Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2005, ISBN 0110912195. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(1) a (3),10 a 140(1) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[1] ac adrannau 50, a 118(1) a (5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000[2] drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:— Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(b) yn unrhyw achos arall unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad—
(b) mewn rheoliad neu Atodlen i baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad hwnnw neu'r Atodlen honno sy'n dwyn y Rhif hwnnw; (c) mewn paragraff o is-baragraff sy'n dwyn llythyren neu rif, yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff sy'n dwyn y Rhif hwnnw neu'r llythyren honno.
(3) Yn y Rheoliadau hyn, onid yw'n ymddangos bod bwriad i'r gwrthwyneb, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—
(b) cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract am wasanaethau; ac (c) caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;
a rhaid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.
(b) personau sy'n dymuno mabwysiadu plentyn; (c) personau sydd wedi eu mabwysiadu, eu rhieni, eu rhieni naturiol a'u cyn-warcheidwaid; (ch) personau sy'n dymuno cael asesiad o'u hanghenion ar gyfer darpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod; (d) pob person sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.
(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r awdurdod sicrhau bod ei wasanaeth mabwysiadu yn cael ei redeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i ddatganiad o ddiben.
(b) pob darpar fabwysiadydd y mae'r awdurdod wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu gydag ef; ac (c) pob plentyn (yn ddarostyngedig i oed a dealltwriaeth y plentyn hwnnw), y caniateir ei leoli neu sydd wedi cael ei leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod.
Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant
(b) hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw ddiwygiadau o'r fath o fewn 28 niwrnod.
Penodi rheolwr 6. —(1) Rhaid i bob awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu a rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith o—
(b) y dyddiad y bydd y penodiad yn cychwyn.
(2) Rhaid i'r awdurdod hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol ar unwaith os yw'r person a benodwyd o dan baragraff (1) yn peidio â rheoli'r gwasanaeth mabwysiadu.
(b) o ystyried maint yr awdurdod a'i ddatganiad o ddiben—
(ii) yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu; ac oni bai
(c) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynghylch y person hwnnw ynglŷn â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3.
Gofynion cyffredinol
(b) yr angen i ddiogelu a hybu lles plant y caniateir eu lleoli, neu sydd wedi cael eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, (c) reoli'r gwasanaeth mabwysiadu gyda gofal, cymhwysedd a medrusrwydd digonol.
(2) Rhaid i'r rheolwr o bryd i'w gilydd ymgymryd â hyfforddiant priodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r profiad a'r medrau angenrheidiol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu.
(b) y tramgwydd; ac (c) y gosb a osodwyd am y tramgwydd.
Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant 10. Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi a rhoi ar waith bolisi ysgrifenedig—
(b) sy'n gosod allan y weithdrefn y mae'n rhaid ei dilyn os digwydd unrhyw honiadau o gamdriniaeth neu esgeulustod.
Staffio
(b) yr angen i ddiogelu a hybu iechyd a lles plant y caniateir eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu blant sydd wedi cael eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu blant y caniateir iddynt dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod neu blant sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod,
digon o bersonau â'r cymwysterau addas, sy'n gymwys ac yn brofiadol, yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.
(b) caniatáu i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, weithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir, heblaw gan yr awdurdod, mewn swydd lle caiff y person hwnnw, wrth wneud ei ddyletswyddau, ddod i gysylltiad rheolaidd â phlant y caniateir eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu sydd wedi cael eu lleoli i'w mabwysiadu gan yr awdurdod, neu y caniateir iddynt dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod, neu sydd yn derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod.
(b) yn meddu'r cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y bydd y person hwnnw yn ei wneud; (c) yn gorfforol ac yn feddyliol yn ffit ar gyfer y gwaith y bydd y person hwnnw yn ei wneud; ac oni bai (ch) bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynghylch y person hwnnw ynglyn â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3.
(4) Rhaid i'r awdurdod gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu nad ydynt yn cael eu cyflogi gan yr awdurdod ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddynt yn cael eu goruchwylio'n briodol pan maent yn cyflawni eu dyletswyddau.
