Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006, ISBN 0110912519. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae'r Cynulliad Cenedlaethol, ac yntau wedi'i ddynodi [1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 mewn perthynas â pholisi amaethyddol cyffredin y Gymuned Ewropeaidd[2], drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 2(2) uchod a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2006 a deuant i rym ar 13 Ionawr 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru'n unig. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'r cyd-destun yn mynnu fel arall —
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn —
(b) at baragraff â Rhif yn gyfeiriad at y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw yn y rheoliad y ceir y cyfeiriad ynddo; ac (c) at is-baragraff â Rhif neu a ddynodwyd yn gyfeiriad at yr is-baragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw neu a ddynodwyd yn y modd hwnnw yn y paragraff y ceir y cyfeiriad ynddo.
Ceisiadau
(b) yn cynnwys y bydd y parti arall yn cyflawni ar y tir cytundeb weithgareddau er mwyn gwarchod cynefinoedd bywyd gwyllt a bennir yn Rhan 2 o'r Atodlen, i'r graddau y mae'r cynefinoedd yn bodoli ar y tir cytundeb; (c) yn cynnwys y bydd o leiaf 5% y tir cytundeb yn gynefin bywyd gwyllt. Os nad yw o leiaf 5% y tir cytundeb yn gynefin bywyd gwyllt pan fo cais yn cael ei wneud yna bydd y parti arall yn cytuno i sicrhau y bydd y tir cytundeb yn cydymffurfio â'r amod cynefin 5% ; (ch) yn cynnwys darpariaeth y bydd y parti arall yn cwblhau cynllun rheoli adnoddau fferm fel a fanylir yn Rhan 3 o'r Atodlen; (d) mewn perthynas â'r gweithgareddau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (a), (b), (c) ac (ch), yn ei gwneud yn ofynnol i'r Cynulliad Cenedlaethol neu'n ei alluogi i roi cymorthdaliadau sydd, ar ddyddiad dod i rym yr offeryn hwn, (ond fe ganiateir newid y cymorthdalaidau yn ôl disgresiwn y Cynulliad Cenedlaethol) ar y cyfraddau y cyfeirir atynt yn Rhan 4 o'r Atodlen.
Amodau talu cymhorthdal
(b) bod y person hwnnw'n cydymffurfio â gofynion rheoliad 7 isod; ac (c) bod y person hwnnw'n parhau i fod â buddiant yn y tir cytundeb tra pery'r cytundeb Tir Cynnal, onid yw'r person hwnnw'n un o denantiaid y tir cytundeb a bod llai na phum mlynedd o'r denantiaeth yn weddill, a bod y person hwnnw wedi cael llofnod ei Landlord ar y ffurflen indemnio landlord; (ch) bod y person hwnnw wedi cydymffurfio â darpariaethau'r Cod Arfer Ffermio Da ac yn parhau i gydymffurfio ag ef;
(2) y gellir addasu'r amodau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy o dan gynllun Tir Cynnal ar unrhyw adeg, gan gynnwys addasiad a osodir o ganlyniad i newidiadau a wneir yn y dyfodol i Gynllun Datblygu Gwledig Cymru 2002-2006 ac unrhyw gynllun sy'n ei olynu.
(b) gwrthod unrhyw gais pellach o'r fath heb ystyriaeth bellach.
Ceisiadau hwyr
(b) sicrhau p'un a gydymffurfiwyd â thelerau cytundeb Tir Cynnal; ac (c) cyflawni unrhyw arolygiad neu archwiliad sy'n angenrheidiol at ddibenion penderfynu a gydymffurfiwyd â'r Cod Ymarfer Ffermio Da.
