Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2005, ISBN 0110912535. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] mewn perthynas â Pholisi Amaethyddol Cyffredin y Gymuned Ewropeaidd, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan yr adran honno, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2005. (2) Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 1 Ionawr 2006 ac maent yn gymwys o ran Cymru. Diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2004 2. Mae Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2004[3] yn cael eu diwygio fel a ganlyn— (1) Yn rheoliad 2(2), rhodder y canlynol yn lle'r testun presennol—
(2) Yn rheoliad 3, rhodder y canlynol yn lle'r testun presennol—
(3) Yn rheoliad 4(1), rhodder y canlynol yn lle'r testun presennol—
(4) Yn rheoliad 7—
(b) ym mharagraff (2)(b), yn lle "may only do so", rhodder "has the power to"; (c) ym mharagraff (3), yn lle "may", rhodder "has the power to"; (ch) yn rheoliad 7(4), y tro cyntaf y ceir "may", rhodder "has the power to".
(5) Yn lle paragraff 1 o'r Atodlen, rhodder—
1. —(1) A farmer must, subject to sub-paragraph (3), complete a soil assessment record booklet. (2) The soil assessment record booklet must—
(b) accurately reflect the position on the holding as of 1 January of the calendar year; (c) be signed and dated upon completion; (d) be updated as and when necessary; and (e) be made available to staff of the National Assembly upon request.”.
(3) If a farmer has completed a resource management plan in accordance with the requirements of the Tir Cynnal (Wales) 2006 Regulations[4] then the farmer does not have to comply with the other provisions of this regulation.".
(6) Ym mharagraff 6(2) o'r Atodlen, cyn "(d)" dileer "or", ar ôl "provided" rhodder ";" yn lle "." ac ychwaneger—
(e) avoid poaching that leads to soil run off into watercourses.".
(7) Ym mharagraff 12(2) o'r Atodlen—
(8) Yn lle paragraff 12(3) o'r Atodlen, rhodder—
(b) during the period beginning on 1 March and ending on 30 April if the National Assembly has given the farmer written permission to do so because it considers that cutting or trimming is necessary for purposes of a competition or training event.".
(9) Ym mharagraff 12(4)—
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cynllun Taliad Sengl a Chynlluniau Cymorth y Polisi Amaethyddol Cyffredin (Trawsgydymffurfio) (Cymru) (Diwygio) 2004 ("y Prif Reoliadau"). Mae rheoliad 2(1) yn diweddaru cyfeiriadau at yr offerynnau Cymunedol yn y Prif Reoliadau i fod yn gyfeiriadau at yr offerynnau Cymunedol fel y'u diwygiwyd ar y dyddiad y mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud. Mae rheoliadau 2(2), (3) a (4) yn cywiro mân wallau drafftio. Mae rheoliad 2(4) yn egluro pwerau personau awdurdodedig yn rheoliad 7 o'r Prif Reoliadau. Mae Rheoliad 2(5) yn cyflwyno safon newydd o ran cyflwr amaethyddol ac amgylcheddol da ("CAAD") ac yn disodli'r gofyniad blaenorol i ffermwr lenwi ffurflen wirio ynghylch rheoli pridd yn 2005. Yn ôl y gofyniad newydd rhaid i ffermwr gwblhau llyfryn cofnodi asesiadau o'r pridd. Rhaid i'r llyfryn hwn gael ei ddiweddaru gan y ffermwr a'i roi ar gael i staff y Cynulliad Cenedlaethol os gofynnir iddo wneud hynny. Caiff ffermwr ei esemptio rhag y rhwymedigaeth hon os bydd wedi cwblhau [cynllun rheoli adnoddau o dan Reoliadau Tir Cynnal (Cymru) 2005]. Mae rheoliad 2(6) yn diwygio'r safon CAAD o ran gorbori a dulliau porthi atodol anaddas ("overgrazing and unsuitable supplementary feeding methods") i atal sathru difrifol sy'n peri i bridd redeg i mewn i gyrsiau dŵr. Mae rheoliadau 2(7) a 2(9) yn diwygio'r safonau CAAD o ran gwrychoedd neu berthi ("hedgerows"). Os bydd ffermwr yn caniatáu i gystadleuaeth neu ddigwyddiad hyfforddi gael ei chynnal neu ei gynnal ar ei fferm rhwng 1 Mawrth a 30 Ebrill a hynny'n ddarostyngedig i gymeradwyaeth ysgrifenedig y Cynulliad Cenedlaethol, caiff y ffermwr blygu gwrychoedd a pherthi a choedlannu. Caniateir bellach i ffermwr sy'n plannu cnydau gaeaf âr ar dir âr dorri neu docio gwrychoedd neu berthi perthnasol ar y tir hwnnw yn ystod mis Awst. Notes: [1] O.S. 2005/1971.back [3] O.S. 2004/3280 (Cy.284).back
ISBN 0 11 091253 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 19 January 2006 |