Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2005, ISBN 0110912373. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 259 o Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Partneriaeth Sifil 2004 (Diwygiadau Canlyniadol i Is-ddeddfwriaeth) (Cymru) 2005 (2) Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 5 Rhagfyr 2005 ac mae'n gymwys o ran Cymru. Y diwygiadau i is-ddeddfwriaeth 2. Mae'r Atodlen (sy'n cynnwys diwygiadau i is-ddeddfwriaeth) yn cael effaith. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 29 Tachwedd 2005 Rheoliadau Awdurdod Datblygu Cymru (Iawndal) 1976 1. Yn Rheoliadau Awdurdod Datblygu Cymru (Iawndal) 1976 [3], yn rheoliadau 22, 23, 24, 28 a 31, mewnosoder ", surviving civil partner," ar ôl "widow" bob tro. Gorchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol 1977 2. Yng Ngorchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol 1977[4], Yn Atodlen 3, ym mharagraff 17, yn lle "husband or wife" rhodder "spouse or a civil partner". Rheoliadau Dyfarndaliadau'r Wladwriaeth (Bwrsarïau'r Wladwriaeth ar gyfer Addysg Oedolion) (Cymru) 1979 3. Yn Rheoliadau Dyfarndaliadau'r Wladwriaeth (Bwrsarïau'r Wladwriaeth ar gyfer Addysg Oedolion) (Cymru) 1979[5], yn Atodlen 2—
(b) ym mharagraff (4)(1)(b) ar ôl "the spouse," mewnosoder "civil partner,".
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988
(b) ar ôl "that couple" mewnosoder "or civil partnership (as the case may be)".
Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd i Ymwelwyr Tramor) 1989
(b) ar ddiwedd paragraff (a) o is-baragraff (1) o baragraff 4 o'r Atodlen, dileër y gair "or" ac, ar ôl y paragraff hwnnw, mewnosoder—
Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992
(ii) yn is-baragraff (i) ar ôl "marriage" mewnosoder "or civil partnership"; (iii) yn is-baragraff (ii)—
(bb) ar y diwedd, dileër y gair "and";
(iv) ar ôl is-baragraff (iii), mewnosoder—
(v) the child of the civil partner of a person (here "A") shall be treated as A's child.";
(b) Yn erthygl 3, yn y paragraff ynghylch Dosbarth N, yn is-baragraff (2)(a)(ii)—
(ii) yn lle "either", rhodder "each".
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992
(b) yn rheoliad 58(1)(b) ar ôl "spouse" mewnosoder "or civil partner".
Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995
(ii) yn y diffiniad o "family"—
(bb) ym mharagraff (c) ar ôl "married or unmarried couple", mewnosoder "or of a civil partnership";
(iii) yn y diffiniad o "member of a couple" ar ôl "unmarried couple" mewnosoder "or of a civil partnership";
(b) two persons of the same sex who are not civil partners but are living together as if they were civil partners;"
(b) Yn Atodlen 1, ym mharagraff 10A(1)(b), ar ôl "spouse" mewnosoder "or civil partner"; ac
Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) 1998
(b) ym mharagraffau 2(1), (2) a (3) ar ôl "spouse" mewnosoder "or civil partner"; (c) ym mharagraff 3, ychwaneger ar y diwedd—
Rheoliadau Addysg (Llywodraeth Ysgol) (Cymru) 1999
(b) ym mharagraff 2(4), ar ôl "spouse" mewnosoder "or civil partner".
Rheoliadau Llywodraeth Leol (Terfynu Cyflogaeth yn Gynnar) (Iawndal yn ôl Disgresiwn) (Cymru a Lloegr) 2000
(ii) ar ôl "plentyn iddo," dileer "a"; (iii) ar ôl "gwraig" mewnosoder ", ac mae cyfeiriadau at "bartner sifil" yn cynnwys partner sifil blaenorol." ; a
(b) Yn Atodlen 3, ym mharagraff 3(a) ar ôl "statws priodasol" mewnosoder "neu statws partneriaeth sifil".
Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002
(b) ar ôl "the person's child," dileër "and"; ac (c) ar ôl "wife" mewnosoder ", and references to a "civil partner" include a former civil partner."
Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003
(b) ym mharagraff (c) ar ôl "yn briod iddo" mewnosoder "neu'n berson y cofrestrodd Person B bartneriaeth sifil gydag ef"; (c) yn Atodlen 3, ym mharagraff 2—
(ii) ar ôl "briodas" mewnosoder ", partneriaeth sifil".
Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003
(b) ar ôl "fel plentyn iddo," dileër "ac"; ac (c) ar ôl "yn wraig i'r person" mewnosoder ", ac mae cyfeiriadau at "bartner sifil" yn cynnwys partner sifil blaenorol."
Rheoliadau Cwmnïau RTM (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu) (Cymru) 2004
(b) yn Nhabl 3, yn y cofnod ynghylch Rheol 29 o Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986[31], yng ngholofn (2), ym mharagraff (2B), ar ôl "wife" mewnosoder "partner sifil" bob tro.
Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004
(b) yn y paragraff olaf ar ôl "gwraig" mewnosoder, "ac mae cyfeiriadau at "bartner sifil" yn cynnwys partner sifil blaenorol".
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n gymwys i Gymru, yn gwneud diwygiadau i ddarpariaethau amrywiol is-ddeddfwriaeth. Daw'r diwygiadau o ganlyniad i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p.33) ("y Ddeddf"). Mae'r Ddeddf, sy'n dod i rym ar yr un dyddiad â'r Gorchymyn hwn, yn galluogi cyplau o'r un rhyw i ffurfio partneriaeth sifil drwy gofrestru fel partneriaid sifil i'w gilydd (a gellir trin perthnasoedd tramor a gofrestrwyd dramor fel partneriaethau sifil). Mae'r Ddeddf yn darparu i bartneriaid sifil gael eu trin yn yr un modd â phobl briod o ran buddiannau a rhwymedigaethau. Mae'r Atodlen yn diwygio is-ddeddfwriaeth amrywiol. Mae paragraff 1 yn diwygio Rheoliadau Awdurdod Datblygu Cymru (Iawndal) 1976 (O.S. 1976/2107). Diwygir rheoliadau 22, 23, 24, 28 a 31 (sy'n ymwneud â thalu iawndal ymddeol i swyddogion pensiwnadwy ac i weddwon a dibynyddion y cyfryw swyddogion) er mwyn cynnwys cyfeiriad at bartneriaid sifil sy'n goroesi. Mae paragraff 2 yn diwygio paragraff 17 o Atodlen 3 i Orchymyn Mynwentydd Awdurdodau Lleol 1977 (O.S. 1977/204). Mae paragraff 17 yn ddarpariaeth dehongli ac mae'n diffinio "relative" at ddibenion Atodlen 3, sy'n ymwneud â symud cerrig beddau a chofebion eraill a lefelu beddau. O dan Atodlen 3, os bydd perthynas yn gwrthwynebu cynigion i symud carreg fedd neu gofeb arall neu i lefelu bedd, ni chaiff awdurdod claddu fynd yn ei flaen o ran y garreg fedd honno neu'r bedd hwnnw, oni cheir mewn amgylchiadau penodol gydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol. Effaith y diwygiad yw cynnwys partner sifil yn y diffiniad o berthynas. Mae paragraff 3 yn diwygio Rheoliadau Dyfarndaliadau'r Wladwriaeth (Bwrsarïau'r Wladwriaeth ar gyfer Addysg Oedolion) (Cymru) 1979 (O.S. 1979/333), i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil yn hytrach na'r term "spouse" pan fo'r term yn digwydd yn y Rheoliadau hyn. Mae paragraff 4 yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 (O.S. 1988/551). Yn rheoliad 2(1) diwygir y diffiniad o "partner" i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae paragraff 5 yn diwygio Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd i Ymwelwyr Tramor) 1989 (O.S. 1989/306) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil yn hytrach na'r term "spouse" pan fo'r term yn digwydd yn y Rheoliadau hyn. Mae paragraff 6 yn diwygio Gorchymyn Cynrychiolaeth y Bobl (Ffurflenni Cymraeg) 1989 (O.S. 1989/429). Mae Ffurflen 2 yn Atodlen 1 yn bapur dirprwy i'w ddefnyddio os bydd etholwr yn penodi rhywun arall i bleidleisio ar ei ran mewn etholiadau seneddol yng Nghymru. Diwygir nodyn 4 i Ffurflen 2 (sy'n darparu na chaiff y person sy'n pleidleisio fel dirprwy, bleidleisio fel dirprwy i fwy na dau etholwr nad yw'r person hwnnw yn berthynas o un o'r categorïau a bennir yno) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae paragraff 7 yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio a Thâl Cymunedol 1989 (O.S. 1989/439) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil yn hytrach na'r term "spouse" pan fo'r term yn digwydd yn y Rheoliadau