(2) Bydd deiliad cytundeb Tir Cynnal yn rhoi pob cymorth rhesymol i'r person a awdurdodwyd mewn perthynas â'r materion a grybwyllir ym mharagraff (1), a bydd yn benodol yn—
(b) caniatáu i'r person a awdurdodwyd wneud copïau o unrhyw ddogfen neu gofnod o'r fath neu o ddarnau ohoni neu ohono; (c) os cedwir y ddogfen neu'r cofnod drwy gyfrwng cyfrifiadur, ei chynhyrchu neu ei gynhyrchu ar ffurf y byddo'n hawdd ei darllen a'i dwyn ymaith; ac (ch) ar gais y person a awdurdodwyd, mynd gyda'r person a awdurdodwyd pan fydd yn gwneud arolygiad o unrhyw dir er mwyn dangos pa ran o dir sy'n ymwneud â'r cais neu ag unrhyw newid yn ei feddiannaeth a hysbyswyd o dan reoliad 10.
Atal cymhorthdal a'i adennill
(b) yn mynd yn groes i unrhyw amodau y talwyd y cymhorthdal yn ddarostyngedig iddynt,
caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymhorthdal sy'n daladwy i'r deiliad cytundeb hwnnw o dan y Rheoliadau hyn a chaiff adennill y cyfan neu unrhyw ran o unrhyw gymhorthdal a dalwyd eisoes i'r deiliad. Amodau y mae'n rhaid cydymffurfio â hwy mewn perthynas â'r cyfan o'r tir sydd o dan gytundeb. Mae'r amodau fel a ganlyn:
• Dylid defnyddio deunyddiau a dulliau traddodiadol ar gyfer unrhyw waith cynnal a chadw a wneir ar ffiniau traddodiadol. • Gadawer heb eu torri mewn unrhyw un flwyddyn o leiaf 25% o wrychoedd neu berthi gan gynnwys unrhyw wrychoedd neu berthi ar gloddiau, gan adael pob gwrych neu berth heb ei dorri neu ei thorri am o leiaf un flwyddyn o bob pedair (ac eithrio pan fydd gofynion priffyrdd ac/neu iechyd a diogelwch yn rhwystr i hynny gydag ymyl ffyrdd). • Na thorrer gwrychoedd neu berthi rhwng 1 Mawrth a 31 Awst (ac eithrio pan fydd gofynion priffyrdd ac/neu iechyd a diogelwch yn rhwystr i hynny gydag ymyl ffyrdd).
• Na ddifroder coed a phlanhigion ac anifeiliaid cysylltiedig (e.e. drwy dreigl plaladdwyr). • Dylai unrhyw reolaeth ddilyn y canllawiau ar gyfer ystlumod mewn coed. • Cadwer coed crin onid ydynt yn achos perygl posibl neu rwystr.
• Rhodder caniatâd i gael mynediad ar droed i dir y dangosir ar y mapiau a baratowyd gan Ddeddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 ei fod yn dir sydd ar gael ar gyfer mynediad o'r fath.
• Dylid cynnal a chadw adeiladau traddodiadol gwrth-dywydd a chadarn mewn cyflwr da, gan ddefnyddio deunyddiau traddodiadol. • Dylid cynnal a chadw adeiladau traddodiadol gwrth-dywydd a chadarn a addaswyd gan ddefnyddio deunyddiau modern ond caniateir trwsio'r cydrannau modern â deunyddiau modern neu roi deunyddiau modern yn eu lle. • Rhaid cynnal a chadw nodweddion tirwedd traddodiadol a chadarn eraill sydd mewn cyflwr da (e.e. corlannau defaid, pontydd meini carreg). • Rhaid cadw nodweddion hanesyddol ac adeiladau traddodiadol sy'n adfeilion neu eu holion onid ydynt yn achos perygl posibl. • Nac aflonydder ar rywogaethau a warchodir ac a all fod yn defnyddio'r safleoedd hyn. • Rhaid cydymffurfio â Deddf Trysor 1996 wrth ddefnyddio canfodyddion metel.
• Cadwer clustogfa o 2m o gwmpas arweddion craig heb drin y tir, neu ddefnyddio gwrteithiau, calch, chwynladdwyr neu blaladdwyr eraill, (oni bai ar gyfer rhoi triniaeth gyfyngedig i chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol).
