Rheoliadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus (Cofrestrau) (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus (Cofrestrau) (Cymru) 2006, ISBN 0110912500. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 31A a 121B o Ddeddf Priffyrdd 1980 ("Deddf 1980")[1] ac adran 53B o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ("Deddf 1981")[2], ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a dehongli 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hawliau Tramwy Cyhoeddus (Cofrestrau) (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 15 Ionawr 2006. (2) Yn y Rheoliadau hyn—
(b) cofrestr adran 53B, yw'r awdurdod mesur tir; ac (c) cofrestr adran 121B, yw'r cyngor;
(3) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad at reoliad yn gyfeiriad at reoliad sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y Rheoliadau hyn.
(b) wedi'u hadneuo gyda'r awdurdod cyn 1 Gorffennaf 2006 a bod mynegiad sy'n ymwneud â hwy wedi'i gyflwyno yr un pryd (neu'n ddiweddarach) a hwnnw'n ddatganiad sy'n parhau i gael effaith ar 1 Gorffennaf 2006.
(3) O ran cofrestr adran 53B, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys pan fo cais yn cael ei wneud o dan adran 53(5) o Ddeddf 1981—
(b) cyn 1 Gorffennaf 2006, os nad yw gweithdrefnau o dan Atodlen 15 i Ddeddf 1981 wedi'u cwblhau erbyn 1 Gorffennaf 2006.
(4) O ran cofrestr adran 121B, mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gais y mae adran 121B o Ddeddf 1980 yn gymwys iddo.
(b) yn cael cofnodi yn y gofrestr honno unrhyw wybodaeth arall y gwêl yn dda.
(2) Rhaid i'r gofrestr gynnwys—
(b) disgrifiad o effaith arfaethedig y map, y datganiad, y mynegiad neu'r cais; (c) disgrifiad o leoliad daearyddol y tir y mae'r map, y datganiad, y mynegiad neu'r cais yn ymwneud ag ef, a rhaid i'r disgrifiad hwnnw gynnwys—
(ii) cyfeiriad a chod post y tir lle mae'r rhan berthnasol o'r ffordd neu'r ffordd arfaethedig, (iii) enwau'r prif ddinasoedd, trefi a phentrefi agosaf at y tir hwnnw, (iv) unrhyw enw y gwyddys amdano yn lleol ar gyfer y lleoliad hwnnw, a (v) enw unrhyw gyngor cymuned neu gyngor tref a sefydlwyd ar gyfer yr ardal lle mae'r ffordd neu'r ffordd arfaethedig;
(ch) yn ddarostyngedig i reoliad 7, enw, cyfeiriad a chod post y person a adneuodd y map a'r datganiad, a gyflwynodd y mynegiad neu a wnaeth y cais;
Y gofrestr adran 53B
(b) unrhyw ddyddiad a bennwyd gan yr awdurdod ar gyfer penderfynu'r cais; (c) y dyddiad y mae'r awdurdod yn penderfynu'r cais; (ch) dyfarniad yr awdurdod ar ôl penderfynu'r cais; (d) pan fo'r awdurdod yn cael ei hysbysu bod y ceisydd wedi—
(ii) cyflwyno hysbysiad o apêl i'r Cynulliad Cenedlaethol ac i'r awdurdod yn unol â pharagraff 4(1) o Atodlen 14 i Ddeddf 1981,
datganiad i'r perwyl hwnnw; ac, ar ôl cael ei hysbysu o ddyfarniad y Cynulliad Cenedlaethol, datganiad yn nodi'r penderfyniad a thelerau unrhyw gyfarwyddyd a roddwyd;
(2) O ran cais y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo—
(b) pan fo'n arwain at orchymyn yn dod yn effeithiol (boed ar y ffurf y gofynnwyd amdano yn y cais neu fel yr addaswyd y gorchymyn hwnnw gan y Cynulliad Cenedlaethol), caiff yr awdurdod ddal ei afael ar yr wybodaeth gofnodedig cyhyd ag y gwêl yn dda a rhaid iddo wneud hynny am o leiaf 5 niwrnod gwaith ar ôl y dyddiad y mae'r map diffiniol a'r datganiad yn cael eu haddasu.
Y gofrestr adran 121B
(b) y dyddiad y mae'r awdurdod yn penderfynu'r cais; (c) dyfarniad yr awdurdod; (ch) y dyddiad y mae gorchymyn yn cael ei wneud, a phan fo'n gymwys, yn cael ei gadarnhau; (d) pan fo'r awdurdod yn cael ei hysbysu bod y ceisydd wedi apelio i'r Cynulliad Cenedlaethol yn unol ag adran 121D o Ddeddf 1980, datganiad i'r perwyl hwnnw; ac, ar ôl cael ei hysbysu o ddyfarniad y Cynulliad Cenedlaethol, datganiad o ganlyniad yr apêl; ac (dd) pan fo'n ymarferol, dyddiad, amser a lleoliad unrhyw wrandawiad neu ymchwiliad arfaethedig.
Fformat y cofrestrau
(b) caniateir iddi gael ei chadw mewn rhannau fel bod pob rhan—
(ii) yn cynnwys y manylion y mae'n ofynnol eu cynnwys yn y gofrestr o dan y Rheoliadau hyn mewn perthynas â'r tir hwnnw.
(4) O ran y fersiwn electronig o'r gofrestr, rhaid i'r awdurdod—
(b) darparu modd i'r gofrestr gael ei harchwilio ym mhrif swyddfa'r awdurdod.
