Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2005, ISBN 0110912349. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, ac yntau wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran mesurau sy'n gysylltiedig â bwyd (gan gynnwys diod), gan gynnwys cynhyrchu bwydydd crai, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl yr ymgynghori agored a thryloyw wrth i'r Rheoliadau hyn gael eu paratoi fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3] fel y'u diwygiwyd diwethaf gan Rheoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor[4], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Pysgodfeydd (Taliadau Rheolaethau Swyddogol) (Cymru) 2005, deuant i rym ar 1 Ionawr 2006, ac maent yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn—
(b) a ddaliwyd yn eu hamgylchedd naturiol; (c) na fuont neu na fuasant ar dir cyn eu mewnforio arfaethedig, neu na fuasant ar dir cyn eu mewnforio, i Wladwriaeth AEE neu i Kalaallit Nunaat (Greenland); (ch) neu sy'n cael eu glanio yng Nghymru neu a fydd yn cael eu glanio yng Nghymru; a (d) a fwriedir i'w rhoi ar y farchnad i'w bwyta gan bobl;
(b) na fuont neu fuasant ar dir cyn cael eu glanio; (c) sy'n cael eu glanio yng Nghymru neu a fydd yn cael eu glanio yng Nghymru; ac (ch) a fwriedir i'w rhoi ar y farchnad i'w bwyta gan bobl;
heblaw cynhyrchion pysgodfeydd perthnasol sy'n cael eu gwerthu am y tro cyntaf yng Nghymru a mewnforion trydydd gwledydd;
(b) ym mhob achos arall, perchennog neu feistr y llestr;
(b) penwaig Mair o'r rhywogaeth Sardinia pilchardus; (c) mecryll o'r rhywogaeth Scomber scombrus neu Scomber japonicus; (ch) marchfecryll; (d) brwyniaid; ac (dd) picarelod o'r rhywogaeth Maena smaris;
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd, ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn gyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd.
(b) costau hyfforddiant mewn swydd ar gyfer staff sy'n cymryd rhan mewn arfer y rheolaethau; (c) costau teithio a mân dreuliau perthynol yr eir iddynt wrth arfer y rheolaethau, ac eithrio'r rheini yr eir iddynt gan berson sy'n mynd i'w le gwaith arferol; (ch) costau ystafelleodd, offer a gwasanaethau swyddfa ar gyfer staff sy'n cymryd rhan mewn arfer y rheolaethau, gan gynnwys dibrisiant unrhyw ddodrefn ac offer swyddfa a chost technoleg gwybodaeth, deunyddiau ysgrifennu a ffurflenni; (d) costau dillad amddiffynnol ac offer a ddefnyddir wrth arfer y rheolaethau; (dd) costau golchi dillad amddiffynnol a ddefnyddir wrth arfer y rheolaethau; (e) costau samplu a dadansoddi yr eir iddynt wrth arfer y rheolaethau; ac (f) costau gweinyddol arferol cadw cyfrif a chasglu taliadau a darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél ynghyswllt cyflogi staff sy'n arfer y rheolaethau.
Cyfwerthoedd y bunt â'r Ewro
(b) ym mhob blwyddyn ar ôl hynny, y gyfradd a gyhoeddir yng nghyfres C o Gyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd ar ddiwrnod gwaith cyntaf Medi y flwyddyn flaenorol neu, os na chyhoeddir cyfradd ynddo ar y diwrnod hwnnw, y gyfradd gyntaf a gyhoeddir ynddo ar ôl hynny.
Cyfnod Cyfrifydda
(b) casglu taliadau.
Adennill taliadau
(b) ar wahân oddi wrth y naill neu'r llall ohonynt.
Cyfrifo, talu ac ad-dalu taliadau
(b) rhoi hysbysiad am y swm a gyfrifwyd felly i unrhyw berson y caniateir ei gasglu oddi wrtho.
