bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu ei fod yn cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros fel y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1.
Grantiau at gostau byw myfyrwyr anabl
(b) £4,795 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol; (c) y gwariant ychwanegol sy'n cael ei dynnu—
(ii) yn y Deyrnas Unedig neu'r tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad tramor neu er mwyn bod yn bresennol yn y Sefydliad Prydeinig ym Mharis;
(ch) £1,605 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei dynnu at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.
(5) Os yw'r myfyriwr cymwys wedi cael taliadau i helpu gyda gwariant ar eitemau mawr o offer arbenigol mewn cysylltiad â'r cwrs yn rhinwedd y ffaith bod ganddo ddyfarniad trosiannol, mae uchafswm y grant o dan baragraff (4)(b) yn cael ei ostwng yn ôl swm y taliadau hynny.
(b) os yw cyfanswm y cyfnodau o bresenoldeb amser-llawn mewn unrhyw flwyddyn academaidd ar y cwrs hwnnw, (gan gynnwys presenoldeb er mwyn ymarfer dysgu) yn llai na 6 wythnos.
Grantiau i fyfyrwyr sydd wedi ymadael â gofal
(b) bod y myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(dd) o Atodlen 4; ac (c) ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, fod y myfyriwr cymwys o dan fwy o galedi ariannol yn rhinwedd y ffaith ei fod yn syrthio o fewn paragraff 2(dd) o Atodlen 4 nag a fuasai fel arall.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), swm y grant yw unrhyw swm y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei fod yn briodol o dan yr amgylchiadau.
(b) na fydd y myfyriwr yn bresennol ar ei gwrs yn ystod yr un rhan ohoni.
Grantiau ar gyfer dibynyddion- cyffredinol
(b) grant gofal plant; (c) lwfans dysgu rhieni.
(2) Nodir amodau hawlio pob elfen a'r symiau sy'n daladwy yn rheoliadau 22 i 25.
(b) dibynnydd mewn oed i'r myfyriwr cymwys nad yw ei incwm net yn fwy na £3,350.
(3) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael ei gyfrifo yn unol â rheoliad 25, a'r swm sylfaenol yw—
(b) pan fo'r person y mae'r myfyriwr cymwys yn gwneud cais mewn cysylltiad ag ef am grant dibynyddion mewn oed yn preswylio fel arfer y tu allan i'r Deyrnas Unedig, unrhyw swm nad yw'n fwy na £2,455 ac sydd ym marn y Cynulliad Cenedlaethol yn rhesymol yn yr amgylchiadau.
(4) Mae swm y grant dibynyddion mewn oed a gyfrifir o dan reoliad 25 yn cael ei ostwng o hanner—
(ii) yn dal dyfarniad statudol; a
(b) os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw â hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.
Grantiau ar gyfer dibynyddion- grant gofal plant
(b) os oes gan y plentyn anghenion addysgol arbennig o fewn yr ystyr a briodolir i "special educational needs" yn adran 312 o Ddeddf Addysg 1996[45] a'i fod o dan 17 oed yn union cyn dechrau'r flwyddyn academaidd.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael grant o dan y rheoliad hwn os yw'r myfyriwr neu bartner y myfyriwr wedi dewis cael yr elfen gofal plant o'r credyd treth gweithio o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002[46].
(b) ar gyfer dau neu fwy o blant dibynnol, 85 y cant o gostau'r gofal plant, hyd at uchafswm o £300 yr wythnos,
ac eithrio nad oes gan y myfyriwr hawl i gael unrhyw grant o'r fath mewn perthynas â phob wythnos sy'n syrthio o fewn y cyfnod rhwng diwedd y cwrs a diwedd y flwyddyn academaidd y daw'r cwrs i ben ynddi.
(b) os yw wythnos y caiff costau gofal plant eu tynnu mewn perthynas â hi yn syrthio'n rhannol o fewn y flwyddyn academaidd y mae grant gofal plant yn daladwy mewn perthynas â hi o dan y rheoliad hwn ac yn rhannol y tu allan iddi, mae uchafswm wythnosol y grant yn cael ei gyfrifo drwy luosi'r uchafswm wythnosol perthnasol ym mharagraff (4) â chyfrannedd y nifer o ddyddiau yn yr wythnos honno sy'n syrthio o fewn y flwyddyn academaidd o'i chymharu â nifer y dyddiau mewn wythnos.
(6) Mae swm y grant gofal plant a gyfrifir o dan reoliad 25 yn cael ei ostwng o hanner—
(ii) yn dal dyfarniad statudol; a
(b) os cymerir dibynyddion y partner hwnnw i ystyriaeth wrth gyfrifo swm y cymorth y mae'r partner hwnnw â hawl i'w gael neu'r taliad y mae ganddo hawlogaeth iddo o dan y dyfarniad statudol.
(7) Yn y rheoliad hwn—
(b) ystyr "darparydd gofal plant wedi'i gofrestru" ("registered childcare provider") yw person sy'n gweithredu fel gofalwr plant neu sy'n darparu gofal dydd ac sydd wedi'i gofrestru o fewn ystyr adran 79F o Ddeddf Plant 1989[48] (cofrestru neu wrthod cofrestru gofalwyr plant a phersonau sy'n darparu gofal dydd i blant ifanc).
Grantiau ar gyfer dibynyddion- lwfans dysgu rhieni
(b) i ostwng swm sylfaenol y grant gofal plant am y flwyddyn academaidd os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 23; ac (c) i ostwng swm sylfaenol y lwfans dysgu rhieni os oes gan y myfyriwr cymwys hawl i gael yr elfen honno o dan reoliad 24.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), os yw B yn fwy na neu'n hafal i A, mae swm sylfaenol pob elfen o'r grant ar gyfer dibynyddion y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w chael yn daladwy.
B yw £1,075 os nad oes gan y myfyriwr cymwys blentyn dibynnol; £3,225 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol; £4,300 os nad yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol; £4,300 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo un plentyn dibynnol; £5,380 os yw'r myfyriwr cymwys yn rhiant unigol a bod ganddo fwy nag un plentyn dibynnol.
(8) Mae paragraffau (9) i (12) yn gymwys os bydd unrhyw un o'r canlynol yn digwydd, yn ystod y flwyddyn academaidd—
(b) bod person yn dod yn ddibynnydd i'r myfyriwr cymwys neu'n peidio â bod yn ddibynnydd iddo; (c) bod y myfyriwr cymwys yn dod yn rhiant unigol neu'n peidio â bod yn rhiant unigol; (ch) bod myfyriwr yn dod yn fyfyriwr cymwys o ganlyniad i ddigwyddiad y cyfeirir ato yn rheoliad 18(8).
(9) Er mwyn penderfynu priod werthoedd A a B ac a oes grant dibynyddion mewn oed neu lwfans dysgu rhieni yn daladwy, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol benderfynu ar y canlynol mewn perthynas â phob chwarter perthnasol drwy gyfeirio at amgylchiadau'r myfyriwr yn y chwarter perthnasol—
(b) pwy yw'r dibynyddion hynny; (c) a yw'r myfyriwr i gael ei drin fel rhiant unigol.
(10) Swm y grant ar gyfer dibynyddion am y flwyddyn academaidd yw cyfanswm y grant dibynyddion mewn oed a'r lwfans dysgu rhieni wedi'u cyfrifo mewn perthynas â phob chwarter perthnasol o dan baragraff (11) a swm unrhyw grant gofal plant am y flwyddyn academaidd.
(b) fel arall, chwarter heblaw'r chwarter pryd y mae'r un hiraf o unrhyw wyliau yn digwydd, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
Grantiau ar gyfer dibynyddion- dehongli
(b) ystyr "dibynnydd" ("dependant"), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw partner y myfyriwr, plentyn dibynnol y myfyriwr neu ddibynnydd mewn oed, nad yw ym mhob achos yn fyfyriwr cymwys ac nad oes ganddo ddyfarniad statudol; (c) ystyr "dibynnydd mewn oed" ("adult dependant"), mewn perthynas â myfyriwr cymwys, yw person mewn oed sy'n dibynnu ar y myfyriwr heblaw plentyn y myfyriwr, partner neu gyn bartner y myfyriwr (gan gynnwys priod neu bartner sifil nad yw fel arfer yn preswylio gyda'r myfyriwr); (ch) mae i "incwm net" ("net income") yr ystyr a roddir ym mharagraff (2); (d) yn ddarostyngedig i is-baragraffau (dd), (e) ac (f), ystyr "partner" ("partner") yw unrhyw un o'r canlynol—
(ii) partner sifil myfyriwr cymwys; (iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod i'r myfyriwr hwnnw os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 4 a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000; (iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r myfyriwr cymwys os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 4 a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(dd) nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (d) yn cael ei drin fel partner—
(ii) os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr cymwys;
(e) at ddibenion is-baragraff (c), mae person yn cael ei drin fel partner pe bai'r person yn bartner o dan is-baragraff (d) oni bai am y ffaith nad yw'r myfyriwr cymwys y mae'r person fel arfer yn byw gydag ef yn syrthio o fewn paragraff 2(a) o Atodlen 4;
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), incwm net dibynnydd yw incwm y dibynnydd o bob ffynhonnell am y flwyddyn academaidd o dan sylw wedi'i ostwng yn ôl swm y dreth incwm a'r cyfraniadau nawdd cymdeithasol sy'n daladwy mewn perthynas â hi ond gan anwybyddu—
(b) budd-dal plant sy'n daladwy o dan Ran IX o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992[49]; (c) unrhyw gymorth ariannol sy'n daladwy i'r dibynnydd gan awdurdod lleol yn unol â rheoliadau a wnaed o dan baragraff 3 o Atodlen 4 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[50]; (ch) unrhyw lwfans gwarcheidwad y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan adran 77 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 1992; (d) yn achos dibynnydd y mae plentyn sy'n derbyn gofal awdurdod lleol wedi'i fyrddio gydag ef, unrhyw daliad a wneir i'r dibynnydd hwnnw yn unol ag adran 23 o Ddeddf Plant 1989[51]; (dd) unrhyw daliadau a wneir i'r dibynnydd o dan adran 15 o Ddeddf Plant 1989 ac Atodlen 1 iddi mewn perthynas â pherson nad yw'n blentyn i'r dibynnydd neu unrhyw gymorth a roddir gan awdurdod lleol yn unol ag adran 24 o'r Ddeddf honno; ac (e) unrhyw gredyd treth plant y mae gan y dibynnydd hawlogaeth i'w gael o dan Ran I o Ddeddf Credydau Treth 2002.
(3) Os yw myfyriwr cymwys neu bartner y myfyriwr yn gwneud unrhyw daliadau ailgylchol a oedd gynt yn cael eu gwneud gan y myfyriwr yn unol â rhwymedigaeth a ysgwyddwyd cyn blwyddyn academaidd gyntaf cwrs y myfyriwr, incwm net y partner yw'r incwm net wedi'i gyfrifo yn unol â pharagraff (2) wedi'i ostwng yn ôl—
(b) unrhyw swm llai, os bydd unrhyw swm o gwbl, sy'n briodol ym marn y Cynulliad Cenedlaethol pe gallai rhwymedigaeth lai fod wedi'i hysgwyddo'n rhesymol, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol.
(4) At ddibenion paragraff (2), os yw'r dibynnydd yn blentyn dibynnol a bod taliadau'n cael eu gwneud i'r myfyriwr cymwys tuag at gynhaliaeth y plentyn, mae'r taliadau hynny i gael eu trin fel incwm y plentyn.
(b) yn hepgor unrhyw wariant y mae grant yn daladwy mewn perthynas ag ef o dan reoliad 19.
