Gorchymyn (Diddymu) Bwrdd Henebion Cymru 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn (Diddymu) Bwrdd Henebion Cymru 2006, ISBN 0110912551. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
GAN FOD adran 28(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ("Deddf 1998")[1], a Rhan I o Atodlen 4 iddi, yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i drosglwyddo iddo'i hun swyddogaethau statudol Bwrdd Henebion Cymru ("y Bwrdd") sydd wedi'i gyfansoddi ar hyn o bryd o dan adran 22 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 ("Deddf 1979")[2] A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod swyddogaethau statudol y Bwrdd, sef yn bennaf cynghori'r Cynulliad Cenedlaethol ar arfer ei swyddogaethau o dan Ddeddf 1979, yn bennaf yn swyddogaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol rhoi cyngor i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun ac felly'n dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998 YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan I o Atodlen 4 yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn (Diddymu) Bwrdd Henebion Cymru 2006. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006. (3) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "y Bwrdd" ("the Board" ) yw Bwrdd Henebion Cymru. Diddymu'r Bwrdd 2. —(1) Diddymir y Bwrdd. (2) Trosglwyddir pob eiddo a phob hawl y mae gan y Bwrdd hawl iddynt, ac unrhyw rwymedigaethau y mae'r Bwrdd yn ddarostyngedig iddynt, i'r Cynulliad Cenedlaethol. Diwygiadau canlyniadol 3. —(1) Diddymir y darpariaethau a ganlyn—
(b) y cofnod sy'n ymwneud â'r Bwrdd yn—
(ii) Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998; a (iii) Rhan VI o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000[5].
(2) Dirymir y cofnod sy'n ymwneud â'r Bwrdd yn—
(b) Rhan I o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002[7],
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae Bwrdd Henebion Cymru ("y Bwrdd") ar hyn o bryd wedi'i gyfansoddi o dan adran 22 o Ddeddf Henebion ac Ardaloedd Archeolegol 1979 ("Deddf 1979"). Prif Swyddogaeth y Bwrdd yw cynghori'r Ysgrifennydd Gwladol ar arfer pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1979. Effaith erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac Atodlen 1 iddo, yw mai prif swyddogaeth y Bwrdd bellach yw cynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"). Mae'r Bwrdd wedi'i bennu yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ("Deddf 1998") yn gorff y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn wedi'i wneud o dan adran 28(1) o Ddeddf 1998, drosglwyddo ei swyddogaethau statudol i gorff arall, gan gynnwys eu trosglwyddo iddo'i hun. Mae adran 28(2) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu unrhyw swyddogaeth sydd gan gorff o'r fath yn hytrach na'i throsglwyddo i gorff arall os yw'r swyddogaeth fel y mae yn ei gwneud yn ofynnol gwneud rhywbeth mewn cysylltiad â'r corff arall hwnnw (enghraifft o hyn yw'r swyddogaeth sydd gan y Bwrdd o gynghori'r Cynulliad Cenedlaethol: byddai trosglwyddo'r swyddogaeth honno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gynghori ei hun). Mae adran 28(3) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu corff a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 4 i Ddeddf 1998 os yw pob un o swyddogaethau statudol y corff yn cael eu trosglwyddo neu eu diddymu. Mae adran 28(4) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff Gorchymyn sy'n cynnwys darpariaeth a ganiateir gan adran 28(3) drosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y corff hwnnw. Mae adran 28(7) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff Gorchymyn o dan adran 28 gynnwys darpariaethau canlyniadol priodol, gan gynnwys diddymu deddfiadau. Yn unol â hynny—
(b) mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud y diddymiadau a'r diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i ddeddfiadau.
Notes: [1] 1998 p.38.back [2] 1979 p.46; cafodd y Bwrdd ei ffurfio a'i gyfansoddi'n wreiddiol o dan adran 15 o Ddeddf Cydgrynhoi a Diwygio Henebion 1913 (p.32).back [4] 1976 p.74. Mewnosodwyd Atodlen 1A gan Ddeddf (Diwygio) Cysylltiadau Hiliol 2000 (p.34), adran 2(2) ac Atodlen 1, ac fe'i diwygiwyd gan Orchymyn Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 (Dyletswydd Statudol Cyffredinol) 2001 (O.S. 2001/3457), erthygl 2(d) a'r Atodlen iddo.back
ISBN 0 11 091255 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 24 January 2006 |