(2) Os yw'r awdurdod bwyd perthnasol neu'r awdurdod cymwys yn fodlon bod cyfrifiad sydd wedi'i wneud o dan baragraff (1) yn anghywir, rhaid iddo ailgyfrifo'r taliad ac—
(b) pan fo'r swm cywir yn llai na'r swm a gyfrifwyd o dan y paragraff hwnnw a phan na fo'r swm wedi'i adennill, ni chaiff adennill ond y swm lleiaf yn unol â'r paragraff hwnnw; ac (c) pan na fo swm yn daladwy neu pan fo'r tâl taladwy yn llai na'r swm a gyfrifwyd o dan y paragraff hwnnw, a'r tâl hwnnw wedi'i adennill, rhaid iddo ad-dalu'r gwahaniaeth.
Apelau
(b) penderfynu unrhyw dâl sy'n daladwy o dan y Rheoliadau hyn ac, yn enwedig, caiff ostwng swm unrhyw dâl o 55% pan fo'n ofynnol i'r awdurdod wneud y gostyngiad hwnnw o dan reoliad 11, 14, 18 neu 22 ond pan nad yw wedi gwneud hynny; neu (c) penderfynu nad oes tâl yn daladwy.
(4) Wrth ddisgwyl canlyniad yr apêl bydd swm gwreiddiol y tâl yn gymwys o hyd, ond os bydd angen ailgyfrifo swm y tâl ar ôl penderfyniad y llys, bydd swm newydd y tâl yn effeithiol o'r dyddiad pan wnaed y tâl gwreiddiol a bydd y swm sydd hafal i'r swm newydd hwnnw yn daladwy i'r awdurdod dan sylw.
(b) i awdurdod B, swm hafal i unrhyw swm a geir gan awdurdod C y mae modd ei gyfeirio at reolaethau swyddogol a arferir gan awdurdod B.
Tâl glanio cyffredinol 10. —(1) Mae'r gwerthiant cyntaf yng Nghymru o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol yn drafodiad taladwy at ddibenion y Rhan hon. (2) Pan fo trafodiad taladwy, rhaid i'r gwerthwr gynnwys yn y pris a godir ar y prynwr swm hafal i'r tâl y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel "y tâl glanio cyffredinol". (3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4) a rheoliad 11, swm y tâl glanio cyffredinol yw cyfraniad o ran y gwariant yr eir iddo wrth arfer y rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Bennod II o Atodiad III i Reoliad 854/2004 o 1 Ewro y dunnell am y 50 tunnell gyntaf o gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio ac sy'n berthnasol a 0.5 Ewro y dunnell am bob tunnell ychwanegol o'r cynhyrchion hynny. (4) Pan na fo'r gwir gostau sy'n briodoladwy i arfer rheolaethau swyddogol mewn perthynas â llwyth heb ei ddadlwytho o bysgod eigionol penodedig yn fwy na 50 Ewro, rhaid i'r tâl glanio cyffredinol o ran y llwyth hwnnw beidio â bod yn fwy na'r swm hwnnw. (5) Rhaid i'r gwerthwr dalu'r tâl glanio cyffredinol i'r awdurdod bwyd perthnasol. Gostwng y tâl glanio cyffredinol 11. Rhaid i'r awdurdod bwyd perthnasol y mae tâl yn daladwy iddo o dan reoliad 10(5) ostwng y tâl hwnnw o 55% pan fo unrhyw un o'r rheolaethau swyddogol sy'n ofynnol o dan Bennod II o Atodiad III i Reoliad 854/2004 yn cael eu hwyluso ar y sail—
(b) bod trafodiadau gwerthiant cyntaf yn cael eu grwpio ynghyd.