(6) Os bydd myfyriwr cymwys yn bresennol mewn sefydliad dros y môr neu'r Sefydliad Prydeinig ym Mharis am gyfnod o wyth wythnos o leiaf fel rhan o'i gwrs a'i fod yn rhesymol yn dynnu unrhyw wariant i yswirio yn erbyn atebolrwydd am gost triniaeth feddygol sy'n cael ei darparu y tu allan i'r Deyrnas Unedig ar gyfer unrhyw salwch neu anaf i'r corff a geir neu a ddioddefir yn ystod y cyfnod hwnnw, mae ganddo hawl i gael grant ychwanegol o dan y rheoliad hwn sy'n hafal i'r swm sy'n cael ei dynnu felly.
(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy na £15,970 ac nad yw'n fwy na £21,955, mae'r myfyriwr yn derbyn swm hafal i M− A, pan fo M yn £1,000 ac A yn £1 am bob £6.30 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £15,970; ac mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn fwy nag £21,955, nid oes grant yn daladwy o dan y rheoliad hwn.
Grant cynhaliaeth
(b) yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700; ac (c) yn achos myfyriwr dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700.
(5) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(b) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, bydd yn cael swm hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,350 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac (c) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, bydd yn cael £600.
(6) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(b) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, bydd yn cael swm hafal i M− A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac (c) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, bydd yn cael £1,200.
(7) Mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cynhaliaeth mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(b) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, bydd yn cael swm hafal i M− A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac (c) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500 ond heb fod uwchlaw £37,425, bydd yn derbyn swm hafal i RM−A, pan fo RM yn £1,200 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £26,500; (ch) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £37,425 ni thelir grant cynhaliaeth.
Grant Cymorth Arbennig
(b) yn achos myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700; ac (c) yn achos myfyriwr dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon, £2,700.
(4) Mae myfyriwr math 1 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(b) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, mae'n cael swm hafal i M−(A/2) pan fo M yn £1,350 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac (c) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, mae'n cael £600.
(5) Mae myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(b) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, mae'n cael swm hafal i M-A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac (c) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500, mae'n cael £1,200.
(6) Mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd ac eithrio myfyriwr math 1 neu fath 2 ar gwrs hyfforddi athrawon sydd â hawl i gael grant cymorth arbennig mewn perthynas â blwyddyn academaidd yn cael un o'r symiau a ganlyn mewn perthynas â'r flwyddyn honno—
(b) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £17,500 ond heb fod uwchlaw £26,500, mae'n cael swm hafal i M−A pan fo M yn £2,700 ac A yn £1 am bob £6 o incwm sydd gan yr aelwyd uwchlaw £17,500; ac (c) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500 ond heb fod uwchlaw £37,425, bydd yn derbyn swm hafal i RM− A, pan fo RM yn £1,200 ac A yn £1 am bob £9.50 cyflawn o incwm yr aelwyd uwchlaw £26,500; (ch) os yw incwm yr aelwyd uwchlaw £37,425, ni thelir grant cynhaliaeth.
Amodau'r hawl i gael benthyciadau at gostau byw 31. —(1) Mae gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn cysylltiad â'i bresenoldeb ar gwrs dynodedig os yw'r myfyriwr yn bodloni'r amod ym mharagraff (2) ac nad yw'n cael ei hepgor gan baragraff (3) na rheoliad 7. (2) Yr amod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) yw bod y myfyriwr cymwys o dan 60 oed ar y dyddiad perthnasol. (3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys hawl i gael benthyciad at gostau byw os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'r myfyriwr yn syrthio odano. Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn 32. —(1) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs carlam), yw—
(b) i fyfyriwr yng nghategori 2, £6,170; (c) i fyfyriwr yng nghategori 3, £5,255; (ch) i fyfyriwr yng nghategori 4, £5,255; (d) i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,405.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn sydd â hawlogaeth lawn hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs carlam yw—
(b) i fyfyriwr yng nghategori 2, £5,620; (c) i fyfyriwr yng nghategori 3, £4,570; (ch) i fyfyriwr yng nghategori 4, £4,570; (d) i fyfyriwr yng nghategori 5, £4,080.
Uchafswm benthyciadau i fyfyrwyr cymwys dan y drefn newydd sydd â hawlogaeth lawn
(ii) i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £6,170; (iii) i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £5,255; (iv) i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £5,255; (v) i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,405;
(3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam yn hafal i (X−Y)—
(ii) i fyfyriwr yng nghategori 2, yw £5,620; (iii) i fyfyriwr yng nghategori 3, yw £4,570; (iv) i fyfyriwr yng nghategori 4, yw £4,570; (v) i fyfyriwr yng nghategori 5, yw £4,080;
(4) Yn y rheoliad hwn, "swm y grant cynhaliaeth" ("the maintenance grant amount")—
(b) os oes gan y myfyriwr hawl o dan reoliad 29 i gael swm o grant cynhaliaeth uwchlaw £1,200, yw £1,200; ac (c) os nad oes grant cynhaliaeth yn daladwy, yw dim.
34.
—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i fyfyriwr math 1 a myfyriwr math 2 ar gwrs hyfforddi athrawon pan fo incwm yr aelwyd uwchlaw £37,900.
(b) £6,170, i fyfyriwr yng nghategori 2; (c) £5,255, i fyfyriwr yng nghategori 3; (ch) £5,255, i fyfyriwr yng nghategori 4; (d) £4,405, i fyfyriwr yng nghategori 5.
(3) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr y mae'r rheoliad hwn yn gymwys iddo hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs (ac eithrio blwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam) yw—
(b) £5,620, i fyfyriwr yng nghategori 2; (c) £4,570, i fyfyriwr yng nghategori 3; (ch) £4,570, i fyfyriwr yng nghategori 4; (d) £4,080, i fyfyriwr yng nghategori 5.
Myfyrwyr sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng
(ii) £3,030, i fyfyriwr yng nghategori 2; (iii) £2,160, i fyfyriwr yng nghategori 3; (iv) £2,160, i fyfyriwr yng nghategori 4; (v) £2,160, i fyfyriwr yng nghategori 5;
(b) os yw'r myfyriwr yn syrthio o dan reoliad 18(3)(c) neu 18(5)—
(ii) £3,030, i fyfyriwr yng nghategori 2; (iii) £2,585, i fyfyriwr yng nghategori 3; (iv) £2,585, i fyfyriwr yng nghategori 4; (v) £2,160, i fyfyriwr yng nghategori 5;
(c) os yw'r myfyriwr yn gwneud cais am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi manylion am incwm ei aelwyd—
(ii) £4,630, i fyfyriwr yng nghategori 2; (iii) £3,940, i fyfyriwr yng nghategori 3; (iv) £3,940, i fyfyriwr yng nghategori 4; (v) £3,905, i fyfyriwr yng nghategori 5.
(2) Yn ddarostyngedig i reoliadau 36 i 41, mae uchafswm y benthyciad at gostau byw y mae gan fyfyriwr, sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng, hawl i'w gael mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs sy'n flwyddyn derfynol cwrs nad yw'n gwrs carlam fel a ganlyn—
(ii) £2,320, i fyfyriwr yng nghategori 2; (iii) £1,680, i fyfyriwr yng nghategori 3; (iv) £1,680, i fyfyriwr yng nghategori 4; (v) £1,680, i fyfyriwr yng nghategori 5;
(b) os yw'r myfyriwr yn syrthio o dan reoliad 18(3)(c) neu 18(5)—
(ii) £2,320, i fyfyriwr yng nghategori 2; (iii) £1,885, i fyfyriwr yng nghategori 3; (iv) £1,855, i fyfyriwr yng nghategori 4; (v) £1,680, i fyfyriwr yng nghategori 5;
(c) os yw'r myfyriwr yn ceisio am fenthyciad at gostau byw ac yn dewis peidio â rhoi manylion am incwm ei aelwyd—
(ii) £4,215, i fyfyriwr yng nghategori 2; (iii) £3,430, i fyfyriwr yng nghategori 3; (iv) £3,430, i fyfyriwr yng nghategori 4; (v) £3,060, i fyfyriwr yng nghategori 5;
Myfyrwyr sy'n preswylio gyda'u rhieni
(b) uchafswm y benthyciad am bob chwarter o'r fath yw traean o uchafswm y benthyciad a fyddai'n gymwys am y flwyddyn academaidd pe bai'r myfyriwr yn syrthio i'r categori sy'n gymwys i'r chwarter perthnasol drwy gydol y flwyddyn academaidd; ac (c) yn ddarostyngedig i baragraff (2), y categori sy'n gymwys i chwarter yw'r canlynol—
(ii) os yw'r myfyriwr yn syrthio i fwy nag un categori am gyfnod cyfartal yn y cyfnod hwnnw, y categori sydd â'r gyfradd uchaf o fenthyciad am y flwyddyn academaidd.
(2) Ni ellir cymhwyso categori 3 at chwarter oni bai bod y myfyriwr yn bresennol mewn sefydliad dros y môr am hanner o leiaf o gyfnod y chwarter hwnnw.
(b) bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n cael caniatád i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros yno fel y crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1.
(3) Nid oes gan fyfyriwr cymwys y mae paragraff (1) yn gymwys iddo hawl i gael benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y mae'r digwyddiad perthnasol yn digwydd.
(b) i fyfyriwr yng nghategori 2, codiad o £98; (c) i fyfyriwr yng nghategori 3, codiad o £107; (ch) i fyfyriwr yng nghategori 4, codiad o £107; (d) i fyfyriwr yng nghategori 5, codiad o £77.
(2) Os yw myfyriwr cymwys yn bresennol ar ei gwrs am gyfnod heb fod yn llai na 45 wythnos mewn unrhyw gyfnod di-dor o 52 wythnos, rhaid codi swm y benthyciad at gostau byw a bennir yn rheoliadau 32 i 35 ar gyfer pob wythnos yn ystod y cyfnod o 52 wythnos pan nad oedd y myfyriwr yn bresennol yn ôl y symiau y cyfeirir atynt ym mharagraff (1).
(b) mae myfyriwr yng nghategori 2 os nad yw yng nghategori 1 a'i fod yn bresennol ar un neu fwy o'r canlynol—
(ii) cwrs mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bresennol am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle sydd yn gyfan gwbl neu yn rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd; neu (iii) cwrs rhyngosod mewn sefydliad sy'n ei gwneud yn ofynnol i'r myfyriwr cymwys ymgymryd â phrofiad gwaith neu gyfuniad o brofiad gwaith ac astudio ar yr amod bod y myfyriwr yn ymgymryd â'r profiad gwaith hwnnw neu'r cyfuniad hwnnw o brofiad gwaith ac astudio am hanner o leiaf o gyfanswm yr amser mewn unrhyw chwarter o'r cwrs yn y flwyddyn academaidd ar safle neu safleoedd sydd yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn ardal Dinas Llundain a chyn Ardal yr Heddlu Metropolitanaidd;
(c) mae myfyriwr yng nghategori 3 os nad yw yng nghategori 1 a'i fod yn bresennol mewn sefydliad dros y môr fel rhan o'i gwrs am o leiaf wyth wythnos yn olynol yn y flwyddyn academaidd;
(ii) nad yw'n gymwys am grant at gostau byw yn rhinwedd rheoliad 18(3)(c) nac 18(5); neu (iii) sydd, pan yn ymgeisio am fenthyciad at gostau byw, yn dewis peidio rhoi manylion am incwm ei aelwyd; (iv) os mai hyd cwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon yw un flwyddyn academaidd yn unig, nid yw'r flwyddyn honno i gael ei thrin fel y flwyddyn derfynol.
Symiau ychwanegol o fenthyciadau 43. —(1) Caiff myfyriwr cymwys wneud cais am gymryd benthyg swm ychwanegol o fenthyciad—
(b) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn nad yw'r cynnydd yn yr uchafswm yn deillio o'r ffaith bod y myfyriwr cymwys—
(ii) wedi rhoi gwybodaeth sy'n anghywir o ran unrhyw fanylyn perthnasol.
