Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006, ISBN 0110912543. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
GAN FOD adran 28(1)(d) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ("Deddf 1998")[1] a Rhan I o Atodlen 4 iddi yn galluogi Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol") i drosglwyddo iddo'i hun swyddogaethau statudol Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru ("y Cyngor") a gyfansoddwyd o dan adran 3 o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953 ("Deddf 1953")[2] A CHAN FOD y Cynulliad Cenedlaethol o'r farn fod swyddogaethau statudol y Cyngor o dan Ddeddf 1953 naill ai yn ei gwneud yn ofynnol fod cyngor yn cael ei roi i'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun (ac, yn unol â hynny, eu bod yn dod o fewn adran 28(2)(a) o Ddeddf 1998 ac i gael eu diddymu) neu'n ei gwneud yn ofynnol i eraill ymgynghori â'r Cyngor (ac, yn unol â hynny, eu bod i gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol) YN AWR FELLY mae'r Cynulliad Cenedlaethol, drwy arfer ei bwerau o dan adran 28 o Ddeddf 1998, a Rhan I o Atodlen 4 ohoni, yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn (Diddymu) Cyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru 2006. (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2006. (3) Yn y Gorchymyn hwn—
Diddymu'r Cyngor
(b) adrannau 77(7), (8) a (9), 79(2) ac 80(4) o Ddeddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990[3]; ac (c) y cofnod sy'n ymwneud â'r Cyngor yn—
(ii) Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998, a (iii) Rhan VI o Atodlen 1 i Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000[5].
(2) Dirymir y cofnod sy'n ymwneud â'r Cyngor yn—
(b) Rhan 1 o Atodlen 1 i Orchymyn Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 (Cychwyn Rhif 2) 2002[7].
(3) Yn adran 5(4) o Ddeddf 1953—
(b) ar ôl "accepting any property", mewnosoder "situated in England"; (c) ar ôl "dealing with any", mewnosoder "such"; ac (ch) yn lle "the said Commission or Council", rhodder "the Commission".
(4) Yn—
(b) paragraff (a) o'r diffiniad o "competent authority" yn rheoliad 1(2) o Reoliadau Diogelu'r Amgylchedd (Rheolaeth ar Sylweddau Niweidiol) 1992[9],
yn lle "Historic Buildings Council", rhodder "National Assembly". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Sefydlodd adran 3 o Ddeddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion 1953 ("Deddf 1953") Gyngor Adeiladau Hanesyddol Cymru ("y Cyngor") i gynghori'r Ysgrifennydd Gwladol ar arfer pwerau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf 1953. Effaith erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddi yw mai prif swyddogaeth y Cyngor bellach yw cynghori Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"). Mae'r Cyngor wedi'i bennu yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 ("Deddf 1998") yn gorff y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn wedi'i wneud o dan adran 28(1) o Ddeddf 1998, drosglwyddo ei swyddogaethau statudol i gorff arall, gan gynnwys eu trosglwyddo iddo'i hun. Mae adran 28(2) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu unrhyw swyddogaeth sydd gan gorff o'r fath yn hytrach na'i throsglwyddo i gorff arall os yw'r swyddogaeth, fel y mae, yn ei gwneud yn ofynnol gwneud rhywbeth mewn cysylltiad â'r corff arall hwnnw (enghraifft o hyn yw'r swyddogaeth sydd gan y Cyngor o gynghori'r Cynulliad Cenedlaethol: byddai trosglwyddo'r swyddogaeth honno i'r Cynulliad Cenedlaethol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol ei gynghori ei hun). Mae adran 28(3) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff y Cynulliad Cenedlaethol, drwy Orchymyn, ddiddymu corff a bennir yn Rhan I o Atodlen 4 i Ddeddf 1998 os yw pob un o swyddogaethau statudol y corff yn cael eu trosglwyddo neu eu diddymu. Mae adran 28(4) yn darparu y caiff Gorchymyn sy'n cynnwys darpariaeth a ganiateir gan adran 28(3) drosglwyddo unrhyw eiddo, unrhyw hawliau ac unrhyw rwymedigaethau sydd gan y corff hwnnw. Mae adran 28(7) o Ddeddf 1998 yn darparu y caiff Gorchymyn o dan adran 28 gynnwys darpariaethau canlyniadol priodol, gan gynnwys diddymu deddfiadau. Yn unol â hynny—
(b) mae erthygl 3 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud y diddymiadau, y dirymiadau a'r diwygiadau canlyniadol angenrheidiol i Ddeddfau ac offerynnau eraill.
Notes: [1] 1998 p.38.back
ISBN 0 11 091254 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 24 January 2006 |