Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005, ISBN 0110912489. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf Cymunedau Ewrop 1972[2] o ran mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu sylfaenol o ran bwydydd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghori â'r cyhoedd yn agored a thryloyw yn ystod cyfnod paratoi'r Rheoliadau hyn fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cig (Rheolaethau Swyddogol) (Ffioedd) (Cymru) 2005, a deuant i rym ar 1 Ionawr 2006, ac maent yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(b) 25% o'r swm hwnnw;
(b) (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995[5] neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995[6];
(b) gofynion Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Cigydda neu Ladd) 1995[7] i'r graddau y mae'r cyfryw wirhad yn ymwneud â lles yr anifeiliaid a gigyddir mewn lladd-dai ar gyfer eu bwyta gan bobl;
(b) (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel safle torri trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu 1995 neu Reoliadau Cig Dofednod, Cig Adar Hela a Ffermir a Chig Cwningod (Hylendid ac Arolygu) 1995;
(b) (er nad oes ganddo'r gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol sy'n ofynnol o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) a oedd, ar 31 Rhagfyr 2005, yn gweithredu fel cyfleuster prosesu anifeiliaid hela gwyllt trwyddedig o dan Reoliadau Cig Anifeiliaid Hela Gwyllt (Hylendid ac Arolygu) 1995[8]; ac
Ffioedd
(b) yn ddarostyngedig i baragraff (6), os yw'n llai na'r ffi interim, rhaid iddi roi credyd i'r gweithredydd o'r swm y mae'r ffi interim yn fwy na'r ffi rheolaethau swyddogol.
(4) Mae unrhyw ffi a hysbysir i weithredydd o dan baragraff (1), (2) neu (3) yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi.
(b) y dystiolaeth y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i'w galluogi i wirhau gwybodaeth a roddwyd iddi o dan is-baragraff (a) o'r paragraff hwn.
(2) Bydd unrhyw berson sydd—
(b) heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â hawliad a wnaed o dan y paragraff hwnnw,
yn euog o dramgwydd a bydd yn atebol ar gollfarn ddiannod i ddirwy nad yw'n fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol. ystyr "Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41") yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC[11]; ystyr "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002") yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd; ystyr "Rheoliad 852/2004" ("Regulation 852/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd[12] fel y'i darllenir gyda Rheoliad A a Rheoliad B; ystyr "Rheoliad 853/2004" ("Regulation 853/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid[13], fel y'i diwygiwyd gan Reoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad A, Rheoliad C a Rheoliad E; ystyr "Rheoliad 854/2004" ("Regulation 854/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl[14], fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad 882/2004, Rheoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad C, Rheoliad D a Rheoliad E; ystyr "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau gwirhad cydymffurfedd â chyfraith bwyd, iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid[15] fel y'i darllenir gyda Rheoliad C a Rheoliad E; ystyr "Rheoliad A" ("Regulation A") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 20 Gorffennaf 2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden; ystyr "Rheoliad B" ("Regulation B") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd; ystyr "Rheoliad C" ("Regulation C") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004, er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliadau (EC) Rhif au 854/2004 a 882/2004, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 a 854/2004; ystyr "Rheoliad D" ("Regulation D") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar Trichinella mewn cig; ac ystyr "Rheoliad E" ("Regulation E") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 5 Hydref sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 a 854/2004. Y ffi rheolaethau swyddogol 1. Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) a (3), y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy gan weithredydd unrhyw fangre am unrhyw gyfnod cyfrifyddu yw'r lleiaf o—
(ii) unrhyw ffi ychwanegol a dynnir mewn cysylltiad â'r fangre honno am y cyfnod hwnnw yn rhinwedd paragraff 8; a
(b) y costau amser a gynhyrchir gan y fangre honno am y cyfnod hwnnw.
2.
—(1) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os yw'r ffi rheolaethau swyddogol a gyfrifir o dan baragraff 1 am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (swm A), pan ychwanegir hi at y ffi rheolaethau swyddogol sy'n daladwy o ran pob cyfnod cyfrifyddu blaenorol sy'n dod o fewn yr un cyfnod ariannol (swm B), yn cynhyrchu cyfanswm (swm C) sy'n fwy na swm y ffi rheolaethau swyddogol a fyddai'n daladwy o dan baragraff 1 pe bai'r cyfnodau cyfrifyddu hynny yn un cyfnod cyfrifyddu (swm D).
