Rheoliadau Gwartheg Hŷn (Gwaredu) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwartheg Hŷn (Gwaredu) (Cymru) 2006, ISBN 0110912713. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] o ran polisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd. Gan arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn— Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwartheg Hŷn (Gwaredu) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 23 Ionawr 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dirymu 2. Dirymir Rheoliadau Anifeiliaid Buchol (Gorfodi Cynllun Prynu'r Gymuned) 1996[3] i'r graddau y maent yn gymwys yng Nghymru. Tramgwyddau 3. —(1) Mewn lladd-dy, os eir yn groes i neu os methir cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth o Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96 ar 19 Ebrill 1996 ("y Rheoliad Comisiwn") sy'n mabwysiadu mesurau cymorth eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion yn y Deyrnas Unedig[4] y cyfeirir ati yn Rhan I o'r Atodlen, bydd gweithredydd y lladd-dy yn euog o dramgwydd. (2) Mewn mangre lle y ceir hylosgydd neu mewn safle prosesu, os eir yn groes i neu os methir cydymffurfio ag unrhyw ddarpariaeth y cyfeirir ati yn Rhan II o'r Atodlen, bydd gweithredydd y fangre honno yn euog o dramgwydd. Gorfodi a phenodi arolygwyr 4. Mae'r Rheoliadau i'w gorfodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru, a rhaid iddo benodi arolygwyr at ddibenion y Rheoliadau hyn. Pwerau mynediad a phwerau arolygwyr 5. —(1) Mae gan arolygydd, wedi iddo ddangos, os gofynnir iddo wneud hynny, rhyw ddogfen a ddilyswyd yn briodol ac sy'n dangos ei awdurdod ef neu hi, hawl ar bob adeg resymol i fynd ar unrhyw dir neu i unrhyw fangre er mwyn sicrhau y cydymffurfir â'r Rheoliadau hyn a'r Rheoliad Comisiwn; ac yn y rheoliad hwn mae "mangre" yn cynnwys unrhyw gerbyd neu gynhwysydd. (2) Caiff arolygydd—
(b) cyflawni unrhyw ymholiadau, archwiliadau a phrofion; (c) cymryd unrhyw samplau; (ch) mynd at, ac archwilio a chopïo unrhyw gofnodion (ar ba ffurf bynnag y cedwir hwy) sy'n cael eu cadw o dan y Rheoliadau hyn neu'r Rheoliad Comisiwn, neu fynd â'r cofnodion hynny oddi yno i'w gwneud yn bosibl eu copïo; (d) mynd at, archwilio a gwirio gweithrediad, unrhyw gyfrifiadur ac unrhyw gyfarpar neu ddeunydd cysylltiedig sy'n cael ei ddefnyddio neu wedi'i ddefnyddio mewn cysylltiad â'r cofnodion; ac at y diben hwn caiff ofyn i unrhyw berson sydd â gofal dros y cyfrifiadur, y cyfarpar neu'r deunydd, neu sydd fel arall yn ymwneud â'u gweithredu, i roi i'r arolygydd unrhyw gymorth y bydd yn rhesymol i'r arolygydd ofyn amdano (gan gynnwys rhoi iddo'r cyfrineiriau angenrheidiol) ac, os cedwir cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, caiff ofyn i'r cofnodion gael eu cyflwyno ar ffurf sy'n caniatáu mynd â hwy oddi yno; (dd) marcio unrhyw anifail, sgil-gynnyrch anifail neu beth arall at ddibenion eu hadnabod; ac (e) mynd ag unrhyw berson arall gydag ef, y mae ef neu hi o'r farn bod ei angen.
(3) Bydd unrhyw berson sy'n difwyno, difodi neu dynnu unrhyw farc a osodwyd o dan baragraff (2)(dd) yn euog o dramgwydd.
(b) yn methu, heb achos rhesymol, â rhoi i unrhyw berson sy'n rhoi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw gymorth neu wybodaeth y gall y person hwnnw ofyn yn rhesymol amdano neu amdani er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn; (c) yn rhoi i unrhyw berson sy'n rhoi'r Rheoliadau hyn ar waith unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn dwyllodrus neu'n gamarweiniol; neu, (ch) yn methu â dangos cofnod, pan ofynnir iddo wneud hynny, i unrhyw berson sy'n rhoi'r Rheoliadau hyn ar waith.
Hysbysiad yn ei gwneud yn ofynnol i waredu sgil-gynhyrchion anifeiliaid
(b) ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu garchariad am gyfnod nad yw'n fwy na dwy flynedd, neu'r ddau.
(2) Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran—
(b) unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,
bydd y person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o dramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer gorfodi gofynion penodol Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 716/96 fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2109/2005, sy'n mabwysiadu mesurau cymorth eithriadol ar gyfer y farchnad cig eidion yn y Deyrnas Unedig. Mae Rheoliad y Comisiwn (fel y'i diwygiwyd) yn cyflwyno cynllun sy'n awdurdodi'r Deyrnas Unedig i brynu unrhyw anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 nad yw'n arddangos unrhyw arwydd clinigol o BSE ac a oedd, yn ystod cyfnod o chwe mis o leiaf cyn ei werthu, yn bresennol ar ddaliad a leolir ar diriogaeth y Deyrnas Unedig. Pennir amryw o ofynion o ran cigydda, trin a gwaredu anifeiliaid sy'n ddarostyngedig i'r cynllun. Mae rheoliad 3 yn creu tramgwyddau o ran torri darpariaethau Rheoliad y Comisiwn (fel y'i diwygiwyd) y cyfeirir atynt yng Ngholofn 1 (ac a ddisgrifir yng Ngholofn 2) o'r Atodlen i'r Rheoliadau hyn. Mae rheoliad 4 yn darparu y bydd y Rheoliadau hyn yn cael eu gorfodi gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru a rhaid iddo benodi arolygwyr at y diben hwn. Mae rheoliadau 5 i 8 yn rhoi'r manylion am bwerau'r arolygwyr hynny, a chanlyniadau methu cydymffurfio â'r arolygwyr, neu eu rhwystro. O dan reoliad 9, mae torri'r Rheoliadau yn dramgwydd sy'n dwyn cosb ar gollfarn ddiannod o ddirwy hyd at yr uchafswm statudol, sef £5,000 ar hyn o bryd, neu dri mis yn y carchar. O gollfarnu ar dditiad, dirwy heb derfyn neu ddwy flynedd yn y carchar yw'r gosb. Ni pharatowyd arfarniad rheoliadol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar gostau busnes. Notes: [1] O.S. 2005/2766.back [4] OJ Rhif L99, 20.4.96, t.14, fel y'i diwygiwyd gan Reoliad y Comisiwn (EC) Rhif 2109/2005 (OJ Rhif L 337, 22.12.2005, t.25).back
[a] Amended by Correction Slip. Dylai teitl Saesneg yr offeryn hwn ddarllen, "The Older Cattle (Disposal) (Wales) Regulations 2006"; a Tudalen 2, uwchben y pennawd pwnc; dylid mewnosod rhifau'r offeryn er mwyn iddynt ddarllen "2006 Rhif 62 (Cy.11)". back ISBN 0 11 091271 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 6 February 2006 |