• Ni ddylid trin y tir neu daenu arno wrteithiau, deunydd gwastraff oddi ar y fferm, calch, plaladdwyr neu gemegion eraill fel eu bod yn glanio o fewn 1m i nodwedd ddŵr. • Na thaener tail buarth fferm neu slyri o fewn 10m i nodwedd ddŵr. • Rheoler y tir er mwyn osgoi stablan y pridd yn ormodol i'r graddau bod hynny'n andwyol i'r amgylchedd y tu hwnt i ffiniau'r safle ei hun, a hynny drwy lif dwr ac erydu pridd sy'n arwain at lygru cyrsiau dŵr a pheri bod mwy o waddod ynddynt. • Dylid osgoi pori trwm pan fo hyn yn arwain at ddwyn ymaith lystyfiant sydd yn ei dro yn arwain at erydu pridd. • Dylid osgoi erydu gormod ar lannau cyrsiau dŵr a llygru'r dŵr gan dda byw a dylid rheoli mynediad lle y bo angen hynny.
Mae'n un o ofynion Cynllun Tir Cynnal bod y cynefinoedd bywyd gwyllt sy'n bodoli ar y tir cytundeb yn cael eu gwarchod rhag niwed. Rhaid i o leiaf 5% o'r tir cytundeb fod yn gynefinoedd bywyd gwyllt. Y prif grwpiau o gynefinoedd bywyd gwyllt yw'r canlynol (ond nid yw'r rhestr yn un gyflawn): Coetir llydanddail: coetir, gan gynnwys llennyrch a rhodfeydd cysylltiedig, y mae o leiaf 50% o'r coed sydd ynddo yn goed brodorol neu'n goed yw. Cynhwysir coetir gwlyb o wern neu helyg a hefyd berllannau'n cynnwys coed ffrwythau hirgyff. Caniateir cynnwys coetir sy'n ymgorffori coed coniffer ar yr amod bod y rhywogaethau brodorol sydd ynddo yn gorchuddio mwy na 50% o'r arwynebedd (er y gellir cynnwys y rhai sydd â llai na 50% o rywogaethau brodorol os ydynt ar safleoedd coetiroedd hynafol). Prysgwydd: ardaloedd lle y mae mwyafrif y prysgwydd yn rhai brodorol megis y ddraenen wen, y ddraenen ddu, eithin, ysgaw, bedw neu fwyar duon. Gweundir: ardaloedd lle y mae o leiaf 25% o'r llystyfiant yn cynnwys corlwyni megis grug, llus ac eithin mân. Fe'u ceir mewn ystod o leoliadau o ardaloedd arfordir ac iseldir i ucheldiroedd. Mae gweundiroedd ucheldir, sydd fel arfer yn uwch na therfyn caeau amaethyddol, yn aml yn gysylltiedig â chynefinoedd rhostir megis corsydd a phorfa asid. Gweundiroedd mynydd-dir uchel: yn fwyaf nodweddiadol, gorchuddir y rhan helaethaf o'r rhain, sydd hefyd yn cael eu cynnwys, gan fwsoglau, cennau, glaswellt prin a chlytiau o dir caregog heb lystyfiant. Porfa: Ystod o gynefinoedd yn cynnwys porfa na chafodd ei gwella, porfa led naturiol, caeau gwair traddodiadol a phorfeydd corsiog, na fu unrhyw drin arnynt, na chawsant eu hau o'r newydd, na thaenwyd chwynladdwyr arnynt ac na chawsant eu draenio yn ystod y deng mlynedd diwethaf neu fwy. Ar y mwyaf ni fyddant wedi'u gwrteithio ond yn ysgafn â gwrtaith anorganig a nodwedd y cynefin fydd na fydd yno neu prin y bydd yno rywogaethau porfa a gafodd ei gwella megis rhygwellt parhaol a meillion gwyn. Os bydd y rhain yn fwy na 25% o'r glaswellt dylai'r tir gael ei ddosbarthu fel porfa a gafodd ei gwella ac nis cynhwysir yn gynefin o dan gynllun Tir Cynnal. Gwlyptiroedd: Mathau o dir sy'n cynnwys corsydd, gwelyau brwyn, mignenni a ffeniau. Fe'u ceir ar fawn dwfn a/neu lle y mae'r tabl dŵr ar yr un lefel â'r tir neu'n uwch am y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Ardaloedd arfordirol: Maent yn cynnwys morfeydd heli a thwyni tywod, yn ogystal â phrysgwydd arfordirol, gweundir, a phorfeydd y mae'r grwpiau cynefin blaenorol yn eu gorchuddio. Mae'r rhestr uchod yn diffinio'r prif fathau o gynefinoedd, ond gellir cynnwys yn gynefin Tir Cynnal ardaloedd neu gyrff lled naturiol eraill o ddŵr megis pyllau dŵr.
