Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005 © Hawlfraint y Goron 2005 Caiff Offerynnau Statudol o'r wefan hon eu hargraffu o dan oruchwyliaeth ac awdurdod Rheolwr Gwasg ei Mawrhydi sef Argraffydd Ddeddfau Senedd y Frenhines. Mae'r ddeddfwriaeth a gynhwysir ar y wefan hon yn gaeth i ddiogelwch Hawlfraint y Goron. Gellir ei atgynhyrchu yn rhad ac am ddim cyn belled â'i fod wedi ei atgynhyrchu'n gywir a bod ffynhonnell a statws hawlfraint y deunydd wedi eu nodi'n glir i'r defnyddiwr. Dylid nodi nad yw'r hawl i atgynhyrchu testun Offerynnau Statudol yn ymestyn i wasgnodau Argraffydd y Frenhines a dylid eu tynnu oddi ar unrhyw gopïau o'r Offerynnau Statudol gaiff eu cyhoeddi neu fydd ar gael i’r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys atgynhyrchu yr Offeryn Statudol ar y Rhyngrwyd ac ar safleoedd mewnrwyd. Gellir ond atgynhyrchu Bathodyn Brenhinol Cymru pan ei fod yn rhan annatod o'r ddogfen wreiddiol. Paratowyd testun y fersiwn Rhyngrwyd yma o Offeryn Statutdol i adlewyrchu'r testun fel y cafodd ei Wneud. Mae fersiwn brint hefyd ar gael ac mae wedi ei chyhoeddi gan The Stationery Office Limited fel Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005, ISBN 0110912144. Gellir prynu'r fersiwn brint trwy glicio yma. Gellir hefyd prynu copïau Braille o'r Offeryn Statudol yma am yr un pris â'r argraffiad print drwy gysylltu â Gwasanaethau Cwsmeriaid TSO ar 0870 600 5522 neu ar e-bost: customer.services@tso.co.uk. Gellir cael rhagor o wybodaeth am gyhoeddiad deddfwriaeth ar y wefan hon drwy gyfeirio at Frequently Asked Questions. I sicrhau mynediad cyflym dros gysylltiadau araf, mae dogfennau mawr wedi eu rhannu i "ddarnau". Pan welwch fotwm "continue" ar ddiwedd tudalen o destun, mae hyn yn dynodi bod darn arall o destun ar gael.
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) ac (f), (26)(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990[1] ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo[2] ac wedi rhoi sylw yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd, ac ar ôl ymgynghori fel sy'n ofynnol gan Erthygl 9 o Reoliad (EC) Rhif 178/2002 Senedd Ewrop a'r Cyngor, sy'n pennu egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd, yn sefydlu Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop ac yn pennu gweithdrefnau o ran materion diogelwch bwyd[3], yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn: Enwi, cymhwyso a chychwyn 1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tryptoffan mewn Bwyd (Cymru) 2005; maent yn gymwys i Gymru a deuant i rym ar 11 Tachwedd 2005. Dehongli 2. —(1) Yn y Rheoliadau hyn—
(b) yn cael ei werthu ar ffurf dogn;
(2) Yn y Rheoliadau hyn o ran cyfeiriadau at ychwanegu tryptoffan at fwyd—
(b) ond maent fel arall yn cynnwys achosion lle y cafodd bwyd y cafodd tryptoffan ei ychwanegu ato ei ychwanegu at unrhyw fwyd arall,
ac nid yw cyfeiriadau yn rheoliad 4 a 5 at fwyd sy'n cynnwys tryptoffan yn cynnwys achos lle nad yw'r tryptoffan hwnnw ond yn digwydd yn naturiol yn y bwyd neu mewn cynhwysyn yn y bwyd.
(b) gwerthu, neu gynnig ar werth, fwyd sy'n cynnwys tryptoffan (c) arddangos ar werth fwyd sy'n cynnwys tryptoffan.
Eithriadau rhag y gwaharddiadau
(b) yng nghwrs gweithgareddau ysbyty,
i berson y mae tystysgrif feddygol briodol ar ei gyfer neu i rywun sy'n gweithredu ar ran y person hwnnw, a—
(ii) caiff unrhyw berson werthu, neu gynnig ar werth, fwyd sy'n cynnwys tryptoffan er mwyn ei werthu yn yr amgylchiadau hynny.
(2) Ni fydd rheoliad 4 yn gymwys o ran—
(b) tryptoffan chwithdroadol a ychwanegwyd at fwyd proses sydd wedi'i seilio ar rawn neu fwyd babanod; neu (c) tryptoffan chwithdroadol, ei halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm neu fagnesiwm neu ei hydroclorid a ychwanegwyd gan gydymffurfio â Chyfarwyddeb 2001/15/EC at unrhyw fwyd at ddefnydd maethol penodol y cyfeirir ato yn yr Atodiad i'r Gyfarwyddeb honno,
os yw'r sylwedd hwnnw a ychwanegir yn cydymffurfio â'r meini prawf purdeb a bennir ar gyfer y sylwedd hwnnw yn Pharmacopoeia Ewrop[8].
(b) os nad yw'r dogn dyddiol a argymhellir ar gyfer yr ategolyn bwyd hwnnw yn fwy na 220 mg.