(5) Rhaid i awdurdod gadw'r gofrestr mewn ffordd sy'n addas i ganiatáu i gopi o unrhyw rai o'r manylion sydd wedi'u cynnwys yn y gofrestr gael ei gymryd gan neu ar gyfer unrhyw berson sy'n gofyn am gopi yn bersonol ym mhrif swyddfa'r awdurdod.
(b) os yw'n ddiweddarach, y dyddiad y mae'r awdurdod yn cael map, datganiad, mynegiad neu gais y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddo,
a rhaid i'r gofrestr gael ei diweddaru cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (ond nid cyn 1 Gorffennaf 2006 beth bynnag) i gymryd i ystyriaeth unrhyw un o'r materion a nodwyd ym mharagraffau rheoliadau 4 a 5. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi cynnwys yr wybodaeth sy'n ymwneud â cheisiadau, mynegiadau a dogfennau cysylltiedig o ran hawliau tramwy cyhoeddus ac sydd i'w chadw, a'r ffordd y mae'r wybodaeth honno i'w chadw, ar gofrestrau a sefydlir ac a gynhelir gan awdurdodau lleol yng Nghymru. Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a freiniwyd ynddo gan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981 ("Deddf 1981") (fel y'i mewnosodwyd gan baragraff 2 o Atodlen 5 i Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ("Deddf CGHT")) a Deddf Priffyrdd 1980 ("Deddf 1980") (fel y'i mewnosodwyd gan baragraffau 4 a 15 o Atodlen 6 i Ddeddf CGHT). Bydd y cofrestrau y mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys iddynt yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â cheisiadau a wnaed, a mynegiadau a gyflwynwyd, i'r awdurdod lleol sy'n gyfrifol dros hawliau tramwy cyhoeddus yn yr ardal o dan sylw, ac yn cynnwys gwybodaeth sy'n ymwneud â dogfennau a adneuwyd gyda'r awdurdod hwnnw. O dan adran 31A o Ddeddf 1980 (a fewnosodwyd gan baragraff 4 o Atodlen 6 i Ddeddf CGHT) mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu a chadw cofrestr sy'n cynnwys gwybodaeth am fapiau a datganiadau a adneuwyd, a datganiadau a gyflwynwyd, gan berchenogion tir mewn perthynas â hawliau tramwy cyhoeddus ar eu tir. Mae mapiau, datganiadau a mynegiadau o'r fath yn galluogi perchenogion tir i gydnabod yn ffurfiol fodolaeth hawliau tramwy cyhoeddus dros eu tir ac, wrth wneud hynny, yn creu rhagdybiaeth nad oes bwriad i gyflwyno unrhyw lwybrau pellach dros eu tir. O dan adran 53B o Ddeddf 1981 (a fewnosodwyd gan baragraff 2 o Atodlen 5 i Ddeddf CGHT) mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu a chadw cofrestr o'r ceisiadau a wneir iddo ac sy'n gofyn am newidiadau i'w fap diffiniol neu ddatganiad, sef y dogfennau hynny sy'n ffurfio cofnod swyddogol yr awdurdod o'i hawliau tramwy cyhoeddus. O dan adran 121B o Ddeddf 1980 (a fewnosodwyd gan baragraff 15 o Atodlen 6 i Ddeddf CGHT) mae'n ofynnol i bob awdurdod lleol sefydlu a chadw cofrestr o'r ceisiadau a wneir iddo gan berchenogion, lesddeiliaid neu feddianwyr unrhyw dir sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer amaethyddiaeth, coedwigaeth neu ar gyfer bridio neu gadw ceffylau, ar gyfer gorchmynion dileu llwybrau cyhoeddus a gorchmynion gwyro. Mae rheoliad 3 yn rhagnodi'r wybodaeth y mae'n ofynnol ei chofnodi ar bob un o'r tair cofrestr. Mae rheoliadau 4 a 5 yn rhagnodi gwybodaeth bellach sydd i'w chofnodi mewn perthynas â chofrestr adran 53B a chofrestr adran 121B yn ôl eu trefn. Mae rheoliadau 6 i 9 yn gwneud darpariaeth ar gyfer y ffordd y mae'r cofrestrau i'w cadw, gan gynnwys y ddyletswydd sydd ar awdurdod i dynnu oddi ar gofrestr enw a chyfeiriad unrhyw berson os byddai peidio â gwneud hynny yn achosi niwed neu ofid (rheoliad 7). Diben y cofrestrau yw cynyddu gwybodaeth ymhlith perchenogion tir a'r cyhoedd am faterion a allai arwain at newidiadau i'r rhwydwaith hawliau tramwy cyhoeddus; osgoi dyblygu pan fo mwy nag un person efallai yn ystyried gwneud cais i awdurdod lleol am yr un newid i'r map diffiniol a'r datganiad; cynyddu sicrwydd ynghylch pa lwybrau neu ffyrdd y mae perchenogion tir yn bwriadu eu cyflwyno fel hawliau tramwy cyhoeddus; a chynorthwyo awdurdodau lleol i reoli eu swyddogaethau o ran hawliau tramwy cyhoeddus. Notes: [1] 1980 p.66, fel y'i mewnosodwyd yn eu tro gan adran 57 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (p.37), a pharagraffau 4 a 15 o Atodlen 6 iddi.back [2] 1981 p.69, fel y'i mewnosodwyd gan adran 51 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 a pharagraff 2 o Atodlen 5 iddi.back [3] Mae swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan yr adrannau hyn yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) ac Atodlen 1 iddo ac adran 99 o Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000.back
ISBN 0 11 091250 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 13 January 2006 |