Casglu ac anfon taliadau sy'n ymwneud â glanio cyffredinol
(b) lleoedd glanio a gwerthiant cyntaf y cynhyrchion pysgodfeydd y mae a wnelont ag ef; ac (c) ar gyfer glanio cynhyrchion pysgodfeydd heblaw pysgod eigionol penodedig—
(ii) cyfanswm pwysau'r llwythi y mae pob llestr yn eu glanio nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw, a (iii) cyfanswm pwysau'r llwythi llai'r pwysau a gyfrifir o dan baragraff (ii);
(ch) ar gyfer glanio pysgod eigionol penodedig—
(ii) cyfanswm pwysau'r llwythi y mae pob llestr yn eu glanio nad ydynt yn fwy na 50 tunnell a'r 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw;
(d) swm unrhyw ostyngiad o dan reoliad 11 a ystyriwyd o ran—
(ii) llwythi o bysgod eigionol penodedig yn unig,
gan bennu o dan ba baragraff, p'un ai (a) neu (b), o'r rheoliad hwnnw y gwnaed y gostyngiad; ac
(4) Yn ystod cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod pryd y mae gwerthwr yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn—
(b) rhaid i'r gwerthwr gadw cofnodion sy'n ddigonol at alluogi cyflenwi'r wybodaeth honno.
Tâl am gynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio o lestri ffatri
(b) amodau gweithredu mewn llestr ffatri, a gwarantau o ran gwiriadau'r llong ei hun, yn gyfryw fel bod modd gostwng gofynion staff arolygu.
Casglu ac anfon y tâl llestr ffatri
(b) enw pob llestr ffatri y mae cynhyrchion pysgodfeydd yn cael eu glanio oddi arno a phob lle glanio; (c) nifer y glaniadau yn ystod y cyfnod cyfrifydda hwnnw; (ch) pwysau'r cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio; (d) swm unrhyw ostyngiad o dan reoliad 14 a wnaed, gan bennu o dan ba baragraff, p'un ai (a) neu (b) o'r rheoliad hwnnw, y gwnaed y gostyngiad; ac (dd) swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 13(1).
(4) Yn ystod cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod y mae meistr neu berchennog yn gwneud datganiad niferoedd o dan y rheoliad hwn—
(b) rhaid i'r meistr neu'r perchennog gadw cofnodion sy'n ddigonol at alluogi cyflenwi'r wybodaeth honno.
Tâl o ran llestri ffatri dramor
(b) mewn sefydliad lle mae'r amodau gweithredu a'r gwarantau o ran gwiriadau'r sefydliad ei hun yn gyfryw fel bod modd gostwng gofynion staff arolygu.
Casglu ac anfon taliadau sy'n ymwneud â sefydliadau paratoi neu brosesu
(b) pwysau'r cynhyrchion pysgodfeydd sy'n mynd i'r sefydliad; (c) swm unrhyw ostyngiad o dan reoliad 18 a wnaed, gan bennu o dan ba baragraff, p'un ai (a) neu (b), o'r rheoliad hwnnw y gwnaed y gostyngiad; a (ch) swm y tâl sy'n daladwy o dan reoliad 17.
(4) Yn ystod y cyfnod o flwyddyn sy'n dechrau ar y diwrnod pryd y mae perchennog neu weithredydd yn gwneud datganiad o dan y rheoliad hwn—
(b) rhaid i'r perchennog neu'r gweithredydd gadw cofnodion sy'n ddigonol at alluogi cyflenwi'r wybodaeth honno.
Taliadau o ran sefydliadau eraill Tâl o ran gwiriadau swyddogol ar laniadau uniongyrchol o drydyddd gwledydd. 21. —(1) Pan werthir unrhyw gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol am y tro cyntaf yng Nghymru (y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel "trafodiad taladwy"), rhaid i'r gwerthwr gynnwys yn y pris y mae'n ofynnol i'r prynwr ei dalu amdanynt swm hafal i'r tâl y cyfeirir ato yn y Rhan hon fel "tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd". (2) Yn ddarostyngedig i reoliad 22, swm y tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd yw—
(b) o ran y gwariant yr eir iddo wrth arfer rheolaethau swyddogol ar lestri ac ar amodau glanio, 1 Ewro y dunnell.
(3) Rhaid i'r gwerthwr dalu'r tâl glanio uniongyrchol o drydydd gwledydd i'r awdurdod bwyd perthnasol.
(b) bod trafodiadau gwerthiant cyntaf yn cael eu grwpio ynghyd.