(2) Mae'r swm ychwanegol o dan baragraff (1) yn swm na fydd, o'i adio at y swm y gwnaed cais amdano eisoes, yn fwy na'r uchafswm wedi'i gynyddu. Cyfrifo'r cyfraniad 45. —(1) Cyfraniad myfyriwr cymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd yw'r swm a gyfrifir o dan Atodlen 4, os oes unrhyw swm o gwbl. (2) At ddibenion arfer swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Ddeddf a'r rheoliadau a wnaed odani, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ei gwneud yn ofynnol i fyfyriwr cymwys roi o dro i dro unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn angenrheidiol am incwm unrhyw berson y mae ei foddion yn berthnasol ar gyfer asesu cyfraniad y myfyriwr. Cymhwyso'r cyfraniad 46. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), rhaid i swm sy'n hafal i'r cyfraniad a gyfrifir o dan Atodlen 4 gael ei gymhwyso nes ei ddihysbyddu yn erbyn swm y grantiau a'r benthyciadau penodol y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w cael fel a ganlyn—
(b) yn ail, i ostwng ADG; (c) yn drydydd, i ostwng CCG; (ch) yn bedwerydd, i ostwng PLA; (d) yn bumed, i ostwng LLC i ddim llai na'r lefel isaf am y flwyddyn academaidd; (dd) yn chweched, i ostwng GFT.
(2) Yn achos myfyriwr cymwys dan yr hen drefn—
(ii) y swm sy'n weddill ar ôl didynnu'r cyfraniad o GFF yw swm y grant at ffioedd sy'n daladwy;
(b) pan fo rheoliad 13(2)(a) neu (c) yn gymwys neu fod yr amgylchiadau cyfatebol o dan reoliad 14(3) yn gymwys—
(ii) y swm sy'n weddill ar ôl didynnu'r cyfraniad o GFF yw swm y grant at ffioedd sy'n daladwy;
(c) pan fo rheoliad 13(2)(b), (ch) neu (d) yn gymwys neu fod yr amgylchiadau cyfatebol o dan reoliad 14(3) yn gymwys—
(ii) gostyngir £600 ar y cyfraniad cyn iddo gael ei gymhwyso yn erbyn GFF;
(ch) pan fo'r grant at ffioedd yn cael ei gyfrifo'n unol â rheoliad 14(1), 14(4), 14(5) neu 14(6);
(ii) nid oes unrhyw ostyngiad ar swm y grant at ffioedd a gyfrifir o dan reoliad 14; a (iii) mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG;
(d) pan fo'r cwrs dynodedig yn gwrs ar gyfer hyfforddiant cychwynnol athrawon (ac eithrio cwrs ar gyfer gradd gyntaf)—
(ii) nid oes unrhyw ostyngiad ar swm y grant at ffioedd a gyfrifir o dan reoliadau 13 a 14; a (iii) mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG;
(dd) Pan nad oes gan y myfyriwr yr hawl i gael grant at ffioedd ar gyfer y flwyddyn academaidd yn rhinwedd y ffaith ei fod yn cymryd rhan yn y rhaglen ERASMUS—
(ii) gostyngir £1,200 ar y cyfraniad; a (iii) mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG;
(e) pan nad oes gan y myfyriwr yr hawl i gael grant at ffioedd am unrhyw reswm arall, mae GFF yn ddim ac mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG.
(3) Yn achos myfyriwr cymwys dan y drefn newydd, mae GFF yn ddim ac mae'r cyfraniad yn cael ei gymhwyso'n gyntaf i ostwng ADG.
(b) CCG yw swm y grant gofal plant, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir yn unol â rheoliad 23; (c) PLA yw swm y lwfans dysgu rhieni, os oes unrhyw swm o gwbl, a gyfrifir o dan reoliad 24 (ac eithrio £50 cyntaf y lwfans); (ch) LLC yw swm y benthyciad at gostau byw, os oes un, y mae'r myfyriwr cymwys, ac eithrio myfyriwr sydd â hawlogaeth wedi ei gostwng, â'r hawl i'w gael o dan Ran 7; (d) GFT yw swm y grant at deithio y mae gan y myfyriwr cymwys hawl i'w gael o dan reoliad 27, os oes un;
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), y "lefel isaf am y flwyddyn academaidd" ("minimum level for the academic year") yw—
(b) £4,630, yn achos myfyriwr yng nghategori 2; (c) £3,940, yn achos myfyriwr yng nghategori 3; (ch) £3,940, yn achos myfyriwr yng nghategori 4; (d) £3,305, yn achos myfyriwr yng nghategori 5;
(6) Yn ddarostyngedig i baragraff (7), os yw'r flwyddyn academaidd o dan sylw yn flwyddyn derfynol cwrs heblaw cwrs carlam, "lefel isaf am y flwyddyn academaidd" yw—
(b) £4,215, yn achos myfyriwr yng nghategori 2; (c) £3,430, yn achos myfyriwr yng nghategori 3; (ch) £3,430, yn achos myfyriwr yng nghategori 4; (d) £3,060, yn achos myfyriwr yng nghategori 5.
(7) Os oes categorïau gwahanol yn gymwys o dan reoliad 38 ar gyfer gwahanol chwarteri o'r flwyddyn academaidd, y lefelau isaf ym mharagraffau (5) a (6) yw cyfanswm y symiau a bennir o dan baragraff (8) ar gyfer pob un o'r tri chwarter y mae benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hwy. Talu grantiau neu fenthyciadau at ffioedd 47. —(1) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd y mae gan fyfyriwr hawl i'w gael i'r sefydliad y mae'r myfyriwr yn atebol i'w dalu pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn cael cais dilys am daliad oddi wrth yr awdurdod academaidd perthnasol. (2) Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r grant neu'r benthyciad at ffioedd i'r awdurdod academaidd—
(b) nid hwyrach na 10 wythnos ar ôl diwedd y cyfnod yn is-baragraff (a), neu yn ddi-oed ar ôl i gais dilys am daliad ddod i law, os yw hynny yn hwyrach.
(3) Os yw asesu cyfraniad y myfyriwr neu faterion eraill wedi gohirio cyfrifiad terfynol swm y grant y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael, caiff y Cynulliad Cenedlaethol wneud asesiad dros dro.
(b) os yw'r awdurdod academaidd wedi penderfynu neu wedi cytuno na fydd y myfyriwr yn dechrau bod yn bresennol eto yn ystod y flwyddyn academaidd y mae'r ffioedd yn daladwy mewn perthynas â hi neu o gwbl.
Talu grantiau a benthyciadau at gostau byw
(b) faint yw'r swm llawn mewn perthynas â'r cyfnod sy'n rhedeg o ddiwrnod cyntaf y cyfnod talu perthnasol hyd at a chan gynnwys y diwrnod y mae'r myfyriwr yn tynnu'n ôl o'r cwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno ("y swm rhannol").
(6) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud taliadau o ran grantiau at gostau byw a chostau eraill mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol cyn y pwynt yn y cyfnod hwnnw pryd y mae'r myfyriwr yn tynnu'n ôl o'r cwrs, yn rhoi'r gorau iddo neu'n cael ei ddiarddel oddi arno a bod y taliad hwnnw'n fwy na'r swm rhannol—
(b) os yw'n credu ei bod yn briodol gwneud hynny, caiff estyn cyfnod hawlogaeth y myfyriwr tan ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a phenderfynu bod y swm llawn yn ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.
(7) Os oes taliad o grantiau at gostau byw a chostau eraill mewn perthynas â'r cyfnod talu perthnasol i fod i gael ei wneud neu os yw'n cael ei wneud ar ôl i'r myfyriwr dynnu'n ôl o'r cwrs, rhoi'r gorau iddo neu gael ei ddiarddel oddi arno, y swm sy'n ddyledus yw'r swm rhannol oni fydd y Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn briodol estyn y cyfnod hawlogaeth tan ddiwedd y cyfnod talu perthnasol a phenderfynu bod y swm llawn yn ddyledus mewn perthynas â'r cyfnod talu hwnnw.
(b) os yw'r penderfyniad yn gostwng swm y grant hwnnw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael mae'n rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dynnu swm y gostyngiad o swm y grant sydd ar ôl i'w dalu; (c) os yw swm y gostyngiad yn fwy na swm y grant sydd ar ôl i'w dalu mae'r swm olaf yn cael ei ostwng i ddim ac mae'r gweddill yn cael ei dynnu o unrhyw grant arall at gostau byw y mae gan y myfyriwr hawl i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd; (ch) rhaid i unrhyw ordaliad sy'n weddill gael ei adennill yn unol â rheoliad 49.
(13) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi gwneud unrhyw daliad cymorth o dan Ran 6 neu Ran 7 a bod myfyriwr sydd â hawl i gael benthyciad o dan Ran 7 yn gwneud cais am fenthyciad o'r fath neu'n gwneud cais am swm ychwanegol o fenthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol dalu'r benthyciad neu'r swm ychwanegol o fenthyciad a hynny mewn unrhyw randaliadau (os oes rhandaliadau) ac ar unrhyw adegau y mae'n credu eu bod yn briodol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i gais boddhaol ddod i law.
(b) os yw'r swm sydd i'w dynnu yn fwy na swm y benthyciad sydd ar ôl i'w dalu, mae'r swm olaf yn cael ei ostwng i ddim; (c) rhaid i unrhyw ordaliad sy'n weddill gael ei adennill yn unol â rheoliad 49.
(15) Mewn unrhyw achos lle bo angen cadarnhad o bresenoldeb, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â gwneud unrhyw daliad cymorth i'r myfyriwr cymwys o dan Ran 6 neu Ran 7 cyn i'r Cynulliad Cenedlaethol gael y cadarnhad hwnnw.
(b) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu y byddai'n briodol, oherwydd amgylchiadau eithriadol, i wneud taliad heb gael cadarnhad o bresenoldeb.
(18) Rhaid i sefydliad anfon y cadarnhad o bresenoldeb i'r Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd gyntaf y mae'r cadarnhad mewn perthynas â hi i fod i ddod i law.
(b) mewn unrhyw achos arall, yw cadarnhad oddi wrth y sefydliad bod y myfyriwr cymwys wedi ymgyflwyno yn y sefydliad hwnnw a'i fod wedi dechrau mynychu'r cwrs presennol.
Gordalu
(b) drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(4) Caniateir i unrhyw ordaliad benthyciad at gostau byw mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd gael ei adennill os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn—
(b) bod unrhyw wybodaeth y mae'r myfyriwr wedi'i rhoi yn anghywir o ran manylyn perthnasol; neu (c) bod y myfyriwr wedi methu â rhoi gwybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn berthnasol yng nghyd-destun adennill y benthyciad.
(5) Os oes gordaliad benthyciad at gostau byw yn adenilladwy yn unol â pharagraff (4), caniateir ei adennill ym mha un neu fwy bynnag o'r ffyrdd canlynol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu eu bod yn briodol o dan yr holl amgylchiadau—
(b) drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.
(6) Os cafwyd gordaliad benthyciad at gostau byw nad yw'n adenilladwy o dan baragraff (4), caiff y Cynulliad Cenedlaethol dynnu'r gordaliad o swm unrhyw fenthyciad sy'n daladwy i'r myfyriwr o dro i dro yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf. Myfyrwyr rhan-amser cymwys 50. —(1) Mae gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi. (2) Mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig—
(b) os nad yw'r person wedi'i hepgor gan baragraff (3).
(3) Nid yw person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys—
(ii) unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992[54]; neu (iii) lwfans gofal iechyd yr Alban p'un a yw swm y lwfans hwnnw yn cael ei gyfrifo drwy gyfeirio at incwm y person neu beidio;
(b) os yw'r person hwnnw wedi torri unrhyw rwymedigaeth i ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(4) Nid yw paragraff (3)(d) yn gymwys mewn perthynas â blwyddyn academaidd pryd y mae'r myfyriwr yn mynd i'r carchar i fwrw dedfryd mewn caethiwed neu'n cael ei ryddhau o'r carchar ar ôl bwrw dedfryd o'r fath.
(b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan nad oedd ganddo guradur y bydd paragraff 3(c) yn gymwys.
(7) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 53(1)(b) neu reoliad 54 os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.
(b) o dan reoliad 53(1)(b) neu 54 oni bai ei fod yn ymgymryd â'r cwrs rhan-amser dynodedig yn y Deyrnas Unedig.