Y ffi safonol 4. Caiff y ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, (a fynegir mewn Ewros), sy'n daladwy gan weithredydd lladd-dy, ei gyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu cigydda yno neu yn ôl y digwydd eu trin yno yn y cyfnod. 5. Caiff y ffi safonol am gyfnod cyfrifyddu (a fynegir mewn Ewros) sy'n daladwy gan weithredydd sefydliad trin anifeiliaid hela o ran anifeiliaid hela gwyllt a gafodd eu trin yno yn ystod y cyfnod hwnnw ei chyfrifo drwy luosi'r gyfradd a roddir yn y Tabl canlynol sy'n gymwys i anifeiliaid o fath penodol â nifer yr anifeiliaid o'r math hwnnw a gafodd eu trin yno yn y cyfnod. 6. Cyfrifir y ffi safonol am unrhyw gyfnod cyfrifyddu (a fynegir mewn Ewros) sy'n daladwy gan weithredydd safle torri neu sefydliad trin anifeiliaid hela drwy luosi gan 3 y nifer o dunelli o gig y daethpwyd ag ef i'r safle neu'r sefydliad o dan sylw yn ystod y cyfnod hwnnw i'w dorri neu i dynnu'r esgyrn yno. 7. Trosir y ffi safonol (a fynegir mewn Ewros) i bunnoedd drwy ei luosi â'r gyfradd drosi Ewro / punnoedd sy'n gymwys yn y flwyddyn y cyflawnwyd yr arolygiad. 8. —(1) Os bydd yr Asiantaeth o ran cyfnod cyfrifyddu yn tynnu costau uwch oherwydd aneffeithlonrwydd yng ngweithrediad y fangre, caiff, yn unol â'r paragraff hwn, ychwanegu ffi ychwanegol at y ffi safonol a dynnwyd mewn cysylltiad â'r fangre am y cyfnod hwnnw. (2) Bydd y ffi ychwanegol yn swm sy'n hafal i'r costau amser a gynhyrchir gan yr aneffeithlonrwydd am y cyfnod cyfrifyddu o dan sylw. (3) Ni chaiff yr Asiantaeth godi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn onid yw wedi hysbysu'r gweithredydd o'i bwriad i wneud hynny. (4) Rhaid rhoi'r hysbysiad y cyfeirir ato yn is-baragraff (3) cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r Asiantaeth benderfynu ei bod yn dymuno codi ffi ychwanegol yn unol â'r paragraff hwn. (5) At ddibenion y paragraff hwn ystyr "aneffeithlonrwydd" yw aneffeithlonrwydd ar ran y gweithredydd ac mae'n cynnwys yn benodol—
(b) torri i lawr mecanyddol oherwydd diffyg cynnal a chadw; (c) camau gorfodi a gymerir gan yr Asiantaeth neu gan arolygydd; (ch) tangyflogaeth arolygwyr a achosir oherwydd methiant y gweithredydd i lynu wrth yr oriau gwaith neu'r arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6); (d) darpariaeth annigonol o staff cigydda a achosir gan fethiant y gweithredydd i lynu at oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6); (dd) oedi a achosir gan risgiau i iechyd neu ddiogelwch arolygwyr y gellir eu priodoli i'r gweithredydd; ac (e) unrhyw newid i oriau gwaith neu arferion gwaith a gytunwyd at ddibenion y paragraff hwn yn unol ag is-baragraff (6) y gellir eu priodoli i'r gweithredydd.
(6) At ddibenion is-baragraffau (5)(ch), (d) ac (e), rhaid i'r Asiantaeth a'r gweithredydd gytuno ar oriau gwaith ac arferion gwaith a pharhau i adolygu'r oriau gwaith a'r arferion gwaith a gytunwyd.
(b) rhaid i'r person a enwebir roi cyfle i'r gweithredydd a'r Asiantaeth wneud sylwadau ar y mater sydd i'w benderfynu; ac (c) rhaid i'r person a enwebir, o fewn mis o'i enwebiad, benderfynu a oes ffi ychwanegol yn daladwy a hysbysu'r gweithredydd a'r Asiantaeth o'i benderfyniad.
