Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005, ISBN 0110912381. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan ei fod wedi'i ddynodi[1] at ddibenion adran 2(2) o Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972[2] o ran mesurau ym maes milfeddygaeth i ddiogelu iechyd y cyhoedd, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan yr adran honno, ac ar ôl ymgynghoriad agored a thryloyw yn ystod y broses o baratoi'r Rheoliadau hyn, fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor[4], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) (Rhif 2) 2005, maent yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 1 Ionawr 2006. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(b) Bison bison;
(b) a oedd (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan Erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) yn gweithredu ar 31 Rhagfyr 2005 fel lladd-dy trwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995.
(b) a oedd (er ei fod heb y gymeradwyaeth neu'r gymeradwyaeth amodol y mae ei hangen arno o dan erthygl 4.3 o Reoliad 853/2004) yn gweithredu ar 31 Rhagfyr 2005 fel mangre dorri drwyddedig o dan Reoliadau Cig Ffres (Hylendid ac Arolygu) 1995[7];
(b) safle torri, (c) sefydliad y mae Pennod I o Adran V o Atodiad III i Reoliad 853/2004 yn gymwys iddo, ac (ch) sefydliad lle mae cynhyrchion cig yn cael eu cynhyrchu,
mae'n cynnwys milfeddyg swyddogol a chynorthwy-ydd swyddogol; ac
(2) Mae unrhyw gyfeiriad yn y Rheoliadau hyn at awdurdod bwyd yn cynnwys cyfeiriad at awdurdod iechyd porthladd, ac yng nghyd-destun cyfeiriad o'r fath mae unrhyw gyfeiriad at ardal awdurdod bwyd yn gyfeiriad at ddosbarth awdurdod iechyd porthladd
(b) y bwriedir ei ddefnyddio mewn bwyd i bobl, bwyd anifeiliaid neu wrteithiau.
(2) Nid oes dim ym mharagraff (1) yn atal llaeth sy'n dod o anifail buchol a anwyd neu a fagwyd yn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 rhag cael ei roi ar y farchnad.
(b) adran 21 (amddiffyniad diwydrwydd dyladwy)[9] gyda'r addasiadau bod is-adrannau (2) i (4) yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan reoliad 6(1) fel y bônt yn gymwys mewn perthynas â thramgwydd o dan adran 14 neu 15 a bod y cyfeiriadau yn is-adran (4)(b) at "sale or intended sale" yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at "placing on the market" fel y'i diffinnir yn Erthygl 3.1(b) o Reoliad 999/2001; (c) adran 32 (pwerau mynediad); (ch) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion); (d) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn adran 33(1)(b) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch); (dd) adran 35(1) (cosbi tramgwyddau)[10], i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (ch); (e) adran 35(2) a (3)[11] i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (d); (f) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); (ff) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)[12]; ac (g) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll) gyda'r addasiad bod y cyfeiriadau at "food authority" yn cael eu cyfrif yn gyfeiriadau at yr awdurdod gorfodi perthnasol.
Arolygu cynhyrchion a chymryd meddiant ohonynt
(ii) naill ai i beidio â chael ei symud oddi yno neu i beidio â chael ei symud oddi yno ac eithrio i rywle a bennir yn yr hysbysiad; neu
(b) cymryd y cynnyrch i'w feddiant a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw.
(3) Pan fo'r swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵ er a roddwyd gan baragraff (2)(a), rhaid i'r swyddog hwnnw, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol a sut bynnag o fewn 21 niwrnod, benderfynu a yw wedi'i fodloni neu heb ei fodloni y cydymffurfiwyd â rheoliad 3 mewn perthynas â'r cynnyrch ac—
(b) os nad yw wedi'i fodloni felly, cymryd y cig i'w feddiant a'i symud oddi yno er mwyn trefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cig hwnnw.
(4) Pan fo swyddog awdurdodedig yn arfer y pŵ er a roddwyd gan baragraff (2)(b) neu (3)(b), rhaid iddo hysbysu'r person sydd â gofal dros y cynnyrch o'i fwriad i drefnu bod ynad heddwch yn ymdrin â'r cynnyrch hwnnw ac—
(b) caniateir, ond nid oes rhaid, i'r ynad heddwch hwnnw fod yn aelod o'r llys y cyhuddir unrhyw berson ger ei fron o dramgwydd o dan yr adran honno mewn perthynas â'r cynnyrch hwnnw.
(5) Os yw'n ymddangos i ynad heddwch, ar sail y dystiolaeth y mae'n ei hystyried yn briodol o dan yr amgylchiadau, fod methiant i gydymffurfio â rheoliad 3 wedi bod mewn cysylltiad ag unrhyw gynnyrch y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag ef o dan y rheoliad hwn, rhaid iddo gondemnio'r cynnyrch a gorchymyn—
(b) i unrhyw dreuliau a dynnwyd yn rhesymol mewn cysylltiad â'r distrywio neu'r gwaredu gael eu talu gan berchennog y cynnyrch.
