Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006 © Hawlfraint y Goron 2006 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006, ISBN 0110912527. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 537A(1), (2) a (4) a 569(4) a (5) o Ddeddf Addysg 1996[1] ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru[2], mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) (Diwygio) 2006 a deuant i rym ar 11 Ionawr 2006. Diwygio Rheoliadau 2. —(1) Mae Rheoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn. (2) Yn rheoliad 2, yn y man priodol yn ôl trefn yr wyddor, mewnosoder y diffiniadau newydd canlynol—
(3) Yn rheoliad 2, yn lle'r diffiniad o "disgybl chweched dosbarth" rhodder—
(4) Yn Rhan 1 o'r Atodlen, ym mharagraff 5, hepgorer "ac, os felly, gyda phwy". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Addysg (Gwybodaeth am Ddisgyblion Unigol) (Cymru) 2003 ("Rheoliadau 2003") drwy wneud y canlynol—
(b) newid ychydig eiriad paragraff 5 o Ran 1 o'r Atodlen i Reoliadau 2003 fel na fydd yn ofynnol mwyach i gorff llywodraethu ysgol ddatgan â phwy y mae disgybl yn siarad Cymraeg yn y cartref; (c) newid geiriad paragraff 1 o Ran 2 o'r Atodlen honno fel bod modd i'r wybodaeth y gall fod yn ofynnol i'r corff llywodraethu ei darparu am ddisgyblion chweched dosbarth gynnwys gwybodaeth am ddisgyblion sydd wedi gadael yr ysgol yn ystod y flwyddyn ysgol; ac (ch) newid ychydig eiriad paragraff 1(c) o'r Rhan honno fel y bydd yr wybodaeth y gall fod yn ofynnol ei darparu ynghylch anghenion disgyblion, o ran sgiliau sylfaenol, am lythrennedd a Rhif edd yn cynnwys bellach anghenion disgyblion ar ddiwedd, yn ogystal ag ar ddechrau, eu rhaglen gweithgareddau dysgu.
Notes: [1] 1996 p.56. Mewnosodwyd adran 537A gan Ddeddf Addysg 1997 (p.44), adran 20, ac fe'i hamnewidiwyd gan Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (p.31), adran 140(1) ac Atodlen 30, paragraffau 57 a 153. I gael ystyr "prescribed" a "regulations" gweler adran 579(1) o Ddeddf 1996.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol i'r Cynulliad Cenedlaethol gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).back [3] O.S. 2003/3237 (Cy.137), a ddiwygiwyd gan O.S. 2005/35 (Cy.2).back
ISBN 0 11 091252 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2006 | Prepared 13 January 2006 |