(b) ddarparu swydd-ddisgrifiad sy'n amlinellu eu cyfrifoldebau i bob cyflogai sy'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod at ddibenion eu gwasanaeth mabwysiadu.
(2) Rhaid i'r awdurdod sicrhau fod pob person a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu—
(b) yn cael cyfle o bryd i'w gilydd i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y maent yn ei wneud.
Gweithdrefn disgyblu staff
(b) yn darparu bod methiant ar ran cyflogai i hysbysu person priodol o ddigwyddiad cam-drin, neu achos lle mae amheuaeth o gam-drin plentyn sydd wedi cael ei leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod neu y caniateir ei leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod neu y caniateir iddo dderbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod neu sy'n derbyn gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr awdurdod yn sail y gellir cychwyn achos disgyblu arni.
(2) At ddibenion paragraff (1)(b), mae person priodol yn un o'r canlynol—
(b) un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol; (c) un o swyddogion yr heddlu; (ch) un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant; (d) un o swyddogion yr awdurdod lleol dros yr ardal y mae'r plentyn wedi ei leoli i'w fabwysiadu ynddi pan fo hwnnw'n awdurdod gwahanol.
Trefniadau ar gyfer absenoldeb y rheolwr
(b) bod unrhyw gofnodion nad ydynt, am unrhyw reswm, ym mangre'r awdurdod yn cael eu cadw o dan amodau priodol o ran diogelwch.
Cwynion
(b) roi i'r Cynulliad Cenedlaethol, os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed ynglŷn â'u gwasanaeth mabwysiadu yn ystod y 12 mis blaenorol a'r hyn a wnaed (os gwnaed unrhyw beth) oherwydd canlyniad yr ymchwiliad.
Dirymu Rheoliadau 19. —(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mae'r Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2003[4] ("Rheoliadau 2003") yn cael eu dirymu. (2) Nid yw Paragraff (1) yn effeithio ar y diwygiadau a wnaed i'r Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002[5] ac i'r Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002[6] gan reoliadau 19 a 20 o Reoliadau 2003, yn eu trefn. Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[7]. D. Elis-Thomas Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol 8 Tachwedd 2005 1. Nodau ac amcanion yr awdurdod lleol o ran y gwasanaeth mabwysiadu, gan gynnwys achosion yn ymwneud â mabwysiadu rhwng gwledydd. 2. Y trefniadau y mae'r awdurdod lleol eisoes wedi eu gwneud i asesu ac i wneud darpariaeth ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu. 3. Enw a chyfeiriad y rheolwr. 4. Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr. 5. Nifer, cymwysterau perthnasol a phrofiad y staff a gyflogir gan yr awdurdod at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu'r awdurdod. 6. Strwythur trefniadol y gwasanaeth mabwysiadu. 7. Y system sydd wedi'i sefydlu i fonitro a gwerthuso gwaith darparu'r gwasanaethau er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr awdurdod yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaeth mabwysiadu o safon briodol. 8. Y gweithdrefnau ar gyfer recriwtio, paratoi, asesu, cymeradwyo a chefnogi darpar rieni mabwysiadol. 9. Manylion y cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a'r gweithdrefnau am asesiadau ar gyfer gwasanaethau cymorth mabwysiadu a'r ddarpariaeth ohonynt. 10. Crynodeb o'r weithdrefn gwynion a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989[8], Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn Cwynion) 1990[9] ac adran 114 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003[10]. 11. Cyfeiriad a Rhif ffôn y swyddog priodol o'r Cynulliad Cenedlaethol. 1. Crynodeb o'r datganiad o ddiben. 2. Crynodeb o'r gweithdrefnau pan gaiff mabwysiad ei ddynodi fel y cynllun priodol ar gyfer y plentyn. 3. Gwybodaeth ynglŷn â swyddogaeth y cynghorydd gwasanaethau cymorth mabwysiadu a chrynodeb o'r gweithdrefnau i geisio asesiad ar gyfer darpariaeth o wasanaethau cymorth mabwysiadu. 4. Crynodeb o'r gweithdrefnau cwynion a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989, Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn Cwynion) 1990 ac adran 114 o Ddeddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Iechyd Cymunedol a Safonau) 2003. 5. Manylion o sut y gall plentyn gael at wasanaethau eiriolwr sy'n annibynnol ar yr awdurdod i'w gynorthwyo i wneud cwyn neu i wneud sylw o dan y gweithdrefnau cwynion y cyfeirir atynt ym mharagraff 4. 6. Cyfeiriad a Rhif ffôn y swyddog priodol o'r Cynulliad Cenedlaethol. 7. Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn Comisiynydd Plant Cymru. 1. Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar. 2. Naill ai—
(b) mewn unrhyw achos arall tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o Ddeddf yr Heddlu 1997 ac y mae llai na thair blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â hi ers iddi gael ei dyroddi, gan gynnwys, i'r graddau a ganiatawyd o dan Ddeddf yr Heddlu 1997, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu 115(6A) o'r Ddeddf honno.
