Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Rhagnodedig) (Mabwysiadu gydag Elfen Dramor) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Rhagnodedig) (Mabwysiadu gydag Elfen Dramor) (Cymru) 2005, ISBN 0110912160. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo dan adran 9, 11(2) a (3), 140(7) ac (8) a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Rhagnodedig) (Mabwysiadu gydag Elfen Dramor) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y Rheoliadau hyn—
Pŵer i godi am gyfleusterau sy'n cael eu darparu sy'n ymwneud â mabwysiadu gydag elfen dramor
(b) mabwysiad Confensiwn[5], mabwysiad tramor[6] neu unrhyw fabwysiad arall sy'n cael ei wneud o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Ynysoedd Prydain.
(2) Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff awdurdod lleol godi ffi ar bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) am ddarparu'r cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).
(b) mabwysiadydd.
(4) Y cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
(ii) darparu gwybodaeth cyn i awdurdod lleol gael cais am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn sy'n arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain.
(b) cyfleusterau sy'n cael eu darparu wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth a osodir ar awdurdod lleol gan y Rheoliadau Elfen Dramor neu'n unol â hwy neu gan y Ddeddf fel y cafodd ei hamrywio neu ei chymhwyso gan y Rheoliadau Elfen Dramor ac eithrio:
(ii) darparu cwnsela nad yw'n cael ei ddilyn gan gais ysgrifenedig, a gafwyd gan awdurdod lleol, am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn, yn unol â rheoliad 14(1) o'r Rheoliadau Elfen Dramor; a (iii) darparu gwybodaeth cyn i awdurod lleol gael cais ysgrifenedig am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn, yn unol â rheoliad 14(1) o'r Rheoliadau Elfen Dramor; (iv) darparu gwybodaeth i'r darpar fabwysiadydd, cyfarfod â'r darpar fabwysiadydd neu ddarparu cwnsela i'r darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliad 19(2) o'r Rheoliadau Elfen Dramor; a (v) cyflwyno adroddiad yn unol â rheoliad 29(2) o'r Rheoliadau Elfen Dramor.
(c) adroddiad a gyflwynir i awdurdod tramor perthnasol pan na fo'r adroddiad yn ofyniad gwneud mabwysiad Confensiwn neu fabwysiad tramor o dan gyfraith gwlad dramor lle mae'r plentyn yn arfer preswylio.
(5) Rhaid i'r ffi—
(b) beidio â chynnwys unrhyw elfen ar gyfer costau a threuliau a dynnwyd gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â:
(ii) sylwadau a gyflwynir i'r awdurdod lleol yn unol â rheoliad 28 o Reoliadau'r Asiantaethau; neu (iii) adolygiad o ddyfarniad o gymhwyster o fewn ystyr adran 12 o'r Ddeddf.
(6) Rhaid i'r awdurdod lleol, ar gais rhesymol y person y codir arno, ddarparu manylion am y dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r ffi. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi awdurdodau lleol i godi am gyfleusterau a ddarperir mewn amgylchiadau lle byddai codi am wasanaethau yn cael ei wahardd fel arall o dan adran 95 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Mae'r Rheoliadau yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005. Mae rheoliad 3 yn ymwneud â chyfleusterau sy'n cael eu darparu gan awdurdodau lleol ynglŷn â mabwysiadu plant sydd yn arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain, yn unol â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 a Rheoliadau Mabwysiadu gydag Elfen Dramor 2005. Caiff awdurdod lleol godi ffi am ddarparu cyfleusterau o'r fath ar gyfer person sy'n dymuno mabwysiadu plentyn o'r fath neu ar gyfer person sydd wedi mabwysiadu plentyn o'r fath. Rhaid i'r ffi fod yn rhesymol a bod wedi'i chyfyngu i'r costau a'r treuliau a dynnwyd gan yr awdurdod lleol wrth ddarparu'r cyfleusterau. Rhaid iddi beidio â chynnwys unrhyw elfen sy'n ymwneud ag unrhyw adolygiad o ddyfarniad o gymhwyster o'i eiddo ar addasrwydd darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn. Notes: [1] 2002 p. 38.back [4] Rhaid dehongli "facilities" yn unol ag adran 3 o'r Ddeddf.back [5] Diffnnir "convention adoption" gan adran 66(1)(c) o'r Ddeddf.back [6] Diffinnir "overseas adoption" gan adran 87(1) o'r Ddeddf.back
ISBN 0 11 091216 0
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 16 November 2005 |