Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005, ISBN 011091239X. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 24D(1A), 24D(2), 26(3A)(b), 26(4A), 26(5), 26(5A), 26(6), 26A(3), 59(5) a 104(4) o Ddeddf Plant 1989[1] a pharagraff 6 o Atodlen 7 iddi drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:— Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2006. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(b) mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd eraill y Cynulliad Cenedlaethol;
(2) Mae unrhyw hysbysiad sy'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn i'w roi'n ysgrifenedig a chaniateir ei anfon drwy'r post. Uwch-swyddog â chyfrifoldeb am gwynion 4. Rhaid i bob awdurdod lleol ddynodi uwch-swyddog i fod yn gyfrifol am geisio sicrhau y cydymffurfir â'r trefniadau a wneir gan yr awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn. Swyddog cwynion 5. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol benodi person, y cyfeirir ato yn y Rheoliadau fel swyddog cwynion, i reoli'r gweithdrefnau ar gyfer ymdrin â'r sylwadau a'u hystyried ac yn benodol—
(b) i gyflawni unrhyw swyddogaethau eraill a fynnir gan yr awdurdod lleol mewn perthynas â sylwadau; ac (c) i gydweithredu ag unrhyw bersonau neu gyrff eraill ag y gall fod yn angenrheidiol er mwyn ymchwilio i sylwadau.
(2) Caiff unrhyw berson a awdurdodir gan yr awdurdod lleol i weithredu ar ran y swyddog cwynion gyflawni swyddogaethau'r swyddog cwynion.
(b) cael ei benodi'n swyddog cwynion ar gyfer mwy nag un corff.
Gwybodaeth a hyfforddiant i staff Cwmpas y weithdrefn sylwadau 7. Mae swyddogaethau canlynol awdurdod lleol yn swyddogaethau cymwys at ddibenion adran 26(3) o'r Ddeddf—
(b) swyddogaethau o dan adran 33; (c) swyddogaethau o dan adran 34; (ch) swyddogaethau o dan adran 35; (d) swyddogaethau o dan adran 43; (dd) swyddogaethau o dan adran 44; ac (e) swyddogaethau o dan adran 47.
Sylwadau darostyngedig i ystyriaeth gydredol
(b) y mae'r awdurdod lleol yn dwyn achos disgyblu neu'n bwriadu dwyn achos disgyblu yn ei gylch, neu (c) y mae'r awdurdod lleol wedi'i hysbysu bod ymchwiliad yn cael ei gynnal iddo gan unrhyw berson neu gorff gyda'r bwriad o ddwyn achos troseddol, neu (ch) y galwyd cyfarfod yn ei gylch o gyrff eraill gan gynnwys yr heddlu i drafod materion sy'n ymwneud ag amddiffyn plant neu oedolion hawdd eu niweidio, neu (d) yr hysbyswyd yr awdurdod lleol yn ei gylch, fod ymchwiliadau cyfredol yn mynd rhagddynt gyda'r bwriad o ddwyn achosion o dan adran 59 o Ddeddf Safonau Gofal 2000[6],
rhaid i'r awdurdod lleol ystyried, drwy ymgynghori â'r achwynydd ac ag unrhyw berson neu gorff arall y mae'n briodol ymgynghori ag ef ym marn yr awdurdod, sut y dylid ymdrin â'r sylwadau. Cyfeirir at sylwadau o'r fath at ddibenion y rheoliad hwn fel "sylwadau darostyngedig i ystyriaeth gydredol".
(b) pan nad oes gan neu pan nad oedd gan unrhyw awdurdod y cyfrifoldeb hwnnw, gan yr awdurdod y mae'r plentyn yn preswylio'n arferol neu yr oedd y plentyn yn preswylio'n arferol ddiwethaf yn ei ardal.
Ymdrin â sylwadau safonau gofal
(b) gofyn i'r person yr anfonir ato fanylion o dan is-baragraff (a) hysbysu'r awdurdod o fewn 10 niwrnod gwaith o ganlyniad ei ystyriaeth o'r gŵyn; a (c) hysbysu'r achwynydd o'r camau sydd wedi'u cymryd o dan is-baragraffau (a) a (b).
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys—
(b) pan fo'r awdurdod lleol o'r farn y byddai mynd ymlaen o dan baragraff (1) yn debygol o beryglu neu ragfarnu'r ymchwiliad i'r sylwadau o dan Ran IV o'r Rheoliadau neu y byddai'n peryglu neu'n rhagfarnu ymchwiliad gan y Cynulliad Cenedlaethol.