Tramgwyddau a chosb
(b) adran 3 (rhagdybio bod bwyd wedi'i fwriadu i bobl ei fwyta); (c) adran 20 (tramgwyddau oherwydd bai person arall); (ch) adran 21 (amddiffyniad o ddiwydrwydd dyladwy) fel y mae'n gymwys at ddibenion adran 14 neu 15; (d) adran 30(8) (sy'n ymwneud â thystiolaeth ddogfennol); (dd) adran 33(1) (rhwystro etc. swyddogion); (e) adran 33(2), gyda'r addasiad y bernir bod y cyfeiriad at "any such requirement as is mentioned in subsection (1)(b) above" yn gyfeiriad at unrhyw ofyniad a grybwyllir yn yr is-adran honno fel y'i cymhwysir gan is-baragraff (dd) uchod; (f) adran 35(1)(cosbi tramgwyddau)[9] i'r graddau y mae'n berthnasol i dramgwyddau o dan adran 33(1) fel y'i cymhwysir gan baragraff (dd) uchod; (ff) adran 35(2) a (3) i'r graddau y mae'n ymwneud â thramgwyddau o dan adran 33(2) fel y'i cymhwysir gan baragraff (e) uchod; (g) adran 36 (tramgwyddau gan gyrff corfforaethol); (ng) adran 36A (tramgwyddau gan bartneriaethau Albanaidd)[10]; ac (h) adran 44 (amddiffyn swyddogion sy'n gweithredu'n ddidwyll).
Condemnio bwyd (Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau) 1. Mae'r Rheoliadau hyn yn cydgrynhoi gyda diwygiadau Reoliadau Tryptoffan mewn Bwyd 1990, fel y'u diwygiwyd, o ran Cymru. Yr oedd y Rheoliadau hynny'n rhychwantu Cymru a Lloegr. 2. Mae tryptoffan yn asid amino. Mae'r Rheoliadau hyn yn parhau i wahardd ychwanegu tryptoffan (fel y'i diffinnir yn rheoliad 2(1)) at fwyd, a gwerthu, cynnig ar werth ac arddangos ar gyfer gwerthu fwyd sy'n cynnwys tryptoffan, yn ddarostyngedig i eithriadau (rheoliadau 2(2), 4 a 5). 3. Dyma'r prif newidiadau sy'n cael eu hachosi gan y Rheoliadau hyn—
(b) mewnosod cymhwysiad i'r eithriad bresennol o ran tryptoffan chwithdroadol, ei halwynau sodiwm, potasiwm, calsiwm neu fagnesiwm neu ei hydroclorid a ychwanegwyd at fwydydd penodol ar gyfer defnydd maethol neilltuol o ran bod yn rhaid i'r sylwedd a ychwanegir gydymffurfio â meini prawf purdeb penodedig (rheoliad 5(2)).
4.
Mae'r Rheoliadau hefyd—
(b) yn gwneud darpariaeth o ran gorfodi (rheoliad 7); (c) yn cymhwyso darpariaethau amrywiol o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990 (rheoliadau 8 a 9) ac yn cynnwys rhagdybiaeth o ran bwyd sy'n mynd yn groes i'r Rheoliadau mewn amgylchiadau penodol (rheoliad 3); (ch) yn gwneud dirymiadau (rheoliad 10).
5.
Hysbyswyd y Comisiwn Ewropeaidd am ddrafft o'r Rheoliadau hyn yn unol ag Erthygl 8 o Gyfarwyddeb 98/34/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L204, 21.7.98, t.37), sy'n gosod gweithdrefn ar gyfer darparu gwybodaeth ym maes safonau technegol a rheoliadau ac ar gyfer rheolau ar wasanaethau Cymdeithas Wybodaeth, fel y'i diwygir gan Gyfarwyddeb 98/48/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L217, 5.8.98, t.18). Notes: [1] 1990 p.16; amnewidiwyd adran 1(1) a (2) (diffiniad o "food") gan O.S. 2004/2990; diwygiwyd adran 53(2) gan Atodlen 6 i Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28) ac O.S. 2004/2990.back [2] Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy o ran Cymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1996/672).back [3] OJ Rhif L31, 1.2.2002, t.1. Diwygiwyd y Rheoliad hwnnw ddiwethaf gan Reoliad (EC) Rhif 1642/2003 Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L245, 29.9.2003, t.4)back [4] O.S. 2004/314 (Cy.32).back [5] OJ Rhif L52, 22.2.2001, t.19, fel y mae wedi'i gywiro gan Gywiriad (OJ Rhif L253, 21.9.2001, t.34).back [6] OJ Rhif L14, 21.1.2004, t.19.back [7] 1968 p.67; diwygiwyd adran 69 gan Ddeddf Fferyllwyr (Ffitrwydd i Ymarfer) 1997 (1997 p.19), yr Atodlen, paragraff 5, o ddyddiad sydd i'w bennu.back [8] Pharmacopoeia Ewrop Pumed Argraffiad, Cyfrol II (2004) Pub. y Gyfarwyddiaeth Ewropeaidd ar gyfer Ansawdd Meddyginiaethau, tudalennau 2636 i 2638.back [9] Diwygiwyd adran 35(1) gan Ddeddf Cyfiawnder Troseddol 2003 (2003 p.44), Atodlen 26, paragraff 42, o ddyddiad sydd i'w bennu.back [10] Mewnosodwyd adran 36A gan Ddeddf Safonau Bwyd 1999 (1999 p.28), Atodlen 5, paragraff 16.back [11] Diwygiwyd adran 9 ac adran 8 gan O.S. 2004/3279.back [12] O.S. 1990/1728, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1990/2486, 2002/2939 (Cy.280), 2004/314 (Cy.32).back [13] O.S.2002/2939 (Cy.280) y mae diwygiad iddynt nad ydynt yn gymwys i'r Rheoliadau hyn.back [14] O.S. 2004/314 (Cy.32).back
ISBN 0 11 091214 4
|
|
| ||
| We welcome your comments on this site | © Crown copyright 2005 | Prepared 15 November 2005 |