Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2005, ISBN 0110912306. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ("y Cynulliad Cenedlaethol"), drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 3 a 4 o Ddeddf (Amwynder) Gwaredu Gwastraff 1978[1] ac adrannau 99 a 101 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984[2] ac sydd bellach yn arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol[3], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau (Diwygio) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 25 Tachwedd 2005. (2) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. (3) Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran y rhannau o Gymru a ganlyn—
(b) y rhan honno o'r ffordd a adeiladwyd gan y Gweinidog Trafnidiaeth ar hyd y llinell a ddisgrifir yn Atodlen 1 o Orchymyn Cefnffordd North Almondsbury-South of Haysgate 1947[5] ac y cyfeirir ati yn y Gorchymyn hwnnw fel "the new road" sy'n gorwedd i'r dwyrain o'r pwynt mwyaf dwyreiniol cyn cyrraedd Afon Gwy lle gall traffig Dosbarthiadau I a II fel y'i pennir yn Atodlen 4 i Ddeddf Priffyrdd 1980[6] adael y ffordd honno ar hyd ffordd arbennig arall.
Diwygio Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986 (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae Rheoliadau Symud Ymaith a Gwaredu Cerbydau 1986 ("Rheoliadau 1986") yn darparu ar gyfer symud ymaith a gwaredu cerbydau o dan adrannau 3 a 4 o Ddeddf (Amwynder) Gwaredu Gwastraff 1978 ac adrannau 99 a 101 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 1986 o ran Cymru (heblaw'r rhannau hynny o Groesfannau Hafren sydd yng Nghymru) er mwyn cwtogi'r cyfnod o rybudd a ragnodir gan Reoliadau 1986 mewn dau achos:—
(b) Os yw awdurdod wedi symud ymaith gerbyd (ond nad yw'r cerbyd yn y fath gyflwr ag y dylid ei ddinistrio) ac wedi dod o hyd i'r perchennog, cwtogir y cyfnod pryd y mae'n ofynnol i'r perchennog symud y cerbyd o warchodaeth yr awdurdod o 21 niwrnod i 7 niwrnod o'r adeg pan gyflwynir yr hysbysiad perthnasol iddo. Caiff yr awdurdod waredu'r cerbyd ar ôl i'r cyfnod hwnnw ddod i ben cyn belled ag nad oes trwydded mewn grym ar gyfer y cerbyd hwnnw.
Notes: [1] 1978 p.3. Gweler adran 11(1) i gael y diffiniad o "prescribed".back [2] 1984 p.27. Gweler adran 142(1) i gael y diffiniad o "prescribed".back [3] Cafodd swyddogaethau yr Ysgrifennydd Gwladol dan adrannau 3 a 4 o Ddeddf (Amwynder) Gwaredu Gwastraff 1978 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1. Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol dan adrannau 99 a 101 o Ddeddf Rheoleiddio Traffig Ffyrdd 1984 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2004, O.S. 2004/3044, erthygl 2 ac Atodlen 1.back [7] O.S. 1986/183, y gwnaed diwygiadau perthnasol i'r Rheoliadau hyn, o ran Lloegr, gan O.S. 2002/746 ac o ran Yr Alban, gan O.S.A. 2002/538.back
ISBN 0 11 091230 6
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 1 December 2005 |