Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines.
Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr.
Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol.
Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Gorchymyn Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cychwyn Rhif 11)(Cymru) 2005, ISBN 0110912209. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions.
I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Gorchymyn Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cychwyn Rhif 11)(Cymru) 2005
Wedi'i wneud
8 Tachwedd 2005
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 148(6) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002[1], drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol—
Enwi, dehongli a chymhwyso 1.
—(1) Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 (Cychwyn Rhif 11)(Cymru) 2005.
(2) Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys o ran Cymru.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 30 Rhagfyr 2005 2.
30 Rhagfyr 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002—
(a) adran 4 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(b) adrannau 6 i 8;
(c) adran 12 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(ch) adrannau 13 i 15;
(d) adrannau 56 i 58 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(dd) adrannau 60 i 62 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
(e) paragraffau 13, 65 ac 111 i 113 o Atodlen 3 ac adran 139(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998[2]