Rheoliadau Gwastraff (Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwastraff (Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref) (Cymru) 2006, ISBN 0110912594. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1], o ran Cymru, at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran mesurau sy'n ymwneud ag atal, lleihau a dileu llygredd a achosir gan wastraff, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwastraff (Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 26 Ionawr 2006. Cymhwyso dyletswydd gofal o ran gwastraff cartref i wastraff o eiddo domestig yng Nghymru 2. —(1) Yn adran 34(2A) (dyletswydd gofal etc. o ran gwastraff) o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990[3], ar ôl "England" mewnosoder "or Wales". (2) Yn adran 2(2) o Reoliadau Gwastraff a Reolir 1992[4], ar ôl "England" mewnosoder "or Wales". Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[5] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 24 Ionawr 2006 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Eu prif nod yw gweithredu, o ran Cymru, Erthygl 8 o Gyfarwyddeb y Cyngor 75/442/EEC ar wastraff[6] (y "Cyfarwyddeb Fframwaith Gwastraff") o ran meddiannydd eiddo domestig mewn perthynas â'r gwastraff cartref a gynhyrchir ar yr eiddo. Mae rheoliad 1 (enwi a chychwyn) yn darparu y daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 26 Ionawr 2006 a'u bod yn gymwys o ran Cymru. Mae rheoliad 2 yn diwygio adran 34 o Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 ("Deddf 1990"). Mae adran 34(2A) o Ddeddf 1990 (fel y'i mewnosodir gan Reoliadau Gwastraff (Dyletswydd Gofal o ran Gwastraff Cartref) (Cymru a Lloegr) 2005[7] yn gosod dyletswydd ar feddiannydd eiddo domestig yn Lloegr o ran y gwastraff cartref a gynhyrchir ar yr eiddo. Y ddyletswydd a osodir yw bod y meddiannydd yn cymryd yr holl fesurau sydd ar gael iddo ac sy'n rhesymol o dan yr amgylchiadau er mwyn sicrhau bod unrhyw drosglwyddiad ganddo o wastraff cartref a gynhyrchir ar yr eiddo ddim ond yn drosglwyddiad i berson awdurdodedig neu i berson at ddibenion cludo a awdurdodwyd. Mae rheoliad 2(2) yn estyn y ddyletswydd honno i unrhyw feddiannydd eiddo domestig yng Nghymru. Bydd unrhyw berson sy'n methu â chydymffurfio â'r ddyletswydd honno yn agored i gosbau, yn ôl adran 34(6) o Ddeddf 1990. Mae rheoliad 3(1) yn gwneud diwygiadau canlyniadol i reoliad 2(2) o Reoliadau Gwastraff a Reolir 1992[8]. Mae arfarniad rheoliadol o'r effaith y bydd yr offeryn hwn yn ei chael ar gostau busnes wedi'i baratoi ac mae ar gael o Is-adran yr Amgylchedd — Diogelu ac Ansawdd, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] O.S. 2005/850.back [4] O.S. 1992/588, y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.back [6] O.J. Rhif L194, 25.7.1975, t.39 (fel y'i diwygiwyd gan Gyfarwyddebau'r Cyngor 91/156/EEC (O.J. Rhif L78, 26.3.1991, t. 32), 91/692/EEC (O.J. Rhif L377, 31.12.1991, t.48 (fel y'i cywirwyd drwy Gorigendwm, O.J. Rhif L146, 13.6.2003, t.52)), Penderfyniad y Comisiwn 96/350/EEC (O.J. Rhif L135, 6.6.1996, t.32) a Rheoliad (EC) Rhif 1882/2003 (O.J. Rhif L284, 31.10.2003 t.1 )).back
ISBN 0 11 091259 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 31 January 2006 |