(9) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 53 os yw wedi ymgymryd ag un neu fwy o gyrsiau rhan-amser am gyfanswm o wyth blynedd academaidd a'i fod wedi cael mewn perthynas â phob un o'r blynyddoedd academaidd hynny fenthyciad neu grant o'r math a ddisgrifir ym mharagraff (10).
(b) benthyciad, grant mewn perthynas â ffioedd neu grant at lyfrau, teithio a gwariant arall bob un wedi'i roi mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser gan yr Adran Cyflogi a Dysgu (Gogledd Iwerddon) yn unol â rheoliadau a wnaed o dan Erthyglau 3 ac 8(4) o Orchymyn Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) (Gogledd Iwerddon) 1998[55]; neu (c) benthyciad mewn perthynas â blwyddyn academaidd cwrs rhan-amser a roddwyd yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adrannau 73(f), 73B a 74(1) o Ddeddf Addysg (Yr Alban) 1980[56].
(11) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys hawl i gael cymorth o dan reoliad 53 os oes ganddo radd gyntaf oddi wrth sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig.
(b) os ymgymerwyd â'r cwrs mewn sefydliad addysgol yn y Deyrnas Unedig; ac (c) os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi'i gofrestru i barhau â'r cwrs yn yr un sefydliad addysgol ar ôl i'w radd gael ei dyfarnu er mwyn sicrhau gradd anrhydedd pan gwblheir y modiwlau, yr arholiadau neu'r dulliau asesu eraill sy'n angenrheidiol.
(13) Os daw myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod blwyddyn academaidd o ganlyniad i un o'r digwyddiadau a restrir ym mharagraff (14), caiff fod â hawl i gael cymorth yn unol â'r Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno ond nid oes ganddo hawl i gael cymorth o dan y Rhan hon mewn perthynas ag unrhyw flwyddyn academaidd sy'n dechrau cyn y flwyddyn academaidd y digwyddodd y digwyddiad perthnasol ynddi.
(b) bod y myfyriwr, priod y myfyriwr, partner sifil y myfyriwr neu riant y myfyriwr yn cael ei gydnabod fel ffoadur neu'n cael caniatâd i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros yno fel y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1.
(15) Er gwaethaf paragraff (2), mae person yn fyfyriwr rhan-amser cymwys at ddibenion y Rhan hon os yw'n bodloni'r amodau ym mharagraffau (16) neu (17).
(b) bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs; ac (c) nad yw statws y person wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.
(17) Yr amodau yn y paragraff hwn yw—
(ii) yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â chwrs rhan-amser dynodedig heblaw'r cwrs presennol;
(b) bod statws y myfyriwr fel myfyriwr cymwys neu fel myfyriwr rhan-amser cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs hwnnw wedi'i drosi neu wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosi neu drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf;
(18) Nid oes gan fyfyriwr rhan-amser cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth—
(b) at gwrs rhan-amser dynodedig a chwrs dynodedig; (c) at gwrs rhan-amser dynodedig a chwrs ôl-raddedig dynodedig.
Cyrsiau rhan-amser dynodedig
(b) os yw'n para o leiaf un flwyddyn academaidd ac nad yw'n para fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau cwrs amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster; (c) os yw'n cael ei ddarparu'n gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac (ch) nad yw wedi'i ddynodi gan neu o dan reoliad 5.
(2) Nid yw cwrs sy'n syrthio o fewn paragraff 6 neu 7 o Atodlen 2 yn gwrs rhan-amser dynodedig os yw corff llywodraethu ysgol a gynhelir wedi trefnu darparu'r cwrs hwnnw i un o ddisgyblion yr ysgol.
(b) bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac (c) ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[57].
(4) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 50(1) caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi gan baragraff (1).
(b) yn rhoi'r gorau i'w gwrs rhan-amser dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael unrhyw gymorth penodol neu unrhyw swm penodol o gymorth; (c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 61.
Cymorth at gyrsiau rhan-amser
(ii) y "ffioedd gwirioneddol" ("actual fees"), sef swm y ffioedd a godir mewn perthynas â blwyddyn academaidd ar y cwrs rhan-amser dynodedig; a
(b) grant nad yw'n fwy na £1,000 at lyfrau, teithio a gwariant arall mewn cysylltiad â'r cwrs rhan-amser dynodedig.
(2) Mae'r grant sylfaenol yn amrywio yn ôl pa mor ddwys yw'r astudio.
(4) Y "grant sylfaenol" ("basic grant") yw—
(b) £710 os yw dwysedd yr astudio yn 60 y cant neu fwy ond yn llai na 75 y cant ("lefel 2"); (c) £885 os yw dwysedd yr astudio yn 75 y cant neu'n fwy ("lefel 3").
(5) Yn ddarostyngedig i baragraffau (6) a (7), mae swm y cymorth sy'n daladwy mewn perthynas â blwyddyn academaidd fel a ganlyn—
(ii) o dan Ran 1 o Ddeddf Ceisio Gwaith 1995[59] i gael lwfans ceisio gwaith ar sail incwm; (iii) neu o dan adran 2 o Ddeddf Cyflogaeth a Hyfforddiant 1973[60] i gael lwfans y fargen newydd;
(b) os yw'r incwm perthnasol yn llai na £15,345, mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1) yn daladwy;
(6) Os yw paragraff (5)(ch) yn gymwys, pennir swm y cymorth sy'n daladwy o dan baragraff (1)(a) drwy dynnu o uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) un o'r symiau canlynol—
(b) os yw'r grant sylfaenol yn fwy na'r ffioedd gwirioneddol, swm sy'n hafal i'r hyn sy'n weddill ar ôl didynnu o'r swm a gyfrifwyd o dan is-baragraff (a) y gwahaniaeth rhwng y grant sylfaenol a'r ffioedd gwirioneddol (oni bai bod y swm yn Rhif negyddol ac os felly mae uchafswm y cymorth sydd ar gael o dan baragraff (1)(a) yn daladwy).
(7) Os caiff myfyriwr gymorth o dan reoliad 57 perthynas â mwy nag un cwrs rhan-amser dynodedig mewn blwyddyn academaidd, uchafswm y cymorth o dan baragraff (1)(a) am y flwyddyn honno yw swm y grant sylfaenol am y cwrs sydd â'r dwysedd astudio uchaf y mae'r myfyriwr yn ymgymryd ag ef yn y flwyddyn academaidd honno.
(b) ystyr "blwyddyn ariannol flaenorol" ("preceding financial year") yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn ariannol gyfredol; (c) ystyr "dibynnol" ("dependent") yw ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf; (ch) ystyr "y flwyddyn ariannol gyfredol" ("current financial year") yw'r flwyddyn ariannol sy'n cynnwys diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae person yn cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi; (d) ystyr "incwm" ("income") yw incwm gros o bob ffynhonnell heb gynnwys unrhyw gredydau treth a ddyfarnwyd yn unol ag unrhyw geisiadau o dan adran 3 o Ddeddf Credydau Treth 2002; (dd) mae i "incwm perthnasol" ("relevant income") yr ystyr a roddir ym mharagraff (9); (e) yn ddarostyngedig i is-baragraff (e), ystyr "partner" ("partner") yw unrhyw un o'r canlynol—
(ii) partner sifil myfyriwr rhan-amser cymwys; (iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod neu'u barther sifil iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn 25 oed neu drosodd ar ddiwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'n cael ei asesu ar gyfer cymorth mewn perthynas â hi ac os dechreuodd y myfyriwr rhan-amser cymwys ar y cwrs rhan-amser dynodedig cyn 1 Medi 2006; (iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr rhan-amser cymwys fel pe bai'n briod neu'n bartner sifil iddo os yw'r myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ar y cwrs rhan-amser dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2006;
(f) nid yw person a fyddai fel arall yn bartner o dan is-baragraff (e) yn cael ei drin fel partner—
(ii) os yw'r person fel arfer yn byw y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac nad yw'n cael ei gynnal gan y myfyriwr rhan-amser;
(ff) mae "plentyn" ("child") mewn perthynas â myfyriwr rhan-amser cymwys yn cynnwys unrhyw blentyn i'w bartner ac unrhyw blentyn y mae ganddo gyfrifoldeb rhiant drosto;
(9) At ddibenion y rheoliad hwn—
(ii) £2,000 mewn perthynas â'r unig blentyn neu'r plentyn hynaf sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner; a (iii) £1,000 mewn perthynas â phob plentyn arall sy'n ddibynnol ar y myfyriwr neu ei bartner;
(b) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod adnoddau ariannol myfyriwr rhan-amser cymwys yn y flwyddyn ariannol flaenorol yn fwy na'i adnoddau ariannol yn y flwyddyn ariannol gyfredol a bod y gwahaniaeth rhwng y ddau swm yn £1,000 neu fwy, caiff asesu adnoddau ariannol y myfyriwr hwnnw o dan is-baragraff (a) drwy gyfeirio at yr adnoddau hynny yn y flwyddyn ariannol gyfredol;
Grantiau at gostau byw myfyrwyr rhan-amser anabl
(b) £4,795 mewn perthynas â phob blwyddyn academaidd yn ystod y cyfnod cymhwystra at wariant ar eitemau mawr o offer arbenigol; (c) y gwariant ychwanegol sy'n cael ei dynnu—
(ii) yn y Deyrnas Unedig neu y tu allan iddi er mwyn bod yn bresennol, fel rhan o'i gwrs, ar unrhyw gyfnod astudio mewn sefydliad dros y môr neu er mwyn bod yn bresennol yn y Sefydliad Prydeinig ym Mharis;
(ch) £1,200 mewn perthynas â blwyddyn academaidd at unrhyw wariant arall gan gynnwys gwariant sy'n cael ei dynnu at y dibenion y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a) neu (b) sy'n fwy na'r uchafsymiau penodedig.
Ceisiadau am gymorth
(b) os cydnabuwyd y ceisydd, priod y ceisydd, partner sifil y ceisydd neu riant y ceisydd fel ffoadur neu os rhoddwyd caniatâd iddynt ddod i mewn neu aros fel y'i crybwyllir ym mharagraff 3 o Atodlen 1 ar ôl diwrnod cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth mewn perthynas â hi, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol o fewn cyfnod o chwe mis sy'n dechrau gyda'r diwrnod y rhoddwyd y gydnabyddiaeth neu'r caniatâd, yn y drefn honno; neu (c) os yw'r ceisydd yn gwneud cais am gymorth o dan reoliad 54, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol; (ch) os yw'r Cynulliad Cenedlaethol o'r farn, ar ôl rhoi sylw i amgylchiadau'r achos penodol, y dylid llacio'r terfyn amser, ac os felly rhaid i'r cais gyrraedd y Cynulliad Cenedlaethol heb fod yn hwyrach na'r dyddiad a bennir ganddo.
(4) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol gymryd unrhyw gamau a gwneud unrhyw ymholiadau y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw'r ceisydd yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, a oes ganddo hawl i gael cymorth a swm y cymorth sy'n daladwy, os oes swm yn daladwy o gwbl.
(b) os yw wedi'i fodloni bod un neu fwy o'r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac (c) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.
(2) Dyma'r seiliau dros drosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(b) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn sefydliad arall; neu (c) ar ôl cychwyn cwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd gyntaf (heblaw gradd anrhydedd) bod y myfyriwr rhan-amser cymwys, cyn cwblhau'r cwrs hwnnw, yn cael ei dderbyn ar gwrs rhan-amser dynodedig ar gyfer gradd anrhydedd yn yr un pwnc neu bynciau yn y sefydliad.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i fyfyriwr rhan-amser cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau, am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.
(b) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.