hyn. Mae paragraff 8 yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyru Disgownt) 1992 (O.S. 1992/552). Mae rheoliad 3(1) o'r Rheoliadau hyn yn gosod dosbarthiadau amrywiol o berson at ddibenion Atodlen 1 i Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14) ( sy'n darparu y caiff dosbarthiadau rhagnodedig o berson eu diystyru at ddibenion disgownt y dreth gyngor). Yn rheoliad 3(1), diwygir is-baragraff (a) o Ddosbarth E i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Diwygir paragraff 4(1) o'r Atodlen i gynnwys cyfeiriad at gyplau sy'n cyd-fyw fel pe baent yn bartneriaid sifil. Mae paragraff 9 yn diwygio Gorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 (O.S. 1992/558). Diwygir erthygl 2(5) (sy'n ddarpariaeth dehongli) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil, partneriaeth sifil, ac at gyplau sy'n cyd-fyw fel pe baent yn bartneriaid sifil. Yn erthygl 3, diwygir Dosbarth N i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae paragraff 10 yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 (O.S. 1992/613). Yn rheoliad 32 (sy'n ymwneud â dehongli a chymhwyso Rhan VI o'r Rheoliadau hynny), diwygir y diffiniad o "net earnings" (enillion net) ym mharagraff (1) i gynnwys cyfeiriad at wŷr gweddw neu bartneriaid sifil sy'n goroesi. Mae hyn yn golygu bod y diffiniad o enillion net yn cael ei ddiwygio i hepgor taliadau megis blwydd-daliadau i bersonau penodol gan gynnwys partner sifil sy'n goroesi. Diwygir rheoliad 58(1)(b) (sy'n ymwneud â rhwymedigaethau dyledus ar farwolaeth), i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae hyn yn golygu y caiff awdurdod trethu adennill rhwymedigaethau treth gyngor dyledus pan fydd farw'r sawl sy'n talu'r dreth gyngor (pan fydd y sawl sy'n talu'r dreth gyngor yn atebol yn unigol ac ar y cyd am dalu treth gyngor fel partner sifil) a hynny oddi wrth ei ysgutor neu ei weinyddwr. Yn y cyd-destun hwn, mae'r cyfeiriad at bartner sifil yn cynnwys person sy'n byw gyda pherson arall o'r un rhyw fel pe baent yn bartneriaid sifil, yn rhinwedd y cyfeiriad yn rheoliad 58 at adran 9 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (p. 14). Diwygiwyd adran 9 gan baragraff 140 o Atodlen 27 i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 (p.33) i gynnwys cyfeiriad at bersonau sy'n cyd-fyw fel pe baent yn bartneriaid sifil. Mae'r diwygiadau i reoliad 58 yn adlewyrchu darpariaeth sydd eisoes yn bodoli ar gyfer gwŷr a gwragedd. Mae paragraff 11 yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio (Cymru) 1995 (O.S.1995/3056). Diwygir paragraffau 7(1)(f), 23(2) a 42(3) i gynnwys cyfeiriad at bartneriaid sifil. Mae paragraff 7(1)(f) yn darparu bod person yn cael ei anghymhwyso rhag cael ei benodi'n aelod o dribiwnlys, neu rhag parhau'n aelod, os daw ei briod neu ei bartner sifil yn gyflogai i'r tribiwnlys hwnnw. Mae paragraff 23(2) yn darparu bod person yn cael ei anghymhwyso rhag cymryd rhan mewn gwrandawiad neu benderfyniad o apêl, neu weithredu fel clerc neu swyddog tribiwnlys o ran apêl, os yw'r apelydd yn briod iddo neu'n bartner sifil iddo, neu os yw'r person hwnnw'n cefnogi'r apelydd yn ariannol. Diwygir paragraff 42(3) (sy'n darparu bod person yn cael ei anghymhwyso rhag cymryd rhan fel aelod mewn gwrandawiad neu benderfyniad o apêl, neu weithredu fel clerc neu swyddog tribiwnlys o ran apêl mewn amgylchiadau penodol) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae paragraph 12 yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (O.S. 1996/2890). Yn rheoliad 2(1) diwygir y diffiniad o "close relative", "family", "member of a couple", "partner", ac "unmarried couple" i gynnwys cyfeiriad at bartneriaeth sifil. Mae paragraff 10A(1)(b) yn Atodlen 1 (sy'n gosod yr amod y mae'n rhaid ei fodloni er mwyn i rywun fod yn gymwys i gael premiwm profedigaeth) i