Diogelu Cynefinoedd Bywyd Gwyllt — Amodau
• Na ddefnyddier rholer na tsiaen ogau rhwng 1 Ebrill ac 15 Gorffennaf bob blwyddyn. • Na osoder system ddraenio newydd • Ni ddylid clirio ffosydd rhwng 1 Mawrth a 31 Awst • Na ddefnyddier chwynladdwyr neu blaladdwyr (ac eithrio i roi triniaeth gyfyngedig i chwyn niweidiol). • Ymgynghorer â Chyngor Cefn Gwlad Cymru ac/neu Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru ynghylch chwistrellu rhedyn ac ystyrier a oes angen Asesiad Effaith Amgylcheddol. • Na ddefnyddier gwrteithiau anorganig, gwrteithiau organig wedi'u prynu mewn bagiau, slyri neu ddeunyddiau gwastraff eraill oddi ar y fferm. • Na thaener unrhyw galch, slag basig, gwymon wedi'i galcheiddio, papur gwastraff, slwtsh neu ddeunyddiau gwastraff eraill oddi ar y fferm. • Dylid stocio'r tir yn unol â Chod Arfer Ffermio Da yn enwedig fel na fydd gorbori neu ddim digon o bori. • Dylid osgoi ymgymryd ag arferion bwydo atodol pan fydd y rhain yn peri niwed i lystyfiant a stablan y pridd. • Nac ymgymerer â bwydo atodol o fewn coetir llydanddail neu goetir cymysg. • Dylid osgoi rhychau cerbydau ar lystyfiant. • Nac echdynner mawn na symud ymaith greigiau. • Cadwer twmpathau morgrug. • Na symuder ymaith unrhyw bentyrrau o wymon.
Os nad oes digon o dir i fodloni'r rheol 5% gellir cynnwys gwrychoedd neu berthi sy'n bodoli a chynefinoedd/neu gynefinoedd newydd a gaiff eu creu er mwyn bodloni'r gofyniad hwn a'u cyfrif yn rhan o'r ardal gynefin.
• Cynnwys rhywogaethau brodorol megis coed cyll, y ddraenen wen, y ddraenen ddu a chelyn. • Bod yn ddi-fwlch (ac eithrio ar gyfer llidiardau ac o dan goed gwrychoedd neu goed perthi) rhwng corneli'r cae er mwyn darparu coridor bywyd gwyllt di-fwlch ar hyd y gwrych neu'r berth. • Cael eu gwarchod rhag da byw ar y naill ochr a'r llall. Os nad oes da byw'n bresennol (e.e. ar ffermydd tir âr) rhaid cadw heb unrhyw aflonyddu arno stribed 2 fetr o led gan gynnwys y gwrych neu'r berth ei hun a llystyfiant trwchus cysylltiedig. • Bod yn gyfan gwbl o dan rheolaeth y deiliad cytundeb Tir Cynnal fel bod y deiliad Cytundeb Tir Cynnal yn gallu gweithredu'n llwyr yr amodau ar gyfer gwrychoedd neu berthi yn yr Adran Fferm Gyfan. Mae hyn yn golygu na fyddo gwrychoedd neu berthi ffiniol yr ydych yn eu rhannu â ffermwr arall neu'r rhai ar ymyl priffyrdd cyhoeddus yn gymwys i'w cynnwys yn gynefin mewn llawer o achosion. • Os cynhwysir gwrychoedd neu berthi yn gynefin rhaid ychwanegu'r amod clustogfa 1 metr at led 2m y gwrych neu'r berth.