(2) Os yw'r myfyriwr, cyn cwblhau'r cwrs dynodedig, yn trosglwyddo i gwrs rhan-amser yn yr un pwnc neu bynciau sy'n arwain at yr un cymhwyster yn yr un sefydliad, trinnir y cwrs rhan-amser fel pe bai'n bodloni rheoliad 51(1)(b) os yw cyfnod yr astudio rhan-amser yr ymgymerir ag ef gan y myfyriwr yn para am flwyddyn academaidd o leiaf ac nad yw'n fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau gweddill y cwrs dynodedig y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo oddi wrtho.
(b) mae uchafswm y grant y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, yn unol â rheoliad 54 mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs rhan-amser dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr rhan-amser cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr rhan-amser cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno; (c) os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr o dan reoliad 19 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo yn unol â rheoliad 54 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (b) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 19, ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim; ac (ch) os oedd y myfyriwr, yn union cyn dod yn fyfyriwr rhan-amser cymwys, yn gymwys i wneud cais, ond ei fod heb wneud cais, am fenthyciad at gostau byw mewn perthynas â'r flwyddyn honno, neu heb wneud cais am yr uchafswm neu'r uchafswm wedi'i gynyddu yr oedd ganddo hawlogaeth i'w gael, caiff wneud cais am y benthyciad hwnnw neu unrhyw swm ychwanegol o fenthyciad fel pe bai wedi parhau yn fyfyriwr cymwys; ac o dan yr holl amgylchiadau a grybwyllir ym mharagraff (4) mae uchafswm y benthyciad hwnnw neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad hwnnw yn cael ei ostwng yn unol â'r paragraff hwnnw.
(4) Os yw'r cais o dan baragraff (1) yn cael ei wneud yn ystod chwarter cyntaf y flwyddyn academaidd y mae'r benthyciad yn daladwy mewn perthynas â hi, mae uchafswm y benthyciad neu uchafswm wedi'i gynyddu y benthyciad (yn ôl fel y digwydd) yn cael ei ostwng o ddau draean, ac os yw'r cais yn cael ei wneud yn ail chwarter y flwyddyn honno mae'r swm hwnnw'n cael ei ostwng o un traean.
(b) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.
(6) Mae'r canlynol yn gymwys i fyfyriwr sy'n trosglwyddo o dan baragraff (5)—
(b) rhaid i unrhyw gymorth y mae gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael o dan y Rhan hon mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae'r myfyriwr yn trosglwyddo ynddi gael ei anwybyddu wrth bennu swm y cymorth y gall fod ganddo hawlogaeth i'w gael mewn perthynas â'r flwyddyn honno o dan Rannau 4 i 7; (c) mae uchafswm unrhyw gymorth o dan Ran 6 neu 7 y byddai gan y myfyriwr hawlogaeth i'w gael, heblaw am y rheoliad hwn, mewn cysylltiad â chwrs dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd honno yn cael ei ostwng o un traean os daeth y myfyriwr yn fyfyriwr cymwys yn ystod ail chwarter y flwyddyn academaidd honno ac o ddau draean os daeth yn fyfyriwr cymwys mewn chwarter arall yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno; ac (ch) os oes swm o grant at unrhyw ddiben wedi'i dalu i'r myfyriwr yn unol â rheoliad 54 mewn un rhandaliad, mae uchafswm y grant sy'n daladwy iddo o dan reoliad 19 at y diben hwnnw yn cael ei ostwng (neu, os yw is-baragraff (c) yn gymwys, ei ostwng ymhellach) yn ôl swm y grant a dalwyd iddo at y diben hwnnw yn unol â rheoliad 54 ac os yw'r swm sy'n deillio o hyn yn ddim neu'n swm negyddol, bydd y swm hwnnw yn ddim.
Talu cymorth i fyfyrwyr rhan-amser cymwys
(b) drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Myfyrwyr ôl-raddedig cymwys 62. —(1) Mae gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl, yn ddarostyngedig i'r Rhan hon ac yn unol â hi, i gael grant i helpu gyda'r gwariant ychwanegol y mae'n ofynnol iddo ei dynnu mewn cysylltiad ag ymgymryd â chwrs ôl-raddedig dynodedig oherwydd anabledd sydd ganddo. (2) Mae person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â chwrs ôl-raddedig dynodedig os yw'r person hwnnw'n bodloni'r amodau ym mharagraff (3) ac nad yw wedi'i hepgor gan baragraff (4). (3) Dyma'r amodau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2)—
(b) bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni ei bod yn ofynnol i'r person dynnu gwariant ychwanegol mewn perthynas ag ymgymryd â'r cwrs oherwydd anabledd sydd ganddo.
(4) Nid yw person yn fyfyriwr ôl-raddedig cymwys—
(ii) unrhyw lwfans o dan Reoliadau Lwfansau Myfyrwyr Nyrsio a Bydwreigiaeth (Yr Alban) 1992[61]; (iii) unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan Gyngor Ymchwil; (iv) unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan ei sefydliad sy'n cynnwys unrhyw daliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a ysgwyddwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu (v) unrhyw lwfans, bwrsari neu ddyfarniad o ddisgrifiad tebyg a wnaed gan y Cyngor Gofal Cymdeithasol Cyffredinol o dan adran 67(4)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[62] sy'n cynnwys taliad er mwyn talu am wariant ychwanegol a yswyddwyd gan y myfyriwr oherwydd ei anabledd; neu
(b) os yw wedi torri rhwymedigaeth o ad-dalu unrhyw fenthyciad;
(5) At ddibenion paragraffau (4)(b) a (4)(c) ystyr "benthyciad" ("loan") yw benthyciad a wneir o dan ddeddfwriaeth benthyciadau myfyrwyr.
(b) gyda chydsyniad curadur y benthyciwr neu ar adeg pan na fu ganddo guradur.
(7) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys hawl i gael grant o dan y Rhan hon os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae'n syrthio odano.
(b) bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs ôl-raddedig dynodedig presennol; ac (c) nad yw statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i derfynu.
(11) Yr amodau yw—
(b) bod statws y myfyriwr fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys mewn cysylltiad â'r cwrs yn is-baragraff (a) wedi'i drosglwyddo o'r cwrs hwnnw i'r cwrs presennol o ganlyniad i drosglwyddo unwaith neu fwy yn unol â rheoliadau a wnaed o dan adran 22 o'r Ddeddf; (c) bod y person wedi bod yn preswylio'n arferol yng Nghymru ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs yn is-baragraff (a); ac (ch) nad yw statws y person fel myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi'i derfynu.
(12) Nid oes gan fyfyriwr ôl-raddedig cymwys, ar unrhyw un adeg, hawl i gael cymorth at y canlynol—
(b) cwrs ôl-raddedig dynodedig a chwrs dynodedig; (c) cwrs ôl-raddedig dynodedig a chwrs rhan-amser dynodedig.
Cyrsiau ôl-raddedig dynodedig
(b) os yw'n gwrs—
(ii) yn achos cwrs rhan-amser, nad yw'n para fwy na dwywaith y cyfnod y mae ei angen fel rheol i gwblhau cwrs amser-llawn sy'n arwain at yr un cymhwyster;
(c) os yw'n cael ei ddarparu yn gyfan gwbl gan sefydliad neu sefydliadau addysgol yn y Deyrnas Unedig a ariennir yn gyhoeddus neu'n cael ei ddarparu gan sefydliad neu sefydliadau o'r fath ar y cyd â sefydliad neu sefydliadau y tu allan i'r Deyrnas Unedig; ac
(2) At ddibenion paragraff (1)—
(b) bernir bod prifysgol ac unrhyw goleg neu sefydliad cyfansoddol sydd o natur coleg prifysgol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus os yw naill ai'r brifysgol neu'r coleg neu sefydliad cyfansoddol yn cael eu hariannu'n gyhoeddus; ac (c) ni fernir bod sefydliad yn cael ei ariannu'n gyhoeddus dim ond am ei fod yn cael arian cyhoeddus oddi wrth gorff llywodraethu sefydliad addysg uwch yn unol ag adran 65(3A) o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992[63].
(3) At ddibenion adran 22 o'r Ddeddf a rheoliad 62, caiff y Cynulliad Cenedlaethol ddynodi cyrsiau addysg uwch nad ydynt wedi'u dynodi o dan baragraff (1).
(b) yn rhoi'r gorau i'w gwrs ôl-raddedig dynodedig neu'n cael ei ddiarddel oddi arno.
(5) Caiff y Cynulliad Cenedlaethol derfynu'r cyfnod cymhwystra os yw'r myfyriwr ôl-raddedig cymwys wedi dangos drwy ei ymddygiad nad yw'n addas i gael cymorth.
(b) penderfynu nad oes gan y myfyriwr hawl mwyach i gael grant neu unrhyw swm penodol o grant; (c) trin unrhyw gymorth a dalwyd i'r myfyriwr fel gordaliad y caniateir ei adennill o dan reoliad 70.
Trosglwyddo statws
(b) os yw wedi'i fodloni bod un neu fwy o'r seiliau dros drosglwyddo ym mharagraff (2) yn gymwys; ac (c) os nad yw'r cyfnod cymhwystra wedi dod i ben neu wedi'i derfynu.
(2) Dyma'r seiliau dros drosglwyddo y cyfeirir atynt ym mharagraff (1)—
(b) bod y myfyriwr ôl-raddedig cymwys yn dechrau ymgymryd â chwrs ôl-raddedig dynodedig mewn sefydliad arall gyda chydsyniad awdurdod academaidd y sefydliad hwnnw.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i fyfyriwr ôl-raddedig cymwys sy'n trosglwyddo o dan baragraff (1) barhau, am weddill y flwyddyn academaidd y mae'n trosglwyddo ynddi, i gael mewn cysylltiad â'r cwrs y mae'n trosglwyddo iddo y cymorth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi penderfynu bod ganddo hawl i'w gael mewn perthynas â'r cwrs y mae'n trosglwyddo oddi wrtho.
(b) drwy gymryd unrhyw gamau eraill i adennill gordaliad sydd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol.
1. Person sydd ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs—
(b) yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.
2.
Person sy'n ffoadur, sydd fel arfer yn preswylio yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd, sydd heb roi'r gorau i breswylio felly ers cael ei gydnabod fel ffoadur, neu sy'n briod, yn bartner sifil neu'n blentyn i ffoadur o'r fath, ac ym mhob achos yn bodloni'r amod preswylio ym mharagraff 9(a).
(b) wedi cael caniatâd i ddod i mewn neu i aros yn unol â hyn; ac (c) wedi bod yn preswylio fel arfer yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd drwy gydol y cyfnod ers cael caniatâd i ddod i mewn neu aros,
neu sy'n briod, yn bartner sifil, yn blentyn neu'n llysblentyn i berson o'r fath, os yw'r person neu, yn ôl fel y digwydd, y priod, y partner sifil, y plentyn neu'r llysblentyn, yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.
(b) yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.
5.
Person sy'n briod neu'n bartner sifil i weithiwr mudol o'r AEE ac sydd—
(b) yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.
6.
Person sy'n blentyn i weithiwr mudol o'r AEE ac sydd—
(b) yn bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraff 9.
At ddibenion y paragraff hwn, mae "rhiant" ("parent") yn cynnwys gwarcheidwad, unrhyw berson arall sydd â chyfrifoldeb rhiant dros blentyn ac unrhyw berson sy'n gofalu am blentyn ac mae "plentyn" yn cael ei ddehongli yn unol â hyn.
(b) sy'n bodloni'r amodau preswylio y cyfeirir atynt ym mharagraffau 9(b) ac (c); ac (c) nad yw'n syrthio o fewn paragraff 8.
8.
Person sydd, ar ddiwrnod cyntaf blwyddyn academaidd y cwrs, yn wladolyn o Aelod-wladwriaeth y Gymuned Ewropeaidd—
(b) a fu'n preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd; (c) sydd, os yw'n wladolyn o'r Deyrnas Unedig, â hawl i gael ei drin nid yn llai ffafriol na gwladolyn o Aelod-wladwriaeth arall yn rhinwedd ei fod wedi arfer hawl Gymunedol i rydd-symudiad; ac (ch) oedd, mewn achos lle yr oedd ei breswyliad arferol y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) yn gyfan gwbl neu'n bennaf at ddibenion cael addysg amser-llawn, yn preswylio fel arfer yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd yn union cyn cyfnod o breswyliad arferol y cyfeirir ato is-baragraff (b).