gynnwys cyfeiriad at farwolaeth partner sifil a fu farw ar neu ar ôl 9 Ebrill 2001. Diwygir paragraff 65 yn Atodlen 4 (sy'n darparu bod taliadau penodol a wnaed i ddigolledu bod person perthnasol, neu eraill sy'n gysylltiedig â'r person hwnnw a oedd yn llafurwr caethwasaidd, a oedd yn cael ei orfodi i lafurio'n gaethwasaidd, a oedd wedi dioddef colled i eiddo neu anaf personol neu a oedd yn rhiant i blentyn a fu farw) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil a phartner sifil a fu farw. Mae paragraff 13 yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Dosbarthiadau Rhagnodedig o Anheddau) 1998 (O.S. 1998/105). Yn yr Atodlen, diwygir paragraffau 1(1) a 2(1), (2), a (3) (sy'n darparu bod annedd yn mynd gyda swydd mewn amgylchiadau penodol) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Diwygir paragraff 3 i gyfeirio at gyplau sy'n cyd-fyw fel pe baent yn bartneriaid sifil. Mae paragraff 14 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Llywodraeth Ysgol) (Cymru) 1999 (O.S. 1999/2242). Mae Atodlen 7 i'r Rheoliadau hynny'n gosod cyfyngiadau ar bersonau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion cyrff llywodraethu neu eu pwyllgorau. Diwygir paragraff 1 (y ddarpariaeth dehongli) i gynnwys is-baragraff (d) newydd i gyfeirio at bersonau sy'n cyd-fyw fel pe baent yn bartneriaid sifil. Mae paragraff 2(4) o'r Atodlen honno (sy'n darparu y caiff person ei drin fel pe bai ganddo fuddiant ariannol uniongyrchol neu anuniongyrchol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall pe bai perthynas sydd yn byw gydag ef, yn ôl ei wybodaeth, wedi cael ei drin neu a fyddai'n cael ei drin fel pe bai ganddo fuddiant o'r fath, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae paragraff 15 yn diwygio Rheoliadau Llywodraeth Leol (Terfynu Cyflogaeth yn Gynnar) (Iawndal yn ôl Disgresiwn) (Cymru a Lloegr) 2000 (O.S. 2000/1410). Diwygir is-baragraff (c)(iii) yn y diffiniad o "eligible child" i gynnwys cyfeiriad at blentyn mabwysiedig partner sifil. Mae paragraff 16 yn diwygio Rheoliadau'r Cynlluniau Effeithlonrwydd Ynni Cartref (Cymru) 2000 (O.S. 2000/2959 (Cy. 190)). Yn rheoliad 5 (sy'n darparu pwy a all wneud cais am grant), diwygir rheoliadau 5(1)(a), 5(1)(b), 5(2)(a), 5(2)(b), 5(2)(ch), a 5(6) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae paragraff 17 yn diwygio Rheoliadau Pwyllgorau Safonau (Cymru) 2001 (O.S. 2001/2283 (Cy.172)). Yn rheoliad 2, diwygir is-baragraff (c) yn y diffiniad o "aelod annibynnol" ac is-baragraff (b) yn y diffiniad o "aelod panel lleyg" i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae paragraff 18 yn diwygio Rheoliadau Cartrefi Gofal (Cymru) 2002 (O.S.2002/324 (Cy.37)). Diwygir y diffiniad o "perthynas" yn rheoliad 2(1) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae paragraph 19 yn diwygio Rheoliadau Gofal Iechyd Preifat a Gwirfoddol (Cymru) 2002 (O.S. 2002/325 (Cy.38)). Yn Rhan II o Atodlen 3, diwygir paragraff 1 (sy'n pennu'r manylion y mae'n rhaid eu cynnwys yng nghofrestri cleifion) i gynnwys cyfeiriad at statws partneriaeth sifil. Mae paragraff 20 yn diwygio Rheoliadau Cofrestu Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002 (O.S. 919 (Cy.107)). Diwygir y diffiniad o "relative" yn rheoliad 2(1) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae paragraff 21 yn diwygio Rheoliadau Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodau a Gweithdrefnau) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/149 (Cy.19)). Diwygir rheoliad 15(5) (sy'n darparu y caiff aelod o fwrdd iechyd lleol ei drin fel pe bai ganddo fuddiant anuniongyrchol ariannol mewn contract, contract arfaethedig neu fater arall os yw'r aelod hwnnw neu unrhyw enwebai gan yr aelod hwnnw yn dod o fewn y naill neu'r llall o'r categorïau a nodir yn is-baragraffau (a) a (b)) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae paragraff 22 yn diwygio Rheoliadau Gwasanaethau Maethu (Cymru) 2003 (O.S. 2003/237 (Cy.35)). Mae rheoliad 24(9)(d) yn darparu na ddylid penodi person yn aelod annibynnol o banel maethu os yw'r person, yn achos asiantaeth faethu, yn perthyn i gyflogai gan y darparydd cofrestredig, neu i unrhyw berson sy'n ymwneud â rheoli'r asiantaeth faethu. Diwygir rheoliad 24(10) (sy'n diffinio'r ymadrodd "perthyn" at ddibenion Rheoliad 24(9) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Yn Atodlen 3 (sy'n pennu'r wybodaeth y mae'n rhaid i ddarparydd gwasanaeth maethu ei chael i gydymffurfio â'i rwymedigaeth o dan reoliad 27(2)(a)), diwygir paragraff 2 i gynnwys cyfeiriad at bartneriaeth sifil. Mae paragraff 23 yn diwygio Rheoliadau Canolfannau Preswyl i Deuluoedd (Cymru) 2003 (O.S. 2003/781 (Cy.92)). Yn Atodlen 4, diwygir paragraff 2(a) (sy'n pennu manylion y mae'n rhaid eu cynnwys mewn cofrestri preswylwyr) i gynnwys cyfeiriad at statws partneriaeth sifil. Mae paragraff 24 yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Gofal Cartref (Cymru) 2004 (O.S. 219 (Cy.23)). Yn rheoliad 2(1), diwygir y diffiniad o "perthynas" i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae paragraff 25 yn diwygio Rheoliadau Cwmnïau RTM (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/675 (Cy. 64)). Mae rheoliad 2(1) yn darparu bod memorandwm cymdeithasu cwmni RTM ("Hawl i Reoli"), i fod ar y ffurf a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn ac i gynnwys y darpariaethau sydd ynddi. Yn Rhan 1 o'r Atodlen honno, mae paragraff 4 yn nodi'r pwerau amrywiol a fydd gan y cwmni er mwyn hybu ei amcanion. Diwygir paragraff 4(ph) (sy'n darparu y caiff y cwmni roi neu ddyfarnu pensiynau, dyfarndaliadau, blwydd-daliadau, arian rhodd, a phensiynau ymddeol neu lwfansau neu fudd-daliadau eraill neu gymorth elusennol ac yn gyffredinol darparu manteision, cyfleusterau a gwasanaethau ar gyfer unrhyw un sydd neu a fu yn un o gyfarwyddwyr neu yn un o gyflogeion y cwmni, a'u perthnasau perthnasol a'u dibynyddion) i gynnwys cyfeiriad at bartneriaid sifil a phartneriaid sifil sy'n goroesi. Mae paragraff 26 yn diwygio Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/683 (Cy.71)). Yn rheoliad 8 (sy'n darparu na chodir ffioedd neu ostwng ffioedd mewn achosion penodol, gan roi sylw i amgylchiadau'r ceisydd a phartner y ceisydd ) diwygir y diffiniad o "partner" ym mharagraff 4 i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae paragraff 27 yn diwygio Rheoliadau Taliadau Gwasanaeth (Gofynion Ymgynghori) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/684 (Cy.72)). Yn rheoliad 2(1), diwygir y diffiniad o "perthynas agos" i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae paragraff 28 yn diwygio Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cynnal Refferenda) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/870 (Cy. 85)). Mae'r darpariaethau yn Atodlen 3 i'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso, gydag addasiadau, Ddeddfau ac offerynnau statudol penodol. Yn Nhabl 1 o'r Atodlen honno (sy'n cymhwyso darpariaethau o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (p.2)) diwygir y cofnod sy'n ymwneud ag adran 61(4) o'r Ddeddf honno, i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Yn Nhabl 3 o'r Atodlen honno (sy'n cymhwyso darpariaethau yn Atodlen 2 i Reolau Etholiadau Lleol (Prif Ardaloedd) 1986, diwygir y cofnod sy'n ymwneud â Rheol 29 o'r rheolau hynny (cwestiynau i'w rhoi i etholwyr) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae paragraff 29 yn diwygio Rheoliadau Gofal Cymunedol, Gwasanaethau ar gyfer Gofalwyr a Gwasanaethau Plant (Taliadau Uniongyrchol) (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1748 (Cy.185)). Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu i daliadau i gael eu gwneud yn uniongyrchol i fathau penodol o geiswyr er mwyn iddynt allu talu am fathau penodol o wasanaethau. Mae rheoliad 7(1) yn darparu, mewn gwirionedd, os yw darparydd y gwasanaeth yn berson a grybwyllir yn rheoliad 7(2), bydd y taliad uniongyrchol yn ddarostyngedig i'r naill amod neu'r llall a bennir ym mharagraffau (a) a (b) yn eu trefn o reoliad 7(1). Yn rheoliad 7(2), diwygir paragraffau (a), (b), (ch) a (d) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil. Mae paragraff 30 yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Lleoli Oedolion (Cymru) 2004 (O.S. 2004/1756 (Cy.188)). Diwygir y diffiniad o "perthynas" yn rheoliad 2(1) i gynnwys cyfeiriad at bartner sifil a phartner sifil blaenorol. Ni luniwyd arfarniad rheoliadol llawn ar gyfer yr offeryn hwn, gan nad yw'r offeryn yn effeithio o gwbl ar gostau busnesau, elusennau, cyrff gwirfoddol nac unrhyw gyrff cyhoeddus ar wahân i Ddeddf Partneriaeth Sifil 2004 ei hunan. Cyhoeddwyd asesiad effaith reoleiddiol llawn ar gyfer partneriaeth sifil ynghyd â Deddf Partneriaeth Sifil 2004 a gellir ei weld yn http://www.dti.gov.uk/access/ria/index.htm#equality Notes: [1] 2004 p.33.back [5] O.S. 1979/333 y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back [6] O.S. 1988/551 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1996/410, O.S. 2003/975 (Cy.134), O.S. 2003/2561 (Cy. 250); mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.back [7] O.S. 1989 / 306, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1433 (Cy. 146).back [8] O.S. 1989/439, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/439, mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.back [9] O.S. 1992/552, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/657; mae diwygiadau eraill ond nid ydynt yn berthnasol.back [10] O.S. 1992/558, a ddiwygiwyd gan O.S. 1993/150 ac O.S. 1997/656; mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.back [11] O.S. 1992/613, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back [12] O.S. 1995/3056, a ddiwygiwyd gan O.S. 2004/1312 (Cy. 138).back [13] O.S. 1996/2890, a ddiwygiwyd gan O.S. 1997/977, 1998/808, 1999/1523, 2000/973 (Cy. 43), 2001/2073 (Cy.145), 2002/2798 (Cy.266), a 2004/253 (Cy. 28), mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.back [14] O.S. 1998/105, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back [15] O.S. 1999/2242, a ddiwygiwyd gan O.S. 2001/2263 (Cy.164). Mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back [16] O.S. 2000/1410, y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back [17] O.S. 2000 /2959 (Cy. 190).back [18] O.S. 2001/2283 (Cy.172).back [19] O.S. 2002/ 324 (Cy. 37), a ddiwygiwyd gan O.S. 2002/2935 (Cy. 277); mae offerynnau diwygio eraill ond nid ydynt yn berthnasol.back [20] O.S. 2002/ 325 (Cy. 38), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back [21] O.S. 2002/ 919 (Cy. 107), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back [22] O.S. 2003/ 149 (Cy. 19), y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back [23] O.S. 2003/ 237 (Cy. 35).back [24] O.S. 2003/781 (Cy.92) y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back [25] O.S. 2004/219 (Cy.23) y mae iddo ddiwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.back [26] O.S. 2004 /675 (Cy. 64).back [27] O.S. 2004/683 (Cy.71).back [28] O.S. 2004/684 (Cy.72).back [29] O.S. 2004/ 870 (Cy. 85).back [30] 1983 p. 2, a ddiwygiwyd gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1985 (p.50), Atodlenni 2 a 5 a chan Ddeddf Awdurdod Llundain Fwyaf 1999 (p.29), Atodlen 3, paragraffau 1 a 10.back [32] O.S. 2004/ 1748 (Cy. 185).back [33] O.S. 2004/1756 (Cy.188).back
ISBN 0 11 091237 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 8 December 2005 |