(3) Mewn unrhyw achos pan fo sylwadau'n ymwneud yn gyfan gwbl neu'n rhannol â gwasanaethau a ddarperir gan sefydliad neu asiantaeth y mae person wedi'i gofrestru gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn cysylltiad ag ef neu hi, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu swyddfa briodol ("appropriate office") y Cynulliad Cenedlaethol os na fu'n bosibl dod i benderfyniad ar y sylwadau o dan reoliad 15. Gwneud sylwadau 11. Caniateir gwneud sylwadau ar lafar neu'n ysgrifenedig (gan gynnwys eu gwneud yn electronig). Dyletswydd yr awdurdod lleol i ddarparu gwybodaeth a chymorth i achwynwyr 12. —(1) Cyn gynted â phosibl ar ôl i'r sylwadau ddod i law rhaid i'r awdurdod lleol—
(ii) gwybodaeth am wasanaethau eirioli, pan fo'n briodol; a
(b) cynnig i'r achwynydd—
(ii) cymorth i gael eiriolwr, pan fo'n briodol.
Sylwadau a wneir gan "bersonau eraill" ("other persons") o dan adran 26(3)(e) o'r Ddeddf
(b) mewn unrhyw achos arall, ar y dyddiad y daeth y sylwadau i law'r awdurdod lleol.
(2) Caniateir estyn y cyfnod y cyfeirir ato ym mharagraff (1) pan geir cais gan yr achwynydd am wneud hynny neu gyda chytundeb yr achwynydd hyd at 10 niwrnod gwaith ychwanegol.
(b) bod yr awdurdod lleol yn hysbysu'r achwynydd—
(ii) o hawl yr achwynydd i fynnu cael ystyried y sylwadau heb gynnwys eiriolwr.
(5) At ddibenion paragraff (1), mewn unrhyw achos pan fyddai'n briodol gwneud hynny, a chyda chytundeb yr achwynydd, caiff yr awdurdod lleol wneud trefniadau ar gyfer cymodi, cyfryngu neu ar gyfer cymorth arall at ddibenion penderfynu ar y sylw.
(b) o'r weithdrefn ar gyfer gofyn am ystyriaeth bellach o'r fath; ac (c) o'r dyddiad erbyn pryd y mae'n rhaid gwneud cais o'r fath gan roi sylw i ddarpariaethau paragraff (8).
(8) Caiff yr achwynydd ofyn ar lafar neu'n ysgrifenedig am i'r sylwadau gael eu hystyried yn ffurfiol o dan reoliad 16, a hynny ar unrhyw adeg o fewn 30 o ddiwrnodau gwaith i'r dyddiad y gwnaed y sylwadau gyntaf.
(b) anfon copi o'r sylwadau at unrhyw berson sy'n destun y sylwadau—
(ii) oni fyddai rhoi hysbysiad ar yr adeg honno'n rhagfarnu'r ystyriaeth o'r sylwadau.
(6) Caiff yr awdurdod lleol—
(b) gofyn am unrhyw gyngor sy'n ofynnol ym marn y swyddog cwynion.
(7) Pan gaiff unrhyw berson ei gyf-weld yn unol â pharagraff 6(a) rhaid i'r awdurdod lleol—
(b) gwahodd y person hwnnw i ddatgan pa mor gywir yw'r cofnod drafft; (c) ystyried unrhyw sylwedaethau a wneir gan y person; ac (ch) yng ngoleuni'r sylwadaethau hynny, gwneud unrhyw ddiwygiadau i'r cofnod sy'n angenrheidiol ym marn yr awdurdod er mwyn sicrhau bod y cofnod yn un cywir.
(8) Rhaid i'r awdurdod lleol gymryd pob cam rhesymol i roi gwybod i'r achwynydd am hynt ei ystyriaeth ffurfiol o'r sylwadau.
(b) sy'n disgrifio'r ymchwiliad o dan reoliad 16 ac yn crynhoi'r casgliadau; (c) sy'n egluro pa gam a fydd yn cael ei gymryd i benderfynu ar y sylwadau; (ch) sy'n cynnwys ymddiheuriad i'r achwynydd, pan fo'n briodol, a (d) sy'n nodi pa gam arall, os o gwbl, a fydd yn cael ei gymryd yng ngoleuni'r sylwadau.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3) a rheoliad 13, rhaid anfon yr ymateb at yr achwynydd o fewn 25 o ddiwrnodau gwaith yn cychwyn ar y dyddiad y daeth cais gan yr achwynydd am ystyriaeth ffurfiol i law'r awdurdod lleol.