3.
Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth gyflogwr mwyaf diweddar y person, os oes un. Cofnod sy'n cynnwys ar gyfer pob person sy'n gweithio i'r awdurdod lleol— 1. Enw llawn. 2. Rhyw. 3. Dyddiad geni. 4. Cyfeiriad cartref. 5. Cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n ymwneud â phlant, a phrofiad o waith o'r fath. 6. Y dyddiad pan fydd y person yn dechrau cael ei gyflogi felly a phan fydd ei gyflogaeth yn dod i ben. 7. A yw'r person yn cael ei gyflogi gan awdurdod lleol o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, neu a yw'n cael ei gyflogi gan rywun heblaw'r awdurdod. 8. Disgrifiad swydd y person ac a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan amser a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi neu'n cael ei gontractio i weithio i wasanaeth mabwysiadu'r awdurdod bob wythnos. 9. Yr hyfforddiant y mae'r person wedi ymgymryd ag ef, goruchwylio, arfarnu, y camau disgyblu (os o gwbl) a wnaed yn ei erbyn a chanlyniad y camau hynny, cofnodion cwynion (os o gwbl) a wnaed yn ei erbyn a chanlyniad y gwyn honno ac unrhyw gofnodion eraill mewn cysylltiad â'i gyflogaeth. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn) Mae'r Rheoliadau hyn wedi'u gwneud o dan Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("Deddf 2002") a'r Ddeddf Safonau Gofal 2000 ("Deddf 2000") ac maent yn gymwys i awdurdodau lleol Cymru. Maent yn cymryd lle Rheoliadau Gwasanaeth Mabwysiadu Awdurdodau Lleol a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2003. Maent yn darparu fframwaith rheoliadol ar gyfer gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol. Mae Rhan III o Ddeddf 2000 yn darparu ar gyfer arolygu gwasanaethau awdurdodau lleol gan y Cynulliad Cenedlaethol. Mae Rheoliadau 3 a 4 yn darparu bod rhaid i bob awdurdod lleol sy'n darparu gwasanaeth mabwysiadu fod â datganiad o ddiben sy'n gosod allan amcanion a nodau'r gwasanaeth ac arweiniad plant. Rhaid rhedeg y gwasanaeth mewn modd sy'n gydnaws â'r datganiad o ddiben. Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â phersonau sy'n rheoli'r gwasanaeth, ac yn ei gwneud yn ofynnol fod gwybodaeth foddhaol ar gael ynglŷn â'r materion a ragnodir yn Atodlen 3. Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ar gyfer rhedeg y gwasanaeth, staffio a ffitrwydd y gweithwyr, addasrwydd y fangre ac ynglŷn â chwynion a chadw cofnodion. Notes: [1] 2002 p.38.back [3] O.S. 2005/1512 (Cy.116).back [5] O.S. 2002/919 (Cy.107).back [6] O.S. 2002/921 (Cy.109).back
ISBN 0 11 091219 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 16 November 2005 |