Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2005, ISBN 0110912233. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 270(4) a (5) o Ddeddf Tai 2004[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: Enwi, dehongli a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Tai 2004 (Cychwyn Rhif 2) (Cymru) 2005. (2) Yn y Gorchymyn hwn—
(3) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
(b) adran 55, is-adrannau (1), (2) a pharagraffau (a) a (b) o is-adran (5); (c) adrannau 56 a 57; (ch) adrannau 79 ac 80, i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym; (d) adran 81; (dd) adran 179; (e) adrannau 192 i 194; ac (f) adran 237.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau amrywiol Deddf Tai 2004 ("Deddf 2004") o ran Cymru. Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 a restrir o dan erthygl 2 yn dod i rym ar 25 Tachwedd 2005:
(b) adran 55 (mae is-adrannau (1) a (2) ohoni yn gosod cwmpas y darpariaethau trwyddedu ar gyfer tai amlfeddiannaeth ("HMOs") o dan Ran 2 o Ddeddf 2004); (c) adran 56 (sy'n galluogi awdurdodau lleol i ddynodi ardal yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu ychwanegol o ran HMOs a bennir); (ch) adran 57 (sy'n nodi'r materion y mae'n rhaid i awdurdod tai lleol eu hystyried cyn arfer y pwerau a geir yn adran 56 o Ddeddf 2004); (d) adran 79 (sy'n nodi cwmpas y darpariaethau trwyddedu ar gyfer tai sydd o fewn Rhan 3 o Ddeddf 2004); (dd) adran 80 (sy'n galluogi awdurdod tai lleol i ddynodi ardal yn ardal sy'n ddarostyngedig i drwyddedu dethol os yw'n ardal o alw bychan am dai, neu os y gall ddod yn ardal felly, neu os oes ynddi broblem sylweddol a pharhaus o ran ymddygiad gwrth-gymdeithasol); (e) adran 81 (sy'n nodi'r materion y mae'n rhaid i'r awdurdod tai lleol eu hystyried cyn arfer y pwerau a geir dan adran 80 o Ddeddf 2004); (f) adran 179 (sy'n diwygio Deddf Tai 1996 drwy fewnosod adrannau 125A a 125B newydd sy'n caniatáu ymestyn tenantiaeth ragarweiniol am hyd at chwe mis); (ff) adran 192 (sy'n diwygio Deddf Tai 1985 ("Deddf 1985") drwy fewnosod adran 121A newydd sy'n galluogi landlordiaid tenantiaid diogel i geisio gorchymyn llys sy'n atal dros dro yr hawl i brynu am gyfnod penodol ar sail ymddygiad gwrth-gymdeithasol); (g) adran 193 (sy'n diwygio adran 138 o Ddeddf 1985 drwy fewnosod is-adrannau (2A) i (2D) newydd sy'n rhwystro tenant rhag gallu mynnu cwblhau gwerthiant hawl i brynu os oes cais yn yr arfaeth am orchymyn israddio, gorchymyn atal dros dro, neu orchymyn meddiant ar sail ymddygiad gwrth-gymdeithasol); (ng) adran 194 (sy'n caniatáu i unrhyw berson ddarparu gwybodaeth berthnasol i landlord tenant diogel er mwyn galluogi'r landlord i arfer swyddogaethau sy'n gysylltiedig â'r darpariaethau a fewnosodir gan adrannau 191 i 193 o Ddeddf 2004); ac (h) adran 237 (sy'n galluogi awdurdod tai lleol i ddefnyddio gwybodaeth y mae wedi ei gael at ddibenion budd-dâl tai neu'r dreth gyngor er mwyn cyflawni ei swyddogaethau o dan Rannau 1 i 4 o Ddeddf 2004). (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2004 wedi'u dwyn i rym yng Nghymru drwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Notes: [1] 2004 p.34.back
ISBN 0 11 091223 3
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 30 November 2005 |