Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005, ISBN 0110912357. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 19(2), 19(3), 20(2), 21(3), 210(7) a 214(1) o Ddeddf Addysg 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cynghorau Ysgol (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Rhagfyr 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn—
Cynghorau Ysgol
(b) sicrhau bod pob cyfarfod cyngor ysgol yn cael eu goruchwylio gan o leiaf un aelod o staff yr ysgol.
(3) Rhaid i gorff llywodraethu ysgol a phennaeth ysgol ill dau ystyried unrhyw fater a gaiff ei gyfleu iddynt gan y cyngor ysgol a rhoi ymateb i'r cyngor ysgol.
(4) Ar ôl rheoliad 25(5) mewnosoder:
(5) Yn lle rheoliad 29 a'i bennawd rhodder:
29. Caiff y corff llywodraethu symud unrhyw riant-lywodraethwr a benodwyd gan y corff llywodraethu o dan baragraffau 10 i 12 o Atodlen 1, unrhyw lywodraethwr partneriaeth ac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt yn unol â'r weithdrefn a nodir yn rheoliad 30."
(6) Ar ddechrau rheoliad 33(1)(ch), mewnosoder "yn ddarostyngedig i baragraff (5),".
(8) Yn rheoliad 44, rhodder "rheoliadau 44A a 63" yn lle "rheoliad 63".
44A. —(1) Caiff y corff llywodraethu wahardd disgybl-lywodraethwyr cyswllt o unrhyw drafodaeth gan gorff llywodraethu sy'n ymwneud â:
(b) derbyn; (c) disgyblu disgybl unigol; (ch) ethol, penodi a symud llywodraethwyr; (d) y gyllideb a rhwymedigaethau ariannol y corff llywodraethu; (dd) yn achos ysgol wirfoddol a gynorthwyir, y Weithred Ymddiriedolaeth; neu (e) unrhyw fater arall, oherwydd ei natur, y mae'r corff llywodraethu yn fodlon ei fod yn gyfrinachol ac y dylai barhau'n gyfrinachol."
(10) Yn rheoliad 46(1) mewnosoder "unrhyw ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt," o flaen "unrhyw leoedd gwag."
(13) Yn rheoliad 54(7) mewnosoder "disgybl-lywodraethwyr a" ar ôl "Caiff aelodaeth pwyllgor gynnwys" a newidir "personau" i "phersonau".
(16) Yn rheoliad 56(2) mewnosoder "nac unrhyw ddisgybl-lywodraethwr cyswllt" ar ôl "y pennaeth".
(19) Yn rheoliad 60(5) rhodder ", 57(4) a 60(9)" yn lle "a 57(4)".
(9) At ddibenion paragraffau (5), (6), (7) ac (8) uchod, rhaid i'r corff llywodraethu benderfynu a fydd disgybl-lywodraethwyr cyswllt yn cael eu trin fel llywodraethwyr."
(23) Ar ddechrau paragraff 1 ac 11(1) o Atodlen 5, mewnosoder "Ac eithrio yn achos disgybl-lywodraethwyr cyswllt,". (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn gosod y gofyniad i ysgolion a gynhelir i sefydlu cynghorau ysgol, a fydd yn rhoi cyfle i ddisgyblion drafod a gwneud sylwadau ar faterion ynglŷn â'r ysgol neu ar faterion eraill y maent yn ymboeni amdanynt. Mae rheoliad 1 yn darparu bod y Rheoliadau'n dod i rym ar 31 Rhagfyr 2005 ac yn rheoliad 2 ceir y darpariaethau dehongli. Mae rheoliad 3 yn gosod diben y cynghorau ysgol a dyletswyddau penaethiaid a chyrff llywodraethu o ran y cynghorau ysgol. Mae rheoliad 4 yn gosod gofynion aelodaeth pob cyngor ysgol. Mae rheoliad 5 yn darparu nad yw rhai darpariaethau penodol yn gymwys i ysgolion arbennig. Mae rheoliad 6 yn darparu mai drwy bleidlais gyfrinachol y penodir i gyngor ysgol oni bai bod trefniadau yn cael eu gwneud i bob disgybl cofrestredig fod yn aelod o'r cyngor ysgol. Mae rheoliad 7 yn darparu bod yn rhaid rhoi cyfle i aelodau penodol ar gyngor ysgol i ddod yn ddisgybl-lywodraethwyr cyswllt ac mae rheoliad 8 yn nodi'r diwygiadau i Reoliadau Llywodraethu Ysgolion a Gynhelir (Cymru) 2005. Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a gellir ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (www.cymru.gov.uk). Gellir cael copïau oddi wrth yr Is-adran Rheolaeth Ysgolion, yr Adran Hyfforddiant ac Addysg, Llywodraeth Cynulliad Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ. Notes: [1] 2002 p.32.back [2] O.S. 2005/2914 (Cy.211).back
ISBN 0 11 091235 7
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 7 December 2005 |