Trefniadau casglu ac anfon
(b) lleoedd glanio a gwerthiant cyntaf y cynhyrchion pysgodfeydd y mae a wnelont ag ef; (c) ar gyfer glanio cynhyrchion pysgodfeydd heblaw pysgod eigionol penodedig—
(ii) cyfanswm pwysau'r llwythi y mae pob llestr yn eu glanio nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw, a (iii) cyfanswm pwysau'r llwythi llai'r pwysau a gyfrifir o dan baragraff (ii);
(ch) ar gyfer glaniadau o bysgod eigionol penodedig —
(ii) cyfanswm pwysau'r llwythi y mae pob llestr yn eu glanio nad ydynt yn fwy na 50 tunnell ynghyd 50 tunnell gyntaf o lwythi y mae eu pwysau yn fwy na'r swm hwnnw;
(d) swm unrhyw ostyngiad o dan reoliad 22 a wnaed o ran—
(ii) llwythi o bysgod eigionol penodedig yn unig,
gan bennu o dan ba baragraff, p'un ai (a) neu (b), o'r rheoliad hwnnw y gwnaed y gostyngiad; ac
(3) Rhaid i'r gwerthwr, yn ychwanegol at yr wybodaeth sy'n ofynnol o dan baragraff (2), gynnwys yn y datganiad niferoedd wybodaeth ar—
(b) swm y tâl o ran y cynhyrchion hynny.
ystyr "Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41") yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC[12]; ystyr "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002") yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd, fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd; ystyr "Rheoliad 852/2004" ("Regulation 852/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd[13] fel y'i darllenir gyda Rheoliad A a Rheoliad B; ystyr "Rheoliad 853/2004" ("Regulation 853/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid[14], fel y'i diwygiwyd gan Reoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad A, Rheoliad C a Rheoliad E; ystyr "Rheoliad 854/2004" ("Regulation 854/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl[15], fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad 882/2004, Rheoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad C, Rheoliad D a Rheoliad E; ystyr "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a gyflawnir i sicrhau gwirhad cydymffurfedd â chyfraith bwyd, iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid[16] fel y'i darllenir gyda Rheoliad C a Rheoliad E; ystyr "Rheoliad A" ("Regulation A") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 20 Gorffennaf 2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden; ystyr "Rheoliad B" ("Regulation B") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd; ystyr "Rheoliad C" ("Regulation C") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004, er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliadau (EC) Rhif au 854/2004 a 882/2004, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 a 854/2004; ystyr "Rheoliad D" ("Regulation D") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar Trichinella mewn cig; ac ystyr "Rheoliad E" ("Regulation E") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 5 Hydref sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 a 854/2004. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith o ran Cymru y darpariaethau ynghylch taliadau am gyflawni rheolaethau swyddogol o dan Reoliad (EC) 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodedig ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl. 2. Mae'r Rheoliadau hyn—
(b) yn darparu'r cyfraddau i gyfrifo cyfwerth mewn punnoedd o unrhyw symiau a bennir mewn Ewros yn y Rheoliadau (rheoliad 4); (c) yn nodi'r cyfnod cyfrifydda at ddibenion y Rheoliadau (rheoliad 5); (ch) yn darparu pan osodir taliadau ar fwy nag un person y gellir eu gorfodi yn erbyn y cyfryw bersonau ar y cyd neu ar wahân (rheoliad 6); (d) yn darparu ar gyfer cyfrifo taliadau gan awdurdodau bwyd ac ar gyfer y talu a'r taliadau sy'n dilyn pan fydd tandaliad, ac adennill taliadau pan fydd gordaliadau (rheoliad 7); (dd) yn darparu ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniad awdurdodau sy'n gosod taliadau o dan y Rheoliadau (rheoliad 8); (e) yn darparu ar gyfer talu taliadau gan