(4) Rhaid i'r Asiantaeth sefydlu a chadw rhestr o bobl y caniateir eu henwebu at ddibenion y paragraff hwn a rhaid iddi ymgynghori â'r cyrff hynny y mae'n ymddangos iddi eu bod yn cynrychioli gweithredwyr cyn cynnwys unrhyw berson ar y rhestr.
(b) ychwanegu'r canlyniadau at ei gilydd; ac (c) ychwanegu unrhyw gostau staff lladd-dy a gytunwyd am y cyfnod hwnnw.
11.
Rhaid i gostau amser o ran unrhyw reolaethau swyddogol gynnwys unrhyw daliadau goramser neu lwfansau eraill tebyg a delir i'r arolygydd o dan sylw o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau am arfer y rheolaethau swyddogol hynny.
(b) yn unrhyw fangre yr aeth yr arolygydd iddi at ddibenion arfer rheolaethau swyddogol ac y caiff ei dalu amdano o dan gontract cyflogaeth neu gontract am wasanaethau (ni waeth a fydd yr arolygydd yn gallu arfer rheolaethau swyddogol yno ai peidio); ac (c) yn unrhyw le arall—
(ii) pan gaiff ei dalu o dan ei gontract cyflogaeth neu ei gontract am wasanaethau,
fel pe bai'n amser yr oedd yr arolygydd yn arfer rheolaethau swyddogol.
13.
Rhaid i'r Asiantaeth benderfynu tâl yr awr sy'n gymwys i arolygwyr, a chaiff benderfynu graddau gwahanol i arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd, gan ystyried am lefel cymwysterau a phrofiad arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau o arolygydd ac ystyried y gost o arfer rheolaethau swyddogol o ran arolygwyr gwahanol neu ddosbarthiadau gwahanol o arolygydd.
(b) y gyfran honno o gostau gweinyddol arfer y rheolaethau swyddogol y mae'r Asiantaeth o'r farn ei bod yn briodol ei dosrannu i'r tâl hwnnw yr awr.
15.
At ddibenion paragraff 14(b), ystyr "costau gweinyddol" yw'r holl gostau a dynnir yn rhesymol wrth arfer rheolaethau swyddogol gan gynnwys yn benodol gostau—
(b) cyflogau staff (gan gynnwys cost goramser, cyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogwyr a chyfraniadau pensiynau) heblaw arolygwyr sydd wrthi'n arfer rheolaethau swyddogol, a'r gyfran honno o dâl yr arolygwyr nad oes cyfrif amdani yn uniongyrchol yng nghyfrifiad costau amser; (c) darparu swyddfa, cyfarpar a gwasanaethau o ran arfer rheolaethau swyddogol, gan gynnwys dibrisiad unrhyw ddodrefn a chyfarpar swyddfa a hefyd darparu technoleg gwybodaeth, papur ysgrifennu a ffurflenni; (ch) dillad amddiffynnol ac offer a ddefnyddir wrth arfer rheolaethau swyddogol a glanhau'r dillad hynny; (d) cyfrifyddu a chasglu ffioedd a darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél yng nghyswllt cyflogaeth arolygwyr; a (dd) treuliau a gorbenion eraill a dynnwyd gan neu o ran—
(ii) staff eraill sydd wrthi'n gweinyddu'r rheolaethau hynny.
16.
Caiff yr Asiantaeth amrywio unrhyw gyfradd a benderfynir yn unol â pharagraff 13 os yw'n ymddangos iddi, o ystyried y ffactorau a nodir ym mharagraff 14 a 15, ei bod yn angenrheidiol gwneud hynny.
