Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2005, ISBN 0110912365. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 2(6), 9, 98 a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[1] a chyda chymeradwyaeth Canghellor y Trysorlys i'r graddau y mae'n ofynnol o dan adran 98(6), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn. Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Yn y Rheoliadau hyn ystyr "y Prif Reoliadau" ("the Principal Regulations") yw Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005[2]. Diwygio'r Prif Reoliadau 2. —(1) Yn rheoliad 12(5) o'r Prif Reoliadau (Cysylltu â'r asiantaeth fabwysiadau briodol), yn lle "(3)", rhodder "(4)". (2) Yn rheoliad 18(3) o'r Prif Rheoliadau (Ffioedd), ar ôl "o dan reoliad 13", ychwanegir "neu 14". Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3] D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 29 Tachwedd 2005 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) 2005 ("y Prif Reoliadau") yn gwneud darpariaeth o dan adran 98 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("y Ddeddf") at ddibenion cynorthwyo pobl a fabwysiadwyd cyn 30 Rhagfyr 2005 i gael gwybodaeth am eu mabwysiadu ac i hwyluso cysylltiad rhwng y bobl hynny a'u perthnasau geni drwy wasanaeth cyfryngol. Mae'r Rheoliadau hyn yn cywiro dau gyfeirnod anghywir o fewn y Prif Reoliadau. Nid yw'r Prif Reoliadau eisioes mewn grym a bydd y diwygiadau hyn yn cael effaith o'r adeg y bydd y Prif Reoliadau yn dod i rym. Notes: [1] 2002 p.38. Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 144(1) o'r Ddeddf o ran Lloegr, fel yr Ysgrifennydd Gwladol, o ran Cymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac o ran Cymru a Lloegr, fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol yn gweithredu ar y cyd.back [2] S.I.2005/2701 (Cy.190)back
[a] Amended by Correction Slip. Dylai teitl Cymraeg yr offeryn hwn ddarllen: "Rheoliadau Gwybodaeth Mabwysiadu a Gwasanaethau Cyfryngol (Mabwysiadau Cyn-gychwyn) (Cymru) (Diwygio) 2005". back
ISBN 0 11 091236 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 8 December 2005 |