(6) Os tynnir hysbysiad o dan baragraff (2)(a) yn ôl, neu os bydd yr ynad heddwch, y mae'n dod i'w ran i ymdrin ag unrhyw gynnyrch o dan y rheoliad hwn, yn gwrthod ei gondemnio, rhaid i'r awdurdod gorfodi perthnasol dalu iawndal i berchennog y cynnyrch am unrhyw ddibrisiant yn ei werth sy'n ganlyniad i'r camau a gymerwyd gan y swyddog awdurdodedig.
(b) o'i gollfarnu ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd, neu i'r ddau.
(3) Ni chaniateir cychwyn erlyniad am dramgwydd sy'n cynnwys mynd yn groes i reoliad 3 neu fynd yn groes, gan wybod hynny, i ofynion hysbysiad a roddwyd o dan baragraff (2)(a) o reoliad 5 ar ôl i'r naill neu'r llall o'r cyfnodau canlynol ddod i ben—
(b) blwyddyn o ddyddiad ei ddarganfod gan yr erlynydd,
p'un bynnag yw'r cynharaf.
(b) mewn unrhyw fangre arall, gan yr awdurdod bwyd y mae'r fangre wedi'i lleoli yn ei ardal.
Diwygio Rheoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995
(b) any bovine carcase or body part in respect of which a direction for disposal has been given under regulation 10A(5) of the TSE (Wales) Regulations 2002[14].".
Dirymu Ystyr "Cyfarwyddeb 2004/41" ("Directive 2004/41") yw Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n diddymu cyfarwyddebau penodol ynglŷn â hylendid bwyd ac amodau iechyd ar gyfer cynhyrchu a rhoi ar y farchnad gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl ac sy'n diwygio Cyfarwyddebau'r Cyngor 89/662/EEC a 92/118/EEC a Phenderfyniad y Cyngor 95/408/EC[17]; Ystyr "Penderfyniad 2005/598" ("Decision 2005/598") yw Penderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001[18]; Ystyr "Rheoliad 999/2001" ("Regulation 999/2001") yw Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol[19] fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad (EC) Rhif 932/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 sy'n gosod rheolau ar gyfer atal, rheoli a difodi enseffalopathïau sbyngffurf trosglwyddadwy penodol o ran estyn y cyfnod ar gyfer mesurau trosiannol[20] ac fel y diwygiwyd ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1292/2005 Senedd Ewrop a'r Cyngor[21]; Ystyr "Rheoliad 178/2002" ("Regulation 178/2002") yw Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor yn diwygio Rheoliad (EC) Rhif 178/2002 sy'n gosod egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn gosod gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd; Ystyr "Rheoliad 852/2004" ("Regulation 852/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar hylendid deunyddiau bwyd[22] fel y'i darllenir gyda Rheoliad A a Rheoliad B; Ystyr "Rheoliad 853/2004" ("Regulation 853/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n tarddu o anifeiliaid[23] fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad A, Rheoliad C a Rheoliad E; Ystyr "Rheoliad 854/2004" ("Regulation 854/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n tarddu o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl[24] fel y diwygiwyd y Rheoliad hwnnw gan Reoliad 882/2004, Rheoliad C a Rheoliad E ac fel y'i darllenir gyda Chyfarwyddeb 2004/41, Rheoliad C, Rheoliad D a Rheoliad E; Ystyr "Rheoliad 882/2004" ("Regulation 882/2004") yw Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ar reolaethau swyddogol a ddefnyddir i sicrhau bod cydymffurfedd â chyfraith bwyd anifeiliaid a chyfraith bwyd, rheolau iechyd anifeiliaid a rheolau lles anifeiliaid yn cael ei wirio[25] fel y darllenir y Rheoliad hwnnw gyda Rheoliad C a Rheoliad E; Ystyr "Rheoliad A" ("Regulation A") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 20 Gorffennaf 2005 sy'n gweithredu Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor o ran gwarantau arbennig ynghylch salmonela ar gyfer llwythi o gigoedd ac wyau penodol i'r Ffindir ac i Sweden; Ystyr "Rheoliad B" ("Regulation B") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 ar feini prawf microbiolegol ar gyfer deunyddiau bwyd; Ystyr "Rheoliad C" ("Regulation C") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod mesurau gweithredu ar gyfer cynhyrchion penodol o dan Reoliad (EC) Rhif 853/2004, er mwyn trefnu rheolaethau swyddogol o dan Reoliadau (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004, sy'n rhanddirymu Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 ac 854/2004; Ystyr "Rheoliad D" ("Regulation D") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 23 Medi 2005 sy'n gosod rheolau penodol ar reolaethau swyddogol ar gyfer Trichinella mewn cig; ac Ystyr "Rheoliad E" ("Regulation E") yw Rheoliad y Comisiwn dyddiedig 5 Hydref 2005 sy'n gosod trefniadau trosiannol ar gyfer gweithredu Rheoliadau (EC) Rhif 853/2004, (EC) Rhif au 854/2004 ac 882/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor ac yn diwygio Rheoliadau (EC) Rhif au 853/2004 ac 854/2004. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn dirymu ac yn ailddeddfu gyda newidiadau penodol Reoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3501 (W.228) (Cy.228), a roes effaith o ran Cymru i Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC sy'n gwahardd rhoi ar y farchnad gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 at unrhyw ddiben ac sy'n esemptio'r anifeiliaid hynny rhag mesurau rheoli a difodi penodol a osodwyd yn Rheoliad (EC) Rhif 999/2001 (OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22). Wrth wneud hynny, mae'r Rheoliadau hyn yn sicrhau bod yr Erthygl honno yn parhau i fod yn effeithiol o ran Cymru. Mae dirymu Rheoliadau Cynhyrchion Buchol (Cyfyngu ar eu Rhoi ar y Farchnad) (Cymru) 2005 yn cael ei gyflawni gan reoliad 9 o'r Rheoliadau hyn. 2. Mae Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC yn darparu na chaniateir i gynhyrchion penodol sy'n dod o anifeiliaid buchol a anwyd neu a fagwyd o fewn y Deyrnas Unedig cyn 1 Awst 1996 gael eu rhoi ar y farchnad. 3. Rhoddir effaith bellach i'r gwaharddiad a gynhwysir yn Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC gan reoliad 3 o'r Rheoliadau hyn. 4. Mae'r newidiadau a gyflawnir gan y Rheoliadau hyn— nad ydynt yn berthnasol i'r gwaharddiad a gynhwysir yn Erthygl 1.1 o Benderfyniad y Comisiwn 2005/598/EC- yn angenrheidiol yng ngoleuni'r ffaith bod Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2005 (O.S. 2005/3292 (W.252) (Cy.252), sy'n darparu ar gyfer gweithredu a gorfodi o ran Cymru offerynnau Cymunedol penodol ynghylch hylendid bwyd, yn dod i rym. 5. Mae'r Rheoliadau hyn hefyd—
(b) yn darparu ar gyfer arolygu cynhyrchion yr amheuir eu bod wedi'u rhoi ar y farchnad yn groes i reoliad 3 a chymryd meddiant o'r cynhyrchion hynny (rheoliad 5); (c) yn creu tramgwyddau a chosbau (rheoliad 6); (ch) yn gwneud darpariaeth ar gyfer eu gorfodi (rheoliad 7); a (d) yn gwneud diwygiad canlyniadol i Reoliadau Sgil-gynhyrchion Anifeiliaid (Adnabod) 1995 (O.S. 1995/614) i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru (rheoliad 8).
6.
Mae Arfarniad Rheoliadol llawn am yr effaith a gaiff y Rheoliadau hyn ar gostau busnes wedi'i baratoi a'i osod yn llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd, CF10 1EW. Notes: [1] O.S. 2003/1246.back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4).back [4] OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4.back [7] O.S. 1995/539, a ddirymwyd o 1 Ionawr 2006 ymlaen gan O.S. 2005/2059.back [9] Diwygiwyd adran 21 gan O.S. 2004/3279.back [10] Diwygir adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p. 44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.back [11] Diwygiwyd adran 35(3) gan O.S. 2004/3279.back [12] Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p. 28), Atodlen 5, paragraff 16.back [13] O.S. 1995/614, a ddiwygiwyd gan O.S. 1995/1955, O.S. 1996/3124, O.S. 1997/2073, O.S. 2000/656, O.S. 2002/1472 (Cy.146), O.S. 2003/1849 (Cy.199) ac O.S. 2005/3292 (Cy.252).back [14] O.S. 2002/1416 (Cy.141), a ddiwygiwyd gan O.S. 2003/2756 (Cy.267), O.S. 2004/2735 (Cy.242), O.S. 2005/1392 (Cy.106), ac O.S. 2005/2905 (Cy.205).back [15] O.S. 2005/3051 (Cy.228). .back [17] OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33. Mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12).back [18] OJ Rhif L204, 5.8.2005, t.22.back [19] OJ Rhif L147, 31.5.2001, t.1.back [20] OJ Rhif L163, 23.6.2005, t.1.back [21] OJ Rhif L205, 6.8.2005, t.3.back [22] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 852/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.3).back [23] OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.55. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 853/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.22).back [24] OJ Rhif L155, 30.4.2004, t.206. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).back [25] OJ Rhif L165, 30.4.2004, t.1. Mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 882/2004 wedi'i nodi bellach mewn Corigendwm (OJ Rhif L191, 28.5.2004, t.1).back
ISBN 0 11 091238 1
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 13 December 2005 |