Os yw'r ardaloedd cynefin (ynghyd â gwrychoedd neu berthi cymwys os cynhwyswyd y rhain) yn dod i lai na 5% o dir y fferm bydd angen i'r ffermwr nodi ardaloedd o dir wedi'i wella lle y caiff cynefinoedd newydd eu creu. Bydd yn ofynnol i'r ardaloedd newydd hyn, o ychwanegu unrhyw gynefin sy'n bodoli atynt, fod yn gymaint â'r isafswm o 5% neu'n fwy na hynny.
• Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal (cyfeirier at ragnodau diogelu cynefin bywyd gwyllt). • Na thaener tail buarth fferm.
Rhagnodau ar gyfer taenu llai a hynny er mwyn adfer tir a gafodd ei wella yn dir a gafodd ei led wella
• Na thaener tail buarth fferm.
Rhagnodau ar gyfer gadael lleiniau ymyl heb eu torri ar dir grawnfwydydd
• Caniateir lleoli'r llain ymyl yn yr un lle neu gellir ei symud mewn cylch o gwmpas y tir cytundeb ym mhob un o flynyddoedd y cynllun. Os y'i symudir mewn cylch, dylid cadarnhau bob blwyddyn beth yw'r arwynebedd lleiaf sy'n ofynnol i fodloni'r "rheol 5% ". • Dylid caniatáu i'r llain ymyl aildyfu'n naturiol. • Cadwer yr holl dda byw oddi ar y llain ymyl. • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal (cyfeirier at y rhagnodau diogelu cynefin bywyd gwyllt yn Rhan 2). • Na thaener tail buarth fferm. • Na thaener molwsgladdwyr. • Dylid trin y llain ymyl unwaith bob blwyddyn rhwng 1 Hydref a 31 Mawrth (os bydd y llain ymyl yn aros yn ei hunfan am fwy na blwyddyn, caniateir ei thrin bob yn ail flwyddyn). • Ni chaniateir mynediad rheolaidd i beiriannau ar unrhyw ran o'r llain ymyl na defnyddio unrhyw ran ohoni fel llwybr. Mae torri gwrychoedd neu berthi neu gynnal arolygiadau rwtîn yn dderbyniol, ond os yw'n anhepgorol mynd ar y llain ymyl yn rheolaidd, rhaid iddi fod yn 7 metr o led o leiaf.
Rhagnodau ar gyfer lleiniau ymyl glaswelltog ar dir grawnfwydydd
• Rhaid hau cymysgedd o ddau o leiaf o'r rhywogaethau glaswellt canlynol er mwyn gorchuddio'r llain ymyl yn gyfan gwbl:
Yn ogystal ag o leiaf 3 kg/ha o naill ai meillion coch, meillion Sweden neu bys-y-ceirw.
• Rhaid gadael y glaswellt heb ei dorri a heb ei bori rhwng amser hau a 15 Gorffennaf. • Rhaid torri'r llain ymyl o leiaf unwaith y flwyddyn a chaniateir dwyn y torion ymaith (gellir eu difrodi, e.e. drwy eu compostio, neu eu defnyddio, e.e. fel gwair, silwair, neu borthiant glas). • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal (cyfeirier at y rhagnodau diogelu cynefin bywyd gwyllt yn Rhan 2). • Na thaener tail buarth fferm. • Na thaener molwsgladdwyr. • Na chaniataer i gerbydau fynd ar y llain ymyl rhwng amser hau ac 15 Gorffennaf yn y flwyddyn gyntaf, neu wedi hynny cyn 15 Gorffennaf os cedwir y llain ymyl yn ei hunfan am nifer o flynyddoedd.