9.
Dyma'r amodau preswylio y cyfeirir atynt uchod—
(b) bod y person wedi bod yn preswylio fel arfer drwy gydol y cyfnod o dair blynedd cyn diwrnod cyntaf blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs, yn achos person a grybwyllir ym mharagraffau 1 neu 3, yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu, yn achos person a grybwyllir ym mharagraffau 4, 5, 6 neu 7, yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir; ac (c) nad yw preswyliad y person yn y Deyrnas Unedig a'r Ynysoedd neu yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu'r Swistir, yn ôl fel y digwydd, yn ystod unrhyw ran o'r cyfnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) wedi bod yn gyfan gwbl neu'n bennaf er mwyn cael addysg amser-llawn.
1. Cwrs gradd gyntaf heblaw cwrs y cyfeirir ato ym mharagraff 4. 2. Cwrs ar gyfer y Ddiploma Addysg Uwch. 3. Cwrs ar gyfer Diploma Genedlaethol Uwch neu Dystysgrif Genedlaethol Uwch y canlynol—
(b) Awdurdod Cymwysterau'r Alban.
4.
Cwrs o hyfforddiant cychwynnol i athrawon, gan gynnwys cwrs o'r fath sy'n arwain at radd gyntaf.
(b) yr arholiad ar gyfer Tystysgrif Genedlaethol neu Ddiploma Genedlaethol y naill neu'r llall o'r cyrff a grybwyllwyd ym mharagraff 3,
nad yw'n gwrs y mae angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol.
(b) nad yw'n uwch na safon cwrs gradd gyntaf,
ac nad oes angen gradd gyntaf (neu gymhwyster cyfatebol) i gael mynediad iddo fel rheol. 1. Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cael cais am wneud hynny, rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi i'r Cynulliad Cenedlaethol unrhyw wybodaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu bod arno ei hangen at ddibenion y Rheoliadau hyn. 2. Rhaid i bob ceisydd, pob myfyriwr cymwys, pob myfyriwr rhan-amser cymwys a phob myfyriwr ôl-raddedig cymwys roi gwybod ar unwaith i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhoi'r manylion iddo os bydd unrhyw rai o'r canlynol yn digwydd—
(b) ei fod yn trosglwyddo i unrhyw gwrs arall yn yr un sefydliad neu mewn sefydliad gwahanol; (c) ei fod yn rhoi'r gorau i ymgymryd â'i gwrs ac nad yw'n bwriadu parhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd neu nad yw'n cael caniatâd i barhau ag ef am weddill y flwyddyn academaidd; (ch) ei fod yn absennol o'i gwrs am fwy na 60 diwrnod oherwydd salwch neu am unrhyw gyfnod am unrhyw reswm arall; (d) bod y mis ar gyfer dechrau'r cwrs neu ei gwblhau yn newid; (dd) bod ei gyfeiriad neu ei rif ffôn gartref neu yn ystod y tymor yn newid.
3.
Rhaid i'r wybodaeth a roddir i'r Cynulliad Cenedlaethol o dan y Rheoliadau hyn fod yn y ffurf y gofynnir amdani gan y Cynulliad Cenedlaethol ac, os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn bod yr wybodaeth yn cael ei llofnodi gan y person sy'n ei rhoi, caniateir i lofnod electronig ar unrhyw ffurf a bennir gan y Cynulliad Cenedlaethol fodloni'r gofyniad hwnnw. Diffiniadau 1. Yn yr Atodlen hon:—
(b) ystyr "blwyddyn ariannol" ("financial year") yw'r cyfnod o ddeuddeng mis y mae incwm person y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gyfrifo o dan ddarpariaethau'r Atodlen hon yn cael ei gyfrifo at ddibenion y ddeddfwriaeth ar dreth incwm sy'n gymwys iddo mewn perthynas â hi; (c) ystyr "blwyddyn ariannol flaenorol" ("preceding financial year") yw'r flwyddyn ariannol yn union cyn y flwyddyn berthnasol; (ch) ystyr "blwyddyn berthnasol" ("relevant year") yw'r flwyddyn academaidd y mae incwm yr aelwyd i'w asesu mewn perthynas â hi; (d) mae i "incwm aelwyd", "incwm yr aelwyd" ac "incwm sydd gan yr aelwyd", ("household income") yr ystyr a roddir ym mharagraff 3; (dd) ystyr "incwm gweddilliol" ("residual income") yw incwm trethadwy ar ôl cymhwyso paragraff 4 (yn achos myfyriwr cymwys), paragraff 5 (yn achos rhiant myfyriwr cymwys), paragraff 6 (yn achos partner myfyriwr cymwys) neu baragraff 7 (yn achos partner rhiant myfyriwr cymwys newydd); (e) ystyr "incwm trethadwy" ("taxable income"), mewn perthynas â pharagraff 4, mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd y mae cais wedi'i wneud ar ei gyfer o dan reoliad 9 ac, mewn perthynas â pharagraff 5, mewn perthynas (yn ddarostyngedig i is-baragraffau (3), (4) a (5) o baragraff 5) â'r flwyddyn ariannol flaenorol, yw incwm trethadwy person o bob ffynhonnell fel petai wedi'i gyfrifo at ddibenion—
(ii) deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall sy'n gymwys i incwm y person; neu (iii) os yw deddfwriaeth mwy nag un Aelod-wladwriaeth yn gymwys i'r cyfnod, y ddeddfwriaeth y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu y bydd y person yn talu'r swm mwyaf o dreth odani yn y cyfnod hwnnw (ac eithrio fel y darperir fel arall ym mharagraff 5).
(f) mae i "myfyriwr annibynnol cymwys" ("independent eligible student") yr ystyr a roddir ym mharagraff 2;
(ii) nad oes ganddo bartner;
(g) ystyr "myfyriwr cymwys newydd" ("new eligible student") yw myfyriwr cymwys sy'n dechrau ar gwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2004;
(ii) partner sifil myfyriwr cymwys; (iii) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod iddo os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2000; (iv) person sydd fel arfer yn byw gyda myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil iddo os yw myfyriwr cymwys yn syrthio o fewn paragraff 2(a) a'i fod yn dechrau ar y cwrs dynodedig ar neu ar ôl 1 Medi 2005;
(j) ystyr "partner" ("partner") mewn perthynas â rhiant myfyriwr cymwys yw unrhyw un o'r canlynol heblaw rhiant arall i'r myfyriwr cymwys—
(ii) partner sifil rhiant myfyriwr cymwys; (iii) person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n briod iddo; (iv) person sydd fel arfer yn byw gyda rhiant myfyriwr cymwys fel pe bai'n bartner sifil i'r rhiant;
(l) ystyr "rhiant" ("parent") yw rhiant naturiol neu fabwysiadol a dehonglir "plentyn" ("child"), "mam" ("mother") a "tad" ("father") yn unol â hynny;
Myfyriwr cymwys annibynnol
(b) lle mae wedi bod yn briod neu mewn partneriaeth sifil cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol, p'un a yw'r briodas neu'r bartneriaeth sifil yn dal yn bod neu beidio; (c) lle nad oes ganddo riant yn fyw; (ch) lle mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni na ellir dod o hyd i'r naill neu'r llall o'i rieni neu nad yw'n rhesymol ymarferol cysylltu â'r naill na'r llall ohonynt; (d) lle nad yw wedi cyfathrebu â'r naill na'r llall o'i rieni am gyfnod o flwyddyn cyn dechrau'r flwyddyn berthnasol neu lle y gall, ym marn y Cynulliad Cenedlaethol, ddangos ar seiliau eraill ei fod wedi ymddieithrio oddi wrth ei rieni mewn ffordd lle nad oes modd cymodi; (dd) lle mae, yn unol â gorchymyn gan lys cymwys, wedi bod o dan warchodaeth neu ofal unrhyw berson cyfreithiol nad yw'n rhiant i'r myfyriwr neu wedi cael llety gan berson o'r fath drwy gydol unrhyw gyfnod o dri mis sy'n diweddu ar neu ar ôl y dyddiad y daw'n 16 oed a chyn diwrnod cyntaf ei gwrs ("y cyfnod perthnasol") (ar yr amod nad yw wedi bod o dan awdurdod neu reolaeth ei rieni mewn gwirionedd ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod perthnasol); (e) lle mae ei rieni'n preswylio y tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd a bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni naill ai—
(ii) na fyddai'n rhesymol ymarferol i'r rhieni hynny anfon unrhyw arian perthnasol i'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i gyfrifo unrhyw gyfraniad o dan baragraff 8;
(f) lle mae paragraff 5(9) yn gymwys a lle mae'r rhiant y barnodd y Cynulliad Cenedlaethol mai'r rhiant hwnnw oedd y mwyaf priodol at ddibenion y paragraff hwnnw, wedi marw (ni waeth a oedd gan y rhiant o dan sylw bartner neu beidio);
(ii) wedi gofalu am berson o dan 18 oed ar unrhyw adeg yn ystod y cwrs presennol cyn diwrnod cyntaf y flwyddyn berthnasol;
(ng) lle mae wedi'i gynnal ei hun o'i enillion am unrhyw gyfnod neu gyfnodau sy'n diweddu cyn blwyddyn academaidd gyntaf y cwrs a bod cyfanswm y cyfnodau hynny gyda'i gilydd heb fod yn llai na thair blynedd, ac at ddibenion yr is-baragraff hwn mae'n cael ei drin fel pe bai'n ei gynnal ei hun o'i enillion yn ystod unrhyw gyfnod—
(iv) pan oedd yn cael budd-dal sy'n daladwy gan unrhyw awdurdod perthnasol mewn perthynas â pherson sydd ar gael i'w gyflogi ond sy'n ddi-waith; (v) pan oedd ar gael i'w gyflogi a'i fod wedi cydymffurfio ag unrhyw ofyniad ynglŷn â chofrestru a osodwyd gan awdurdod perthnasol fel un o amodau'r hawlogaeth i gymryd rhan mewn trefniadau ar gyfer hyfforddi neu ar gyfer derbyn y budd-dal hwnnw; (vi) pan oedd ganddo Efrydiaeth y Wladwriaeth neu ddyfarniad tebyg; (vii) pan oedd yn cael unrhyw bensiwn, lwfans neu fudd-dal arall a oedd yn cael ei dalu gan unrhyw berson oherwydd anabledd sydd ganddo, neu oherwydd cyfyngder, anaf neu salwch.
Incwm yr aelwyd
(ii) yn achos myfyriwr cymwys newydd a ddechreuodd ar ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi 2005, incwm gweddilliol partner rhiant y myfyriwr (ar yr amod bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi dewis y rhiant hwnnw o dan baragraff 5(9));
(b) yn achos myfyriwr cymwys annibynnol y mae ganddo bartner, incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys wedi'i agregu gydag incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys (yn ddarostyngedig i is-baragraff (4)); neu
(3) Wrth bennu incwm yr aelwyd o dan is-baragraff (2), mae'r swm o £1,050 yn cael ei ddidynnu—
(b) am bob plentyn heblaw'r myfyriwr cymwys sy'n ariannol ddibynnol yn gyfan gwbl neu'n bennaf ar riant y myfyriwr cymwys neu bartner rhiant y myfyriwr cymwys y mae ei incwm gweddilliol yn cael ei gymryd i ystyriaeth.
(4) Er mwyn cyfrifo'r cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr sy'n rhiant, mae incwm gweddilliol partner y myfyriwr sy'n rhiant i gael ei agregu o dan is-baragraff (2)(b) yn achos myfyriwr sy'n rhiant y mae gan ei blentyn ddyfarniad neu y mae gan blentyn ei bartner ddyfarniad—
(b) y mae cyfraniad rhieni yn gymwys mewn perthynas ag ef fel arall gan gyfeirio at y myfyriwr sy'n rhiant neu ei bartner.