(b) sylwadau yr ymdriniwyd â hwy fel sylwadau darostyngedig i ystyriaeth gydredol o dan reoliad 8; neu (c) unrhyw sylwadau eraill pan fo'r achwynydd wedi cytuno i'r ymateb fod yn hwyrach,
nad yw'n bosibl anfon yr ymateb o fewn 25 o ddiwrnodau gwaith, rhaid i'r awdurdod lleol hysbysu'r achwynydd o'r rheswm am yr oedi, o'r dyddiad y mae'n disgwyl anfon yr ymateb a rhaid iddo anfon yr ymateb hwnnw cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol.
(b) y weithdrefn ar gyfer gofyn am ystyriaeth bellach o'r fath; ac (c) o fewn pa gyfnod o amser y mae'n rhaid gwneud cais o'r fath.
(5) Rhaid anfon copïau o'r ymateb a baratoir yn unol â pharagraff (1)—
(b) at y person annibynnol a benodir o dan reoliad 17; (c) at unrhyw berson oedd yn destun y sylwadau; (ch) os sylwadau safonau gofal a grybwyllir yn rheoliad 10 yw'r sylwadau, at y person a gofrestrir o dan Ddeddf Safonau Gofal 2000 neu Ddeddf Plant 1989 fel darparwr mewn cysylltiad â'r sefydliad neu'r asiantaeth.
Monitro'r modd y gweithredir y weithdrefn sylwadau 19. Rhaid i bob awdurdod lleol fonitro'r trefniadau y mae wedi'u gwneud gyda'r bwriad o sicrhau bod yr awdurdod lleol yn cydymffurfio â'r Rheoliadau hyn drwy gadw cofnod o bob un o'r sylwadau a ddaeth i law, o ganlyniad pob un o'r sylwadau, a pha un a gydymffurfiwyd â'r terfynau amser a bennir yn rheoliadau 15 a 18. Adroddiad Blynyddol 20. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi adroddiad blynyddol ar ei berfformiad o ran ymdrin â sylwadau a'u hystyried, a hynny at ddibenion—
(b) gwella'r modd yr ymdrinnir â'r sylwadau ac y'u hystyrir.
(2) Rhaid llunio'r adroddiad cyntaf y cyfeirir ato ym mharagraff (1) o fewn 12 mis i ddyddiad dod i rym y Rheoliadau hyn. Darpariaethau Trosiannol ac Arbedion 21. —(1) Pan na orffennwyd ystyried y sylwadau hyn yn unol â Rheoliadau 1991 ar yr adeg pan ddaw'r Rheoliadau hyn i rym yna bydd y paragraffau canlynol yn gymwys i'r weithdrefn. (2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (3) a (4) bydd y sylwadau'n cael eu hystyried yn unol â Rheoliadau 1991 yr arbedwyd eu darpariaethau perthnasol at y diben hwnnw'n unig. (3) Os bod yr achwynydd, yn unol â rheoliad 8(2) o Reoliadau 1991, wedi hysbysu'r awdurdod lleol ei fod yn dymuno i'r mater gael ei gyfeirio at banel ond nad oes panel wedi'i benodi yn unol â'r rheoliad hwnnw, yna rhaid i'r awdurdod lleol drin hysbysiad yr achwynydd fel cais am i'r sylwadau gael eu hystyried ymhellach yn unol â darpariaethau mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 26ZB o'r Ddeddf. (4) Os bydd yr awdurdod lleol wedi rhoi hysbysiad yn unol â rheoliad 8(1) o Reoliadau 1991 ac nad yw'r achwynydd wedi hysbysu'r awdurdod lleol ei fod yn dymuno i'r mater gael ei gyfeirio at banel ac nad yw'r amser ar gyfer rhoi hysbysiad o'r fath wedi dod i ben, yna rhaid i unrhyw hysbysiad y mae'r achwynydd yn ei roi fod yn gais am i'r sylwadau gael eu hystyried ymhellach, neu fel cais am i'r sylwadau gael eu hystyried ymhellach y mae'n rhaid ei drin, a hynny'n unol â darpariaethau mewn rheoliadau a wneir gan y Cynulliad Cenedlaethol o dan adran 26ZB o'r Ddeddf. Dirymu 22. —(1) Dirymir Rheoliadau'r Weithdrefn Sylwadau (Plant) 1991[8] ac eithrio i'r graddau sy'n angenrheidiol at ddibenion rheoliad 21. (2) Dirymir rheoliad 4(2) o Reoliadau Gwasanaethau Eiriolaeth a Gweithdrefn Sylwadau (Plant) (Cymru) 2004[9] Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[10]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 6 Rhagfyr 2005 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn disodli Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991 i adlewyrchu'r newidiadau a wnaed gan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a Deddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 i'r darpariaethau ar gyfer y gweithdrefnau o dan Ddeddf Plant 1989 (y Ddeddf) ar gyfer ystyried sylwadau, gan gynnwys cwynion. Y canlynol yw'r prif wahaniaethau rhwng y gweithdrefnau a sefydlwyd o dan Reoliadau 1991 a'r rhai a sefydlir o dan y Rheoliadau hyn: estyn swyddogaethau awdurdodau lleol y gellir gwneud sylwadau arnynt o dan adran 26 (maent wedi'u cyfyngu hyd yn hyn i swyddogaethau o dan Ran 3 o'r Ddeddf)(rheoliad 7); cyflwyno gofyniad am i awdurdodau lleol geisio penderfynu'n anffurfiol ar yr holl sylwadau o dan weithdrefn y Ddeddf (ar hyn o bryd dim ond i sylwadau a wneir o dan adran 24D y mae penderfynu'n lleol yn gymwys) (rheoliad 15); a dileu'r cam o'r weithdrefn y mae panel ynghlwm wrtho (caniateir yn lle hynny ystyriaeth bellach o sylwadau achwynwyr gan banel annibynnol a sefydlir o dan reoliadau ar wahân a wneir o dan adran 26ZB o'r Ddeddf). Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol ddynodi swyddog hyn a chanddo gyfrifoldebau mewn perthynas â sylwadau ac mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol benodi swyddog cwynion. Mae rheoliad 6 yn gosod gofynion o ran hyfforddi staff awdurdod lleol. Mae rheoliad 8 yn sefydlu gweithdrefn ar gyfer ystyried sut y mae'n rhaid ymdrin â sylwadau pan fo person neu gorff arall yn eu hystyried ar yr un pryd. Mae hyn y caniatáu i'r awdurdod lleol atal ystyriaeth dros dro pe byddai parhau â hi'n peryglu neu'n rhagfarnu'r ystyriaeth arall. Mae rheoliad 9 yn darparu ar gyfer penderfynu pa awdurdod lleol fydd yn ystyried sylwadau pan fo mwy nag un yn ymwneud â'r mater. Caniateir gwneud sylwadau ar lafar neu'n ysgrifenedig (rheoliad 11) a chaniateir eu tynnu'n ôl ar lafar neu'n ysgrifenedig (rheoliad 14). Un o'r categorïau o bobl a gaiff wneud sylwadau o dan adran 26 o Ddeddf 1989, yn unol ag adran 26(3)(e), yw unrhyw bersonau eraill (ond nid y plentyn, y rhiant, y rhiant maeth neu berson â chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn) y mae ganddynt, ym marn yr awdurdod lleol, fuddiant digonol yn lles y plentyn i warantu bod sylw'r person hwnnw'n cael ei ystyried gan yr awdurdod. Mae rheoliad 13 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol benderfynu a oes gan yr achwynydd fuddiant digonol o'r fath ac iddo hysbysu'r achwynydd a'r plentyn os yn briodol o'r penderfyniad hwnnw. Mae rheoliad 16 yn sefydlu'r weithdrefn ar gyfer ystyriaeth ffurfiol o'r sylwadau pan na chafwyd penderfyniad lleol o dan reoliad 15. Rhaid i'r weithdrefn o dan reoliad 16 gynnwys person annibynnol a benodir o dan reoliad 17; nid oes angen i'r weithdrefn o dan reoliad 15 gynnwys y person annibynnol. Mae rheoliad 18 yn nodi'r gofynion mewn perthynas â'r ymateb sydd i'w anfon gan yr awdurdod lleol gan gynnwys ymateb ynghylch hawl yr achwynydd i ofyn am i banel annibynnol ystyried y sylwadau ymhellach o dan y weithdrefn a sefydlir o dan adran 26ZB o'r Ddeddf. Mae rheoliad 19 yn nodi sut y mae awdurdodau lleol i fonitro'r trefniadau y maent wedi'u gwneud a hynny gyda'r bwriad o sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Rheoliadau. Notes: [1] 1989 p.41. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol o ran Lloegr. Trosglwyddwyd y gwaith o arfer y pwerau o ran Cymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn rhinwedd erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) a'r cyfeiriad at Ddeddf Plant 1989 yn Atodlen 1 iddo.back [4] O.S. 1991/894; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1991/2033, 2001/2874.back [5] O.S. 2004/1448 (Cy.148).back [7] O.S. 2005/3366 (Cy.263).back [9] O.S. 2004/1448 (Cy.148).back
ISBN 0 11 091239 X
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 14 December 2005 |