Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Mabwysiadau heb fod drwy Asiantaeth) (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Mabwysiadau heb fod drwy Asiantaeth) (Cymru) 2005, ISBN 0110912225. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(1) a 44(9), 140(7) ac (8) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: Enwi, cychwyn a chymhwyso 1. —(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Mabwysiadau heb fod drwy Asiantaeth) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005. (2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Dehongli 2. Yn y rheoliadau hyn ystyr "y Ddeddf" ("the Act") yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Awdurdodau lleol rhagnodedig 3. —(1) At ddibenion adran 44(9)(a) o'r Ddeddf, rhagnodir yr awdurdodau lleol canlynol yn yr achosion canlynol. (2) Yn achos mabwysiad arfaethedig gan un person nad oes ganddo bellach gartref yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal yng Nghymru lle'r oedd cartref diwethaf y person hwnnw. (3) Pan nad oes gan fabwysiadwyr arfaethedig gartref yng Nghymru bellach a hwythau wedi rhannu'r cartref diwethaf y bu ganddynt yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle'r oedd y cartref hwnnw. (4) Pan nad oes gan y mabwysiadwyr arfaethedig gartref yng Nghymru bellach a hwythau heb rannu'r cartref diwethaf y bu gan y naill a'r llall yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol y mae'r mabwysiadwyr arfaethedig yn ei enwebu, sef yr awdurdod lleol ar gyfer yr ardal yng Nghymru lle'r oedd cartref diwethaf y naill neu'r llall o'r mabwysiadwyr. (5) Pan fo dau fabwysiadydd arfaethedig ac nad oes gan y naill na'r llall gartref yng Nghymru ond y bu gan un ohonynt gartref neu gartrefi yng Nghymru, yr awdurdod lleol rhagnodedig yw'r awdurdod lleol ar gyfer yr ardal lle'r oedd cartref diwethaf y person hwnnw yng Nghymru. Gofyniad i gymryd camau i gael gwiriadau heddlu 4. At ddibenion ymchwiliad a drefnir o dan adran 44(5) o'r Ddeddf, rhaid i'r awdurdod lleol gymryd camau i gael, o ran—
(b) unrhyw aelodau eraill o'u haelwyd sy'n 18 oed neu'n hyn,
dystysgrif cofnod troseddol manwl yn ôl ystyr "enhanced criminal record certificate" yn adran 115 o Ddeddf yr Heddlu 1997[2] gan gynnwys y materion a bennir yn is-adran (6A) o'r adran honno. (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.) Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer pobl sy'n dymuno mabwysiadu plentyn nad yw asiantaeth fabwysiadu wedi'i leoli gyda hwy. Mae rheoliad 3 yn rhagnodi'r awdurdod lleol priodol at ddibenion adran 44 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 ("Deddf 2002") pan fo'r mabwysiadwyr arfaethedig yn byw dramor adeg y maent yn dymuno gwneud cais am orchymyn mabwysiadu. Bydd hyn yn gymwys, er enghraifft, yn achos mabwysiadwyr arfaethedig sy'n aelodau o'r lluoedd arfog neu'r gwasanaethau diplomyddol sy'n gweithio dramor. Yn y fath achos, mae rheoliad 3 yn darparu mai'r awdurdod y mae'n rhaid iddynt roi hysbysiad iddo am eu bwriad i fabwysiadu yw'r awdurdod lleol yn yr ardal lle bu'r mabwysiadwyr arfaethedig yn byw ddiwethaf pan oeddent yn byw yng Nghymru. Os nad oedd y mabwysiadwyr arfaethedig yn byw gyda'i gilydd yng Nghymru, yna gallant ddewis pa awdurdod lleol o'r ddau ar gyfer yr ardaloedd lle bu gan y mabwysiadwyr arfaethedig eu cartref ddiwethaf yng Nghymru yw'r awdurdod lleol priodol. Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod lleol at ddiben yr ymchwiliad y mae'n ofynnol iddo'i drefnu o dan adran 44(5) o Ddeddf 2002 gymryd camau i gael tystysgrifau cofnod troseddol manwl o ran y ddau fabwysiadydd arfaethedig ac aelodau eraill o'u haelwyd sy'n 18 oed neu'n hyn. Notes: [1] 2002 p.38.back
ISBN 0 11 091222 5
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 18 November 2005 |