Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod)(Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod)(Cymru) 2005, ISBN 0110912330. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 216(1) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988[1] ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Rhagfyr 2005.[a] (2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru. Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod 2. Mae'r cyrff a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn yn cael eu dynodi fel cyrff y mae'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn gyrff sy'n cael eu yn cydnabod. Dirymu 3. Mae Gorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2003[2] yn cael ei ddirymu. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[3]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 29 Tachwedd 2005 University of Aberdeen University of Abertay Dundee Anglia Ruskin University The Archbishop of Canterbury University of the Arts, London Aston University University of Bath Bath Spa University University of Birmingham The University of Bolton Bournemouth University University of Bradford University of Brighton University of Bristol Brunel University University of Buckingham Buckinghamshire Chilterns University College Prifysgol Caerdydd (Cardiff University) University of Cambridge Canterbury Christ Church University University of Central England in Birmingham University of Central Lancashire University of Chester University of Chichester City University Coventry University Cranfield University University College for the Creative Arts at Canterbury, Epsom, Farnham, Maidstone and Rochester Prifysgol Cymru (University of Wales) De Montfort University University of Derby University of Dundee University of Durham University of East Anglia University of East London Edge Hill College of Higher Education University of Edinburgh University of Essex University of Exeter University College Falmouth University of Glasgow Glasgow Caledonian University University of Greenwich University of Gloucestershire Harper Adams University College Henley Management College Heriot-Watt University University of Hertfordshire University of Huddersfield University of Hull University of Keele University of Kent Kingston University University of Lancaster University of Leeds Leeds Metropolitan University University of Leicester University of Lincoln University of Liverpool Liverpool Hope University Liverpool John Moores University University of London London Metropolitan University London South Bank University Loughborough University University of Luton University of Manchester The Manchester Metropolitan University Middlesex University Prifysgol Morgannwg (University of Glamorgan) Napier University, Edinburgh University of Newcastle upon Tyne The University of Northampton University of Northumbria at Newcastle University of Nottingham Nottingham Trent University Open University University of Oxford Oxford Brookes University University of Paisley University of Plymouth University of Portsmouth Queen Margaret University College, Edinburgh The Queen's University of Belfast University of Reading The Robert Gordon University Roehampton University Royal Agricultural College Royal College of Art Royal College of Music The Royal Scottish Academy of Music and Drama, Glasgow University of Salford University of Sheffield Sheffield Hallam University University of Southampton Southampton Solent University University of St Andrews Staffordshire University University of Stirling University of Strathclyde University of Sunderland University of Surrey University of Sussex University of Teeside Thames Valley University University of Ulster University of Warwick University of the West of England, Bristol University of Westminster University of Winchester University of Wolverhampton University of Worcester University of York York St John College Ysgolion, Colegau a Sefydliadau Prifysgol Llundain y mae'r Brifysgol wedi caniatáu iddynt roi graddau Prifysgol Llundain. Birkbeck College The Central School of Speech and Drama Courtauld Institute of Art Goldsmiths College Heythrop College Imperial College of Science, Technology and Medicine (a adnabyddir hefyd fel Imperial College, London)* Institute of Education King's College London London Business School* London School of Economics and Political Science* London School of Hygiene and Tropical Medicine Queen Mary and Westfield College (a adnabyddir hefyd fel Queen Mary, University of London) Royal Academy of Music Royal Holloway and Bedford New College (a adnabyddir hefyd fel Royal Holloway, University of London) Royal Veterinary College School of Oriental and African Studies School of Pharmacy St George's Hospital Medical School University College London* * Mae ganddynt eu pwerau eu hunain hefyd i roi graddau (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn rhestru'r holl gyrff hynny y mae'n ymddangos i Gynulliad Cenedlaethol Cymru eu bod yn gyrff sy'n cael eu cydnabod o fewn adran 214(2)(a) neu (b) o Ddeddf Diwygio Addysg 1988. Cyrff yw'r rhain sy'n brifysgolion, yn golegau neu'n gyrff eraill a awdurdodir gan Siarter Frenhinol neu gan Ddeddf Seneddol neu o dan Ddeddf Seneddol i roi graddau a chyrff eraill a ganiateir am y tro gan y cyrff hynny i weithredu ar eu rhan wrth roi graddau. Nid yw dyfarniad a roddir gan gorff o'r fath yn ddyfarniad o'r math y cyfeirir ato yn adran 214(1) sy'n ei gwneud yn dramgwydd i roi, i gynnig rhoi neu i ddyroddi unrhyw wahoddiad sy'n ymwneud â graddau a dyfarniadau penodol nad ydynt yn cael eu cydnabod. Mae'r Gorchymyn hwn yn diweddaru ac yn disodli'r rhestr o gyrff a geir yng Ngorchymyn Addysg (Cyrff sy'n Cael eu Cydnabod) (Cymru) 2003. Mae'n cynnwys nifer o sefydliadau a gafodd eu hawdurodi i roi graddau o dan adran 76 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch 1992 (p.13), ac adran 48 o Ddeddf Addysg Bellach ac Uwch (yr Alban) (p.37). Mae hefyd yn cynnwys nifer o ysgolion, colegau a sefydliadau Prifysgol Llundain y rhoddwyd caniatâd iddynt gan y Brifysgol i roi graddau Prifysgol Llundain. Notes: [1] 1988 p.40.back
[a] Amended by Correction Slip. Dylai teitl Saesneg yr offeryn hwn ddarllen: "The Education (Recognised Bodies) (Wales) Order 2005."; a Tudalen 2, erthygl 1(1), llinell tri; dylai'r dyddiad dod i rym ddarllen, "1 Rhagfyr 2005.". back
ISBN 0 11 091233 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 6 December 2005 |