(b) ystyr "y ffi safonol" ("the standard charge"), o ran unrhyw ladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela neu safle torri am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r ffi a gyfrifir yn unol â pharagraff 4, 5 neu 6, yn ôl y digwydd, a drosir i bunnoedd yn unol â pharagraff 7; (c) ystyr "cyfradd drosi Ewro / punnoedd" ("the Euro / sterling conversion rate") sy'n gymwys o ran unrhyw flwyddyn o dan sylw yw—
(ii) ym mhob blwyddyn ar ôl hynny, y gyfradd a gyhoeddir yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ar ddiwrnod gwaith cyntaf Medi y flwyddyn flaenorol neu, os na chyhoeddir cyfradd ynddo ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd gyntaf a gyhoeddir ynddo ar ôl hynny; a
(ch) ystyr "costau amser" ("time costs"), o ran unrhyw sefydliad am unrhyw gyfnod cyfrifyddu, yw'r costau a gyfrifir yn unol â pharagraffau 10 i 12; a
(2) Mae i'r ymadroddion a ddefnyddir yn yr Atodlen hon, heblaw'r rheini a ddiffinnir yn is-baragraff (1), ac unrhyw ymadroddion Saesneg cyfatebol a ddefnyddir yng Nghyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC ar ariannu arolygiadau milfeddygol a rheolaethau a gwmpesir gan Gyfarwyddebau 89/662/EEC, 90/425/EEC, 90/675/EEC a 91/496/EEC (fel y'u diwygiwyd a'u cydgrynhoi gan Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC[16]) yr un ystyr ag ystyr yr ymadroddion Saesneg cyfatebol hynny a grybwyllir yn y Gyfarwyddeb a enwyd gyntaf uchod. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998 (O.S. 1998/2095, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/656, O.S. 2001/1302 (Cy.79) ac O.S. 2001/3831 (Cy.317)), sy'n rhychwantu Prydain Fawr gyfan, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru. 2. Yr oedd Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998 yn rhoi ar waith o ran Prydain Fawr ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC ar ariannu arolygiadau a rheolaethau milfeddygol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod ffioedd yn cael eu casglu am arolygiadau o gig coch ffres, cig dofednod ffres, cig cwningod, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt a rheolaethau arnynt o dan Gyfarwyddebau penodol y Cyngor. Atodir testun diwygiedig ac a gydgrynhowyd o Gyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC yn OJ Rhif L162, 1.7.96, t.1. 3. Yng ngoleuni diwygiadau i drefn y Gymuned ar lywodraethu hylendid bwyd sy'n dod yn effeithiol ar 1 Ionawr 2006, Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33; mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12), addesir Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC gydag effaith o 1 Ionawr 2006 ymlaen fel bydd yn ofynnol o'r dyddiad hwnnw ymlaen gasglu ffioedd am reolaethau swyddogol ar gig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206; mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83). 4. Yng ngoleuni'r addasiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC a ddisgrifir ym mharagraff 3, mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith ddarpariaethau'r Gyfarwyddeb honno sydd bellach yn ei gwneud yn ofynnol bod ffioedd i'w casglu am arolygiadau ar gig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt a rheolaethau arnynt o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004. 5. Mae'r Rheoliadau hyn—
(b) yn darparu bod unrhyw ffi rheolaethau swyddogol a hysbysir yn y modd hwnnw yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi (rheoliad 3); (c) yn caniatáu i'r Asiantaeth wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol eraill mewn mangre benodol, er gwaethaf gorchymyn Llys yn ei gwneud yn ofynnol i weithredydd y fangre dalu ffi rheolaethau swyddogol y mae'n atebol amdani, os yw'r gweithredydd yn methu cydymffurfio â'r gorchymyn (rheoliad 4); (ch) yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau—
(ii) rhoi i'r Asiantaeth ar hawliad y dystiolaeth honno y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i wirhau'r wybodaeth honno (rheoliad 5);
(d) yn darparu bod person sydd—
(ii) heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â hawliad a wnaed am wybodaeth neu dystiolaeth,
yn euog o dramgwydd (rheoliad 5);
6.
Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn gosod sut y mae cyfrifo ffi'r rheolaethau swyddogol. Notes: [1] O.S. 2005/1971.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back [5] O.S. 1995/539, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/3292 (W.252).back [6] O.S. 1995/540, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/3292 (W.252).back [8] O.S. 1995/2148, a ddirymwyd gydag effaith o 1 Ionawr 2006 gan O.S. 2005/3292 (W.252).back [9] O.S. 1998/2095, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/1302 (Cy.79), ac O.S. 2001/3831 (Cy.317).back [11] OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).back [12] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).back [13] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad 853/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).back [14] OJ Rhif L155, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad 854/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).back [15] OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).back [16] Mae testun Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC wedi cael ei atodi i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC yn OJ Rhif L162, 1.7.96, t.1. Addaswyd Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC gan Gyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33); mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi ei osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).back
ISBN 0 11 091248 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 6 January 2006 |