Cyfrifo incwm gweddilliol y myfyriwr cymwys
(b) swm gros unrhyw bremiwm neu swm arall a dalwyd gan y myfyriwr cymwys mewn perthynas â phensiwn (nad yw'n bensiwn sy'n daladwy o dan bolisi yswiriant bywyd) y mae rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef o dan adran 273, 619 neu 639 o Ddeddf Treth Incwm a Threth Gorfforaeth 1988[67], neu os yw incwm y myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, swm gros unrhyw bremiwm neu swm o'r fath y byddai rhyddhad yn cael ei roi mewn perthynas ag ef os oedd y ddeddfwriaeth honno'n gwneud darpariaeth sy'n gyfatebol i'r Deddfau Treth Incwm.
(2) Os paragraff 7 yw'r unig baragraff o 1 i 8 o Atodlen 1 y mae myfyriwr cymwys yn syrthio odano a bod ei incwm yn codi o ffynonellau neu o dan ddeddfwriaeth sy'n wahanol i'r ffynonellau neu'r ddeddfwriaeth sydd fel rheol yn berthnasol i berson y cyfeirir ato ym mharagraff 1 o Atodlen 1, nid yw ei incwm yn cael ei anwybyddu yn unol ag is-baragraff (1) ond yn hytrach mae'n cael ei anwybyddu i'r graddau sy'n angenrheidiol er mwyn sicrhau nad yw'n cael ei drin yn llai ffafriol nag y câi person y cyfeirir ato yn unrhyw un o baragraffau Atodlen 1 ei drin o dan amgylchiadau tebyg pe bai ganddo incwm tebyg.
(b) fel arall, gwerth y sterling y byddai'r incwm yn ei brynu gan ddefnyddio'r gyfradd a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol [68] ar gyfer y mis y ceir yr incwm ynddo.
Cyfrifo incwm gweddilliol y rhiant
(b) yn unol ag unrhyw ddeddfiad neu reol gyfreithiol nad yw taliadau a fyddai fel arall yn cael eu trin o dan gyfraith y Deyrnas Unedig fel rhan o incwm y person yn cael eu trin felly yn unol â hwy; neu (c) o dan is-baragraff (2).
(2) Er mwyn pennu incwm gweddilliol rhiant myfyriwr cymwys, didynnir o'r incwm trethadwy a bennir o dan is-baragraff (1) gyfanswm unrhyw symiau sy'n syrthio o fewn unrhyw rai o'r is-baragraffau canlynol—
(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yn cael ei gyfrifo at ddibenion y Deddfau Treth Incwm yn rhinwedd is-baragraff (6) unrhyw symiau sy'n cyfateb i'r didyniad a grybwyllwyd yn is-baragraff (a), ar yr amod nad yw unrhyw symiau a ddidynnir fel hyn yn fwy na'r didyniadau a fyddai'n cael eu gwneud pe bai'r cyfan o incwm rhiant y myfyriwr cymwys mewn gwirionedd yn incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm; (c) yn achos myfyriwr sy'n rhiant neu riant myfyriwr cymwys y mae ganddo ddyfarniad statudol, £1,050.
(3) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod incwm y rhiant yn y flwyddyn ariannol sy'n dechrau yn union cyn y flwyddyn berthnasol ("y flwyddyn ariannol gyfredol"), o ganlyniad i ryw ddigwyddiad y tu hwnt i reolaeth y rhiant, yn debyg o beidio â bod yn fwy na 85 y cant o werth sterling ei incwm yn y flwyddyn ariannol flaenorol, fe gaiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn galluogi'r myfyriwr cymwys i fod yn bresennol ar y cwrs heb galedi, ddarganfod incwm yr aelwyd am y flwyddyn ariannol gyfredol.
(b) nad yw'r incwm yn codi yn y Deyrnas Unedig, neu, os yw incwm y rhiant yn cael ei gyfrifo at ddibenion deddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, nad yw'n codi yn yr Aelod-wladwriaeth honno; neu (c) bod yr incwm yn codi o swydd, gwasanaeth neu gyflogaeth y mae'r incwm ohonynt yn esempt rhag treth yn unol ag unrhyw ddeddfwriaeth,
mae ei incwm at ddibenion yr Atodlen hon yn cael ei gyfrifo fel pe bai'r incwm o dan yr is-baragraff hwn yn rhan o'i incwm at ddibenion y Deddfau Treth Incwm neu ddeddfwriaeth treth incwm Aelod-wladwriaeth arall, yn ôl fel y digwydd.
(b) os yw'r rhiant yn marw yn ystod y flwyddyn berthnasol, yn gyfanswm y canlynol—
(ii) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir dryw gyfeirio at incwm y rhiant sydd wedi goroesi, sef y gyfran mewn perthynas â'r rhan honno o'r flwyddyn berthnasol sy'n weddill ar ôl i'r rhiant arall farw.
(9) Os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu nad yw'r rhieni fel arfer yn byw gyda'i gilydd drwy gydol y flwyddyn berthnasol, mae incwm yr aelwyd yn cael ei bennu drwy gyfeirio at incwm p'un bynnag o'r rhieni y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu mai ef yw'r mwyaf priodol o dan yr amgylchiadau.
(b) y gyfran briodol o incwm yr aelwyd a bennir fel arall mewn perthynas â gweddill y flwyddyn berthnasol.
Cyfrifo incwm gweddilliol partner y myfyriwr cymwys
(b) mewn unrhyw achos lle nad yw'r myfyriwr cymwys yn fyfyriwr cymwys annibynnol dan yr hen drefn, yn unol ag is-baragraff (3).
(2) Y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys annibynnol dan yr hen drefn yw—
(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn llai na £10,505, dim.
(3) Y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â myfyriwr cymwys dan yr hen drefn nad yw'n annibynnol, yw—
(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn llai na £22,560, dim.
(4) Rhaid i swm y cyfraniad sy'n daladwy o dan is-baragraff (2) neu (3) beidio â bod yn fwy na £7,430 mewn unrhyw achos.
(b) y cyfraniad a fuasai'n daladwy pe bai dyfarniad gan un myfyriwr cymwys yn unig.
(6) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys os oes cyfraniad yn daladwy mewn perthynas â'r canlynol—
(b) dau neu fwy o fyfyrwyr cymwys annibynnol y mae gan bob un ohonynt bartner mewn perthynas ag incwm yr un aelwyd.
Cyfrifo cyfraniad- myfyrwyr dan y drefn newydd
(b) mewn unrhyw achos lle mae incwm yr aelwyd yn £37,900 neu lai, dim.
(2) Rhaid i'r cyfaniad mewn unrhyw achos beidio â bod yn fwy na £7,430.
(b) y cyfraniad a fuasai'n daladwy petai dim ond un myfyriwr yn dal dyfarniad.
(4) Mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle mae cyfraniad yn daladwy o ran—
(b) dau neu ragor o fyfyrwyr cymwys annibynnol y mae gan ddau ohonynt bartner o ran yr un incwm aelwyd.
Rhannu cyfraniadau
(ii) rhiant y myfyriwr cymwys; neu (iii) partner rhiant y myfyriwr cymwys,
y cyfraniad sy'n daladwy mewn perthynas â'r myfyriwr cymwys yw unrhyw gyfran o unrhyw gyfraniad a gyfrifir o dan baragraff 8 neu 9 y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn credu ei bod yn gyfiawn ar ôl ymgynghori ag unrhyw awdurdod arall sydd o dan sylw gan gymryd i ystyriaeth sut mae paragraff 7 o'r Atodlen hon yn cael ei gymhwyso at fyfyrwyr cymwys newydd a myfyrwyr presennol ill dau;
(ii) wedyn, yn nhrefn gynyddol eu maint, mewn perthynas â phob dyfarniad statudol sy'n weddill y caniateir i'r cyfraniad gael ei gymhwyso ato, nes bod modd dyrannu balans y cyfraniad yn gyfartal heb fod yr un rhan ohono ar ôl neu nes nad oes yr un rhan o unrhyw ddyfarniad statudol ar ôl nad yw'r cyfraniad wedi'i gymhwyso ati.
(2) Mewn unrhyw achos—
(b) lle mae cyfraniad sy'n cymryd i ystyriaeth incwm gweddilliol y rhiant hwnnw yn daladwy mewn perthynas â mwy nag un myfyriwr cymwys sy'n blentyn naill ai i'r rhiant hwnnw neu i'w bartner; ac (c) lle nad yw'r swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yn hafal i'r swm sy'n daladwy mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys arall,
mae'r cyfraniad mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys yn cael ei gyfrifo o dan is-baragraff (3).
(b) wedyn cymhwysir hefyd mewn perthynas â phob myfyriwr cymwys gyfraniad arall o £1 am bob £9.50 cyflawn y mae'r swm a gyfrifir o dan is-baragraff (c) yn fwy na £22,560; (c) y swm y cyfeirir ato yn is-baragraff (b) yw cyfanswm unrhyw symiau a gyfrifir o dan baragraffau 4, 5 a 7 (os yw'n briodol) o'r Atodlen hon gan ddidynnu'r swm (os oes swm) sy'n cyfateb i faint yn fwy na £22,560 yw cyfanswm y symiau a gyfrifir o dan baragraffau 5 a 7.
(5) Yn ddarostyngedig i is-baragraff (6), er mwyn cyfrifo'r cyfraniad at ei ddyfarniad statudol, ychwanegir at incwm gweddilliol myfyriwr sy'n rhiant unrhyw swm sy'n weddill—
(b) os yw myfyriwr sy'n rhiant yn rhiant i fwy nag un myfyriwr cymwys, unrhyw swm sy'n weddill ar ôl dyrannu'r cyfraniad at ei blant o dan y paragraff hwn.
(6) Os oes gan fyfyriwr sy'n rhiant bartner o fewn paragraff 1(j) o'r Atodlen hon, mae'r symiau a ychwanegir at ei incwm gweddilliol o dan is-baragraff (5) o'r paragraff hwn yn cael eu cyfrifo fel pe bai'r cyfraniad mewn perthynas â'i blant wedi'i asesu gan gymryd i ystyriaeth incwm partner y rhiant o dan baragraff 7, p'un a gafodd y cyfrifiad hwnnw ei gyfrifo ar y sail honno mewn gwirionedd neu beidio. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cymorth ariannol i fyfyrwyr sydd fel arfer yn preswylio yng Nghymru ac sy'n dilyn cyrsiau addysg uwch dynodedig mewn perthynas â'r flwyddyn academaidd sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Medi 2006. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Addysg (Cymorth i Fyfyrwyr) 2005 i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. Mae rheoliad 3 yn nodi rhychwant y dirymiad. Disgrifir isod y newidiadau sylweddol heblaw graddfeydd grantiau a benthyciadau a wneir yn y Rheoliadau hyn. Mae'r Rheoliadau yn cyflwyno gwahaniaeth rhwng myfyrwyr cymwys dan yr hen drefn a myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd (rheoliad 2(1)) o ran cymorth ariannol i fyfyrwyr ar gyfer cyrsiau amser-llawn. Mae myfyrwyr cymwys dan yr hen drefn yn fyfyrwyr cymwys sy'n mynychu cyrsiau a ddechreuodd cyn 1 Medi 2006 a myfyrwyr sy'n cymryd blwyddyn i ffwrdd sy'n dechrau cyrsiau cyn 1 Medi 2007, a chategorïau penodol eraill o fyfyrwyr. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys dan yr hen drefn yn ddarostyngedig i amodau penodedig—
Mae myfyriwr cymwys dan y drefn newydd yn fyfyriwr cymwys sy'n dechrau ei gwrs ar neu ar ôl 1 Medi ac nad yw'n fyfyriwr cymwys dan yr hen drefn. Mae'r grantiau a'r benthyciadau canlynol ar gael i fyfyrwyr cymwys dan y drefn newydd, yn ddarostyngedig i amodau penodedig—
I fod â hawl i gael cymorth ariannol rhaid i fyfyriwr ddod o fewn un o'r categorïau a restrir yn Atodlen 1 a'r darpariaethau cymhwystra yn Rhan 2. Mae'r rheoliadau yn gymwys i fyfyrwyr sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru ble bynnag y bônt yn astudio ar gwrs dynodedig. At ddibenion y Rheoliadau hyn ystyrir bod person sy'n preswylio fel arfer yng Nghymru, Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o ganlyniad i symud o unrhyw un o'r ardaloedd hyn at ddibenion ymgymryd â'i gwrs yn preswylio fel arfer yn y lle y symudodd ohono (rheoliad 2(2)).