Rhagnodau ar gyfer plannu coed llydanddail ar raddfa fechan
• Rhaid i'r coed fod yn rhywogaethau llydanddail brodorol ac o ran trwch dylid eu plannu fel nad oes llai na 3 metr rhyngddynt. • Amddiffynner y coed rhag da byw tra pery'r cytundeb Tir Cynnal. Cyflawnir hyn fel arfer drwy godi ffensys, oni fydd amgylchiadau'n sicrhau na fydd unrhyw dda byw yn gallu mynd ar y tir (e.e. tir cytundeb heb dda byw, neu ardaloedd a amddiffynnir gan nodweddion naturiol). • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal. • Caniateir taenu tail buarth fferm ar raddfa o 25 tunnell ar y mwyaf fesul hectar cyn plannu. Ni ddylid taenu tail buarth fferm o gwbl ar ôl plannu.
Rhagnodau ar gyfer sefydlu cnwd gorchudd i adar gwyllt
• Rhaid peidio â thorri'r cnwd na'i bori cyn 15 Mawrth yn y flwyddyn sy'n dilyn ei sefydlu. • Na thaener pryfladdwyr, ffwngladdwyr, molwsgladdwyr neu chwynladdwyr (ac eithrio ar gyfer rhoi triniaeth gyfyngedig i chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol). • Dim ond ar adeg sefydlu cnwd y caniateir defnyddio calch neu wrtaith (organig neu anorganig). • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal.
Rhagnodau ar gyfer sefydlu cnydau gwreiddlysiau nas chwistrellir
• Caniateir taenu glyffosad i ddifrodi llystyfiant sy'n bodoli cyn sefydlu'r cnwd, ond ni ddylid defnyddio unrhyw chwynladdwyr eraill, (ac eithrio i roi triniaeth gyfyngedig i chwyn niweidiol neu rywogaethau estron goresgynnol). • Dim ond os y'u rhoddir yn y twll neu'r rhych ar adeg sefydlu'r cnwd y caniateir defnyddio molwsgladdwyr. Ni chaniateir defnyddio unrhyw blaladdwyr eraill. • Mae defnyddio calch a gwrtaith yn dderbyniol. • Ni ddylid pori'r cnwd cyn 15 Hydref ac ni ddylid aredig y tir nes 1 Mawrth yn y flwyddyn sy'n dilyn sefydlu'r cnwd. • Opsiwn i'w symud mewn cylch yw hwn a gellir ei symud o gwmpas y fferm yn flynyddol cyhyd ag y cedwir cyfanswm yr arwynebedd y cytunwyd arno. • Ymgymerer â'r holl ragnodau perthnasol sy'n gymwys i gynefinoedd bywyd gwyllt ac a ddynodir o dan Tir Cynnal.
