Gorchymyn Cychwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Rhif 3) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Cychwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Rhif 3) (Cymru) 2005, ISBN 0110912322. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 199(1) o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn: Enwi a dehongli 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cychwyn Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 (Rhif 3) (Cymru) 2005. (2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr "Deddf 2003" yw Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003. Diwrnodau penodedig 2. —(1) O ran Cymru 30 Rhagfyr 2005 yw'r diwrnod a bennwyd i adran 117 o'r Ddeddf ddod i rym. (2) 1 Ebrill 2006 yw'r diwrnod a bennwyd i ddarpariaethau canlynol Deddf 2003 ddod i rym—
(b) adran 116(2); ac (c) adrannau 107, 114(5), 115(1), (2), (4), (5) a (6) a 116(3) o ran Cymru.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Hwn yw'r trydydd gorchymyn cychwyn a wnaed gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o dan Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 ("y Ddeddf"). Mae'n dod â darpariaethau penodol y Ddeddf o ran Cymru i rym ar naill ai 30 Rhagfyr 2005 neu 1 Ebrill 2006, fel a bennir. Mae erthygl 2(1) yn dwyn i rym ar 30 Rhagfyr adran 117 o'r Ddeddf sy'n estyn y ddyletswydd sydd ar awdurdodau lleol o ran ystyried sylwadau i gynnwys sylwadau a wneir ynghylch gwasanaethau cymorth gwarcheidiaeth arbennig. Mae erthygl 2(2)(a) yn dwyn i rym rannau o adrannau 114 a 115 sy'n gwneud darpariaeth mewn perthynas â rheoliadau y caiff y Cynulliad eu gwneud ynghylch ymdrin â chwynion am wasanaethau cymdeithasol ac ynghylch eu hystyried. Mae erthygl 2(2)(b) yn cychwyn adran 116(2) sy'n mewnosod adran 26ZB yn Neddf Plant 1989. Mae erthygl 2(c) yn cychwyn o ran Cymru, adran 107, sy'n mewnosod cartref plant sy'n darparu llety diogel yn y diffiniad o sefydliadau yn Neddf Safonau Gofal 2000. Mae hefyd yn cychwyn, o ran Cymru, adran 116(3) sy'n mewnosod adran 26(2A) yn Neddf Plant 1989 a thrwy hynny'n estyn y gofyniad sydd ar awdurdodau lleol i ddarparu cymorth i bersonau sy'n gwneud sylwadau o dan adran 24D neu 26 o'r Ddeddf honno i gynnwys ystyriaeth bellach o'r sylwadau hynny. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Cafodd darpariaethau Deddf lechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003 sydd wedi'u rhestru yn y tabl isod eu dwyn i rym yng Nghymru gan orchmynion cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn. Mae'r darpariaethau a gychwynnwyd gan O.S. 2003/3346 ac O.S. 2004/759 wedi'u cychwyn o ran Cymru a Lloegr. Mae'r darpariaethau a gychwynnwyd gan O.S.2004/480 (Cy.49) ac O.S.2004/873 (Cy.88) wedi'u cychwyn o ran Cymru.
Notes: [1] 2003 p. 43. Rhoddir y pwerau i'r awdurdod priodol. Gweler adran 199(2) am y diffiniad o "appropriate authority" at ddibenion adran 199(1).back [2] Gweler adran 199(4) o Ddeddf 2003.back
ISBN 0 11 091232 2
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 6 December 2005 |