Mae rheoliad 30 yn darparu ar gyfer grant cymorth arbennig ar gyfer myfyrwyr cymwys dan y drefn newydd sydd hefyd yn gymwys i gael Cymhorthdal Incwm a budd-daliadau eraill a gyfrifir ar sail prawf modd fel Budd-dal Tai. Yr un yw uchafswm y grant cymorth arbennig sydd ar gael ag uchafswm y grant cynhaliaeth sydd ar gael. Nid yw myfyrwyr sy'n gymwys i gael grant cymorth arbennig yn gymwys i gael grant cynhaliaeth. Ni roddir y grant cymorth arbennig yn lle unrhyw ran o'r benthyciad cynhaliaeth. Notes: [1] 1998 p. 30; diwygiwyd adran 22 gan Ddeddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p. 21), adran 146 ac Atodlen 11, Deddf Treth Incwm (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 1), Atodlen 6, Deddf Cyllid 2003 (p. 14), adran 147 a Deddf Addysg Uwch 2004 (p.8), adran 42. Diwygiwyd adran 42 ac adran 43 gan Ddeddf Addysg 2002 (p.32), Atodlen 12. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan adran 44 o Ddeddf Addysg Uwch 2004. Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/1833 (Cy.149) (C.79)).back [3] 1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p. 58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 a 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, Rheoliadau Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Cychwyn (Rhif 2) Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Cychwyn Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480), erthygl 6 a Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2004 (Diwygiadau Canlyniadol) 2004 (O.S. 2004/957), yr Atodlen.back [4] O.S. 1972/1265 (G.I. 14).back [5] Sefydlwyd y corff hwn yn wreiddiol o dan adran 1 o Ddeddf Addysg 1994 (p. 30) fel yr Asiantaeth Hyfforddi Athrawon. Y mae'n parhau mewn bodolaeth yn rhinwedd adran 74 o Ddeddf Addysg 2005 (p.18) ond ei enw fydd yr Asiantaeth Hyfforddi a Datblygu ar gyfer Ysgolion.back [6] O.S. 2004/1729 (Cy.173).back [10] 1962 p.12; amnewidiwyd adrannau 1 i 4 ac Atodlen 1 gan y darpariaethau a nodwyd yn Atodlen 5 i Ddeddf Addysg 1980 (p. 20). Diwygiwyd adran 1(3)(d) gan Ddeddf Addysg (Grantiau a Dyfarniadau) 1984 (p. 11), adran 4. Diwygiwyd adran 4 gan Ddeddf Addysg 1994 (p.30), Atodlen 2, paragraff 2. Cafodd y Ddeddf gyfan ei diddymu gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 44(2) ac Atodlen 4, yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion a nodwyd yng Ngorchymyn Deddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (Gorchymyn Rhif 4 a Darpariaethau Trosiannol) 1998 (O.S. 1998/3237), erthygl 3.back [11] O.S. 1998/1166, a ddiwygiwyd gan O.S. 1998/1972.back [12] 1990 p. 6; a ddiddymwyd gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), Atodlen 4.back [13] O.S. 1990/1506 (G.I. 11), a ddiwygiwyd gan O.S. 1996/1274 (G.I. 1), Erthygl 43 ac Atodlen 5 Rhan II, O.S. 1996/1918 (G.I. 15), Erthygl 3 a'r Atodlen ac O.S. 1998/258 (G.I. 1), Erthyglau 3 i 6.back [14] O.S. 1998/1760 (G.I. 14).back [16] Gorch. 3906 (allan o brint; mae llungopïau ar gael, am ddim, oddi wrth yr Adran Cymorth i Fyfyrwyr, Yr Adran Addysg a Sgiliau, Mowden Hall, Staindrop Road, Darlington DL3 9BG).back [17] O.S. 2003/1994, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1038 ac O.S. 2004/1792.back [18] 1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr) (Yr Alban) 2001 (dsa 6), adran 3(2) a diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunan-lywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), Atodlen 10, paragraff 8(17). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).back [20] O.S. 1999/496, a ddiwygiwyd gan O.S. 1999/2266 ac O.S. 2000/1120.back [21] O.S. 2000/1121, a ddiwygiwyd gan O.S. 2000/1490, O.S. 2000/2142 ac O.S. 2000/2912.back [22] O.S. 2001/951, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1730, O.S. 2001/2355 ac O.S. 2002/174.back [23] O.S. 2002/195, a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/1318, O.S. 2002/2088 ac O.S. 2002/3059.back [32] O.S. 2005/52 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2005/1341.back [33] 1971 p. 77; a ddiwygiwyd gan Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p.61), adran 39 ac Atodlen 4.back [34] OJ Rhif L257, 19.10. 1968, t 2 (OJ/SE 1968 (II) t 475).back [35] O.S. 1992/580, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/423 ac O.S.A. 2003/401.back [36] 1992 p.13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30), adran 27.back [37] Diffinnir ffioedd ("fees") yn adran 28(1) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p.30).back [38] Mae ERASMUS yn rhan o raglen weithredu SOCRATES y Gymuned Ewropeaidd; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t1.back [39] Mae ERASMUS yn rhan o raglen weithredu SOCRATES y Gymuned Ewropeaidd; OJ Rhif L28, 3.2.2000, t1.back [40] 1977 p. 49; diwygiwyd adran 8 gan Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002 (p.17), adran 1(2).back [41] Diwygiwyd adran 11 gan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), adran 2 ac Atodlen 1, paragraff 2 a Deddf Iechyd 1999 (p.8), Atodlen 4, paragraff 6.back [42] Mewnosodwyd adran 16BA gan adran 6(1) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a'r Proffesiynau Gofal Iechyd 2002.back [44] O.S. 1972/1265 (G.I. 14).back [45] 1996 p. 56; diwygiwyd adran 312 gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), Atodlen 7, paragraff 23, Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), adran 140, Atodlen 30, paragraff 71 ac Atodlen 31 a Deddf Dysgu a Sgiliau 2000 (p.21), Atodlen 9, paragraff 56.back [48] 1989 p. 41; mewnosodwyd adran 79F gan Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).back [52] O.S. 1980/51, a ddiwygiwyd gan O.S. 1989/596 ac O.S. 1999/3177.back [54] O.S. 1992/580, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/423 ac O.S.A. 2003/401.back [55] O.S. 1998/1760 (G.I. 14).back [56] 1980 p.44; diwygiwyd adran 73(f) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 29(1) a Deddf Addysg (Gwaddoliad Graddedigion a Chymorth i Fyfyrwyr (Yr Alban) 2001 (dsa6), adran 3(2) a diwygiwyd adran 74 gan Ddeddf Ysgolion Hunan-lywodraethol etc. (Yr Alban) 1989 (p. 39), Atodlen 10, paragraff 8(17). Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol i Weinidogion yr Alban yn rhinwedd adran 53 o Ddeddf yr Alban 1998 (p. 46).back [57] 1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.back [58] 1992 p. 4; diwygiwyd Rhan VII gan Ddeddf Tai 1991 (p. 52), Atodlen 19, Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14), Atodlen 9 ac Atodlen 14, Deddf Ceisio Gwaith 1995 (p. 18), Atodlen 2 ac Atodlen 3, Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlen 8 a Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2 ac Atodlen 3.back [59] 1995 p. 18; diwygiwyd Rhan I gan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 (p. 18), Atodlen 1, Deddf Nawdd Cymdeithasol 1998 (p. 14) Atodlenni 7 ac 8, Deddf Diwygio Lles a Phensiynau 1999 (p. 30), Atodlenni 7, 8 a 13, Deddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 (p. 16), Atodlen 2, Deddf Cyfraniadau Yswiriant Gwladol 2002 (p. 19), Atodlen 1 a Deddf Treth Incwme (Enillion a Phensiynau) 2003 (p. 18), Atodlen 6.back [60] 1973 c. 50; section 2 as substituted by the Employment Act 1988 (c. 19) was amended by the Employment Act 1989 (c. 38), Schedule 7. Subsections (3A) and (3B) were inserted by the Trade Union Reform and Employment Rights Act 1993 (c. 19), section 47 in relation to Scotland only.back [61] O.S. 1992/580, a ddiwygiwyd gan O.S.A. 2002/423 ac O.S.A. 2003/401.back [63] 1992 p. 13; mewnosodwyd adran 65(3A) gan Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998 (p. 30), adran 27.back [65] 1971 p. 77; a ddiwygiwyd gan Ddeddf Cenedligrwydd Prydeinig 1981 (p. 61), adran 39 ac Atodlen 4.back [66] OJ Rhif L257, 19.10.1968, t 2 (OJ/SE 1968 (II) t 475).back [67] 1988 p. 1; diwygiwyd adran 273 gan Ddeddf Cyllid 1988 (p. 39), Atodlen 3, paragraff 10. Nid yw diwygiadau a wnaed i adran 273 gan Ddeddf Cyllid 2004 (p. 12), adran 281 ac Atodlen 35 yn dod i rym tan 6 Ebrill 2006. Diwygiwyd adran 619 gan Ddeddf Cyllid 1989 (p. 26), adran 170 a Deddf Cyllid 1996 (p. 8), adran 135 ac Atodlen 21. Diwygiwyd adran 639 gan Ddeddf Cyllid 2000 (p. 17), Atodlen 13. Dirymwyd adrannau 619 a 639 gan Ddeddf Cyllid 2004, adran 326 ac Atodlen 42 o 6 Ebrill 2006 ymlaen yn ddarostyngedig i'r darpariaethau trosiannol a'r arbedion yn Atodlen 36 i Ddeddf Cyllid 2004.back [68] "Financial Statistics" (ISSN 0015-203X).back [69] O.S. 2003/1994, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1038 ac O.S. 2004/1792.back [70] 1968 p. 46; diwygiwyd adran 63 gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1972 (p. 58), Atodlen 7, Deddf Ad-drefnu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1973 (p. 32), Atodlenni 4 a 5, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p. 49), Atodlenni 15 ac 16, Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Yr Alban) 1978 (p. 29), Atodlenni 16 a 17, Deddf Llywodraeth Leol 1985 (p. 51), Atodlen 17, Deddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p. 49), adran 20, adran 25(2) ac Atodlen 3, Deddf Llywodraeth Leol (Yr Alban) 1994 (p. 39), Atodlen 13, Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17), Atodlen 1, Gorchymyn Ad-drefnu Llywodraeth Leol (Cymru) (Diwygiadau Canlyniadol Rhif 2) 1996 (O.S. 1996/1008), Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p. 46), Atodlen 2, Deddf Iechyd 1999 (p. 8), Atodlen 4, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p. 15), Atodlen 5, Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd a Phroffesiynau Gofal Cymdeithasol 2002 (p. 17), Atodlenni 2, 5 a 9, Rheoliadau Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd a Phroffesiynau Gofal Cymdeithasol 2002 (Darpariaethau Atodol, Canlyniadol etc) 2002 (O.S. 2002/2469), Atodlen 1, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (p. 43), Atodlenni 4, 11 a 14, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 Cychwyn (Rhif 2) 2004 (O.S. 2004/288), erthygl 7, Gorchymyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 Cychwyn (Rhif 1) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/480), erthygl 6 a Gorchymyn Deddf Gwasanaethau Meddygol Sylfaenol (Yr Alban) 2004 (Addasiadau Canlyniadol) 2004 (O.S. 2004/957), yr Atodlen.back
ISBN 0 11 091256 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 2 February 2006 |