un awdurdod bwyd i un arall (rheoliad 9); (f) yn nodi'r taliadau sy'n daladwy o ran glanio cyffredinol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol (cynhyrchion sydd heb fod ac nad ydynt wedi bod ar dir cyn eu glanio yng Nghymru) a darparu ar gyfer gostyngiadau yn y taliadau hynny mewn amgylchiadau penodol (rheoliadau 10 a 11); (ff) yn darparu ar gyfer y modd y mae taliadau sy'n ymwneud â glanio cyffredinol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol i gael eu casglu a'r datganiadau niferoedd y mae'n rhaid i'r gwerthwr eu cyflenwi i'r awdurdod bwyd o ran y trafodion y mae'r taliadau'n berthnasol iddynt (rheoliad 12); (g) yn nodi'r taliadau sy'n daladwy o ran cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio o lestri ffatri a darparu ar gyfer gostyngiadau yn y taliadau hynny mewn amgylchiadau penodol (rheoliadau 13 a 14); (ng) yn darparu ar gyfer y modd y mae taliadau ynghylch cynhyrchion pysgodfeydd sy'n cael eu glanio o lestri ffatri i gael eu casglu a'r datganiadau niferoedd y mae'n rhaid i'r gwerthwr eu cyflenwi i'r awdurdod bwyd o ran y trafodion y mae'r taliadau'n berthnasol iddynt (rheoliad 15); (h) darparu bod yn rhaid i feistr llestr ffatri dalu'r gwir gostau yr eir iddynt gan awdurdod cymwys wrth iddo arfer rheolaethau swyddogol penodol (rheoliad 16); (i) yn nodi'r taliadau sy'n daladwy o ran gwariant yr eir iddo gan awdurdod bwyd perthnasol wrth iddo arfer rheolaethau swyddogol o ran sefydliad paratoi neu brosesu a darparu ar gyfer gostyngiadau yn y taliadau hynny mewn amgylchiadau penodol (rheoliadau 17 ac 18); (l) yn darparu ar gyfer y modd y mae taliadau sy'n ymwneud â chyflawni rheolaethau swyddogol o dan reoliad 17 i gael eu casglu a'r datganiadau niferoedd y mae'n rhaid i'r gwerthwr eu cyflenwi i'r awdurdod bwyd o ran y trafodion y mae'r taliadau'n berthnasol iddynt (rheoliad 19); (ll) yn nodi'r taliadau sy'n daladwy o ran gwariant yr eir iddo gan awdurdod bwyd perthnasol wrth iddo gyflawni arolygiad rhaglenedig at ddibenion rheolaethau swyddogol o ran sefydliadau y lle nad yw cynhyrchion pysgodfeydd ond yn cael eu hoeri, eu rhewi, eu pecynnu neu'u storio (rheoliad 20); (m) yn nodi'r taliadau sy'n daladwy o ran glaniadau uniongyrchol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol o lestri trydydd gwledydd (cynhyrchion sy'n tarddu o drydydd gwledydd sydd heb fod ac nad ydynt wedi bod ar dir cyn eu mewnforio i'r Gymuned Ewropeaidd) a darparu ar gyfer gostyngiadau yn y taliadau hynny mewn amgylchiadau penodol (rheoliadau 21 a 22); a (n) yn darparu ar gyfer y modd y mae taliadau ynghylch glaniadau uniongyrchol o gynhyrchion pysgodfeydd perthnasol i gael eu casglu a'r datganiadau y mae'n rhaid i'r gwerthwr eu cyflenwi i'r awdurdod bwyd o ran y trafodion y mae'r taliadau'n berthnasol iddynt (rheoliad 23).
3.
Mae Arfarniad Rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau ohono oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW. Notes: [1] O.S. 2005/1971.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back [4] OJ No. L245, 29.9.2003, p.4.back [5] 1990 p.16; diwygiwyd adran 5 gan baragraffau 8 a 9 o Atodlen 5 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28).back [6] O.S. 2005/3292 (Cy.252)back [9] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Rhoddir testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).back [10] O.S. 2004/1430 (Cy.144).back [12] OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).back [13] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).back [14] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad 853/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).back [15] OJ Rhif L155, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad 854/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).back [16] OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).back
ISBN 0 11 091234 9
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 8 December 2005 |