Bydd yn rhaid i bob un sy'n cymryd rhan gwblhau cynllun rheoli adnoddau fferm. Bydd angen i brif adran y cynllun adnoddau fferm gael ei chwblhau o fewn 6 mis ar ôl ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal. Bydd yn ofynnol i'r rhai sy'n cymryd rhan ddiweddaru'r ddogfen, drwy wneud newidiadau iddi pan fo hynny'n ofynnol. Bydd angen paratoi'r Cynllun a'i ddangos i un o Swyddogion y Cynulliad pan fydd yn amser arolygu'r fferm. Os yw fferm yn cynhyrchu, storio neu'n gwaredu slyri, tail buarth fferm, neu ddeunydd gwastraff organig arall, mae Cynllun Rheoli Tail yn ofynnol. Os nad oes Cynllun Rheoli Tail sy'n ymwneud â'r ardal gytundeb ar gael eisoes, mae'n ofynnol i'r deiliad cytundeb baratoi un, gan ddefnyddio'r templed Tir Cynnal a ddyluniwyd at y diben hwnnw. Rhaid cwblhau'r Cynllun Rheoli Tail o fewn deuddeng mis ar ôl ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal. Os taenir gwrtaith organig neu anorganig ar y tir cytundeb, mae Cynllun Rheoli Maetholion Pridd yn ofynnol. Os nad oes Cynllun Rheoli Maetholion Pridd ar gael yn hwylus, rhaid i'r parti arall baratoi un gan ddefnyddio'r templed Tir Cynnal a ddyluniwyd at y diben hwnnw. Rhaid paratoi'r Cynllun Rheoli Maetholion Pridd o fewn deuddeng mis i ymrwymo i gytundeb Tir Cynnal. Rhaid adolygu prif ran y Cynllun Rheoli Adnoddau, ac os ydynt yn ofynnol, y Cynllun Rheoli Tail a'r Cynllun Rheoli Maetholion Pridd, a hynny'n flynyddol o leiaf neu'n fwy aml os bernir gan y Cynulliad Cenedlaethol fod angen hynny. Telir o dan y Rheoliadau yn flynyddol fesul hectar fel a ganlyn:
Gwneir taliadau'n flynyddol ar ffurf ôl-daliadau. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru'n unig. Gwneir y Rheoliadau hyn yn unol â Rheoliad y Cyngor (EC) Rhif 1257/1999 a chynhwysir y fframwaith manwl ar gyfer gweithredu'r Rheoliad Cyngor hwnnw yn Rheoliad y Comisiwn (EC) Rhif 817/2004. Mae'r Rheoliadau'n darparu ar gyfer gwneud amryw daliadau grant i unrhyw berson sy'n ymrwymo i gytundeb gyda'r Cynulliad Cenedlaethol, pan fo'r person hwnnw'n cytuno i gymryd rhan yng nghynllun amaeth-amgylcheddol Tir Cynnal. Nod cynllun Tir Cynnal yw darparu cyfleoedd ar gyfer ffermwyr yng Nghymru i gymryd rhan mewn gwaith o natur amaeth-amgylcheddol ar eu tir drwy ddilyn set sylfaenol o amodau a ddisgrifir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn er mwyn gwarchod ardaloedd a nodweddion o bwys amgylcheddol ar eu tir. Mae'r Cynllun yn gofyn am lefelau o warchodaeth amgylcheddol sy'n uwch na gofynion y gyfraith a thraws-gydymffurfio, ond nid ydynt mor gaeth â rhai Tir Gofal. Nod cynllun Tir Cynnal yw rhwystro bioamrywiaeth rhag cael ei golli, diogelu nodweddion tirwedd, diogelu'r amgylchedd hanesyddol a lleihau llygredd. Os yw buddiolwr cynllun Tir Cynnal yn darparu gwybodaeth ffug neu gamarweiniol, neu os torrir y cytundeb Tir Cynnal, yna caiff y Cynulliad Cenedlaethol atal taliadau grant yn y dyfodol neu adennill, o ofyn amdano, unrhyw grant a dalwyd eisoes i'r buddiolwr. Os yw'n fwriad gan y Cynulliad Cenedlaethol i atal neu adennill grant, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi gwybod i'r buddiolwr a chaniatáu i'r buddiolwr wneud unrhyw sylwadau y mae'n dymuno eu gwneud o fewn cyfnod rhesymol o amser. Rhaid rhoi ystyriaeth i'r sylwadau hynny cyn i benderfyniad terfynol gael ei wneud. Cynhyrchwyd Arfarniad Rheoliadol ar gyfer yr offeryn hwn, a gellir cael copïau ohono gan Is-adran yr Amgylchedd, Cadwraeth a Rheoli, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ. Notes: [1] O.S. 2005/2766back [4] OJ Rhif L74/1, 26.2.04back
ISBN 0 11 091251 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 16 January 2006 |